Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Monday 31 May 2010

Cylchdaith Andara, Blodau Glas

I'r rhai ohonoch sydd eisie dipyn o ddiddordeb botanegol mewn taith cerdded, mae'r cylch sy'n cynnwys hen fwynglawdd Andara yn berffaith, yn enwedig ym mis Mai - neu efallai'n gynharach, yn dibynnu pa mor garw mae'r gaeaf wedi bod. 5 neu 6 awr i gyd, ar lwybrau da, a'r adeg hyn o'r flwyddyn mae hyd yn oed gwair ar y llwybr. Y llynedd aethon ni ym mis Medi, ac er bod y tywydd yr un mor dda doedd dim o'r anrywiaeth eang o flodau a welson ni ddydd Sul.
  Gentiana verna, crwynllys y gwanwyn, yw'r rhain, a dau boced bach o eira y tu ôl iddyn nhw. Fe welon ni gannoedd os nad miloedd ohonyn nhw. Dyw'r lliw glas ddim yn hollol iawn eto - mae'n fwy cyfoethog o lawer ar y blodyn ei hun. Ond dw'i ddim yn hapus iawn ynglŷn â newid lliwiau'n electroneg eto.
A dyma gentiana occidentalis - dim syniad gen i os oes yna enw Cymraeg i hwn. Mae hefyd yn blodeuo yn y gwanwyn. unwaith bod yr eira wedi dadmer.

Ac yn olaf y lithodora ar wal o graig. Mae'n tyfu ymhobman o'r clogwyni ar lan y môr hyd at y mynyddoedd sy'n cyrraedd 1500m.

Sunday 30 May 2010

Ar Drywydd Hen Fwynglawdd

Yr wythnos hon eto, bu Dydd Sul yn ddiwrnod o fynydda (h.y. cerdded yn y mynyddoedd). Doedd hi ddim mor dwym â'r Sul diwethaf diolch byth, ac fe gerddon ni ryw 16 km ar gylchdaith yn ardal ddwyreiniol y Picos.
Dechrau mewn maes parcio ar ochr ffordd fynyddig uwchben pentref Sotres, a dilyn llwybrau eithaf llydain a godwyd er mwyn cario sinc o fwynglawdd Andara. Mae hanner cyntaf y daith o fewn coedwig ffawydd. Roedd y goleuni'n dod trwy'r dail ifanc yn hudol, a welon ni fele'r graig yn croesi'r ffordd. (dim llun - roeddwn i'n ei wylio â'm ceg ar agor).
Mae'r gwartheg yn pori'r tir uchel drwy'r haf, gyda geifr a defaid hefyd mewn rhai mannau. Mae rhai yn cael eu gwerthu ar gyfer cig, ond eraill yn cael eu godro bob dydd gan y bugeiliad, sy'n treulio rhan o'u hamser mewn cabanau o gerrig. Wedyn maen nhw'n gwneud caws sy'n cael ei gadw yn y caban neu mewn ogof tan yr hydref.
O'r blaen roedd teuluodd cyfan yn symud i'r 'majadas' i fwrw'r haf, ond ychydig o bobl sy'n gwneud hynny nawr.
Eleni gan fod y gaeaf wedi bod yn llwm iawn a'r eira'n drwch, newydd fynd lan i'r llethrau mae'r da byw - a newydd ymddangos mae llwyth o flodau'r gwanwyn.
Yn ffodus doedd y gwartheg ddim wedi cael amser i'w bwyta nhw i gyd, felly mwy am y blodau yfory pan fydda'i wedi cael cymorth i'w hadnabod nhw.


Cylchdaith oedd hi, a thua thri chawarter y ffordd o gwmpas fe gyrhaeddon ni'r pwll.

Lloches i fynyddwyr yw'r hen adeilad yn awr, ac o fan hyn fe allwch chi fentro ymhellach i ganol y Picos. Ond mae'n werth cofio am y mwyngloddwyr hefyd, fu'n gweithio yma rhwng 1860 a 1940. Dim ond 5 mis o'r flwyddyn (Mehefin-Hydref) oedd gwaith i gael, oherwydd y tywydd garw. Siwr na fydden nhw byth wedi dychmygu pobl yn cyrraedd y lle yma o'u gwirfodd, am eu bod yn mwynhau cerdded.

Saturday 29 May 2010

Hwyrgan Haf

Neithiwr wrth sefyll ar y 'corredor' (balconi) tua deg o'r gloch, clywais i hwyrgan hir o waith natur. Prin bod yna wynt o gwbwl, dim ond mymryn o sisial gan ddail y ffigysbren. Ar ben hynny, cân y crics - neu'r pryfed tân fel rwy wedi gweld yn rhywle - fel llond cae o fiolins un tant.
O'r ochrau daw sŵn y gwahanol adar yn mynd i glwydo, eu rhannau adroddiadol yn dweud hanes y dydd neu'n rhoi gwybodaeth ar gyfer yfory.
Yn bellach i ffwrdd eto, ond yn torri ar draws popeth, mae'r pibau: dau lyffant, un yn ein gardd ni a'r llall i lawr yn y gwaelod, yn galw'n gyson am gyfnod ac yna'n tewi.
Clychau'r gwartheg hefyd yn swnio o'r llethr gyferbyn; mae'r bwyta yn barhaol.
A bob tro mae rhywun yn pasio lle Tonio, cyfarth bas dwfn ei gŵn.

Ac ar ben hynny i gyd, pan ymddangosodd y lleuad lawn uwchben y mynydd, roedd lliw gwyrdd arni, gwyrdd golau na welais eriod o'r blaen.

Friday 28 May 2010

Cam ymlaen i'r Gorffennol

Newid trefn canrif a mwy a dychwelyd gwlyptir aber afon Sella i'r hyn yr oedd. Dyna beth mae naturiaethwyr Ribadesella wedi bod yn ceisio ers 30 mlynedd yn awr, ac mae'n edrych yn fwy obeithiol y llwyddan nhw yn eu hymdrech.
Nôl yn nechrau'r ganrif ddiwethaf, cael gwared o gorsydd oedd nôd y cyngor lleol gan feddwl eu bod yn fannau delfrydol i mosquitos a heintiau. Wedyn yn y 1950au, fe lenwyd y cwbwl â phridd, gan adael sianel culach i afon Sella, a bu gwartheg yn pori yno am gyfnod.

Ond yn awr y syniad yw codi'r pridd a mynd ag ef, gan adael i ddŵr yr afon a dŵr y môr gymysgu'n naturiol, weithiau'n llyn, weithiau'n gorstir, fydd o fudd mawr i'r adar, yn enwedig y rhai sy'n dod yma dros y gaeaf o wledydd oerach.
Maen nhw'n gobeithio cael llwybr ar hyd un ochr, ac adeilad i bobl wylio'r adar.
Ar hyn o bryd mae'r holl beth wedi'i gladdu o dan fiwrocratiaeth a diffyg penderfyniad ar ran y rhai fydd yn talu amdano - llywodraethau Madrid ac Asturias - ond o leiaf y tro yma y mae 'na gynllun, ac mae'n cael ei drafod.

Thursday 27 May 2010

Nodyn o'r Ardd - Ffrwythau

Mae blodau'r coed ffrwythau wedi hen fynd a'r ffrwythau bychain yn ymddangos.

Gellyg Williams yw'r rhain - pwy oedd Williams a pham y cafodd y peren yma ei enwi ar ei ôl, sdim syniad gyda fi. Blas hyfryd arnyn nhw, ond dydyn nhw ddim yn cadw'n dda.

 A dyma'r fricyllen (apricot). Coed gweddol ifanc yw'r rhain, a hyd yn hyn dydyn nhw ddim wedi llwyddo i gadw'u ffrwythau nes eu bod nhw'n barod i fwyta. Gobeithio am well hwyl eleni - o leiaf maen nhw wedi troi'r ffordd iawn, sy'n awgrymu bod tipyn o bwysau yno. (Mae'r gellyg, sy'n ffurfio ar ôl y bricyll, o hyd â'u tînau yn yr awyr).

Chwynnu fu'r dasg eto heddiw; mae'n syndod fel mae tipyn o law ar ôl wythnos heulog yn dod â nhw mâs yn eu miloedd.

Wednesday 26 May 2010

Beth yw'r Haf i mi?

Mae nifer o bethau sydd wedi digwydd yr wythnos hon yn hala fi i feddwl bod yr haf wedi dechrau o ddifri - er bod y cymdogion yn dweud taw dim ond 'veranito' - haf bach fel haf bach Mihangel - yw e.
Casglu'r mefus cyntaf o'r ardd. Dim digon i bwdin cyfan eto, ond blas yr haf arnyn nhw.
Ac yn y farchnad y bore ma, y cyfle cyntaf i brynu ceirios 'Valle del Jerte' - dyffryn Jerte yn Extremadura, y ceirios gorau yn Sbaen yn fy marn i. Yn felys heb fod yn rhy felus, yn dew ac yn dywyll. Buom ni am wyliau i Extremadura flynyddoedd yn ôl; mae dyffryn yr afon Jerte yn ardal wledig ddiarffordd sy'n cynhyrchu lot o ffrwyth - eirin gwlanog ardderchog, yn un peth. Mae'n cysgodi o dan y Sierra de Gredos, man da arall am deithiau cerdded.
Ac yn olaf, nofio yn y môr am y tro cyntaf eleni.
Edrych ar amserlen y llanw, galw cyfeilles sydd yr un mor wallgo â fi, a bant â ni i'r traeth.
Does na ddim traeth i'w weld ar benllanw, felly i mewn i'r dŵr yn syth oedd rhaid.
Doedd hi ddim yn oer iawn, onest, a buom ni yno am ryw gwarter awr yn mwynhau cael y bae i gyd i ni'n hunain.

Tuesday 25 May 2010

Blodau'r Mynydd Uchel

Rwy'n dal i gael dolur yn fy nghoesau ar ôl y taith cerdded ddydd Sul i gopa Coriscao (neu'n hytrach o'r copa - mae dod i lawr wastad yn waeth na dringo). Hefyd roedd ein cyfaill y botanegwr sy'n ateb pob cwestiwn ynglŷn ag enwau planhigion ddim yno, felly rwy'n petruso rhag enwi rhai - dyma'r rhai cyfarwydd a'r rhai yr wyf i wedi eu cael mewn llyfr (gobeithio eu bod yn iawn - bydda'i'n holi ymhellach).
Rwy'n credu taw fritillaria pyrenaica sydd fan hyn, math o fritheg sy'n tyfu ym mynyddoedd gogledd Sbaen. Maen nhw'n tyfu dipyn bach yn dalach na hwn, ond mae'r lliw llwydbinc, a'r siâp, yn  iawn, felly rwyf i am gymryd taw un ifanc sydd yma.
Ac yn y gwaelod rych chi'n gallu gweld blodau glas llachar y crwynllys (gentiana) - roedden nhw'n fwy llachar fyth mewn gwirionedd, ond bod yr haul cryf wedi effeithio ar liwiau'r lluniau.

Buaswn i'n meddwl taw crwynllys y gwanwyn yw'r rhain, ond mae hefyd yn bosib mai crwynllys y mynydd sydd yma. Yn amlwg rwy wedi dysgu rhywfaint ond dim hanner digon. Mae sawl math o grwynllys yn tyfu yn y Picos de Europa, gan gynnwys un mawr a choron fel trwmped.
Roeddwn i wedi disgwyl gweld mwy o flodau gwahanol, ond rhaid cofio taw newydd ddadmer mae'r eira, a'n bod ni yn uwch na 2000m ar y pryd.

Monday 24 May 2010

Coriscao, o'r Diwedd

Aethom ni ar y daith yma gyda grŵp mynydda Mofrechu, o Ribadesella. Rhyw bymtheg ohonom ni i gyd mewn bws am dair awr i gyrraedd Puerto San Glorio, yn y Cordillera Cantabrica rhwng Cantabria a Leon.Ac o'r fan honno tua'r de-orllewin i gyfeiriad Coriscao, sydd dros 2,200m - tua dwywaith gymaint â'r Wyddfa.
Rhyw 600m o ddringo oedd gyda ni, yn ddigon hawdd i ddechrau, gydag ambell lecyn o eira, ond wedyn y 200m hyd at y copa yn serth ofnadwy. A dim ond gwair pigog i afael ynddo.
O'r copa roedd yr olygfa tua'r gogledd yn anghredadwy - y Picos de Europa  o'r ochr draw.
Roedd hyd yn oed y ci - mastin, y math o gi sy'n gwarchod da byw ar y mynyddoedd - i weld yn cytuno.
Ond bobol bach roedd hi'n dwym. Ac roedd mynd i lawr yr ochr arall - 1400m ohono - yn waeth na'r dringo.

Er ein bod ni wedi aros i gael bwyd mewn dôl fach bert lle roedd yr eira'n dadmer o flaen ein llygaid, erbyn inni gyrraedd y gwaelod, a'r bws, a'r bar, roedd ein coesau ni gyd yn gwingo. A mae'n rhai i yn dal i wneud. Yfory: y blodau a welsom ar y daith yma.

Sunday 23 May 2010

Tamaid i Aros Cofnod

Ymddiheuro'n fawr sydd yn rhaid - gewch chi ddim o hanes y daith cerdded i Coriscao heno - roedd hi'n daith hirach nag oedd neb yn meddwl ac yn waith caled. Newydd gyrraedd adref wedi blino'n lân ond yn addo stori'r daith yfory.

Saturday 22 May 2010

Planhigyn Di-enw Arall

Oes na unrhywun yn gwybod enw'r planhigyn hwn? Planhigyn suddlon yw e, (planta crasa yn Sbaeneg) ac fe ges i fe'n doriad gan gyfeilles oedd wedi cael toriad wrtho rhywun arall ayyb.
Ac ar ôl tair blynedd o bwdu dyma fe wedi setlo ac yn barod i goncro'r creigiau i gyd. Yn anffodus gan fod fframwaith y planhigyn mor denau fydd e ddim yn rhwystro'r chwyn.
I'r mynydd yfory ar daith cerdded eitha hir (6 awr) ac uchel, (2000m). Cawn weld sut fydd y blogio ar ei ól e ond o leiaf dylai bod lluniau da gyda fi.  

Friday 21 May 2010

Tram tua'r Dyfodol?

Nepell o'n tŷ ni mae'r rheilffordd gul, y FEVE, yr wyf wedi sôn amdani o'r blaen. Mae'n cludo dur a glo a phobl, ac mae rhan helaeth ohoni wedi'i thrydaneiddio. Ond yn awr bydd hen gangen leol o'r rheilffordd, rhwng Llovio a Ribadesella, yn cael ei defnyddio ar gyfer arbrawf diddorol. Mae cwmni'r FEVE, yn ogystal â chwmniau eraill sy'n gweithio ym maes trafnidiaeth werdd, yn mynd i redeg tram ar y lein, tram fydd yn cael ei ynni o fateri hydrogen.
Maen nhw am weld beth yw'r ffynhonell orau i'r hydrogen - dŵr, electrolisis, neu biogas (oes na air Cymraeg amdano?). Ond gan bod cwmni Biogas Fuel Cell yn flaenllaw ymysg yr arbrofwyr efallai'n bod ni'n gallu gweld lle maen nhw eisie cyrraedd.
Ac ar ôl yr arbrawf? Mae na gynlluniau ar waith i sefydlu'r math yma o 'tren-tram' yn rhai o gymoedd glofaol Asturias, a phwy a ŵyr, efallai yn Ribadesella hefyd.
Ond bydd yn rhaid iddyn nhw anghofio am y gwaith am un diwrnod bob blwyddyn o leiaf. Yr unig ddiwrnod y mae'r lein yma'n gweld trên yw diwrnod y Piraguas (ras canŵs rhyngwladol) ym mis Awst, pan fydd gwylwyr yn dilyn y ras mewn trên hyd at ganol Ribadesella..

Thursday 20 May 2010

Eog i'w Gofio

Byddwch yn cofio'r ffrae ynglŷn â'r polisi newydd ar yr afonydd lle maen nhw'n mynd i bysgota'r eog: mis cyntaf y tymor eleni yn amser o bysgota heb ladd, hynny yw, roedd yn rhaid dychwelyd pob eog a ddaliwyd i'r afon yn fyw ac iach.
Ac efallai bod hynny wedi dwyn ffrwyth, neu'n hytrach pysgod. Ddoe fe aeth menyw ifanc o'r fro a'i rhieni i bysgota yn afon Sella rhwng Cangas de Onis a Villanueva. Fe lwyddodd ill tri i ddala eog yr un, i gyd dros 5 kilo, ond y ferch oedd ar y blaen gyda'r pysgodyn anferth yma.
http://www.lne.es/deportes/2010/05/19/supersalmon-116-kilos-rio-sella/917429.html

11.6 kilos a dim ond un cm llai na metr. Yn sicr bydd pob bwyty yn yr ardal yn cynnig arian mawr amdano.

Wednesday 19 May 2010

Clymblaid yn y Picos


Ie, maen nhw wedi llwyddo i gyrraedd cytundeb o fath. Mae'r tair cymuned sydd â thiroedd o fewn ardal warchodedig y Picos de Europa wedi cyhoeddi sut y bydd y Parc yn cael ei redeg nawr ei fod yn cael ei drosglwyddo o afael llywodraeth Madrid.
Un peth sy'n dda yw y bydd yno le i gynrychiolydd o drefi bychain yr ardal ei hun - un maer bob blwyddyn - ar yr awdurdod newydd. Ond ar y llaw arall mae ei ffurf, gyda'r cytbwysedd oedd rhaid ei gael rhwng Asturias, León a Cantabria yn awgrymu y bydd mwy o wario ar fiwrocratiaeth yn y dyfodol. Syndod, unrhwy un?

Tuesday 18 May 2010

Enwau Da

Bues i'n meddwl heddiw am enwau'r cymdogion. Nid eu henwau teuluol, ond enwau bedydd (a maen nhw i gyd yn cael eu bedyddio, hyd yn oed pan na fydd y rhieni yn mynd ar gyfyl yr eglwys).
Mae nifer fawr ohonynt yn cael eu henwi ar ôl y tad neu'r fam. Yn y rhan fwyaf o Sbaen, byddai mab Juan, ac yntau hefyd yn Juan, yn mynd yn Juanito - Juan bach - ond yn Asturias mae'r terfyniad yn -ino, neu ar lafar yn -in, yn debyg iawn i'r Wyddeleg.
Mab Manuel (Manolo ar lafar) yn dod yn Manolin, mab Pelayo yn Pelayin, merch Ester yn Esterina ac yn y blaen. Rwyf i hyd yn oed wedi clywed pobl yn sôn am Valentinin - mab Valentino.
Maria yw enw o leiaf hanner y merched - ond i wneud pethau'n haws maen nhw'n cael eu henwi ar ôl agwedd neu le cysegredig neilltuol yn ymwneud â'r Forwyn Fair neu santesau eraill o'r un enw. Maria Encina, Maria de la Cruz, Maria Paz, Maria Pilar (sydd fel arfer yn cael ei gwtogi i Pilar). Ta beth, yn Asturias 'Mari' yw pob Maria. Mae hefyd yn bosib siarad am un ohonynt yn benodol gan ddweud 'Mari Pelayo' ar ôl y gŵr, neu Mari Cinda, ar ôl y fam.
Mae Maria yn ymddangos fel enw i ddynion hefyd, e.e. José Maria - ond mae hwnnw wastad yn cael ei gwtogi i Chema.
A hynny i gyd heb ddechrau ar y llysenwau.

Monday 17 May 2010

Codi Tâl am Waith Tîm Achub?

Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd o'r diwedd, medd pobl y tywydd. Y bore ma es i gerdded at y clogwyni tua 9 o'r gloch y bore ac roedd y gwlith eisoes wedi codi o'r gwair, gyda dim ond ambell i ddropyn yn aros ar yr eithin.
Bydd y tywydd da yn sicr o ddenu mwy o dwristiaid at y mynyddoedd a'r môr, a'u harian nhw sy'n helpu i gynnal y lle. Ond ddoe eto fe brofwyd nad ar chwarae bach y mae mynd i ardal mor wyllt. Bu farw un cerddwr yn y Picos de Europa; roedd e wedi mynd mâs ar ei ben ei hun ddydd Sadwrn i ddilyn llwybr uchel sydd o hyd o dan yr eira. Ac mae'n debyg ei fod e wedi cwympo, a naill ai yn anymwybodol neu'n methu cael drwodd ar ei ffôn symudol.
Ar yr afon Deva, bu'n rhaid achub tri dyn ifanc oedd yn ceunantio (os dyna'r gair iawn yn Gymraeg - cerdded a neidio i lawr gwely afon) pan oedd yr afon yn uchel a'r llif yn gryf. Llwyddodd dau i groesi'r dŵr a gofyn am dîm achub, a bu'n rhaid cael y gweddill oddi yno gyda rhaff a phwli.
Does neb eisie gwahardd pobl rhag wneud y pethau hyn, ond mae na sôn yma y dylai pobl sy'n gorfod cael eu hachub naill ai dalu yswiriant (ynghynt) neu dalu'r gost.

Sunday 16 May 2010

Bywyd Newydd i Hen Bontydd

Dri mis yn ôl buom ni ar daith gerdded yn nwyrain Asturias (Sul, Mynydd, Niwl 07.02.10) a chroesi hen bont ar batrwm Rhufeinig. Heddiw daeth newyddion am ymgyrch newydd i warchod dwsin o'r pontydd yma rhag cerbydau mawr yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r pontydd dan sylw i gyd yn yr un ardal fechan, dyffryn afon Cares ychydig cyn iddi ymuno â'r afon Deva.
A'r syniad yw lledaenu gwybodaeth amdanyn nhw; sut y codwyd y pontydd gwreiddiol gan y Rhufeiniaid (neu gan eu caethweision lleol) a sut y copiwyd y patrwm drwy gydol yr Oesoedd Canol pan fu rhaid atgyweirio neu codi un newydd.
Fel hyn, mae'r ymgyrchwyr yn gobeithio y bydd yr awdurdodau'n sylweddoli beth sydd gyda nhw, a pha ddaioni economaidd all ddod ohonynt ar lefel twristiaeth natur, teithiau cerdded ac ati. Ond bydd rhaid hefyd gwneud yn eglur i yrwyr tractorau'r fro pa mor bwysig yw'r pontydd, sydd wedi goroesi canrif ar ôl canrif hyd nes daeth y peiriannau mawr i geisio'u croesi nhw.

Saturday 15 May 2010

Gŵyl y Forwyn



Diwrnod gŵyl eto heddiw: y tro yma Gŵyl Morwyn Fair Fatima, yn y pentre nesaf. Neithiwr, a hithau'n bwrw hen wragedd a ffyn, fe gariwyd cerflun y Forwyn o'r capel bach yno i'r eglwys yn ein pentre ni, taith o ryw 2 gilometer. Am 12.00 heddiw, fe gychwynnodd yr orymdaith o Toriellu i ddod i'w hôl hi ar gyfer offeren yr ŵyl.Pibgorniwr a drymiwr yn y blaen, wedyn y bechgyn yn cario y 'ramo' - bara, blodau a losin wedi'u gweu ar ffrâm, yna'r merched tan ganu, y plant yn eu gwisgoedd, a phobl eraill y pentref yn eu dilyn.
Ac wedyn cerdded yr holl ffordd yn ôl gyda'r ramo a'r Forwyn. Ar ôl yr offeren roedd darnau'r ramo - yn awr wedi'u bendithio - yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn, cyn bod y dawnswyr gwerin yn perfformio. Roedd y rhain wedi dod o Mieres yn y cymoedd glofaol. Tra'u bod nhw wrthi gwnes i ofyn i gymdoges paham roedd y Forwyn yn treulio noswaith mewn eglwys arall. 'O, meddai hi,' er mwyn cael gorymdaith hirach.'

Friday 14 May 2010

Achosion Llys, Gartref ac Oddicartref

Y newyddion diweddaraf am gwpwl o bethau sydd wedi ymddangos mewn cofnodion cynt:

Roedd dagrau'n llifo yn yr Uchel Lys yn Madrid heddiw wrth i'r Barnwr Baltasar Garzón gael ei wahardd rhag ei waith yn ystod achos yn ei erbyn. Roedd e wedi ceisio agor achos i'r hyn a wnaethpwyd gan bobl Franco yn ystod y rhyfel ac wedyn: gweithgareddau sy'n dod o dan amnesti cyfreithiol ers y 70au. Yn gynharach yr wythnos hon roedd y Llys Troseddol Rhyngwladol wedi'i wahodd i weithio fel ymgynghorwr. Yn awr mae pwyllgor arbennig yn Madrid yn ystyried a yw'n bosib iddo wneud hynny ac yntau dan waharddiad.
Ac yn llawer nes adref, mae symudiad yn yr ymgyrch i warchod clogwyni'r 'bufones' rhag difrod traed a cheir. (Lladd yr Hyn a Garwn: 07.05.10)
Mae'r trigolion wedi dwyn achos llys yn erbyn y cyngor am beidio gadw at y gyfraith sy'n gwahardd ceir rhag cyrraedd y lle. Nid yn unig mae'r cyngor yn gadael i bwy bynnag yrru yno, maen nhw wedi paratoi maes parcio ar eu cyfer.

Thursday 13 May 2010

Codi Cregyn o'r Creigiau

Tywydd mwyn a haul heddiw tan ryw 5 o'r gloch. Ond pan godais doeddwn i ddim yn disgwyl hynny ar ôl y glaw parhaus sydd wedi'n poeni ni'n ddiweddar, felly es i mâs yn syth i gerdded tua'r clogwyni cyn bod hi'n dechrau bwrw eto.
Ar y ffordd fe weles i gymydog yn cario bwced gwag. A thyrnsgriw. Roedd e'n anelu am y traeth i gasglu 'llamparas'. Mae arna'i ofn taw fel 'limpets' y byddwn i'n cyfeirio atyn nhw, ond wedi cael sawl gair Cymraeg erbyn hyn, gan gynnwys brennig a chogwrn. Unrhyw un yn gwybod p'un sy'n iawn?Does gen i ddim llun ohonyn nhw beth bynnag, achos fel mae ongl y llun yn dangos, ar ben y clogwyn oeddwn i, a llwybr y pysgotwyr tua'r traeth mor llithrig nad oeddwn am ei gymryd.
Ond rwy wedi cael rysait lleol amdanyn nhw, gyda seidr a tomatos. Ac os ga'i gyfle pan fydd y môr ar drai af i lawr i weld pa mor hawdd yw hi eu tynnu nhw o'u creigiau, ac a ydy'r blas yn werth y drafferth, fe gewch chi wybod mwy.

Wednesday 12 May 2010

Tynnu Olew o Gneuen - 1

Yr wythnos yma bues i'n gwneud yr arbrawf cyntaf i weld a allwn i gael olew o'r cnau Ffrengig.
Pwysais i kilo o gnau, a'u hagor nhw.
Does dim ots os bydd tipyn bach o liw du ar y masgl. Yr hyn sydd rhaid yw lliain neu fwrdd gwyn, oherwydd ar ôl yr 20 cyntaf mae darnau o fasgl a darnau o gnewyllyn yn edrych yn debyg iawn iddi gilydd.
350g o gnewyll oedd gyda fi.

Wedyn roedd rhaid dodi nhw yn y ffwrn am 10 munud, eu gadael i oeri, a'u dodi yn y wasg.
A gwasgu'n dynn, a rhoi jar bach i ddal yr olew. (Doeddwn i ddim yn or-obeithiol).
Ond heddiw, dridiau wedi hynny, mae'n rhaid imi gyfaddef taw methiant fu'r cwbl. Does gen i ddim dropyn o olew. Dw'i ddim eisie beio'r peiriant - eto - a mae gen i ddisgrifiad arall o'r broses sy'n gofyn am falu'r cnau ar ôl eu cwcan.
Fe fydd yna ail arbrawf, felly. Ond mae'n wir hefyd nad oedd pobl y siop ddim yn sicr a fyddai'r math hwn o wasg yn gwneud y tro.
Os na fydd hi'n ddigonol, bydd yn rhaid imi fynd i rywle fel y Dordogne yn Ffrainc lle ma na draddodiad o wasgu olew cnau gartref. Ond sdim pwynt mynd cyn y flwyddyn nesaf, achos ym mis Mawrth y mae'r gwasgu.

Tuesday 11 May 2010

Y Taith Twristaidd Hynaf Oll?

Roeddwn i'n sôn mewn cofnod cynharach yn ôl ym mis Ionawr am y nifer fawr o bererinion sy'n debyg o ddilyn llwybr Sant Iago eleni, a hithau'n 'flwyddyn Iago' swyddogol yr eglwys Gatholig. Rhaid dweud nad oes llawer wedi pasio hyd yn hyn, efallai oherwydd y tywydd drwg fan hyn fel ymhobman arall yng ngorllewin Ewrop.
Rhyw ugain o Sbaenwyr a dau grŵp o Ffrancwyr yr wyf i wedi eu gweld yn dilyn yr arwyddion yma sy'n ddangos y gragen fylchog, simbol Sant Iago, ac hefyd yn cyfleu'r syniad o filoedd o bobl yn dod o bob man i'w gofio fe.
Mae'r corff sy'n hybu twristiaeth y 'camino' (llwybr) yn cwyno heddiw am nad oes digon o lefydd cysgu mewn hosteli arbennig i'r cerddwyr. Ond gan nad yw'r rhan fwyaf hyd y gwela'i yn gwneud y daith am resymau crefyddol, mae'n siŵr y gallen nhw aros yn un o'r cannoedd o hosteli, llefydd gwersylla neu hyd yn oed gwestai, sydd ar gael yma. Os bydd y tywydd yn aros fel y mae, fyddan nhw ddim yn gorfod brwydro am le yn erbyn twristiaid y traethau!

Monday 10 May 2010

Dyddiau Hirion Mai

Wel a dweud y gwir mae'n mynd yn anodd cael amser i flogio. Gan fod y tywydd wedi gwella ryn ni wedi bod yn yr ardd drwy'r dydd heddiw eto ac yn sydyn mae rhywun yn sylweddoli ei bod hi'n 6.30 ac amser mynd i siopa ac efallai yfed gwydriad o win yn Ribadesella cyn dod adre i baratoi bwyd. Mae'r siopau'n dal i gau rhwng 1400-1700 y prynhawn, oni bai am archfarchnadoedd y dinasoedd, a gyda'r nos bydd y strydoedd yn llawn o bobl yn prynu neu'n mynd â'r babi am dro, a phlant yn chwarae pêl-droed yn y sgwarau bach.
Heddiw buom ni'n torri nôl ar ddau o'r coed lemwn, lle'r oedd eu brigau wedi mynd yn hir iawn a dim ond ychydig ffrwyth neu flodau ar ben y brigyn. Os byddwch chi'n gadael llonydd iddyn nhw fel 'na, bydden nhw'n torri pan ddele'r gwynt mawr nesaf. Felly dyna ugain yn rhagor o lemwns!
Twy'n cadw'r brigau ar gyfer y barbeciw achos mae gwynt hyfryd wrth eu llosgi.
Ac ar wahan i hynny, clirio, clirio, clirio. Mae'r borfa a'r chwyn wastad yn ceisio llenwi pob llecyn, a ninnau am roi'n planhigion dewisedig yno. Ar hyn o bryd, y ni sy'n ennill, ond am ba hyd....

Sunday 9 May 2010

Cadw'r Ffa rhag Cwympo

Haul a glaw, mewn a mâs fel y gŵr a'i wraig ar yr hen glociau, oedd hi heddiw. Felly hefyd y ddau ohonom ni rhwng gardd a chegin. Doedd hi ddim yn ddiwrnod i fynd ar fy ngliniau yn ceisio clirio creigiau. Gwaith y diwrnod oedd dodi polion y ffa yn eu lle.
Llynedd, cymaint oedd pwysau'r ffa gwyn a'u dail fel bod y rhes i gyd wedi cwympo, a chymryd y ffa borlotti gyda fe. Roeddem ni i ffwrdd ar y pryd, ac erbyn inni gyrraedd adre roedd nifer helaeth wedi pydru neu wedi cael eu bwyta gan lygod neu adar.
O flaen y polion ych chi'n gallu gweld rhai o'r tato a'r wynwns sy'n dod mlaen yn ddigon da - yn y cefn mae'r mafon yn cymryd eu hamser.
Nodyn bach o fyd natur: heddiw clywais yr euryn (oriolus oriolus) am y tro cyntaf eleni. Roedd yn cwato mewn onnen, a welais i ddim fflach hyd yn oed o'r lliw llachar, ond mae'r gân yn unigryw.

Saturday 8 May 2010

Tai a Gerddi

Newyddion da a hir-ddisgwyliedig heddiw i'r bobl mewn ardal gyfagos sydd wedi bod yn ymladd yn erbyn adeiladu cannoedd o dai a fflatiau haf. Mae'r llys wedi penderfynu bod y trwydded a roddwyd ar gyfer y gwaith yn annilys, am ei fod wedi seilio ar gynllun datblygu oedd ynddo'i hun yn wallus. Efallai bydd rhaid tynnu lawr yr ychydig o dai a godwyd yn barod. Ond beth am y ffordd osgoi? Mae'r dref wedi cael hon yn rhad ac am ddim gan y datblygwyr; anodd credu bod neb yn mynd i balu fe lan.
Yn yr ardd y buom ni drwy'r dydd. Mae popeth yn tyfu'n weddol erbyn hyn, ond y chwyn wrth gwrs ar y blaen. A dyma lle fydda'i yfory, yn ceisio cael trefn ar y creigiau.

Friday 7 May 2010

Lladd yr Hyn a Garwn

Digon o densiwn yn yr awyr draw fanna rwy'n siŵr, ond enghraifft o fath arall o densiwn sydd gyda fi heddiw.
Rŷn ni gyd yn gyfarwydd â'r difrod sy'n bosib pan fydd nifer fawr o ymwelwyr yn heidio i un man arbennig - y llwybrau mynydd sy'n lledu ac yn mynd yn fwdlyd, y traethau lle mae (rhai) pobl yn gadael eu sbwriel yn daclus iawn yn ymyl bin llawn.
Lle bach iawn yw'r traeth a'r clogwyni fan hyn, ond yn ddiweddar mae torfeydd wedi cyrraedd yn gobeithio gweld y 'bufones', y chwistrelli o ddŵr y môr sy'n gallu codi'n uchel i'r awyr. O'r blaen, meddai cymdoges, roedd y gwair yno fel melfed, ond yn awr:

Ar y chwith, difrod miloedd o draed (a'r tywydd garw wrth gwrs). Ar y dde, difrod beic.

Thursday 6 May 2010

Fe Ddaeth yr Haul

Rwy'n gwybod bod y rhan fwyaf o'r darllenwyr yn canolbwyntio ar etholiad San Steffan heddiw, ond o'r diwedd rwyf i wedi cael diwrnod cyfan yn gweithio yn yr ardd. O gam-ddyfynnu hen gân:
'Hei, hei hei hei, fe ddaeth yr haul, fe ddaeth yr haul'.
Mae'r paneli haul wedi bod yn gweithio drwy'r prynhawn (roedd y cymylau'n rhy dew y bore ma), y gwair o flaen y tŷ wedi'i ladd a nifer o'r planhigion bach oedd yn cwato yn y tŷ gwydr wedi cael dod mâs. A'r cynnyrch!

3 kilo (chilo?) o orennau a'r un pwysau o ffa llydan sydd yma, newydd eu casglu. Y wahaniaeth yw, bron i hanner y cnwd orennau yw hynny, a dim ond rhyw 5% o'r ffa llydan. Bydd yn rhaid imi chwilio am ryseiti newydd i'w defnyddio nhw i gyd.

Wednesday 5 May 2010

Rysait Limoncello

Rwy'n dwli ar limoncello, y cymysgedd o sur a melys sy'n dofi'r alcohol. A gan ein bod fel arfer a gormod o lemwns, a rhai o'r rheiny wedi dechrau sychu oherwydd bod cwpwl o frigau wedi torri o dan eu pwysau nhw - wel, beth arall mae rhwyun yn mynd i wneud ar ddiwrnod o law?
Roedd gen i 12 lemwn o'r brigau hynny, a'r peth cyntaf wnes i sylwi oedd bod y croen wedi sychu ond tu fewn roedden nhw'n llawn sudd. Felly bu'n rhaid casglu 3 neu 4 yn rhagor er mwyn tynnu'r croen oddi wrthynt yn stribedi bychain tenau. Ac yna gwasgu'r gweddill nes bod gen i
250ml o sudd lemwn. Ychwanegu'r
darnau croen, a
300g siwgr caster.

Eu gadael nhw felly dros nos, gan droi'r cwbwl yn awr ac yn y man. A'r bore ma, ei hidlo fe i gael gwared o'r darnau croen, ac yna ychwanegu
300ml o anis verde - yr alcohol mae pobol Asturias yn ei ddefnyddio ar gyfer gwneud diodydd cartref gyda phob math o ffrwythau.
Byddai fodca'n gwneud y tro'n iawn. Ei dywallt i hen potel brandi a'i gadw fe am fis (os medri di) cyn ei yfed. Iechyd da!

Tuesday 4 May 2010

Gardd a Glaw

Dyw'r tywydd yn Asturias ddim wedi gwella; cwpwl o oriau sych (ond nid yn heulog) y bore ma ac yna glaw mawr eto. Mae'n waeth mewn llefydd eraill yn y penrhyn Iberaidd - eira mawr ym mynyddoedd y Pirineos a'r Cordillera Cantabrica, a gwyntoedd cryfion ymhob man. Felly rwyf i wedi bod yn y tŷ yn gwneud limoncello - y rysait i ddod!
Fe lwyddais i dynnu ambell i lun o'r ardd perlysiau serch hynny.
Yn gyntaf, cennin sifis, yn ddigon cyffredin ond yn gwneud yn dda eleni.
Neu beth am y penrhudd, neu mintys y graig, yn ôl rhestr y Cyngor Cefn Gwlad?
Rhaid i mi gyfaddef taw fel 'oregano' yr ydw i wedi cyfeirio ato erioed, ond rwy'n gwybod yn well yn awr.
Mae hwn yn tyfu fel chwyn; rwy'n ei ddefnyddio'n ffres ac wedi'i sychu.
Ac yn olaf, y teim. Ces i gyngor gan gymydog i sychu hwn gyda'r blodau, nid dail yn unig, am fod blas cryfach aromatig ar y blodyn nag sydd ar y ddeilen.
Cawn weld.

Monday 3 May 2010

Unwaith Eto yn Asturias

Wedi digalonni braidd o gyrraedd yma ar ôl mis a chael bod y chwyn hyd at fy nghluniau, y pŷs heb ymddangos o gwbwl a'r asparagws wedi bod yn ffantastig ond bod neb yma i'w fwyta.. Es i mâs ar unwaith yn y glaw a'i dorri fe gyd i'r llawr yn y gobaith bydd mwy yn dod.

Tua chwech fe beidiodd y glaw am sbel felly dyma lun o'r môr. Llawer mwy garw fan hyn nag oedd e wedi bod yn ystod y fordaith i Santander diolch byth.
Os gewn ni dipyn bach mwy o haul yfory bydd na luniau o'r ardd.

Sunday 2 May 2010

Polemig Menywod adeg Etholiad

Mae dilyn yr etholiad cyffredinol o'r tu fâs yn brofiad newydd. Sa'i'n mynd i fynd mlân a mlân amdano ond mae un agwedd sydd wedi'm taro.
Beth sy'n digwydd i'r menywod?
Mae gwragedd y tri arweinydd Prydeinig, hyd yn oed Miriam Gonzalez Durantez, yn ymddangos fel 'celebs', yno i siglo llaw a gwenu, a'r cyfryngau yn canolbwyntio ar eu gwallt, eu dillad - hyd yn oed eu traed! Does dim un ohonyn nhw'n dwp, pam nag ydyn nhw'n deall y neges y maen nhw'n eu ddanfon wrth chwarae rhan y 'fenyw fach'?
O wylio'r teledu, neu glywed gwleidyddion yn siarad ar y radio, mae'n ymddangos bod pob un wedi penderfynu taw'r cartref a'r teulu yw'r unig faes o bwys i fenywod. Pa flwyddyn yw hi eto? Wrth gwrs bod rhieni (mamau a thadau) yn poeni am ddyfodol eu plant a'u henoed: mae hynny'n hanfodol, ond dyw e ddim yn ddigonol. Dyw byd menyw ddim yn gorffen wrth y drws ffrynt.
Mae menywod yn awr yn dilyn bron pob gyrfa sydd i gael, mae'n nhw'n cynnal clybiau a chymdeithasau; maen nhw'n ysgrifennu ac yn dadansoddi ac yn meddwl am y byd i gyd.
Gwarth yw ein trîn ni fel dolis anllythrennog: sdim rhyfedd bod cymaint wedi cael llond bol o wrando ar unrhyw wleidydd.

Saturday 1 May 2010

Celfyddyd Oes yr Ogofau - 2

Ategiad bach i stori ogof - neu gadwyn o ogofau - Tito Bustillo yn Ribadesella. Roedd Tito (Celestino) Bustillo yn llanc ifanc pan aeth i chwilio am ogofau ym 1968. Roedd yn rhan o'r grŵp a gafodd hyd i ffordd i mewn i un o'r siambrau, ond bu farw ychydig wythnosau wedyn mewn damwain ar y mynyddoedd. Er cof amdano fe, fe enwyd yr ogof ar ei ôl.
Yma yn nwyrain Asturias mae nifer o ogofau eraill lle chi'n gallu gweld lluniau Oes yr Iâ - a'r rhan fwyaf, yn wahanol i Tito Bustillo, ar agor rownd y flwyddyn.
Mae ogof y Pindal yn sefyll yn union uwchben y môr y dyddiau yma, er nad oedd hi ddim felly 15,000 mlynedd yn ôl - roedd 5 kilomedr o dir i'r gogledd bryd hynny. Dyw hi ddim yn fawr, ond mae'n cynnwys lluniau sy'n wahanol iawn i gelfyddyd arferol yr Oes.
Mae gweddillion llun mamoth, e.e., a chraith fawr goch yn ei fola, fel petai'r artist yn dathlu lladd yr anifail enfawr. Ac mae na bysgodyn, yr unig un o'i fath yn ogofau'r arfordir. Ond yn fwy diddorol fyth, efallai, mae na elfennau sy'n edrych fel math o lythrennau neu rifau - llinellau mewn rhes, rhai'n dewach na'i gilydd, a hyd yn oed triongl. Pan fuon ni yno, dwedodd y tywysydd taw dim ond un enghraifft arall sydd o'r rhain yn Ewrop, a hynny yn ne Ffrainc, mewn man na ellir ei gyrraedd ond drwy deifio a chael mynediad i'r ogof o dan y môr.
Mae'r ffordd i'r Pindal yn haws - dim ond gadael y ffordd fawr N634 yn El Peral a dilyn yr arwyddion.