Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Sunday 31 January 2010

Dianc rhag y Glaw

Daeth nifer o bobl i gael cinio dydd Sul yma heddiw - Eidalwyr, Albanwyr a.y.b. Y diaspora sydd y dyddiau yma yn Ewrop, pobl a fyddai'n hapus yn byw mewn sawl lle, ond sydd yn byw yma yn Asturias.
Ai'r mynyddoedd sy'n eu denu, ai'r syniad ei bod yn bosib byw bywyd symlach ymhell o drobwll Llundain-Brwsel-Rhufain, sdim clem 'da fi.
Ond maen nhw'n bobl sy'n siarad yn emosiynol am glywed sŵn cymydog yn rhoi min ar bladur fore Sul.
Ac yn bobl sydd wedi dysgu siâp a llun tirwedd Asturias, ac yn ymddiddori yn ei ffyrdd o fwyta ac o gadw bwyd dros y gaeaf a'r hirlwm.
Edrych ymlaen yr ydym tuag at y gwanwyn, pan ddaw eto haul ar fryn ac amser hau pŷs a letys;
(mae'r wynwns a'r garlleg yno'n barod er gwaetha'r glaw.)
Ac yn mwynhau pryd gyda'n gilydd am ryw saith awr - pam lai?

Saturday 30 January 2010

Effaith Cwotas Llaeth

Wrth gerdded ar garlam i lawr i'r clogwyni (ceisio colli kilos y Nadolig) fe welais i Ramón. Roedd hi´n bwrw´n eitha trwm ac roedd e ar ei ffordd i weld caseg oedd ar fin geni ebol, i benderfynu a oedd hi´n amser dod â hi i mewn i'r stabal.
Tan yn ddiweddar iawn, efe oedd ffermwr llaeth ola'r pentref. Ond â phris llaeth yn dal i ddisgyn, fe gymrodd fantais o'r cynllun ymddeol sydd yn perthyn i gyfundrefn y cwotas Ewropeaidd, ac ers hynny mae wedi bod yn ail-doi ei dŷ ac yn ei beintio. Mae disgwyl iddo gadw ei dir o dan reolaeth, ond mae'r gwartheg wedi diflannu.

Mae gwartheg o hyd yn pori yn y caeau bychain, ond i'r farchnad gig mae'r rhain. Mae rhai o'r pentrefwyr (pensiynwyr gan amlaf) yn cadw ambell anifail, eraill yn ennill tipyn o arian wrth rentu beth oeddem ni arfer ei alw'n 'tack' - porfa yn unig. Mae perchnogion y gwartheg yn dod â dŵr iddyn nhw mewn tanciau.

Mae'r cig yn fendigedig, boed cig llo (rhwng 9 mis a blwyddyn) neu gig eidion.
Mae pobl yn dod i Asturias o rannau eraill o Sbaen dim ond oherwydd y cig - a'r pysgod, ond stori arall yw honno.

Friday 29 January 2010

Meddwl am Flogio

Hen bryd imi ddiolch yn fawr i bawb sy wedi ymweld â'r blog yma dros y pythefnos diwethaf; gobeithio eich bod chi wedi ei ddarllen ac wedi ei fwynhau. Dyw'r teclyn cyfri ddim ond yn eich cyfri chi unwaith, felly does gen i ddim syniad faint o bobl sydd wedi dychwelyd, na faint o weithiau. Da fyddai gweld sylwadau: beth bynnag y bônt.
Diolch yn arbennig i'r rhai sydd wedi ymlynu, a'r rhai sydd wedi rhannu'r blog gydag eraill.
Hyd yn hyn rwyf i wedi llwyddo i sgrifennu rhyw bwt o lith bob dydd, a'r bwriad yw cadw mlaen fel na.
Nid gweithio ar ran awdurdodau twristiaeth Asturias ydw i; ond yn ceisio rhoi mwy o wybodaeth am y gilfach anadnabyddus. Yn y dyfodol byddaf yn ceisio ymdrin â diboblogi gwledig, celfyddyd Oes yr Iâ, a thri anifail mawr y mynydd: yr arth, y blaidd a'r twrch. Mae dadlau mawr ynglŷn a'r polisi o warchod y rhain, oherwydd y difrod maen nhw'n achosi i (yn y drefn yna) cychod gwenyn, da byw, a thir âr.
Cawn weld beth ddaw i'r wyneb yfory.

Thursday 28 January 2010

Seidr Bach Arall

Wedi addo mwy am seidr Asturias, ac wedi darllen yn blog Vaughan Roderick bod pwyllgor o ASau yn dechrau ymchwiliad i'r diwydiant seidr yng Nghymru (ynghyd â gwin a chwrw), fe dria'i esbonio fel mae pethau fan hyn.
Dyw'r gair 'diwydiant' ddim cweit yn cyfleu beth sy'n digwydd. Mae na gwmniau fel El Gaitero (y Pibydd) ond mae na hefyd draddodiad hir o wneud seidr cartref. Efallai nad 'macsu' yw'r term technegol gywir ond gweithgarwch digon tebyg yw e.
Oherwydd bod pob pentref yn glynu at ei draddodiad ei hun, mae rhyw 270 o fathau o afalau yn cael eu defnyddio i wneud seidr. O'r rhain, dim ond (!) 22 sy'n cael eu caniatáu gan y Cyngor Seidr sy'n rheoli'r broses o fewn y 'denominación protegida', y categori arbennig sy'n cael ei gydnabod ar lefel Ewrop.
Mae'r afalau ar gyfer seidr cartef yn cael disgyn o'r coed, a'r teulu yn mynd i gasglu nhw wedyn - tua diwedd Hydref. Wedyn mae'n rhaid eu malu'n fân cyn dod nhw mewn gwasg fawr bren, y 'llagar'. Mae'r sudd sy'n rhedeg heb ei wasgu yn cael ei yfed fwy neu lai ar unwaith, yn sudd afal heb alcohol.
Mae'r sudd sy'n dod o'r wasg yn cael ei adael mewn casgenni am tua 5 mis i'r burum naturiol sydd yn yr awyr neu ar groen y ffrwyth gwblháu'r eplesu. Wedyn mae'n cael ei botelu.
Ac yn y cofnod nesaf fe awn i'r bar i flasu seidr Asturias.

Wednesday 27 January 2010

lemwn + halen = melys


Diwrnod braf ac oer heddiw - 8C ar y mwyaf. Mae'r coed lemwn wedi dioddef yn barod oherwydd gwyntoedd cryf dros y Calan, gydag ambell i frigyn wedi'i dorri'n rhydd. Yn awr, mae'r ffrwythau sydd wedi cael niwed yn eu crwyn yn dangos arwyddion pydru.

Ond mae modd eu defnyddio nhw yn y gegin. Rysait o Morocco yw hwn ar gyfer piclo lemwns:
bydd eisiau o leiaf 10 lemwn arnoch chi. Lemwns bach yw'r gorau, achos mae'n haws eu pacio nhw i fewn i'r jar.
Torrwch 5 lemwn yn chwarteri ar eu hyd (o'r brigyn i'r blodyn, fel petai), ond peidiwch â thorri reit drwyddyn nhw. Agorwch pob un fel yn yr hen gêm gyda phapur wedi'i blygio, a dodwch halen ar bob wyneb toredig.
Rhowch llond llwy ford o halen mewn jar, a phaciwch y ffrwyth i fewn yn dynn.
Tynnwch y sudd o'r lemwns eraill, a'i arllwys i fewn, gan adael lle o dan y clawr. Mae'n syniad dodi pwysyn - gwydr bach neu rywbeth tebyg - i gadw'r ffrwyth o dan wyneb y sudd.
Cadwch y jar yn y gegin am fis, a'i siglo bob dydd. Wedyn maen nhw'n barod i'w defnyddio.
Tynnwch un lemwn o'r jar gyda llwy blastig, a'i olchi'n dda i gael gwared yr halen.
Fe allwch chi fwyta'r croen yn unig, wedi'i dorri'n fân, neu rhoi'r canol i fewn hefyd. Mae'r blas yn rhyfeddol o felys.
A phwy a ŵyr, mewn ugain mlynedd os bydd yr hinsawdd wedi newid, mae'n bosib y bydd garddwyr a chogyddion Cymru hefyd yn chwilio am ffordd i ddefnyddio lemwns.

Tuesday 26 January 2010

Ceisio Cofrestru'r Car, Rhan 11

A gallwch gymryd y rhif yna fel ail ran neu unfed ran ar ddeg - ail i'r blog yma ond 11eg i ni o leiaf. Fe geson ni'r papur oddiwrth Casi yn y garej, yn dangos pris y car yn ail law, a faint o nwy mae'n gollwng. Roedd hi'n dywydd braf ddoe, ond pan ddaeth y cymylau tywyll y bore ma dyma ni'n penderfynu mynd i Oviedo i geisio gwblhau'r broses.
Ond ych chi'n gwybod na wnaethom ni ddim, yndydych?
I'r Swyddfa Gyllid yn gyntaf, rhan o Drysorlys Sbaen, hi sy'n pennu faint o dreth mae'n rhaid talu - yn yr achos yma, i fewnforio ein hen gar ein hunain, o wlad arall o fewn y Gymuned Ewropeaidd, i Sbaen. Roedd pethau'n edrych yn weddol: ar ôl dipyn o drafodaeth fe lenwodd y boi y ffurflen a bant â ni i'r banc i dalu'r hyn oedd rhaid a dod yn ôl â'r dderbyneb.
Problem cyntaf: doedd y banc ddim yn fodlon derbyn y tâl drwy gerdyn, nac mewn siec. Roedd yn rhaid cael arian parod, a chan fod y banc yma eisiau 8% o gomisiwn !! fe gerddsom lan yr heol i ffindio un rhatach.
Banc eto, cael y papur, nôl i'r Swyddfa Gyllid. I mewn i weld rhywun arall. Hithau'n gwrthod derbyn papur y banc am fod y rhifau perthnasol wedi cael eu hargraffu dros ben enw'r banc a, meddai hi, yn annarllenadwy. Y banc yn ail-ysgrifennu'r rhifau â llaw. Y ferch o'r diwedd yn dechrau tapo popeth i mewn, ond y system yn mynnu nad oeddem ni'n bod.
I weld rhywun arall, wnaeth gywiro'r gwall yn y system ( a hynny heb godi tâl).
Y cwbl wedi cael ei wneud yn iawn, rhoddwyd dau bapur arall inni, ac i glymu'r cylch dyma ni nôl yn y Swyddfa Drafnidiaeth, lle ddechreuodd y broses yn ôl ym mis Medi.
Ond erbyn hyn roedd hi wedi un o'r gloch, a doedd dim modd cael y ddogfen gofrestru tan yfory. Os byddwn ni'n teimlo fel mynd yr holl ffordd yno eto.
Efallai wna'i brynu beic.

Monday 25 January 2010

Rheilffordd y Glannau

Mae cysylltiadau'n dipyn o bwnc llosg yma. Am ganrifoedd bu'r Astwriaid yn ymfalchio yn y ffaith bod y mynyddoedd rhyngddon nhw a gweddill Sbaen yn eu cadw'n ddiogel yn ogystal â diarffordd. Wnaeth hyd yn oed y Mwriaid fyth orthfygu Asturias; ac yn wir daeth brwydr Covadonga ar ddechrau'r wythfed ganrif, a enillwyd gan Don Pelayo a'i filwyr Astwraidd, yn rhan o chwedloniaeth genedlaethol Sbaen fel dyddiad dechrau'r ymgyrch (hir iawn) i adennill tiroedd Sbaen.
Yn ystod y canrifoedd wedyn, roedd pobl ifainc y dalaith yn ymadael am yr Amerig (Mexico, Venezuela, Cuba, yr Ariannin) yn hytrach na dilyn eu ffawd ym mhrifddinas eu gwlad eu hun.
Ond gan mlynedd yn ôl, pan ddechreuwyd ar y diwydiant glo, fe godwyd rheilffordd ar hyd glan y môr o Oviedo a'r cymoedd i Santander yn nhalaith Cantabria drws nesaf. Mae'n dal yno, y rheilffordd gul, ac yn cario teithwyr yn ogystal â dur a glo. Mae rhan helaeth o'r lein hyd yn oed wedi'i drydaneiddio. Ond mae'n araf, ac mewn mannau yn lein unffordd, fel bod rhaid i drên teithwyr aros i drên dur fynd heibio (maen nhw'n pwyso llawer mwy!).
Mae cymdeithasau sy'n cynrychiolu busnes, a gwleidyddion Galicia i'r gorllewin, am weld mwy. Mae llwyddiant yr AVE, y trên cyflym iawn, wedi hybu diwydiant mewn ardaloedd eraill, ac maen nhw o blaid codi lein AVE newydd ar hyd yr arfordir.
Rhaid dweud na fyddai hynny'n helpu Mari dros y ffordd sydd am fynd i'r ysbyty, neu Miguel sydd eisiau cludo ffowls i'r farchnad. Achos does na ddim digon o le i'r ddau: stribedyn o dir gwastad sydd na cyn bod y rhes gyntaf o fynyddoedd yn codi'n unionsyth 500m i'r awyr.
Hyd yn hyn mae llywodraeth daleithiol Astwrias yn erbyn y cynllun; mae pawb yn aros i weld beth ddaw ohono.

Sunday 24 January 2010

Fiesta, Rhan II

Tawelwch yn gorwedd uwchben y pentre drwy'r dydd heddiw fel trwch o niwl. Pawb yn gorffwys mae'n debyg ar ôl bod yn dawnsio tan bedwar o'r gloch y bore ma.
Tua hanner nos dechreuodd hi fwrw glaw - hen wragedd a ffyn yn wir ichi. Roeddem ni i gyd yn sych sâff o dan y cynfas oedd wedi ei godi rhwng yr eglwys a'r hen ysgoldy, ond mentro y tu allan a byddech chi'n cael eich gwlychu at yr esgyrn.
Pentrefwyr o bob oedran rhwng 8 ac 80 yn gwrando ar gerddoriaeth draddodiadol y pibgorn a'r drwm, am yn ail a'r miwsig modern: 2 lanc ar lwyfan cul yn canu wals, paso doble, rumba - a pop hefyd. Pawb yn dawnsio hefyd, hyd yn oed y bechgyn yn eu harddegau cynnar ddim yn unig yn gwybod y symudiadau ond yn barod i ddawnsio'n gyhoeddus.
Seidir yw'r diod traddodiadol yma; mae perllannau ymhob pentref a llawer un yn paratoi seidir cartref. Sudd afalau yn unig sydd ynddo; maen nhw'n cael eu malu a'u gwasgu, a'r sudd yn aros mewn casgenni i weithio. Eplesu mae'n debyg yw'r gair technegol.
Mae'r seidir yn cael ei werthu mewn poteli maint potel win, a mae'r sawl sy'n prynu potel yn ei arllwys ar gyfer pawb sydd yn y rownd gydag e. Fel arfer maen nhw'n rhannu gwydr, o leiaf yn y wlad: mae barau mewn trefi yn tueddu i ddarparu gwydr yr un.
Mwy am seidir yn y dyfodol, rwy'n addo.

Saturday 23 January 2010

Yr Offeiriad Colledig

Dim ond hanner ffordd drwy'r fiesta ydym ni - wedi cael yr orymdaith a'r ocsiwn - ond well imi ysgrifennu rhywbeth yn awr.

Mae sŵn annaearol i ddechrau pob fiesta:
rocedi fel hwn sy'n cael eu tanio â llaw,
ac yn y llaw. Reit yng nghanol y pentref,
mewn cae lle mae hen lori wedi ei adael.
Nid rhywbeth i'r twristiaid yw hwn.




Buom i gyd, yn ein gwisgoedd trymion, yn aros am yn agos i awr y tu allan i'r eglwys.
Roedd yr offeiriad wedi anghofio'r awr, neu'r diwrnod, neu rywbeth.Ond yn y diwedd fe orymdeithiom ni drwy'r pentref, tan ganu caneuon arbennig yr ŵyl.


Gyda ni daeth y sant (Anton) a'r blodau. Bu rhai o'r menywod am oriau yn gwneud rhain o serviettes papur.
Wedyn bu dawnsio gwerin ac ocsiwn o gynnyrch lleol fel pysgod, caws, neu lysiau.
A heno bydd y 'verbena' - mwy o ddawnsio, mwy o seidr, mwy o ddathlu.

Friday 22 January 2010

Pererin wyf

Neu'n hytrach, pererinion fydd......yn cerdded heibio'n tŷ ni yn eu cannoedd eleni. Pan fydd Gŵyl Sant Iago (25ain Gorffennaf) yn disgyn ar ddydd Sul, mae'r Eglwys Gatholig yn cyhoeddi 'blwyddyn Iago Sant', ac yn rhoi bendithion arbennig i bob un sy'n dilyn yr hen lwybr hyd at Santiago de Compostela yn Galicia. Hynny yw, bydd pererin yn cael maddeuant am bob drwgweithrediad o'i eiddo.
Eleni, ac yn enwedig oherwydd yr argyfwng ariannol, mae cynghorau ledled gogledd Sbaen yn awyddus i elwa o'r twristiaid ychwanegol. Bydd y rhan fwyaf llethol yn cerdded fel y maen nhw bob blwyddyn ar hyd y Llwybr Ffrengig, sydd yn mynd drwy León, ond mae llwybr arall, llwybr yr arfordir, yn pasio drwy Cantabria ac Asturias.
Mae pethau'n llai drefnus o lawer ar ein llwybr ni, mewn mannau mae'n amhosib gwybod i sicrwydd pa ffordd i fynd. Ond o gadw'r môr ar eich llaw dde, a'r mynyddoedd ar y chwith, fe fyddwch yn anelu tuag at y gorllewin drwy'r amser. A maen nhw'n addo arwyddion newydd yn y mannau anodd!
Erbyn hyn mae miloedd o bobl yn dewis cerdded Camino Sant Iago heb fod yn grefyddol o gwbl. Mae rhai yn gwneud y cyfan, eraill yn cerdded am wythnos, neu ddiwrnod, a dod yn ôl y flwyddyn nesaf.
A byddwn ni'n dodi baner y Ddraig Goch ar y wal rhag ofn bod Cymry'n pasio.

Thursday 21 January 2010

Os na ddaw blodau fe ddaw chwyn

A bois bach mae'r chwyn yn tyfu rownd y rîl. Mae 'nghefn yn ei deimlo ar ôl clirio rhwng y cennin, a'r tomenni compost yn wyrdd eto.
Mae 'na ddywediad yn Asturias 'os dodi di postyn mewn cae, bydd dail yn tyfu arno erbyn daw'r tymor nesa' - h.y. mewn rhyw dri mis. Mae'r ffermwyr yn lladd gwair 4 neu 5 gwaith y flwyddyn ar yr arfordir, a rhai ohonyn nhw ( y rhai sydd heb lot o dir) yn dal i fynd ati â phladur.
Ond yn ôl at y chwyn: mae dant y llew ymhobman wrth gwrs, a'r crafanc brân ymlusgol (enw llawer gwell na 'creeping buttercup) sydd fel petai'n ffrwydro hadau. Ond y gwaethaf yn fy marn i yw un fydd yn ymddangos ym mis Mai, yr 'oxalis acetosella', sy'n perthyn i deulu'r suran.
Mae'n ddigon pert, gyd blodau bach fioled a dail gwyrdd-felyn. Ond mae'n lledu drwy rhisomau a hadau ac yn llwyddiannus iawn, fel carped. Y frwydr i ddod.
Mae rhai blodau i'w gweld yn awr:

Wednesday 20 January 2010

Tráfico maldito Tráfico

Neu fel byddem ni´n dweud yn Gymraeg, y bobl bach 'na sy'n eistedd mewn swyddfeydd yn ceisio meddwl am ffyrdd eraill i wneud ein bywyd yn anos.
Rydym ni wedi bod ers pedwar mis yn ceisio cofrestru'r car (a brynwyd yn Llundain) yn Sbaen. Mae hyn wedi golygu ymweld â nifer o swyddfeydd yn Oviedo, prifddinas Asturias, nifer o weithiau. Rydym ni wedi cael rhifau newydd, mae'r car wedi cael rhif newydd dros dro, mae wedi cael arolygiad llawn ac wedi pasio, mae'r dreth leol wedi'i thalu.
Ond yn awr dyma ni mewn 'impasse' llwyr. Yn ystod yr ail ymweliad â'r Swyddfa Trethi, daethom i wybod nad oedd model y car ar eu rhestr. Felly roedd angen papur arall i ddweud faint oedd ei werth e, a faint o CO2 mae'n gollwng.
Heddiw, ar ôl saib dros y Dolig, aethom i weld y boi garej lleol, a gofyn iddo baratoi'r ddogfen inni. Mae biwrocratiaeth Sbaen yn hen hanes fan hyn, a siglo'i ben wnaeth Casi, a chymryd y manylion, a dweud y byddai rhywbeth ganddo erbyn dydd Gwener.
Cawn weld. Rwy'n rhyw amau bydda'i'n dychwelyd at y pwnc yma.

Tuesday 19 January 2010

Lawr ar lan y Môr


Heddiw ar ôl diwrnod arall o waith caled ymysg y coed (peidiwch â phoeni, dwy'i ddim yn mynd i ail-dwymo cawl ddoe), aethom am dro i'r traeth. Gwaith ugain munud o gerdded eitha clou, gan fy mod yn ceisio cael gwared â'r pwysau a gyrhaeddodd yn anrheg Nadolig bach extra. Hanner awr mae'n cymryd fel arfer, wrth aros i siarad â hwn-a'r-llall neu edrych ar olygfa'r mynydd neu'r môr.


Mae'r afon fechan yn llifo i mewn i'r môr rhwng clogwyni uchel, a'r traeth o'r herwydd yn hirgul ar y trai ac yn diflannu'n gyfangwbl amser y llanw. Ond doedd dim awydd mynd i nofio heddiw, er bod y tywydd yn fwyn a'r môr yn dawel. Yn lle hynny, dringo wnaethom ni i'r penrhyn nesaf hyd nes bod ni gallu gweld y tŷ, ac yna cerdded yn ôl heibio'r defaid.

Mae'r ŵyn yn edrych yn ddigon deche yn barod!




Monday 18 January 2010

Torri sy'n Creu Tyfiant

Buom ni drwy'r dydd yn torri brigau'r coed ffrwythau. A hithau fel diwrnod o wanwyn, o gwmpas y 15 gradd, roedd bod allan yn yr awyr agored yn bleser; er bod rhywun yn dal i synnu faint o amser mae'n cymryd i docio un goeden.
Mae gyda ni eitha amrywiaeth o goed: olewydd, sy'n tyfu'n dda ac yn blodeuo ambell i flwyddyn ond hyd yn hyn heb ddwyn ffrwyth; ffigysprenni sy'n gwneud yn dda iawn, hanner dwsin o goed afalau a un nifer o goed gellyg, pedair coeden oren a phedair lemwnen, dwy goeden cwins, eirin ac eirin gwlanog, kaki (blodau gwyn hyfryd a ffrwyth mawr coch), coed cyll, castanwydden fechan a choed cnau Ffrengig.
Sdim rhaid torri bob un diolch byth. Mae'r cnau Ffrengig yn taflu'u brigau pan fyddan nhw'n pydru, a'r cyll dim ond yn cael eu torri pan fydd agen y pren i wneud postyn neu rywbeth. Gyda'r gweddill, y drefn yw dechrau yn y gwaelod, yn edrych yn fanwl ar siâp y goeden ac yna'n torri pob brigyn sy'n tyfu tuag at y canol, a phob un sy'n croesi llwybr brigyn gwell. Wedyn y rhai sy'n tyfu'n syth i'r awyr, ac yna dringo'r ysgol a gwneud yr un peth gyda'r brigau uchel. Y nôd yw gwneud lle i'r awyr (a'r heulwen) gyrraedd canol y goeden gan hybu'r ffrwyth a lleihau tamprwydd.
Sawl coeden gafodd ei thocio heddiw? Pedair. Un ohonynt yn fawr. Dim ond gobeithio gewn ni dywydd da eto yfory!

Sunday 17 January 2010

Fiesta'r Pentref

Diwrnod ymarfer ar gyfer fiesta San Anton (Gwyl Antoni Sant) oedd hi heddiw. Rhyw ugain a fenywod a merched y pentre, a minnau yn eu plith, yn cerdded i fewn i'r eglwys tan ganu a churo tambwrîn. Yn canu eto, wedyn cerdded allan wysg ein cefnau, troi, a gorymdeithio mewn parau i lawr y stryd.
Dydd Sadwrn nesaf, bydd dros hanner cant ohonom ni, i gyd yn gwisgo hen wisg draddodiadol yr ardal. Mae hynny ynddo'i hun yn fusnes; mae gan pob pentre o leiaf un fiesta, a chydig iawn sy'n berchen ar eu gwisg eu hunain. Ond mae nifer o gwmniau yn rhentu'r dillad, a heddiw buom ni'n dewis lliwiau'r sgert a'r siôl, a'r scarff i lapio'r gwallt. Blows wen, bodis a ffedog du gyda gleiniau muchudd - mae'r cwbl yn pwyso tua 5 kilo.
Bydda'i n mynd i dŷ cymdoges gyda nifer o rai eraill fore Sadwrn, a merched yn dod i'n gwisgo ni fel dolis bach. Amser a ddengys a fydda'i'n dewis gwisgo fel'na drwy'r dydd, achos fydd y dawnsio ddim yn gorffen tan oriau mân y bore wedyn.
Ond rwy'n siŵr o un peth: bydd rhaid imi redeg adref i weld beth fydd y Scarlets wedi gwneud yn Brive! Dathlu mawr yn y tŷ eu bod wedi maeddu Gwyddelod Llundain y prynhawn yma.
Tro nesa, bois, plîs wnewch chi ennill pan fyddwn ni yno i'ch gweld.

Saturday 16 January 2010

Paradwys (gan ymddiheuro i Sir Fôn)

Mae arfordir dwyreiniol Asturias yn dwyn y llysenw 'Paradwys' - el paraiso - enw sydd erbyn hyn yn cael ei ddefnyddio gan fwrdd twristiaeth y dalaith ar gyfer y cyfan.
Mae sawl rheswm wedi cael eu cynnig am yr enw, a dyma fy ffefryn.

Yn nyddiau cynnar yr ugeinfed ganrif, roedd y diwydiant glo ar ei anterth yng nghymoedd canol Asturias. Roedd y glowyr yn ennill arian a fyddai'n destun breuddwydion i'w cefndryd yn ôl ar y fferm. Ac yn ystod yr haf, pan oedden nhw'n cael cyfle i ddianc o'r gwaith trwm tanddaearol a'r llwch, bydden nhw'n dod gyda'u teuluoedd ar y trên i arfordir y dwyrain: rhwng Llanes a Ribadesella gan fwyaf. A nhw fedyddion yr ardal yn baradwys, oherwydd y glesni naturiol, y mynyddoedd yn gefn a'r môr yn lân.
Maen nhw'n dal i ddod hyd heddiw. Mae'r hen drên gyda'i cherbydau pren yn gwneud un daith bob blwyddyn i ddathlu dechrau tymor y gwyliau; mae'r gweddill yn cyrraedd yn eu ceir.
A lle fuon nhw unwaith yn cysgu mewn pabell, yn awr mae gan lawer un ei dŷ haf ei hun, a'i wyrion a'i deulu hyd at y nawfed ach yn heidio yno bob haf.

Friday 15 January 2010

Asturias - beth mae hynny'n meddwl?

Wedi dechrau yn ei chanol hi braidd ddoe, dyma fi'n meddwl y dylwn i esbonio tipyn ar y lle ma.
I'r rhai sydd eisoes yn gyfarwydd ag Asturias, maddeued; i'r lleill, dyma ychydig o wybodaeth efallai ddaw'n handi.
Talaith fach ar arfordir gogleddol Sbaen yw Asturias, yn union i'r dde o sir Benfro ar ymylon yr Iwerydd. A nid yn unig mae hi'n dalaith, ond yn gymuned gyda mesur o ymreolaeth: comunidad autonóma ys dywed y Sbaenwyr. Mae rhai o´r cymunedau, e.e. Euskadi (Gwlad y Basg), Galicia neu Catalunya, yn cynnwys nifer o daleithiau, a chanddyn nhw lot mwy o ymreolaeth mewn meysydd fel yr heddlu neu'r dreth.
Dim ond ychydig dros filiwn o bobl sy'n byw ma, a dros 10,000 kilomedr sgwar rhyngddynt. Sdim rhyfedd fod rhywun yn gallu cerdded am oriau yn y mynyddoedd heb weld neb y tu allan i fisoedd yr haf. Mae'r rhan fwyaf llethol yn byw yn y canolbarth, lle mae gweddillion y diwydiant glo, ambell i waith dur a chemegau, a busnesau sy'n gwneud llongau. Mae hyd yn oed mwy wedi ymadael ac yn byw mewn rhannau eraill o Sbaen neu o'r byd.
Ychydig iawn sydd ar ol yn yr ardaloedd gwledig, er bod twristiaeth yn dod a fwyfwy o ymwelwyr.
Dyna ddigon o ffeithiau am y tro; rhaid i'r hanes, a'r lluniau, aros tan y post nesaf.

Thursday 14 January 2010

Dianc rhag yr Eira

Pan gyrhaeddom ni yma ddydd Mawrth dim ond un stribedyn ar hyd yr arfordir oedd yn arddangos glesni arferol Asturias - y Costa Verde. Roedd y gweddill yn dringo'n wyn llachar hyd at y mynyddoedd, a bron pob heol rhwng ein 'paradwys' bach ni a gweddill Sbaen ar gau.
Erbyn heddiw, mae'r dymheredd wedi codi, y glaw-ac-ysbeidiau-heulog wedi dychwelyd, a hyn yn oed yr iar-fach-yr-haf gyntaf wrthi'n chwilio am flodau.
Yn y mynyddoedd, y Picos de Europa a gweddill y Cordillera Cantabrica, mae'r eira'n drwch, yn lluwchfa. Mae'r trigolion wedi hen arfer; wedi'r cwbwl, mae'r mynyddoedd yma'n nes at 3000m na 3000 troedfedd. Mae pobl yn dal i gadw cadwyni i ddod ar olwynion y car: rwy'n cofio Nhad yn defnyddio nhw pan oeddwn yn ferch fach.
Yn y pentrefi uchaf, mae'r tato a'r wynwns a'r ffa yn aros eu tynged ceginol mewn stordai sy'n cael eu codi ar bileri rhag y llygod mawr. A'r hams a'r selsig yn hongian yn y simnai.
Dyw'r gaeaf yn Asturias ddim mor galed ag yr oedd hi, chwaith. Mae'r hen bobl yn cofio amser pan nad oedd hi'n bosib cael llysiau ffres cyn y Pasg. Ac roedd y llysiau hynny'n dod o'r ardd; roedd y 'centimos' prin yn mynd ar goffi neu olew.
Gwaith yr ardd yn Ionawr:
tocio'r coed ffrwythau
ymrafael a'r mieri (eto)
peidio a throedio ar y tir gwlyb.