Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Wednesday 31 March 2010

Galw am Ddymchwel Tŷ Haf

Mae'r ddadl ynglŷn â chodi tai newydd ar lan y môr wedi ail-ddechrau. Dyw hi ddim wedi bod yn gymaint o broblem yn Asturias, yn un peth am fod clogwyni uchel a thonnau mawr Iwerydd ddim yn denu rhywun i ddatblygu dwsinau o dai haf. Mae codi unrhyw adeilad i fyw ynddo o fewn hanner km i'r môr wedi ei wahardd yn gyfangwbl; mae 'na bentrefi a threfi glan môr, wrth gwrs, ond sdim neb yn cael ychwanegu atyn nhw ar ochr y môr.
Beth sydd yn digwydd yw bod pobl yn ceisio cael ffordd i osgoi'r gwaharddiad, er enghraifft drwy ddweud bod adfail o hen sied sydd yn eiddo i'r teulu mewn gwirionedd yn dŷ bach twt. Dim ond ei adnewyddu fe ydym ni, wir, ac ychwanegu rhyw fymryn!
Mae eraill yn codi tai oddiarffordd, yn llythrennol. Ni welwch chi ddim wrth basio, oherwydd y tirwedd a'r leylandii (ych y fi). Ond yr ochr draw, i lawr yn y pant cysgodol fe all fod 'na fwthyn yn cael ei godi fesul bricsen ar y penwythnos. Camouflage, maen nhw'n ei alw fe.
A phwy sy'n cael eu cyhuddo o droi hen sied yn dý moethus? Ewythr a modryb y cynghorydd sydd yng ngofal cynllunio. Fydd y cŵyn, diolch byth, ddim yn mynd at y cyngor, ond at y llywodraeth yn Oviedo. Y draffeth yw, mae'r ddau yn cael eu rhedeg gan yr un blaid.

Tuesday 30 March 2010

Pesto Persli

Pwy sy wedi gwneud pesto yn y gegin gartref? Fydda'i wrth y modd yn ei gymysgu, gan ychwanegu bach mwy o olew, troad bach arall o bupur. Ond yr wythnos hon, gan fod y brenhinllys basil yn anodd ei gadw i fynd drwy'r gaeaf, fe wnes i un gyda phersli a chnau Ffrengig, y ddau'n tyfu yn yr ardd heb i fi orfod gwneud ryw lawer yn eu cylch nhw.
Mae angen:
cymaint o bersli ag y medrwch chi ddal rhwng dwy law ( dail yn unig, cadwch y coesau at rywbeth arall).
Stwnsio rhain gyntaf, naill ai mewn breuan neu mewn prosesydd bwyd.
Ychwanegu 2 ewin garlleg a stwnsio eto.
Yna'r cnau Ffrengig, ryw 50g, ac ie , stwnsio.
Ychwanegu'r olew yn raddol, yn cymysgu'r cyfan wrth fynd ymlaen. Dylai 50ml fod yn ddigon, ond os nad yw e, dodwch mwy nes bod y saws yn drwchus ond hylif.
Nesaf, rhyw 40g o gaws. Caws dafad yw'r gorau, ond fe weithith unrhyw gaws caled gwyn.
Halen a phapur a dyna ni.
Bydd yn edrych yn ddigon tebyg i'r pesto traddodiadol, achos lliw'r persli, ond wrth gwrs bydd y blas yn wahanol.

Monday 29 March 2010

Gwledd i'r Llygad

Mae siopa am fwyd yn yr ardal hon yn wahanol iawn i beth yw e yng Nghymru. Mae 'na archfarchnadoedd, ond mor fach dydyn nhw ddim yn haeddu'r 'arch'.
Mae 'na farchnadoedd hefyd, un bob dydd yn un o drefi'r dwyrain, gyda'r un stondinau 'proffesiynol' yn troi lan ymhob un, ac wedyn gwragedd yn gwerthu cynnyrch yr ardd lysiau neu'r cwt ieir.
Mae'r stondin llysiau yn gwerthu cynnyrch yr ardd hefyd, yn ogystal â phethau maen hw wedi'u prynu. Mae'r rhan fwyaf llethol yn dod o ardaloedd o fewn Sbaen, hyd yn oed drwy'r gaeaf. Pinafal ac afocado yw'r unig rai sy'n cyrraedd o wledydd pell, onibai am abell i beth arbennig o Dde'r Amerig. Ar hyn o bryd mae'r orennau ar eu gorau, a mefus Andalucia yn gwynto'n dda.
Mae'r stondin pysgod yn dod o Santander, lle mae na lawer o gychod pysgota; dydyn nhw bydd yn rhoi labeli ar ddim, felly bydda'i wastad yn gorfod gofyn, achos mae rhai o'r pysgod yn lleol i'r Môr Cantabrico.
Wedyn mae'r stondinau caws a chig wedi'i drin - pethau fel ham neu selsig o bob math. Mae un o'r goreuon yn hepgor stondin ac yn gwerthu o gefn y fan.

Ac os ydych chi am dyfu llysiau, wel gewch chi brynu rhai bach hefyd at blannu. Amser hyn o'r flwyddyn mae hyd yn oed pobl y trefi'n creu gerddi llysiau bach ar y balconi.
Does na neb yn y farchnad yn gwerthu cig ffres, ond mae hyd yn oed tref fach â 3 neu 4 cigydd, pob un â'i arbenigrwydd.

Sunday 28 March 2010

Llwybr - a Ffordd o Lanhau


Am dro eto ddoe. Er mwyn osgoi'r tyrfaoedd ar heol gul y llynnoedd, aethon ni drwy pentre bach Seguenco i gyrraedd rhan arall o'r un massif. Roedd y llwybr a gymron ni yn mynd yr holl ffordd i'r eglwys yn Covadonga, ond dewison ni droi ar i lwybr llai oedd yn anelu at y tiroedd porfa.
O edrych ar y llun yma, fe allwch chi weld fel oedd bugeiliad yr oesoedd a fu wedi codi arglawdd a symud cerrig mawr i warchod ei ochr.
Llwybr iddyn nhw a'u hanifeiliad oedd hwn; doedd e ddim yn mynd ar gyfyl pentref na bwlch drwy'r mynyddoedd.
Fydda'i bob amser yn meddwl am y bobl yma (ym mha wlad bynnag y byddwyf) pan fydda'i'n cerdded ar lwybr gafodd ei wneud gymaint o amser yn ôl.


Fe ddaeth thema'r borfa a'r llosgi yn ôl hefyd. Roedd ochr deheuol y cefn yma wedi'i losgi ar ei hyd a'i led.
Ond pan oeddem ni'n siarad â chymdoges, fe ddwedodd hi 'Flynydde'n ôl roedd cymaint o bobl yn byw yn y wlad, rhai ohonyn nhw â gwartheg ond heb eu tir eu hunain. Roedden nhw'n pori ar y 'monte'. Ond yn awr mae llai o bobl, lot llai o anifeiliad, a'r tir yn wag. Mae'n rhaid ei losgi er mwyn gallu ei ddefnyddio o gwbl.'

Saturday 27 March 2010

Tân ar y Mynydd


Mae'r tanau gwair a choedwig yn dal i glirio/difrodi tir agored Asturias. Heddiw mae'r cyngor lleol wedi cyhoeddi ei fod am weithredu adran o ddeddf sydd mewn bod yn barod fydd yn gwahardd pori tiroedd a losgwyd am flwyddyn.
maen nhw'n dweud eu bod nhw am adael digon o amser i'r tir a'r tyfiant ddod ato i'i hun, ond mae ffermwyr yn amau taw ffordd o'u cosbi nhw am ddechrau tân a cholli rheolaeth arno yw hwn.
Heddiw welson ni hofrennydd arall yn y mynyddoedd ar yr arfordir, yn ogystal ag un lan yn y Picos ei hun, o fewn y parc cenedlaethol. Mae'r tywydd mor sych, mae llwybrau mwdlyd yn hawdd eu cerdded a'r tyrchod yn gorfod chwilio'n galed am rywle gwlyb i gysgu ganol dydd.
Ar yr un pryd, yn Ne Sbaen, maen nhw'n cael stormydd o law.

Friday 26 March 2010

Hyn a'r Llall


Bydd cofnod heddiw yn ymgais i ddiweddaru rhai o'm cofnodion cynharach.
1. Enw'r planhigyn erythronium dens-canis.
Yn wahanol i'r Lladin, Sbaeneg a Saesneg, does a wnelo'r enw Cymraeg dim oll â chŵn.
Lili'r brithyll yw'r blodyn yma.
Diolch i Wilias am ei awgrym.

Yn groes i'r disgwyl (sori) dyw'r arth Tola ddim wedi esgor ar genawon eleni chwaith. Mae'r bobl sy'n rhedeg yr Ymddiriedolaeth yr Arth yn Asturias yn dechrau poeni bod oedran Tola a'i chwaer Paca (21) yn golygu ne fyddan nhw fyth yn ychwanegu at y boblogaeth fechan o eirth sydd ar ôl.
Mae barn pobl ffor hyn am fagiau plastig yn newid yn bendant. Heddiw yn y farchnad clywais i dair gwraig naill ai'n cwyno bod rhywbeth wedi ei ddodi mewn bag neu'n dweud yn blaen nad oedd eisiau un arnyn nhw.
Mae ecologwyr Asturias wedi mentro i'r maes ( neu i lan yr afon) ym mrwydr yr eog. Maen nhw'n becso nad yw'r gwaith ymchwil yn cael ei wneud yma fyddai'n profi faint o broblem sydd yn afonydd y dalaith, ac yn gweld ôl bysedd gwleidyddion ar y cwbwl.
Mae'r pysgotwyr eu hunain yng nghanol dadl newydd: bob blwyddyn mae'r 'campanu', sef yr eog cyntaf i gael i ddal, yn cael ei arwerthu am bris uchel iawn, llun y pysgotwr ar y dudalen flaen, ac ati. Y cwestiwn yn awr yw hyn: ai'r eog cyntaf un yw'r campanu, er ei fod wedi ei ddychwelyd at yr afon yn fyw ac felly ddim ar gael i'w arwerthu?

Thursday 25 March 2010

Coed at Bob Dant

Blodau'r nectarina, neu'r eirinen fetus, yn addo cynhaeaf da eleni. Ond mae misoedd i fynd cyn hynny a mae rhain yn dioddef y llwydni yn enwedig os gewn ni dywydd niwlog mwyn ym mis Mehefin.
Roedd edrych ar y goeden yn gwneud imi feddwl fel ydw i'n rhestru coed yn ôl yr hyn maen nhw'n cynhyrchu i'w fwyta, ac a ydy'r blodau'n rhai pert.
Ond neithiwr yn y bar bues i'n siarad â chymydog sydd â rhestri hollol wahanol yn ei feddwl. Saer celfi oedd e, yn rhedeg busnes y teulu yn y pentre'i hunan, a'i fab yn awr yn ei gario mlaen. Ac roedd e'n canol y dderwen, wrth gwrs, ond hefyd y gastanwydden, sy'n tyfu'n well ffor hyn. Y ddwy, meddai fe, yn darparu coed glân, hirsyth a heb geinciau. Roedd e hefyd yn galaru nad oes neb heddiw yn plannu'r coed yma, am eu bod yn hir yn dod i'w lawn dŵf. Gwell gan bobl gael eu harian yn ôl yn gynt wrth blannu ewcaliptws.
A'i syniad e, ar ôl gwydred neu ddau, oedd i bob pentref blannu coed ar ran o'r tir sy'n perthyn i'r pentref. (Dyw e ddim yn union run peth â thir comin, ond rhywbeth yn debyg.)
Cawn ni weld os bydd ei freuddwyd yn cael ei wireddu.

Wednesday 24 March 2010

Pincio at y Pasg

Es i am dro rownd y pentre'r prynhawn yma, a gweld yr arwyddion cyntaf bod 'Semana Santa' , yr wythnos santaidd sydd yn arwain at Sul y Pasg, yn dechrau'r penwythnos yma. O fod yn fanwl gywir, gwelais i'r arwydd cyntaf yn y farchnad y bore 'ma. Uwchben y stondin llysiau roedd rhes o 'ramos' yn hongian; mae'r rhain yn cael eu gwneud o balmwydd neu olewydd ac yn cael eu bendithio yn yr offeren 'Domingo de Ramos' neu Sul y Blodau.
Y prynhawn yma roedd murmur y torrwr gwair yn uchel, a chlec y secateurs yn dod yn rheolaidd wrth i bobl bincio'u gerddi ar gyfer yr wythnos fawr. Hyd yn oed i'r rhai sydd byth yn mynd ar gyfyl yr eglwys, mae Semana Santa yn fawr. Dyma ail dymor gwyliau Sbaen, yn bwysicach o lawer na'r Nadolig.
Bydd y tai haf i gyd yn llawn a'r meibion a'r wyrion yn dychwelyd o Oviedo, neu Madrid, neu Brwsel. Bydd y bar ar y traeth yn agor am y tro cyntaf eleni, er gwaetha'r gorchymyn llys gafodd y perchennog i ddymchwel rhan ohono.
Rhaid i bopeth fod ar ei orau; a dyna pam rŷn ni gyd yn cael gwared o'r chwyn a'r planhigion na oroesodd yr oerfel, ac yn dodi sglein ar y ffenestri. Blas cynta'r gwanwyn, efallai, ond gobaith am yr haf hefyd.

Tuesday 23 March 2010

Blodau'r Llynnoedd





Tynnwyd y lluniau yma i gyd ddoe. Mae'n ddechrau tymor mwyaf atyniadol y blodau gwyllt yn y Picos de Europa, a buon ni'n cerdded o amgylch y dday lyn (Enol ac Ercina) i weld beth oedd i gael.
Roedd y rhain i gyd yn tyfu ar lethrau oedd yn gwynebu'r de; mae'r llethrau gogleddol wrth gwrs yn cael llai o haul ond hefyd yn tueddu i fod yn fwy serth,
Beth sydd gyda ni yn gyntaf yw dau fath o narcissus asturiensis, sy'n dangos amrywiaeth lliw a maint. Mae'r rhai bach â blodyn tua'r un faint â phisyn punt.

Yn nesaf, dant y ci - erythronium dens-canis. Ac yn olaf, narcissus arall, y bulbocodium.

Monday 22 March 2010

Y Llynnoedd


Am dro i'r Lagos heddiw - y ddau lyn sy'n denu ymwelwyr i'r Picos de Europa o bob ran o Sbaen ac o wledydd eraill. Mae llynnoedd Enol ac Ercina 1000m lan ym massif gorllewinol y Picos, uwchben atyniad enfawr arall, eglwys Covadonga. Mwy am honno ryw ddiwrnod arall.
Mae'r llynnoedd yn boblogaidd am eu bod yn brydferth, ond hefyd am eich bod yn gallu gyrru yno. Onibai am fisoedd Gorffennaf ac Awst, wythnos y Pasg, ac ambell i ŵyl gyhoeddus pan fydd yr heol yn cael ei chau a bysus yn cludo pobl o'r meysydd parcio.

Tywydd cymysg gawson ni: peth haul, digon o niwl, a gwynt main ar brydiau. Mae dal i fod eira ar y copau - dros ryw 1600m.
Ond roedd hi'n dro hyfryd o gwmpas y ddau lyn (ddim yn ddigon hir i alw'n daith gerdded) ac ar wahan i ddau barti mawr o ddisgyblion ysgol oedd yn cerdded ar lwybr yn groes i'n un ni, doedd neb arall yno.
Fe welson ni ambell i eryr, ond rhaid cyfaddef nad oeddwn yn ddigon clou i gael yr un llun. Roedd y brain coesgoch yn heidio hefyd, ond y fyltyriaid (?) heb gyrraedd eto. Dyw'r da byw ddim wedi mynd yn ôl i'r mynyddoedd eto ar ôl y gaeaf felly mae llai o fwyd iddyn nhw.
Rhaeadr garreg

y garreg galch 'karst' sydd yma'n dangos hôl dŵr y canrifoedd.

Yfory: y blodau!

Sunday 21 March 2010

Pwysigrwydd Parc y Picos

Doedd hi ddim yn ddiwrnod da i gerdded heddiw wedi'r cwbwl, y glaw a'r niwl yn gwneud y penderfyniad drosom ni. Ond roedd 'na ddigon o newyddion am Barc y Picos serch hynny.
Heddiw mae'r Parc yn cynnwys bron i 650 km sg mewn tair talaith: Asturias, Cantabria a León. Sefydlwyd y parc 'naturiol' cyntaf oll yn y rhan Astwraidd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, a mae rhan fwyaf o weithwyr y Parc yn dal i fod o fewn ei ffiniau.Yn awr bod cyfrifoldeb rhedeg y Parc, fel yng ngweddill Sbaen, yn symud o'r canol i'r cymunedau awtonomaidd, mae dadl wedi dechrau ynglŷn â'i ddyfodol. Mae llywodraeth Castilla-León un ai am i'r parc gyflogi mwy o wardeniaid ac ati yn nhalaith León, neu symud yno rhai o'r bobl sydd ar hyn o bryd yn byw ac yn gweithio yn Asturias.
Mae llywodraeth Asturias yn dweud taw mater o hanes sy'n golygu bod cymaint o'r gweithwyr yn Asturias, nad yw hi ddim yn deg gofyn i bobl symud i gadw'u swyddi, ac y dylai'r trafodaethau ganolbwyntio ar amddiffyn natur a bywyd gwyllt y Picos a gwella'r ffordd y mae ymwelwyr yn gallu defnyddio'r lle.
Yn y fantol y mae'r ardal rhyfedd, wyllt, ei hanifeiliaid fel yr arth a'r blaidd, ei blodau fel y crwynllys neu 'dant y ci' (erythronium dens-canis), ei hadar mawr a bach...Dim ond gobeithio y byddan nhw'n deall beth sy'n bwysig yma.

Saturday 20 March 2010

O'r Ardd (eto)


Dim cynnig gan neb ar enwi'r goeden anhysbys (cofnod ddoe). Ond dyma'r goeden eirin yn ei llawn flodau.
Mae hon wastad yn edrych fel petai ar fin marw, ond mae'n dwyn kilos o ffrwyth coch mawr - tua maint afal. Mae'r blodau wedi ymddangos ryw 3 wythnos yn hwyrach nag arfer eleni.
Mae 'na goed eirin gwyllt hefyd, ond sur iawn yw ffrwyth y rheini.
Ac fe brynon ni goeden fach 'Claudia', ond dyw honno ddim wedi blodeuo'n iawn eto, heb sôn am ddwyn ffrwyth.


A dyma flodyn hyfryd arall - y lithodora. Mae'n tyfu'n bobman, ar y mynyddoedd yn ogystal ag ar ochr heol, ac mae'n blodeuo'n sydyn iawn: os bydd diwrnod o haul ym mis Ionawr, fe agorith dau neu dri rhag ofn bod na wenynen yn rhywle.
Mae'r haul wedi bod yn amlwg iawn y 3 neu 4 diwrnod diwethaf yma, y tymheredd yn uwch na 20C a'r paneli solar yn gweithio'n galed. Ond heno mae wedi oeri eto i ryw 12C - yn berffaith ar gyfer mynd am dro yfory.

Friday 19 March 2010

Blodau'r Gwanwyn

Dyma rai o'r blodau sy'n tyfu'n wyllt ar arfodir dwyreiniol Asturias, yn awr bod y tywydd wedi gwella - y lluniau i gyd wedi eu tynnu heddiw. Yn gyntaf, helianthemum croceum, ac islaw, hepatica nobilis.
Rwy'n rhoi'r enwau Lladin am nad oes gen i ddim syniad os oes ganddyn nhw enwau Cymraeg.
Efallai bydd rhywun yn gallu helpu.
A thra'n bod ni wrthi, a oes unrhywun un yn gwybod beth yw enw'r goeden yma - mewn unrhyw iaith?
Mae tua'r un faint â draenen, ac mae'r blodau bach gwyrdd ag oglau cryf ofnadwy. Nid bod yr oglau'n ofnadwy, gwynt mêl sydd arnyn nhw.


Thursday 18 March 2010

Pwll y Merched

Yn y pwll yma, sy'n cael ei lenwi gan y llanw o dan bont craig naturiol, roedd merched y pentref arfer mynd i ymdrochi - ac i ymolchi, achos yn weddol ddiweddar (30 mlynedd yn ôl) y cafwyd cyflenwad dŵr a thrydan yn y tai. Roedden nhw'n mynd ag ysgolion i ddringo i lawr, ac yn bwysicach, yn ôl lan.
Mae'n siŵr gen i eu bod nhw hefyd yn gadael rhwyun ar wyliadwriaeth. Heddiw wrth gwrs mae pawb yn mynd i'r traeth, ond hyd yn hyn dwy ddim wedi gweld neb yn mynd â'u sebon gyda nhw.

Wednesday 17 March 2010

Dŵr y Môr a Dŵr y Mynydd



Dŵr yw'r thema heddiw. Roedd hi mor dwym yn yr ardd (wel, roeddwn i wrthi'n tynnu iorwg o waliau) penderfynes i gerdded i lawr i'r traeth i olchi nhraed yn y môr. Doedd dŵr y môr ddim yn dwym ond doedd hi ddim yn oer o bell ffordd.
Roeddwn i yn sefyll yn y môr pan dynnais i hwn, onest.
A doedd neb arall o gwmpas, na dim sŵn onibai am y clychau ar yddfau'r gwartheg yn y cae uwchlaw.

A nid llyn yn unig yw hwn, ond turlach, llyn arbennig iawn sy'n ymddangos yn y gaeaf ac yn diflannu rywbryd yn ystod y gwanwyn. Maen nhw'n ffurfio ar garreg galch, yn enwedig yng ngorllewin Iwerddon.
Eleni mae hwn yn diflannu'n gyflym iawn, er gwaetha eira ac oerni'r gaeaf. Efallai taw'r tywydd sych sy'n gyfrifol. Neu efallai bod mwy o ddŵr i ddod - mae copau'r mynyddoedd o dan blanced trwchus o eira o hyd.

Tuesday 16 March 2010

O'r Ardd i'r Gegin

Rysait heddiw, rhywbeth ysgafn ar gyfer diwrnod o wanwyn pryd ych chi'n gallu eistedd tu fâs i gael cinio ganol dydd.
Ffa mawr gwyn (fabes de la Granja yw'r goreuon, ond byddai unrhyw ffa sy'n fwy na haricot yn gwneud y tro). Naill ai o dun neu wedi'u socian, eu berwi a'u hoeri.
Cennin wedi eu torri'n gylchau mân a'u coginio yn y microdon neu gyda stêm.
Jamón de Trevelez neu ham arall sydd wedi'i sychu heb ddefnyddio gormod o halen, wedi'i dorri'n ddarnau mân. Neu darnau bychain o bacwn wedi'u ffrio'n frown ar y funud olaf.
Cymysgu'r cwbwl mewn powlen, a'i droi mewn dresin (neu enllyn - dyna chi air da). Rwy'n dodi olew da (o'r olewydd), finegr gwin gwyn, mwstard a mêl wedi'u cymysgu'n drwyadl.
Faint sydd eisie? Wel, ar gyfer 2 sydd wedi bod yn gweithio yn yr ardd drwy'r bore:
200g ffa (pwysau ar ôl eu paratoi)
3 chennin (2 os ydyn nhw'n anferth)
6 sleised o jamón.
Bara da a gwydraid o win coch.
Yn barod am y prynhawn!

Monday 15 March 2010

Boddi mewn Bagiau Plastig

Hyd yn oed yn y 'paraiso' (paradwys - llysenw cefn gwlad Asturias) mae problem gwastraff yn bygwth. Ar hyn o bryd mae'r ddadl yn troi o amgylch cynyddu (dyblu)'r raddfa ail-gylchu a/neu godi ffwrnes enfawr i losgi'r sothach.
Mae ymgyrchwyr yr amgylchedd wrth gwrs o blaid y cyntaf, felly hefyd unrhyw un sy'n byw yn agos i safle penodedig y ffwrnes. Mae tunelli o wastraff gan gynnwys hen deiars a phlastig yn cael ei losgi'n barod, mewn ffwrneisi sy'n rhan o weithfeydd sment, ac mae'n debyg y byd hynny'n parhau. Ond dyw e ddim yn ddigon, a dyw'r gweithiau sment ddim mor brysur ag y buon nhw.
Y broblem fwyaf hyd y gwela'i yw bod pobl yn araf iawn i ddeall fod yn rhaid iddyn nhw - inni gyd - wneud rhywbeth. Rwy'n gweld pobl yn y farchnad neu mewn siop yn mynnu bagiau plastig un ar ôl y llall yn lle mynd â'u bag eu hunain neu hyd yn oed cadw hen fag plastig o'r wythnos gynt.
Diwedd y gân fydd y geiniog - naill ai bydd rhaid inni dalu drwy'r trethi am y ffwrnes newydd neu fe fydd rhaid cael rhyw ffordd o werthu'r hen fagiau plastig yn lle rhoi nhw am ddim.

Sunday 14 March 2010

Nodyn o'r Ardd

Roedd hi rywfaint yn dwymach heddiw, felly mâs â ni i'r ardd. Ychydig iawn o lysiau sydd ar gael i'w bwyta yr adeg hon o'r flwyddyn, ond mae peth cennin ac ysgewyll yma o hyd. Mae rhai planhigion, fel y betys arian (ar y chwith) a'r suran Ffrengig, yn tyfu rownd y flwyddyn yn cynhyrchu dail sy'n dda eu bwyta.
A chyn bo hir fe fydd gyda ni ffa hefyd - y ffa llydain , neu yn Astwreg fabes de mayo - ffa mis Mai. Aeth y rhain i mewn ym mis Tachwedd, a rhes arall yn Ionawr.

Mae'r pŷs wedi'u hau heddiw, a'r mafon wedi eu symud i wneud y cynhaeaf yn haws. Nesaf bydd rhaid gosod y pyst ar gyfer y ffa mawr gwyn - mae eisiau rhywbeth cryf oherwydd pwysau'r planhigion. Amser i gael paned, dwy'n meddwl.

Saturday 13 March 2010

Aur yr Astures

Un o'r pethau roeddem ni am wneud pan ddaethom ni i Sbaen oedd anturio i weld rhannau eraill o'r penrhyn Iberaidd, nid aros drwy'r amser yn Asturias. Y llynedd buom ni yn y Bierzo, ardal sydd yng nghornel gogledd-orllewinol talaith León yn ymyl y ffiniau ag Asturias a Galicia.
Ardal amaethyddol yw hi, yn cynhyrchu gwin arbennig o dda a phob math o ffrwythau. Fe fu'n ardal dlawd iawn hefyd, a'r diboblogi yma os rhywbeth yn fwy nag yn Asturias. Ond 2000 o flynyddoedd yn ôl, roedd ar flaen y gad yn ddiwydiannol.
Mae 'na aur ym mryniau'r Bierzo, ac roedd llwyth yr Astures, (ie, tarddiad yr enw Asturias) yn defnyddio pŵer dŵr i'w olchi mas o'r ddaear. Roedd hyn i gyd ar raddfa fach - doedd dim cyfundrefn ariannol gyda nhw.
Ond pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid, fe dyfodd yn ddiwydiant mawr, gyda llethrau cyfan yn cael eu dymchwel gan dunnelli o ddŵr oedd yn llifo ar hyd milltiroedd o gamlesi a balwyd neu a godwyd (yn dibynnu ar y tirwedd) ar hyd ochrau'r mynyddoedd cyfagos. Y lle gorau i weld olion y gwaith yw Las Médulas. Hwn oedd gwaith aur mwyaf yr ymherodraeth Rufeinig. Creuwyd yr ogofau gan bwysau'r dŵr oedd yn cael ei gadw ar gefn y mynydd mewn llyn a'i ollwng yn llif sydyn ar hyd twneli hyd at y darn o fynydd roedden nhw am ddymchwel. Nid craig sydd yn ffurfio'r mynyddoedd ond pridd gwaddodol - mwd a cherrig crwn - felly ar ôl distrywio ochr y mynydd doedd dim ond eisiau golchi'r pridd i wahanu'r aur. Mewn ambell i le yn y safle enfawr yma mae tomenni o gerrig crwn - y sbwriel.
Nid Rhufeinwyr oedd yn gwneud y gwaith caib a rhaw, wrth gwrs. Yr Astures oedd yn gwneud y twneli ac yn golchi'r pridd. Ac maen nhw wedi bod yn gwneud twneli a phyllau mwyn byth ers hynny.

Friday 12 March 2010

Tân ar y Clogwyni


Methu penderfynu beth i sgrifennu heddiw, hynny yw tan ryw awr yn ôl pan glywon ni seiren a wedyn gweld hofrennydd yn mynd yn ôl ac ymlaen uwchben y clogwyni.
Gafael yn y camera, gan feddwl efallai bod rhwyun yn cael ei achub ar ôl cwympo, ond hanner ffordd yno fe welais i'r tân gwair cyntaf o lawer.
Mae'n debyg bod rhywun wedi cynnau tân yn fwriadol i gael gwared yr hen eithin ac yn y blaen, ond bod y sychder a'r gwynt wedi bod yn drech nag ef a'r tân wedi lledu i nifer o lefydd ar hyd y ffordd fach.
Roedd yr hofrennydd yn disgyn i'r môr i nôl dŵr i geisio diffodd y fflamau.

Nôl a mlaen yr aeth e, heb fod pethau'n gwella neu'n gwaethygu llawer. Erbyn gadewais i yr oedd nifer o drigolion y pentre yn ei wylio, a'r rhan fwyaf o'r farn y gellid wedi gadael y tân i losgi. Ond rwy'n siŵr bydd y pysgotwyr yn falch eu bod nhw'n gallu mynd yn ddiogel at eu hoff leoedd ar y clogwyni heno.

Thursday 11 March 2010

Help Llaw i Waith Natur

Mae o leiaf rhai o gynghorwyr a gweision y llywodraeth leol yn ymwybodol o'r hyn sydd gyda nhw o ran byd natur, ac yn barod i'w diogelu a hyd yn oed i'w gwella.
Yr wythnos hon, mae cyngor Ribadesella wedi dechrau torri coed ewcalyptus sy'n tyfu o amgylch un o atyniadau'r dref, ogof Tito Bustillo. Yn yr ogof ei hun gellwch weld luniau a wnaethpwyd 16,000 o flynydde'n nôl, ond mwy am hynny rywbryd arall.
Roedd y coed ewcalyptus yn cael eu tyfu a'u torri ar gyfer y diwydiant papur. Ond fe ddileuwyd tystysgrif ' coedwigaeth gynaliadwy' y math hwn o bren am ei fod yn tueddu i ddifetha bioamrywiaeth. Y broblem yw bod y coed yn dal i fod yna, a neb yn eu torri nhw, a rhai newydd yn hau'u hunain. Ar ôl torri'r rhai sydd yna, bydd yn rhaid cadw llygad barcud a thynnu'r rhai bach wrth eu bod nhw'n ymddangos.
A beth fydd yn tyfu yno wedyn? Wel mae'r cyngor yn dweud bod yna'n barod nifer o 'encinas' ifanc (quercus ilex - derwen fytholwyrdd gyda dail fel rhai'r gelynen). Mae'r rhain yn goed brodorol ar arfordir Asturias, er eu bod yn cael eu cysylltu fel arfer ag ardaloedd twymach ar lan Môr y Canoldir. A'r newyddion da yw bod llawer o blanhigion llai yn gallu rhannu safle gydan nhw, yn wahanol i'r ewcaliptws.

Wednesday 10 March 2010

Mae'r Gwanwyn ar y Gorwel.

Y mimosa yn ei gogoniant. A'r babi yn tyfu o'i blaen ac yn blodeuo am y tro cyntaf.

A myn gafr ifanc iawn - nid efe wnaeth dorri'r goeden, wir!

Tuesday 9 March 2010

Iaith ar Waith

Mae llys cyfansoddiadol Sbaen wedi cadarnhau deddf Astwraidd yn ymweud â defnyddio'r iaith Astwreg, neu 'bable'. Mae'r penderfyniad - neu'r rhan ohono a gyhoeddwyd heddiw - yn golygu bod yn rhaid i'r llywodraeth daleithiol ymdrin â llythyron sydd wedi eu sgrifennu yn Astwreg. Fawr ddim, meddech chi, ond y ffaith yw nad oedd gan yr iaith gynt dim statws swyddogol sicr o fewn y gyfundrefn Sbaeneg. Roedd hi siŵr o fod yn help i'r achos fod awdur y gŵyn a arweiniodd at y penderfyniad yma ei hunan yn gyfreithiwr, ac yn gweithio i'r llywodraeth daleithiol.
Yn wahanol i ieithoedd Euskadi, Catalunya, a Galicia, dim ond yn ddiweddar mae pobl wedi bod yn ymgyrchu am yr hawl i ddefnyddio'r iaith ymhob agwedd o'u bywydau. Cyn hynny, rhywbeth 'diwylliannol' neu draddodiadol oedd hi i'r rhan fwyaf o bobl yma.
Mae ymateb y darllenwyr/gwrandawyr i'r penderfyniad wedi bod yn od o debyg i'r hyn rwy'n cofio ei ddarllen yn y Western Mail flynydde'n ôl ynglŷn â'r Gymraeg. Rhai'n ei weld fel cam pendant tuag at statws swyddogol cyflawn, eraill yn cwyno am y pris o gael popeth yn ddwyieithog, eraill wedyn yn meddwl ei fod yn gam tuag at y gorffennol yn lle ymuno â'r byd mawr a'r llu o wledydd lle mae pobl yn siarad Sbaeneg.
Bydd rhaid inni aros i weld adroddiad y llys yn ei grynswth cyn cael gwybod a oes na newid mawr yma.

Monday 8 March 2010

Hirlwm

Mae'r oerfel yn parhau yn Asturias fel yng ngweddill Ewrop o edrych ar y mapiau tywydd. Bore ma ceson ni hyd yn oed dipyn o eira ar lan y môr. Mae'n dal i orwedd ar y copau (dros 1000m) ond dim fan hyn.
Wrth deithio ar hyd yr arfordir y prynhawn yma roeddwn yn synnu cyn lleied o wyrddlesni sydd; popeth yn dal i edrych yn llwyd iawn. Mae'r dail yn dechrau ymddangos, ac ambell i goeden eirin yn llawn blodau gwynion. Ond rhaid aros pythefnos eto efallai, i weld y coed ceirios: rhai naturiol, mawr, 'gwyllt', sy'n tyfu gyda'r castanwydd mewn coedwigoedd ac a fydd yn oleuo'r tirwedd pan ddaw eu blodau. Mae rhywun yn meddwl bod hyn i gyd yn hwyrach nag arfer, a mae e'n hwyrach na llynedd neu'r flwyddyn gynt. Ond rwy'n cofio gweld y coed ceirios am y tro cyntaf, a hynny ddeng mlynedd yn ôl, ac ar ddiwedd mis Mawrth.
Does dim diben gwneud dim yn yr ardd ond clirio, llosgi, a chyweirio - llwybrau, ffensys ac yn y blaen. A gyda'r gwynt miniog o'r dwyrain dyw gwaith yr ardd ddim yn plesio ryw lawer chwaith. Yn ôl i'r gegin at y tân!

Sunday 7 March 2010

Plant y Pizza

'Cliria dy blât nei chei di ddim hufen iâ'. Mae'n debyg bod pawb un ai wedi clywed neu wedi dweud rhywbeth cyffelyb. Ac yn awr mae prifathrawon ysgolion cynradd Asturias yn cwyno bod rhieni yn erfyn iddyn nhw ddysgu'u plant i fwyta popeth sy'n cael ei roi o'u blaenau.
Mae problem gordewdra ymysg pobl ifanc yn eu harddegau wedi lledu i'r penrhyn Iberaidd. Yn lle'r bwyd traddodiadol - pysgod, cig, ffa a llysiau, salads di-rif yn ystod yr haf, a ffrwyth - mae'n well ganddyn nhw pizza a phob math o fwydydd wedi'u paratoi. Ac yn casau: 'tomatos', 'madarch', 'pob llysieuyn', 'letys', 'unrhwybeth sydd wedi tyfu yn y ddaear' - yn ôl adroddiad gafodd ei baratoi i'r Adran Addysg.
Yn y rhan fwyaf o'r ysgolion, mae'r pryd yn dal i gael ei goginio yn y fan a'r lle. Ond dros y blynyddoedd diwethaf mae 'dewis' wedi dod yn rhan o hawliau plant, nes bod athrawon yn sylwi bod rhai wastad yn dewis yr un peth - pizza a sglodion.
Yn awr, maen nhw am leihau'r dewis sydd ar gael, yn enwedig i'r plant lleiaf. Paid â gofyn beth fydd hynny'n golygu i'r rhai sy'n llysieuwyr (ychydig iawn, ond mae na rai).
Ddaw 'dewis' ddim yn wirionedd nes bod rhywun wedi meddwl am bopeth sy'n cael ei gynnig, yn lle rhuthro i hawlio'r un sydd eisoes yn gyfarwydd.

Saturday 6 March 2010

Porfa'n troi'n Bwnc Llosg

Disgwylir y bydd ffermwyr a bugeiliaid dwy ardal fynyddig yn cwrdd cyn bo hir i drafod testun llosg - yr hawl i bori'u hanifeiliad ar lethrau y Sierra del Cuera, rhwng y Picos de Europa a'r môr.
Sôn am borfa haf y maen nhw, ac mae'r pwnc yn un sydd wedi bod yn llosgi ers y bymthegfed ganrif! Bydd Senedd y Cuera'n cwrdd yn yr awyr agored ar waun Llampudia, un o'r tiroedd wrth wraidd y ddadl. Y naill ochr yn cyhuddo'r llall o (1) geisio dwyn tiroedd gwerthfawr drwy pori anifeiliaid arnyn nhw, a (2) cheisio cadw pobl - a da byw - o bentrefi eraill draw o'r mynydd.
Mae tir agored y Cuera yn cael ei ddiogelu rhag datblygiad. Mae'r ffermwyr yn mynd â'r gwartheg, geifr a defaid i'r mynydd dechrau'r haf, ac yn defnyddio'r cabanau bach yma fel canolfan. Nid nhw bia'r mynydd, ond mae'r hawl i'w bori yn perthyn i bentrefi neilltuol - ond bod anghytundeb ynglŷn a faint o dir, faint o amser, a faint o anifeiliad.
Tybed gawn ni ateb mewn pum can mlynedd arall?

Friday 5 March 2010

Iaith Gyfrin yn Prysur Ddiflannu

Roedd plant y dref gyfagos yn cael diwrnod arbennig ddoe i ddysgu iaith oedd yn cael ei siarad gan rai o'u teidiau. Ffynnodd y 'xiriga', iaith y gweithwyr teils neu 'tejeros' hyd at amser Franco, ond fe'i greuwyd gan y minteioedd oedd yn gadael pentrefi tlawd dwyrain Asturias i chwilio am waith ganrif ynghynt. Bydden nhw'n sefydlu gwersyll y tu allan i bentref neu dref, palu'r clai, ffurfio teils neu frics a'u llosgi nhw'n galed, a'u gwerthu nhw i bwy bynnag oedd yn codi tŷ neu'n ail-osod to. Mae o leiaf 3 henwr yn y pentre - dros eu 70 erbyn hyn - fu'n gweithio fel tejeros, yn teithio dros y mynyddoedd i daleithiau León neu Burgos. Daeth un ohonyn nhw i godi wal inni, a rwy'n cofio fe'n dweud bod y brics oedd gyda ni 'wedi'u pobi'n dda'.
Ac roedd angen iaith gyfrin arnyn nhw am eu bod yn ddieithriaid, rhag ofn y byddai pobl yn ymosod arnyn nhw neu dwyn eu harian. Doedd hi ddim yn cael ei pasio mlaen i'r plant onibai eu bod nhw hefyd yn y gwaith.
Yn ddiddorol, mae nifer o'r geiriau yn dod o'r Fasgeg: iaith na fyddai'n ddealladwy o gwbl i drigolion y taleithiau deheuol (a digon prin yn Asturias ei hunan). Un enghraifft: asua = tân (Basgeg sua). Mae eraill yn cael eu ffurfio o 'backslang', e.e. drama = madre (mam).
Dyw hi ddim yn debyg o barhau fel iaith lafar, ond dwy ddim yn credu chwaith y bydd y xiriga yn cael ei hanghofio'n llwyr.

Thursday 4 March 2010

Taith Gerdded i'r Gorffennol



O'r holl lwybrau sydd i'w cael yn y Picos de Europa, un o'm ffefrynnau yw llwybr Bulnes. Pentref bychan, gyda dim ond 20 o drigolion yn ystod y gaeaf, yw Bulnes, ym mhen mwyaf dwyreiniol y Picos. Hyd at 9 mlynedd yn ôl, ni ellid ei gyrraedd ond ar draed neu ar gefn asyn neu geffyl.
Does na ddim heol hyd y dydd heddiw, ond erbyn hyn mae 'na rheilffordd 'funicular' o fewn y mynydd sy'n dringo'r 400m o orsaf Puente Poncebos i Bulnes ei hun. Trigolion Bulnes yn teithio'n rhad ac am ddim, eraill yn talu.
Felly mae'n bosib i unrhyw un sydd ddim am gerdded gael ei gludo lan mewn 10 munud. Ond cerdded byddwn ni.
Rhyw awr a hanner - gan osgoi'r geifr - a byddwn ni wedi cyrraedd y pentref. Mae'n daith gerdded ddigon syml, amhosib colli'r llwybr, ond yn gallu bod yn dwym iawn ganol dydd. Weithiau byddwn ni ar lan y nant, weithiau'n uchel uwch ei dyfroedd.
Y gwanwyn yw'r amser i weld y blodau, yr hydref i gael tawelwch llwyr. Ac efallai i weld un o'r ffermwyr sy'n dal i gerdded y llwybr gyda'i anifeiliad.


Wednesday 3 March 2010

Ffilm werth ei Gweld

Neithiwr aethom ni i weld ffilm rhyfedd iawn - un o'r ffilmiau 'na lle ti byth cweit yn siŵr beth sy'n digwydd a beth sydd dim ond ym mhen un o'r cymeriadau.
Ffilm o'r Ariannin oedd hi, 'La Mujer sin Cabeza' - y fenyw heb ben, neu sydd wedi colli'i phen. Mae Veronica yn colli'i phen ar ôl damwain car. Mae'n credu ei bod wedi lladd crwtyn ifanc; mae clwyf ar ei thalcen, ac mae'n cael trafferth adnabod aelodau o'i theulu. Ond mae pawb yn ei sicrhau taw anifail oedd hi wedi 'i fwrw.
Does dim llawer yn digwydd. Mae corff bachgen o bentre brodorol tlawd yn cael ei ddarganfod yn y gamlas ar ochr yr heol. Does na ddim cofnod o'r ddamwain. Mae ei theulu cyfoethog yn gwneud yn siŵr na fydd dim byd yn digwydd. Mae perthynas aelodau'r teulu mor agos y gallai dy dagu di.
Mae'r gweision, sydd i gyd yn bobl brodorol, yn cynnal y gyfundrefn.
Efallai fod na gyfeiriad at y ffordd yr oedd llywodraeth filitariadd yr Ariannin yn 'diflannu' pobl 30 mlynedd yn ôl am fod yn wrthwynebwyr, neu undebwyr llafur, neu berthnasau'r rheiny.
Beth bynnag yw'r neges, mae'r ffilm yn bleser i'w gwylio, a phob golygfa wedi'i gwireddu'n gain.

Tuesday 2 March 2010

Pwy sy'n Trigo'n y Fangre?

Crafu hen grachen heddiw: colli poblogaeth cefn gwlad. Mae Asturias yn colli poblogaeth yn gyffredinol, ond yn anad dim pobl ifanc yr ardaloedd gwledig sy'n mynd. A nawr ŷn ni wedi cael gwybod bod mwy o bobl yn Asturias yn derbyn arian gan y wladwriaeth (yn bensiynwyr, yn ddi-waith, yn weddwon, neu'n sâl) nag sydd yn cyfrannu drwy'r gyfundrefn yswiriant cenedlaethol.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae rhyw 380,000 yn gweithio, a 440,000 yn derbyn budd-dal neu bensiwn. Ac mae'r rhagolygon yn awgrymu na fydd y sefyllfa'n newid. Oherwydd mae canran y boblogaeth sydd dros ei bedwar ugain yn cynyddu, a chanran plant a phobl mewn oedran i gael plant yn lleihau.
Hefyd wrth gwrs mae dyddiau'r teulu mawr ar ben; dau neu dri o blant sydd gan rieni, yn en pentre ni fel yng ngweddill Gorllewin Ewrop.
Oes na ddyfodol i'r ardaloedd tlawd yma ar gyrion Ewrop gyfoethog? Dyfodol ar wahân i dwristiaeth, hynny yw; mae'n amlwg y byddai datblygiadau mawr yn y maes hwnnw ynddo'u hunain yn distrywio'r hyn maen nhw'n cynnig i'r ymwelydd, sef awyr iach, môr a mynydd eang, a llonydd.

Monday 1 March 2010

Pysgota Môr


I ddathlu Dygwyl Dewi dyma genhinen Bedr fechan o'r Picos de Europa.

Mae gŵr lleol wedi marw ar ôl cwympo o glogwyn môr wrth bysgota. Mae'n arfer cyffredin ar hyd y 350km o arfordir sydd gan Asturias. Fedrwch chi'u gweld nhw bob awr o'r dydd (a'r nos, mae gyda rhai LEDs ar y wialen bysgota). Mae un neu ddau yn marw bob blwyddyn wrth fynd ar ôl draenog môr neu 'xaragu' (diplodus sargus neu'r Moroccan seabream yn Saesneg. Blas da, esgyrn lu.)
Doeddwn i ddim yn deall paham roedd y pysgod eitha mawr yn dod mor agos at y lan, ond siâp y tir sy'n gyfrifol. Mae'r dŵr yn dal yn ddwfn, a mae nifer o bethau eraill, wahanol fathau o gregyn a bwyd môr, yn byw yno.

Mae eraill yn hela 'percebes' - Pollicipes cornucopiae - sy'n edrych fel traed eliffant o faint llygoden fawr, ac yn tyfu ar y creigiau sy'n cael eu boddi gan y llanw a'u dadorchuddio gan y trai. Moethyn, ac o'r herwydd yn ddrud, mae blas y môr yn gryf arnyn nhw. Yn Asturias ac yn Galicia, mae pobl yn mynd i ben pella creigiau ar waelod clogwyni i gael y percebes. Mae'r call yn gwisgo rhaff mynydda am ei wasg wedi'i glymu'n sownd yn y graig. Unwaith eto, mae 'na farwolaethau bob blwyddyn.


Mae 'na gychod pysgota hefyd wrth gwrs, a'r rheiny sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r cimychiaid a chrancod sy'n dod i fewn i'r porthladdoedd bach.