Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Wednesday 30 June 2010

Tywydd ar y Mynydd

Mae mynyddoedd serth y Picos de Europa wedi dod yn labordy ar gyfer astudio newidiadau yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr o brifysgol Uvieu/Oviedo yn awr yn edrych ar ganlyniadau o orsafoedd tywydd y Picos o 1957 ymlaen, yn ogystal â lluniau lloeren o'r deg mlynedd diwethaf, i gymharu tyfiant coed a gwair ar lefel hanesyddol. Y cyfan y maen nhw'n barodd i ddweud ar y funud yw bod coed mewn rhai llefydd yn tyfu'n uwch i fyny yn awr nag oedden nhw. Ond mae'n ddigon posib bod a wnelo hynny mwy â lleihad yn nifer y da byw sy'n pori ar y mynydd drwy'r haf.


Byddan nhw wedyn yn gwneud astudiaeth fanwl o'r mathau o dyfiant, pryfed ac adar sydd i'w canfod yn y Picos, y dyddiad maen nhw'n cyrraedd a'r uchder lle maen nhw'n byw.  Gwaith tymor hir yw hwn: men nhw wedi dewis chwech darn o dir lle maen nhw'n mynd i restru pob planhigyn sydd i'w gael yno eleni, a dod yn ôl bob 4 blynedd i wneud arolwg arall. Mae'n bosib y bydd mwy o blanhigion 'Canoldir' yn ymddangos - ac mae'n bosib y bydd rhai o'r blodau Alpaidd yn diflannu'n gyfangwbl.

Tuesday 29 June 2010

Ffoi i'r Mynydd

Dim ond nawr mae hanes manwl Asturias yn y blynyddoedd ar ôl y Rhyfel yn dod i'r amlwg. Pwy fyddai'n meddwl bod minteioedd o sosialwyr a chomiwnyddion, a oedd wedi dianc i'r mynyddoedd ym 1938, pan gollwyd y gogledd gan y Weriniaeth, wedi cadw mlaen yn ymosod ar wŷr Franco yn ystod cyfnod cynnar yr Unbeniaeth, ac yn wir hyd am 10 mlynedd hyd at ddiwedd 1948?
Yn amlwg, fe fyddai eu bywyd nhw yn y gwyll, heb sôn am eu gweithredoedd yn mentro i drefi a phentrefi i ladd 'falangistas', wedi bod yn amhosib heb gefnogaeth trwch y boblogaeth. A sdim rhyfedd taw yn y cymoedd glofaol (OK, ar y bryniau rhwng y cymoedd glofaol!) yr oedd y rhan fwyaf o'r grwpiau'n byw. Roedd rhai ohonyn nhw'n ifanc iawn yn gorfod ffoi o'u cartrefi, dim ond 16 oed, ac er na enillon nhw yn erbyn Franco fel 'guerrilla', fe gawson nhw gyfle arall.
Tua diwedd y 40au fe benderfynodd Stalin ei fod am ganolbwyntio ar y Rhyfel Oer ac anghofio methiant Sbaen, fe orchmynnodd y Blaid Gomiwnyddol i'w haelodau adael y frwydr. Ymhen 2 flynedd roedd y 'guerrilla' wedi gorffen a llawer o'r 'fugaos' (y ffoaduriaid) yn y carchar.
Ond pan cawson nhw eu traed yn rhydd aethon nhw nôl i'w gwaith. I'r pyllau glo yr aeth nifer helaeth,  a dechrau trefnu eu cyd-weithwyr.  A dyna sut y dechreuwyd adeiladu mudiad undebol cryfach, ac ymestyn y gwrthwynebiaeth i Franco a'i weithredoedd.

Monday 28 June 2010

Bwrw'r Haf

Yr ochr arall i'r 'crisis': mae pobl sy'n gosod tai neu fflatiau ar rent yn ystod yr haf yn cael bonanza. Os oes gyda chi dŷ o fewn cyrraedd traeth, gwell fyth. Gan fod y rhai fwyaf llethol o Sbaenwyr yn mynd ar eu gwyliau ym mis Awst, dyw 1500 euros yr wythnos ddim yn anarferol i deulu - hanner hynny i fflat â dim ond un llofft.
O'r blaen, roedd mwy a mwy o bobol naill ai'n mynd dramor neu'n prynu eu lle eu hunain. Yn awr, mae hynny mwy neu lai wedi stopio: teithio o fewn Ewrop am benwythnosau, ie - pythefnos ar y traeth yn Mexico, na.
Eleni eto, bydd tai'r pensiynwyr yn y pentrefi yn croesawu gwyrion a neiaint hyd at y nawfed ach yn chwilio am wyliau rhad, a'r rhai sydd ddim yn ddigon ffodus i fod â pherthnasau ar lan y môr yn gorfod rhentu.
Ol-nodyn i hanes y pysgotwyr a'r deinameit: mae dynion porthladdoedd Asturias wedi ymosod ar eu cymdogion o Galicia, yn honni nad yn unig eu bod nhw wedi defnyddio ffrwydron 'de toda la vida', h.y. ers byth bythoedd, ond eu bod yn gwneud hynny er mwyn dala pysgod mwy o faint a mwy drud na'r sardîn bach - hyd at draenog y môr - ac yn nyfroedd Asturias.  Ffrae fach ar y gorwel.

Sunday 27 June 2010

Trosedd a Chosb

Ychydig iawn o droseddu sydd yn ardal dwyreiniol Asturias. Rhwyun yn torri i fewn i sied a dwyn rhai kilos o ffa oedd yr un dwethaf yn ein pentre ni. Yn yr wyth mlynedd ers imi ddod yn gyfarwydd â'r dalaith dwi ddim yn cofio'r un llofruddiaeth.
Yn gynharach eleni fe laddwyd dau ddyn mewn deufis, mewn dau bentref agos i'w gilydd. Roedd pobl yr ardal yn teimlo bod eu byd wedi newid yn gyfangwbl: ei fod yn dod yn rhan o'r lle peryglus, llawn trais sy'n ymddangos ar y teledu. Roedd ofn ar rai fynd mâs yn ystod y nos, lle na fu ofn o'r blaen.
Ddoe fe arestiwyd dyn yn y Swistir ac mae heddlu Sbaen wedi gofyn am ei draddodi yma ar gyhuddiad o ladd y ddau. Dyn ifanc sy'n dod yn wreiddiol o Dominica yw e, ond wedi bod yn byw yn y Swistir ers amser. Llynedd, daeth i weithio yn Asturias ac arhosodd yn ardal y dwyrain tan ddiwedd Ebrill eleni - 5 diwrnod ar ôl yr ail lofruddiaeth, a'r diwrnod y dechreuodd yr heddlu gymryd gwaed trigolion ei bentref i'w gymharu gyda gwaed a gafwyd yn lleoliad un o'r troseddau.  
All pethau byth â mynd yn ôl i fel oedden nhw, ond mae llawer o bobl - gan gymryd yn ganiatâol tawfe yw'r llofrudd - yn teimlo'n hapusach.

Saturday 26 June 2010

Y Canol yn erbyn y Lleol

Mae Gweinyddiaeth Treftadaeth Asturias o dan y lach am y ffordd mae'n trin swyddogion sydd yn ymddwyn yn 'annibynnol'. Pobl sydd yn dipyn o arwyr yn eu trefi'u hunain.

Heddiw am y tro cyntaf - ac er gwaethaf rhybudd iddo beidio - mae cyfarwyddwr Ogof Tito Bustillo, cartref lluniau hynafol gorau Asturias, wedi bod yn siarad am ei waharddiad rhag ei waith, dri mis yn ôl nawr. Dywedodd fod un o gyfreithwyr y weinyddiaeth wedi cerdded i fewn i'w swyddfa a rhoi gorchymyn iddo adael ar unwaith heb hyd yn oed gasglu'i bethau personol. Ers hynny mae e wedi aros gartre, heb swydd a heb gyflog, ac yn gweld meddyg oherwydd straen y peth.
Dyw e ddim yn gwybod y manylion o'r cyhuddiadau yn ei erbyn, dim ond taw a wnelo â rheolaeth ariannol, ac mae'n gwadu unrhyw drwgweithrediad.  I'r gwrthwyneb, mae e'n honni bod pobl sydd ag allweddi yn eu meddiant yn awr yn trefnu ymweliadau â'r ogof i'w cyfeillion gyda'r nos. Mae ef a'i gefnogwyr yn sôn am bydredd o fewn y weinyddiaeth.
Ac nid dyma'r tro cyntaf: ddechrau'r flwyddyn fe ymddiswyddwyd, mewn maner tebyg iawn, cyfarwyddwr amgueddfa werin Grandas de Salime.   Mae'n siwr y bydd yr ymgyrch i adennill lle Pepe el Ferreiro yn cael ei ymestyn i gynnwys achos Alfonso Millara.

Friday 25 June 2010

Tywydd Newidiol

A ninnau'n agosau at ddiwedd hanner cyntaf 2010, a'r cynlluniau ar waith i 'wneud yn siŵr na fydd yr un peth yn digwydd eto' ar ôl y llifogydd, mae'n gyfle edrych yn ôl ar y tywydd eithafol rŷn ni wedi dioddef yn barod eleni.
Ym mis Ionawr, disgynnodd mwy o eira nag a gaed mewn 10 mlynedd, o'r mynyddoedd i'r môr.
Tua diwedd y Mis Bach, daeth gwyntoedd enbyd storm 'Xynthia', a gyrhaeddodd dros 200km yr awr yn y Picos de Europa.
Roedd mis Mawrth yn arbennig o sych, gyda'r canlyniad bod tanau'r ffermwyr wedi llosgi llethrau cyfan.
Mis Ebrill a Mis Mai yn gymharol fwyn, diolch byth - gorffwys bach cyn glaw aruthrol Mehefin.
Un ystadegyn i orffen: fel arfer mae saith medr ciwbig o ddŵr yn paso pont Arriondas bob eiliad o'r dydd. Yn ystod y llifeiriant, fe'i fesurwyd yn 1400 medr ciwbig - 200 waith yn fwy na'r arfer.

Thursday 24 June 2010

Chwarae'n Troi'n Chwerw

Ddoe roeddwn yn egluro rhai o arferion Gŵyl San Ioan. Heddiw rhaid galaru gyda theuluoedd y 12 o bobl ifanc a fu farw, a'r 14 wedi'u hanafu'n ddifrifol, pan gawson nhw eu taro gan drên cyflym wrth groesi'r lein i gyrraedd un o'r coelcerthi. Y ffigyrau diweddaraf yw'r rhain o Castelldefels yn Catalunya. Ychydig cyn hanner nos y cyrhaeddodd y grŵp yr orsaf fach ar drên lleol. Roedd y bompren ar gau a'r twnel o dan y lein eisoes yn llawn o bobl yn ceisio cyrraedd y traeth, lle'r oedd y fiesta i fod.
Wrth iddyn nhw groesi, fe'u trawyd gan drên cyflym Alicante-Barselona. Yn ôl cofnodion sydd wedi cael eu nodi yng ngwefannau'r papurau lleol, mae'r trên yma arfer teithio drwy Castelldefels ar 150km/awr, ac mae'n cymryd 4km i stopio os yw'n gwneud y cyflymdra yna.  Druan o'r gyrrwr hefyd, yn gweld y bobl o'i flaen ac yn methu gwneud dim i'w hosgoi nhw. Mae pobl yn gofyn wrth gwrs sut oedd yn bosib nad oedd ffens neu rwystr arall i stopio pobl rhag groesi lein cyflym.
Ac mae'r gwaith o gael gwybod i sicrwydd pwy yw'r meirw yn mynd i gymryd amser hir. Oherwydd natur yr anafiadau nifydd teuluoedd yn cael gweld cyrff; gwaith fforensig fydd hi.
Dechrau drwg i'r haf.

Wednesday 23 June 2010

Tân rhag y Gwrachod

Heddiw yw noswyl Sant Ioan, ac am hanner nos fe fydd coelcerthi'n cael eu tanio ar hyd arfordir y gogledd. Mae'n un o 'fiestas' mwya'r flwyddyn, gydag oriau'r haul yn eu hanterth, ac yn nodi dechrau'r haf. Ar un pryd roedd e'n bwysig yng Nghymru hefyd fel un o'r dyddiau chwarter - diwrnod talu rhent, cyflogi gweithwyr neu gynnal llys barn.
Ystyr y coelcerthi yw amddiffyn y pentref rhag ysbrydion drwg a gwrachod; yn oriau mân y bore fory bydd pobl yn neidio dros y tân, a rhai yn cario ffaglau i'w cartrefi neu'u caeau er mwyn gwarchod y rheiny. 
O'r blaen, ac mewn rhai llefydd hyd at heddiw, roedd perlysiau'n chwarae rhan bwysig yn yr amddiffyn/puro. Byddai menywod yn casglu brigau o rosmari, neu rosyn gwyllt, neu'r eurinllys (la hierba de San Juan, St Johns wort yn Saesneg), eu golchi mewn dŵr o'r ffynnon, a'u gadael ar drothwy'r tŷ dros nos.
Wrth gwrs mae'r cwbl yn mynd yn barti mawr gyda digon o seidir a sardîns a'r tato cyntaf. Mae cymaint o alw am y pysgod bach nes bod rhai'n cael eu temtio i ddefnyddio deinameit: ddoe yn mhorthladd Vigo yn Galicia fe arestiwyd 9 o bysgotwyr ar ôl i'r heddlu ddarganfod 10 kilos ohono wedi'i guddio yn eu rhwydi.

Tuesday 22 June 2010

Pigion - Pel-droed a'r Picos

Nifer o bennau tost y bore ma ar ôl i Sbaen o'r diwedd chwarae fel pencampwyr Ewrop yn Ne Affrica. Wel na, ddim cweit, ond o leiaf wnaethon nhw ennill ac fe sgoriodd David Villa - Asturiano! - y 2 gôl. Trueni am y 2 neu 3 a fethodd. Neb yn hyderus iawn ynglŷn â gêm Chile.
Mae ffermwyr sy'n gadael eu gwartheg i bori ar y mynydd yn ardal Covadonga a'r Llynnoedd yn cwyno ar ôl yr ymosodiad diweddaraf gan fleiddiaid. Maen nhw'n dweud eu bod wedi gweld 4 blaidd yn y cyffiniau, 2 oedolyn a 2 o genawon, a bod 10 llo wedi eu lladd. Mae'r sefyllfa yn gymhleth oherwydd bod yr ardal o fewn Parc y Picos, lle mae'r blaidd yn cael ei warchod - ond ar y llaw arall mae'r awdurdodau o bryd i'w gilydd yn danfon saethwyr mâs i ladd yr anifeiliaid pan fydd nifer o dda byw wedi'u lladd neu'u niweidio. Hefyd wrth gwrs mae'r ffermwyr yn derbyn iawndal.

Ac yn ardal Bulnes mae'r chwilio am y cerddwr colledig yn parhau, wythnos ar ôl iddo ddiflannu, gyda deifwyr yn plymio i'r pyllau dyfnaf. Mae dyn arall - oedd ar goll yn yr un ardal - wedi troi lan yn ddiogel.

Monday 21 June 2010

Cylchdaith Andara - Blodyn Ecstra

O'r diwedd mae'n cyfaill y botanegydd wedi canfod enw iawn y planhigyn anhysbys a welsom wrth grwydro hen lwybr y mwynwyr yn ardal dwyreiniol y Picos de Europa. Ac un digon anghyffredin a diddorol yw e hefyd.
                                                  Soldanella alpina ssp cantabrica
Mae hwn yn blanhigyn sydd wedi arbenigo i'r eithaf. Mae'n tyfu ar lethrau ucha'r mymyddoedd, tua'r 2000m medr, ar yr ochr ogleddol lle mae'r eira yn aros yn lluwchfeydd am 9 neu 10 mis o'r flwyddyn. Ac oherwydd y cyfnod byr iawn sydd gydag e i flodeuo a dod â hadau, mae'n dechrau yn yr hydref. Mae'r blagur yn ffurfio cyn eira cynta'r gaeaf, ac yn aros yno o dan eu carthen wen nes bydd yr haul yn cyrraedd eto, tua'r mis Mai canlynol. Wrth i'r dadmer ddechrau, maen nhw'n agor, tra bydd y dail yn dal o dan yr eira. Mae na fideo o'r broses gan y BBC yn fan hyn: soldanella alpina yn agor
Yn amlwg roedd yr eira wedi diflannu o'r llecyn lle welson ni'r rhain, ond roedd digon ar ôl, petasen ni ond yn gwybod byddem ni wedi mynd i chwilio am ragor. O wel, flwyddyn nesaf.

Sunday 20 June 2010

Ar ôl y Storm

Mwy o newyddion am y gwaith o glirio'r llanasr llifoglyd.
Yn Arriondas, tref fach o 3000 o bobol (tua'r un faint â Sanclêr, Sir Gaerfyrddin), mae'r timoedd glanhau wedi clirio 670 o dunnelli o fwd ac 800 tunnell o gelfi, peiriannau'r cartref ac ati. Mae'r afonydd Sella a Piloña wedi disgyn yn ôl i'w gwelyau, ac maen nhw'n gobeithio agor yr ysgol uwchradd yfory, wythnos ar ôl y difrod. Ond yr ysbyty? Wel, mae gobaith cael peth ohono'n gweithio cyn diwedd yr wythnos, ond dyw pobl ddim yn swnio'n rhy sicr o hynny.
I'r dwyrain, yn y Picos de Europa, mae'r heddlu a'r timoedd achub yn dal i chwilio am gerddwr aeth ar goll ddydd Mawrth diwethaf wrth fynd am dro ar ei ben ei hun yn ardal Poncebos a Bulnes (Taith Gerdded i'r Gorffennol, 4 Mawrth 2010).
 Cafwyd hyd i gap du oedd yn perthyn iddo yn yr afon hon, a'r bwriad heddiw a fory yw chwilio'n fanwl ar ei hyd, rhag ofn ei fod wedi cwympo yn ystod y storm. Ac i wneud hynny bydd yn rhaid iddyn nhw gerdded y cwbl yn yr afon, oherwydd fod y llwybr yn rhedeg yn uwch o dipyn.

Saturday 19 June 2010

Dysgu Gwers Natur?

Mae cost clirio, cywiro a gwella ar ôl y llifogydd yn dechrau dod yn eglur - 14 miliwn euro ar gyfer y ffyrdd yn unig. A hynny ar adeg pan fydd llywodraethau Madrid ac Oviedo yn ceisio cwtogi, nid gwario mwy.
Y glaw mawr oedd achos uniongyrchol y dyfroedd fu'n llifo i lawr cymoedd Asturias am ddeuddydd cyfan, ond mae wedi dod yn hysbys yn awr bod yr awdurdodau sydd yng ngofal y cronfeydd dŵr yn y mynyddoedd wedi gollwng tunnelli o ddŵr i nifer o afonydd yng ngorllewin y dalaith oherwydd bod y gronfa ei hunan bron yn llawn. Ie, yn ystod y llifogydd.
Enghraifft arall o benderfyniad swyddogol yn troi'n chwerw yw'r hyn a ddigwyddodd i'r ysbyty yn Arriondas, y bu'n rhaid iddo gau oherwydd y llifogydd drwy'r llawr isaf a'r ffaith fod y trydan wedi methu. Dim ond 12 mlynedd yn ôl y codwyd yr ysbyty, ar lan afon Piloña,  un o'r afonydd a orlifodd. Yn awr wrth gwrs mae pobl yn dweud na ddylid fod wedi'i godi yno ar y gorlifdir, na fyddai'n pasio profion amgylchedd heddiw, ayyb.
Mae'n golygu nad oes dim ysbyty o gwbl yn nwyrain Asturias, ar ben yr holl broblemau gyda chartrefi, busnesau a chnydau sydd wedi eu distrywio.

Friday 18 June 2010

Gazpacho - Cawl neu Salad

Bydda'i'n gwneud gazpacho 4 neu 5 gwaith yr wythnos o nawr tan ddiwedd mis Medi. Cawl oer (oer iawn - rhaid ei roi yn y rhewgell) neu salad hylif yw e? Dim ots, mae'n gwneud pryd ysgafn hyfryd ganol dydd neu min nos os yw'r tywydd yn dwym.
Fyswn i ddim yn ceisio'i wneud e heb beiriant - byddai torri'r cyfan yn fân ac wedyn ei wthio drwy ridyll yn ormod imi - ac yn codi nhymheredd fel byddai eisie bowlen arall o'r oerni blasus. Ond os oes gyda chi hylifydd, neu brosesydd bwyd, mae'n rhwydd iawn. Ar gyfer 2 berson (fel cinio) neu 4 fel rhywbeth bach i ddechrau, bydd angen

2 domato mawr coch aeddfed 
darn o bupur coch - tua chwarter un cyfan
hanner ciwcymber (sdim rhaid cael hwn os nad ydych yn hoff ohono)
garllegyn

Sdim hyd yn oed eisie tynnu'r croen o'r tomatos na'r pupur, ond gwell gwneud gyda'r garllegyn -  a'r ciwc, achos mae'r croen yn gallu bod yn chwerw (ac mae'n newid lliw'r gazpacho). Torri'r tomatos yn 4 neu 8, a'r pupur yn 2 neu 3.   Dodi'r cwbl yn y peiriant a'i falu'n rhacs.
Ychwanegu
2 lwyaid (bord - 15ml) o olew 'virgen extra', y gorau gallwch chi fforddio, a
sudd lemwn - 5 ml yn ddigon.
Halen.

Un troellad bach arall, ei arllwys mewn powlen fawr a'i orchuddio a clingfilm cyn dodi fe yn yr oergell am o leiaf awr.
Mae lot llai o olew yn hwn nag sydd yn y rysait traddodiadol, ac mae'r blas yn hyfryd o ffres - peidiwch a'i gadw tan drannoeth, dyw e ddim yn cadw'r dda.
I fynd gyda'r gazpacho, naill ai 'croutons' wedi ei ffrio gyda garlleg, neu ddarn o dost: crafu garllegyn drosto fe ac arllwys diferion o olew arno. Pan un bynnag, rhaid iddo fod yn dwym fel cyferbyniad i'r gazpacho.

Thursday 17 June 2010

Nodyn o'r Ardd: Tai Gwydr

Dylai pob garddwr gael tŷ gwydr, neu o leiaf ffrâm. Mae e gymaint o help, nid yn unig i hyrwyddo eginad a thyfiant planhigion bach, ond nes ymlaen ar gyfer y rhai sydd angen tipyn bach o garco. I ddechrau, brynon ni un eithaf drud, gyda rhwydwaith i'w gryfhau. Fe barodd e llai na blwyddyn, a phan aethom ni i gwyno fe ddywedon nhw taw dyna allen ni ei ddisgwyl!
  Fel y gwelwch, nid gwydr yw e, ond plastig - yn llawer haws ei drin ond ddim mor gryf. Unwaith yr oedd e wedi cael y tyllau yma, daeth y gwynt i fewn gyda'r storom nesaf a chwythu'r cwbl yn rhacs.
Bant â ni i siop y ffermwyr  a phrynu plastig cryfach a'i ddodi fe dros yr hen ffrâm.
Dyma fe gyda'i frawd bach, sy'n gyfangwbl 'hôm-mêd'. Dim ond gobeithio y byddan nhw'n gwrthsefyll y tywydd, sydd ar hyn o bryd yn debycach i fis Mawrth na mis Mehefin.

Wednesday 16 June 2010

Ffindo'r Ffosydd

O'r mis nesaf ymlaen fe fydd trigolion Asturias a'u teuluoedd ledled y byd yn gallu defnyddio map newydd rhyngweithiol i ddod o hyd i'r ffosydd lle claddwyd eu cyndeidiau yn ystod Rhyfel Sbaen. Mae ymchwilwyr o Brifysgol Oviedo/Uvieu wedi bod yn gweithio arno ers saith mlynedd, yn teithio o gwmpas i gymryd tystiolaeth yn y pentrefi yn ogystal â chwilota mewn llyfrgelloedd.
Maen nhw wedi rhestru 343 o ffosydd; sdim neb yn gwybod faint o bobol gafodd eu claddu ynddynt, and mae 7000 yn cael ei dderbyn fel amcan.
Mae rhai o'r ffosydd yn adnabyddus, ond eraill, y rhai lle claddwyd pobl oedd wedi eu lladd heb fod yn rhan o unrhyw sgarmes arfog a heb sefyll unrhyw brawf, yn ymddangos am y tro cyntaf. 'Mynd am dro' oedd yr enw ar lafar pan ddaeth dynion Franco i'r drws gyda'r nos i chwilio am rywun na fyddai byth yn dychwelyd.
I wneud pethau'n haws i ddisgynyddion y meirw, sy'n byw ar draws y byd i gyd, bydd yn bosib chwilio'r map fesul cyngor. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod ardaloedd cyngor ar y cyfan yn fach, felly bydd pobl sydd dim ond yn cofio enw pentref yn gallu cael gwybodaeth fanwl heb fynd ymhellach.
Mae un o'r ymchwilwyr wedi siarad â'r wasg yn beirniadu agwedd y Weinyddiaeth Amddiffyn, a rhai o offeiriaid y pentrefi, tuag at eu gwaith nhw. Dim byd newydd yn fan na, y fyddin a'r eglwys oedd prif gefnogwyr Franco wastad.

Tuesday 15 June 2010

Enwau Lleoedd Asturias 1

Wel ar ôl y cofnod ar arwyddion dwyieithog newydd Asturias, rwyf i am geisio esbonio (gyda chymorth cymdogion a llyfrau) beth y mae rhai ohonyn nhw'n ei feddwl. Mae enwau saint yn boblogaidd iawn, fe l y buasech yn disgwyl, a rhai ohonyn nhw'n saint digon adnabyddus ymhobman: Santa Maria, San Pedro, Santiago. Mae na eraill fel Santa Eulalia (Santolaya yn Astwreg) a San Mames sydd yn ddieithr inni, ac eraill eto fel Santianes, sy'n edrych yn od ond sy'n ffurf ar Sant Iohannes (Siôn).
Wedyn mae'r rhai digon hawdd eu cyfieithu gyda geiriadur: Puente Nuevo (y Bont Newydd), Rio Frio (Afon Oer) a'i gymar Rio Seco (Afon Sych). Mae angen mynd yn ofalus hyd yn oed gyda'r rhain: mae Belmonte yn edrych yn gyfarwydd - Mynydd Hardd - ac mae'n bosib bod hynny'n iawn yn achos Belmonte de Miranda, lle daeth mynachod o Ffrainc i sefydlu cymuned yn ystod yr Oesoedd Canol.
Ond mae'n bosib hefyd bod y 'Bel-' yn dod o 'valle' (cwm) - yn ddisgrifiad yn hytrach nag yn farn ar y lle.
Mae'r rhain i gyd yn weddol fodern. Y rhai sy'n ddiddorol imi yw'r enwau sy'n rhoi cip ar hanes cynnar Asturias a'r ffordd y cafodd y trefi eu sefydlu. Yn ôl at hynny rywbryd arall.

Monday 14 June 2010

Ydych chi wedi Lladd eto?

Rwy'n cofio clywed y cwestiwn yna pan own i'n ferch fach, un ffermwr yn siarad â'i gymydog mewn gwerthiant da byw. Nid pob un oedd yn berchen tractor, ond roedden nhw i gyd yn cael defnydd un ym mis Mehefin ar gyfer lladd gwair. Byddai pobl yn mynd o un fferm i'r llall i helpu.
Dim ond dau hen frawd, a dim ond un cae gwair oedd gyda nhw, yr wyf i'n eu cofio yn lladd â phladur, a chodi'r gwair ar racane bach i'w sychu.
Mae cenhedlaeth y pladurwyr bron wedi mynd yn Asturias hefyd. Rai boreau mae'n bosib clywed eto sŵn rheolaidd y miniogi, ac wedyn y torri, ac yna'r miniogi eto, o gwmpas y tai gyferbyn. A'r diwrnod o'r blaen des i ar draws dyn ifancach o ddigon na'n cymydog ni yn un o'r caeau ar gyrion y pentref.
Iawn, dim ond dechrau clirio'r ochrau mae fe i'r tractor cael dod i mewn i'r cae, ond roedd e'n gweithio'n ddigon destlus.  Rhaid cofio bod yr hen fois yn gweithio mewn rhes o 4 neu 5 ar draws y cae - a does dim digon o bobl ar ôl yn yr ardaloedd gwledig i wneud hynny nawr.
Ie, y tractor coch pia hi - gydag un dyn yn gwneud sawl cae cyn cinio, ac un arall yn dod ddeuddydd wedyn i wneud y bêls mawr crwn a'u lapio nhw mewn plastig du.

Sunday 13 June 2010

Arwyddion Astwreg yn Awr!

Anodd credu i unrhyw un a fu'n hybu gwerthiant paent gwyrdd yng Nghymru yn y saith-degau cynnar, ond dim ond yn ddiweddar iawn mae enwau Astwreg trefi a phentrefi'r dalaith wedi dechrau ymddangos ar arwyddion ffyrdd. O'r diwedd mae hyn wedi newid, ond mae'n broses hir.
Oherwydd bod yr Astwreg yn cael ei ystyried yn 'fratiaith' tan ddechrau'r ugeinfed ganrif,  dyw'r mwyafrif llethol o'r enwau ddim wedi eu hysgrifennu mewn dogfenni 'swyddogol' erioed. Maen nhw'n bod mewn dogfenni prynu a gwerthu tir, ond mewn llu o ffurfiau ac wedi'u Castellaneiddio i raddau.
Ond na phoener! Mae'r Bwrdd Asesu Enwau Lleoedd, sydd yn cynnwys aelodau o Sefydliad Brenhinol Asturiaethau Astwreg ac Academi'r Iaith Astwreg, wrthi'n ddygn yn penderfynu sut yn union y dylid sillafu'r enwau.
Yn anffodus dydyn nhw ddim bob amser yn dod i'r un penderfyniad â phobl y dref dan sylw.  Yn achos Ribadesella, cyhoeddwyd taw Ribeseya ddylai fod, ac fe'i dderbyniwyd gan y cyngor. Ond na, meddai ieithyddwyr a haneswyr yr ardal. Dyw'r ffurf yno ddim yn bod - Ribesella yw hi.
(Mae gwahaniaeth rhwng y cytseiniaid 'll' ac 'y' ar lafar yn Sbaeneg ac yn Astwreg, ac mae dweud 'y' yn lle 'll' yn cael ei gyfri'n wall.)
Dim ond aros i weld yn awr a fydd yr arwydd newydd wedi cyrraedd cyn mewnlifiad ymwelwyr yr haf...a pha ffurf y byddan nhw wedi ei dewis.

Saturday 12 June 2010

Y Tecaf Oll

Un o'r planhigion sydd wedi dangos effaith y gaeaf hir drwy ymddangos yn hwyrach nag arfer yw'r tegeirian. Mae sawl math i'w gweld yma o'r môr i'r mynydd - y diwrnod o'r blaen fe welais y tegeirian cynnar ar lwybr Andara (30 Mai).
Mae'r tegeirian llosg yn brinnach, ond eto i'w gweld ar y mynydd.
Ond fy ffefryn yw hwn, sy'n tyfu (yn naturiol) yn yr ardd, ac yn ymddangos mewn mannau gwahanol bob blwyddyn.
Ophrys apifera, tegeirian y gwenyn, ac fe welwch chi paham. Nid yn unig mae rhan o'r blodyn yn edrych yn debyg i wenynen, mae hefyd (medden nhw wrthyf i) yn cynhyrchu arogl sy'n debyg i fferonoms gwenyn.

Friday 11 June 2010

Symud i Sbaen o Wlad Pwyl

Prin y gallwch chi edrych ar y newyddion heb weld bod naturiaethwyr yn rhywle yn mynd i ail-gyflwyno rhyw anifail i ardal lle diflannodd ei gyndadau ganrifoedd yn ôl. Bleiddiaid yn yr Alban, y quebrantahuesos (gypaetus barbatus - fwltur anferth sy'n bwyta esgyrn) yn y Picos de Europa, ac yn awr ychydig i'r de-ddwyrain o fan hyn yn y Cordillera Cantábrica, buail.
A dydyn ni ddim yn sôn am anifail a ddiflannodd oherwydd pwysau amaeth na diwydiant pobl yn ystod y ganrid neu ddwy ddiwethaf. Mae buail yn ymddangos yn y lluniau o fewn ogofau a wnaethpwyd 16000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae'n debyg bod yr olaf un wedi diflannu o ogledd y penrhyn Iberaidd tua diwedd y mileniwm cyntaf.
Dim ond yng Ngwlad Pwyl mae buail Ewrop yn byw heddiw, a hyd yn oed fanna mae'r boblogaeth wedi cael ei hadfer yn wyddonol. Ond yn awr mae saith o fuail Pwyl wedi cyrraedd tir mynyddig sy'n perthyn i bentref San Cebrián de Mudá yn ardal Palencia. Mae gyda nhw hawl perffaith i grwydro 20 hectar o dir agored a choedwig, a byddan nhw'n cael eu hastudio'n fanwl i weld beth maen nhw'n ei fwyta a sut maen nhw'n byw.
Dau fwriad sydd i'r arbrawf: helpu adfer y bual ar lefel Ewrop, a phenderfynu a fyddan nhw'n fwytawyr digon da i glirio prysgwydd a thorri ar y nifer o danau sydd ar y mynyddoedd ym mhob ran o Sbaen.

Un amheuaeth sydd gyda fi am hynny: drwy'r haf rŷn ni'n gweld gwartheg ar y mynydd serth yma, i ddangos ond un. Dwi ddim yn siŵr a fydd buail yr un mor saff ar eu traed ar lethrau'r Picos.

Thursday 10 June 2010

Morfil ar Grwydr

Glaw mawr yn Asturias drwy'r nos a'r dydd, gyda llifogydd yn y gorllewin. Ond stori yn ymwneud â dŵr y môr wnaeth dal fy llygad heddiw.
Mae morfil llwyd, Eschrichtius robustus,wedi ei weld yn y Môr Canol, yn ymyl porthladd Barselona - 200 mlynedd ar ôl i boblogaeth yr anifail ym Môr Iwerydd i gyd gael eu lladd gan yr helwyr. Ac mae'n ymddangos taw'r un un yw e ag a welwyd dair wythnos ynghynt ger arfordir Israel. (Lwcus, efallai, nad oedd wedi mynd yn agos i Gaza.) Mae lluniau a dynnwyd yn y ddau le yn dangos anifail gyda'r un smotiau. Ond mae'n anifail sydd heb ei weld gan ffotograffwyr o'r blaen: dyw e ddim yn y catalog byd-eang o fôrfilod llwyd.
Mae naturiaethwyr yn pryderu braidd, oherwydd mewn dŵr oer gogledd y Môr Tawel mae'r morfil llwyd yn byw ac yn cael ei fwyd, nid oddi ar draethau cynnes y Med. Ac maen nhw'n gofyn sut y cyrhaeddodd yno.  Ydy'r morfil llwyd wedi ymsefydlu eto yn yr Iwerydd, a hwn wedi teithio heibio Gibraltar am dro bach? Neu a ydy'r dadmer yn yr Arctig wedi agor llwybr iddyn nhw basio o'r Môr Tawel i'r Iwerydd,  a'r anifail yma wedi dod ar daith hir iawn. 
Y disgwyl yw y bydd yn cario mlaen tua'r gorllewin ac yn cyrraedd Gibraltar ryw ben. A bydd llong llong o ymchwilwyr yn aros amdano i geisio atebion.i  

Wednesday 9 June 2010

Streic!

Mae'n gyfnod streic yn Asturias ac yn Sbaen gyfan. Ddoe fe ddaeth miloedd o weision suful (dosbarth sydd hefyd yn cynwys pobl sy'n gweithio i gwmniau'r llywodraeth fel trenau'r FEVE) i'r strydoedd i wrthwynebu toriad cyflog a cholli swyddi. Yfory bydd gweithwyr y Swyddfa Bost yn Asturias ar streic oherwydd cynlluniau i newid y gyfundrefn - gan gynnwys rhoi'r gorau i ddosbarthu llythyrau i gartrefi gwledig.
Ond yr un sydd wedi ennill cefnogaeth llawer y tu allan i'r frwydr ei hun yw ymgyrch gweithwyr ffatri losin ym mhentref Villamayor. Yno, ym 1958, y sefydlwyd cwmni lolipops Chupa Chups mewn hen ffatri jam. Fe werthwyd y cwmni yn 2006 am yn agos i 400 miliwn euro.  Ac yn awr mae cwmni aml-wladol Perfetti Van Melle am ei gau, gan dowlu 300 o weithwyr ar y stryd. Mae trafodaethau wedi dechrau rhwng yr undebau a'r cwmni, a channoedd o bobl wedi cerdded drwy'r pentre i ddangos eu gwerthwynebiad wrth y gât.
Ac mae hyn i gyd yn digwydd ar yr un pryd a cheisiadau'r llywodraeth sosialaidd ym Madrid i'w gwneud hi'n haws i gau ffatrioedd a chael gwared ar weithwyr, am fod mawrion y Gronfa Ariannol Ryngwladol yn dweud taw dyna'r unig ffordd i wella pethau. Mae sôn y bydd mwy o streiciau - ac efallai streic gyffredinol - wrth fod tymheredd yr haf a'r ddadl yn codi.

Tuesday 8 June 2010

O'r Gegin - a'r Bowlen yn Wag

Dau fath o fwyd na fyddwn ni ddim yn eu blasu eleni: olew cnau Ffrengig cartref, a brennig neu limpets. Efallai bod rhai ohonoch chi wedi darllen y sylw gan Gareth ar y cofnod am fwyta brennig. Yn dyfynnu o lyfr Edible Seashore fe ddwedodd eu bod nhw â blas fel 'pencil rubbers dipped in fish paste' . Yn ffodus neu beidio, mae tymor y brennig yma wedi mynd heibio heb imi gael cyfle i geisio'u cael nhw oddi ar y creigiau, heb sôn am eu coginio.
Fe wnes i drio eto gyda'r olew. Y tro yma, yn dilyn disgrifiad arall, malu'r cnau yn fân cyn eu tostio, wedi yn syth â nhw i'r wasg yn dwym. Dim newid. Dim dropyn o olew. (Falle fyddai BP yn hapus, ond dydw i ddim).
Beth sy'n bod? Coed o fath gwahanol - go brin. Y cnau ddim yn cynhyrchu cymaint o olew oherwydd y tywydd/lleoliad glan môr? Efallai. Rhywbeth ar goll o'r broses? Sa'i'n credu. Eisiau mwy o bwysau ar y wasg? Bosib iawn. Y peth nesaf fydd trefnu i fynd i Ffrainc i ymweld â rhywun sy'n dal i gynhyrchu olew cartref.
Tan hynny, mwy o fisgedi cnau fydd hi.

Monday 7 June 2010

Dianc rhag y Clwy Tatws?

Mae'r ardal yma'n un ddigon gwlyb. Nid dim ond y glaw, ond y niwl sy'n hongian o ben y mynydd am ddyddiau ar y tro. Ac felly mae planhigion fel y tato a'r tomato (perthnasau, ill dau) yn gallu dioddef yn enbyd o'r clwyf yma. Dail yn duo a'r ffrwyth yn crebachu.
Rydyn ni wedi ceisio sawl ffordd o osgoi'r clwyf: plannu mathau eraill o dato, plannu'r tato mae pobl y pentref wedi plannu ar hyd eu hoes, plannu'n gynnar, plannu'n hwyr, dodi 'fleece' drostyn nhw cyn mis Mehefin. (Dyna'r mis gwaethaf am fod y tymheredd yn uchel a'r niwl yn gallu aros am wythnos neu rhagor.)
  Ond fel ych chi'n gweld, mae llawer i blanhigyn tatws wedi'i godi'n barod. Y Charlottes a'r Swifts, yn ogystal â rhai o'r cochion geson ni gan Angelita llynedd, 17 kilos i gyd, wedi'u sychu yn yr haul ac yn barod i'w bwyta. (Rhai wedi'u bwyta, wrth gwrs, ac yn hyfryd.) Felly mae mwy o le gan y gweddill sydd ar ôl - cawn weld a wnaiff hynny unrhyw wahaniaeth. A gobeithio y bydd y tywydd yn dod â haul, neu law, ond nid niwl.

Sunday 6 June 2010

Cynhaeaf Euraidd

Fel hyn mae rhywun yn dysgu ffermio. Roeddwn i wedi sylwi bod smotiau bach brown golau ar rai o'r lemwns ar y coed, a bod eraill â marciau mwy, du. Rhyw feddwl taw'r gwynt oedd yn gwneud y difrod wrth chwythu'r ffrwyth yn erbyn y canghennau, neu adar yn chwilio am ddŵr. Ond na. Pydredd yw e, yn rhan o broses aeddfedu naturiol y lemwn. Mae'r rhan fwyaf ddigon o bob ffrwyth yn iawn, achos mae'n cymryd amser i bydru ty fewn oherwydd trwch y croen. Ond er mwyn cadw - wel mae hynny'n rhywbeth arall. Felly es i rownd y bore 'ma a tynnu pob lemwn oedd yn felyn.
A dyma nhw - 18 kilo o lemwns, rhai'n berffaith ond y rhan fwyaf â rhyw nam bach. Mae'r ffrwyth yn cymryd dros flwyddyn i ddod yn barod i'w fwyta; ar hyn o bryd mae digonedd o ffrwyth sy'n dal yn wyrdd ar y coed:
a hyd yn oed rhai bychain sydd wrthi'n cael eu ffurfio wrth i flodyn golli'i betalau. Fyddwn ni ddim yn casglu rhain tan 2012.

Saturday 5 June 2010

Torri Gwarchae Môr

Mae gweld ar y newyddion hanes y llongau o wahanol wledydd yn ceisio cyrraedd porthladd Gaza er gwaethaf gwarchae Israel yn dwyn i gof gweithredoedd tebyg yn ystod Rhyfel Sbaen.
Yn ystod misoedd cyntaf 1937, pan oedd rhyfela ar hyd yr arfordir gogleddol i'r dwyrain o Oviedo, roedd pobl Bilbo a dinasoedd eraill Gwlad y Basg yn newynu ac yn rhedeg allan o arfau. Bryd hynny roedd y busnes o fewnforio ac allforio bwyd yn cael ei wneud gan longau, a digwydd bod roedd o leiaf pedair o'r llongau yma o dan reolaeth capteiniaid o Gymru: y tri David Jones - Jones y Tato,  Jones y 'Corncob', a  Jones 'Ham and Chips', a Capten Roberts. Roedden nhw'n aros ym mhorthladd St Jean de Luz yn ardal Basgaidd Ffrainc, a llynges Franco yn eu cadw nhw rhag cyrraedd Bilbo.
Ond cyrraedd y gwnaethon nhw: y cyntaf i'r lanfa oedd y Capten Roberts a'r Seven Seas Spray, oedd yn cario bwyd o Valencia, ardal arall oedd o hyd ym meddiant y Weriniaeth ar y pryd. Gyda fe oedd ei ferch Fifi, oedd yn gweithio ar y llong yn hytrach nag aros gartref. Mae'n siwr bod rhai o'r llongau'n cario gynau hefyd, ond gyda'r pwysau mawr oedd ar ochr Franco (byddin a llu awyr yr Almaen) ni fyddai wedi gwneud lot o wahaniaeth.
Wythnos ar ôl i'r Seven Seas Spray dorri'r gwarchae, fe fomiwyd hen brifddinas y Basgwyr, Gernika, yn rhacs gan yr Almaenwyr.

Friday 4 June 2010

Cinio Penblwydd

Diwrnod i'r brenin heddiw i ddathlu penblwydd. Fe gerddon ni'r 20 munud i'r pentre nesaf i ddal i tren i Arriondas.
Roedd niwl eithaf trwchus ar yr arfordir, ond wedi teithio am hanner awr lan yr afon daeth hi'n haul ysblennydd drwy'r dydd. Mae Arriondas ar gymmer afonydd  Sella a Piloña, a dyma lle mae ras ceufadau rhyngwladol enwog mis Awst yn dechrau.
Ceson ni fwyd yn el Corral del Indianu - lle bwyta arbennig iawn lle maen nhw'n darparu prydau sydd yn cyflwyno blas bwydydd traddodiadol yr ardal yn ddwfn ond eto'n gain e.e. fabada - cawl trwchus o gig moch a ffa gwyn wedi'i droi yn llond llwy o blat ond eto gyda blas pob elfen yn eglur.

Thursday 3 June 2010

Haul a Dŵr

Mae'r lloriau'n disgleirio. Ar ôl tri diwrnod o niwl (tywydd twym, ond dim golwg o'r haul) heddiw cawson ni awyr las drwy'r dydd. Ac o'r herwydd roedd y tymheredd yn y tanc dŵr solar, y 300 litr sy'n cael eu gwresogi'n uniongyrchol gan y paneli haul, yn codi wrth i chi wylio fe. Dim byd amdani ond golchi pob llawr â'r dŵr twym rhad ac am ddim.
Teils sydd gyda ni bron ymhob ystafell; mae'n well yn yr haf a dyw e ddim yn gwneud lot o wahaniaeth yn y gaeaf achos fydd hi fyth yn oer iawn yma. Ond bois bach maen nhw'n dangos y baw. Mae'n hala rhywun i feddwl faint o ohono fe sydd ar garpedi, ond nad ydych chi byth yn sylweddoli.
Rwy'n cofio pan ddaethon ni yma i ddechrau, cymdoges yn dweud wrthyn ni am beidio tynnu'n sgidie i fynd i'w thŷ, a ninnau wedi bod yn cerdded yn y caeau. 'Pobl y wlad ydyn ni,' meddai,'fan hyn rydyn ni'n golchi'r llawr bob dydd.' Wel dwi dal ddim yn gwneud hynny; wedi'r cyfan does dim anifeiliad gyda ni, a rydyn ni yn tynu'n bŵts cyn dod i mewn.
A nawr gyda'r gwres llethol wedi pasio a'r tanc yn dal yn 76 gradd er gwaetha'r bwcedi lu o ddŵr sydd wedi cael eu tynnu ohono, mae'n hen bryd gadael hyn i gyd a mynd am dro i'r traeth.

Wednesday 2 June 2010

Nid Braf yw Codi Tai Haf

Mae pethau gwerth chweil yn dechrau deillio o'r argyfwng economaidd. Yma yn Asturias fel yng ngweddill Sbaen, y diwydiant adeiladu, ac yn fwy na dim y diwydiant adeiladu tai haf, oedd y peth a dyfodd fel madarch a chrebachu'r un mor gyflym. Yn ystod y blynyddoedd 'da' roedd cynghorau bach ar hyd yr arfordir yn rhoi caniatad ar gyfer datblygiadau o gannoedd o dai a fflatiau ar y tro, mewn mannau lle nad oedd ond ychydig filoedd o bobol yn byw rownd y flwyddyn.

Erbyn heddiw mae'r sgerbydau concrit a dur, a'r heolydd heb adeiladau, yn gerrig bedd addas i'r rheiny; y miloedd o ddi-waith, llai addas.
Ond mae'r rhod wedi troi a chyngor Ribadesella, sydd wrthi'n paratoi cynllun cyffredinol newydd, wedi datgan yn blwmp ac yn blaen na fydd codi mwy o dai haf yn rhan ohono. Yn lle hynny, maen nhw'n sôn am greu 300 uned o gartrefi cymdeithasol - y fwyafrif llethol yn fflatiau - ar ddarnau o dir o fewn y dref sydd eisoes yn eiddo i'r cyngor.
Alla'i ddim gweld pwy fyddai'n gwrthwynebu: mae'r datblygwyr wedi diflannu'n barod, yr asiantwyr tai â digon o dai haf ar eu rhestrau, yr adeiladwyr lleol eisie'r gwaith ac wrth gwrs nifer go helaeth o bobol ifanc yn gweld cyfle i cael eu lle eu hunain.

Tuesday 1 June 2010

Cylchdaith Andara, Linaria

Lle heddiw i ddau flodyn bach hyfryd arall a welson ni ar y daith gerdded heibio mwynglawdd Andara yn y Picos.
Un o'r lluosog fathau o lin y llyffant yw hwn - linaria pyrenaica. Mae'r enw fel arfer yn awgrymu taw ym mynyddoedd y Pirineos y cafodd ei ddisgrifio gyntaf, ond mae i gael ar hyd mynyddoedd gogledd Sbaen.

A mae'r rhain yn eithaf anarferol: linaria filicaulis, os ydyn ni wedi dilyn y llyfr yn iawn, 'mosquitas cantábricas´ yn Sbaeneg. Roedd y planhigyn - dim ond o ryw 10cm o daldra - yn tyfu ar riw o sgri yn agos iawn i'r hen bwll sinc.
Y tro nesaf gobeithio cawn ni gyfle i fynd ymhellach heibio'r pwll lle yn ôl y sôn mae 'na flodau prinnach eto.