Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Friday 30 April 2010

Celfyddyd Oes yr Ogofau

Wnes i sôn sbel yn ôl am ogof Tito Bustillo yn Ribadesella a'i lluniau anhygoel o Oes yr Iâ - rhwng 16,000 ac 11,000 mlynedd yn ol. Maen nhw wrthi ar hyn o bryd yn codi adeilad newydd gerllaw fydd yn gartref i gopi o rannau o'r ogof; pan fydd hwn yn agor ni fydd y cyhoedd yn cael mynediad i'r ogof ei hun, oherwydd y dirywiad yng nghyflwr y lluniau.
Ond yn ôl y cynlluniau, bydd yr arddangosfa newydd yn rhoi cyfle i bobol i weld rhai o'r lluniau sydd ar hyn o bryd yn amhosib eu cyrraedd oherwydd y mynediadau cul sydd i'r siambrau lle maen nhw. Mae na un siambr, e.e. sy'n cynnwys dim ond lluniau cyrff merched a'u horganau rhywiol - yr unig siambr felly o'r amser hwnnw sydd wedi'i chofrestru. Dywed yr archeolegwyr taw llefydd cysegredig oedd yr ogofau, lle byddai seremoniau o ryw fath yn cael eu cynnal. Roedd y bobol yn byw yng ngheg yr ogof a dim ond ychydig ohonynt fyddai'n mynd i mewn.
Yn y rhan sydd ar agor i ymwelwyr yn awr (dim ond 300 y diwrnod, a hynny rhwng Ebrill a Medi), anifeiliaid yw testun yr artistiaid. Yn y Siambr Fawr fe welir nifer o geffylau a cheirw Llychlyn wedi eu peintio mewn lliwiau coch, porffor a du; lliwiau oedd yn cael eu malu o'r gwahanol greigiau oedd ar gael. Maen nhw hefyd wedi eu peintio mewn ffordd sy'n defnyddio siâp muriau'r ogof i awgrymu math o 3D a gwneud yr anifeiliaid yn fyw iawn.
Yn sicr fe fydd yn golled gweld dim ond copi o'r gwaith yma: mae'r teimlad o sefyll o'i flaen a meddwl am y peintwyr yn yr un lle gymaint o flynyddoedd yn ôl yn un dwfn a dw'i ddim yn credu y bydd hyd yn oed copi ardderchog yn achosi'r un peth.

Thursday 29 April 2010

Pobl - a Physgotwyr

Nodiadau bach ar gwpwl o bethe sydd wedi ymddangos mewn cofnodion eisoes.

Mae poblogaeth Asturias yn dal i ddisgyn. Heddiw y cyhoeddwyd y ffigyrau cyntaf o'r arolwg diweddaraf, sy'n dangos bod 1200 yn llai o bobl yn byw yma, h.y. rhyw 1,180,000 i gyd. Mae poblogaeth Sbaen gyfan, ar y llaw arall, wedi codi o 200,000 dros y flwyddyn ddiwethaf i bron i 47 miliwn. Gellid cymharu'r ystadegau yma â'r perthynas rhwng poblogaeth Cymru a'r DU: 3 miliwn yn erbyn 61 miliwn - un o bob ugain fwy neu lai. Un o bob deugain o drigolion Sbaen sy'n byw yn Asturias.
Ac mae pysgotwyr y dalaith yn aros yn barod i redeg at lan yr afon y bore fory pan fydd y tymor pysgota 'go iawn' yn dechrau - h.y. y byddan nhw'n gallu ladd eu heogiaid a mynd a nhw adref i'r gegin. Neu'n fwy na thebyg eu gwerthu nhw am bris uchel i dŷ bwyta.
Fe fydd yn ddiddorol gweld a yw'r chwech wythnos o 'pesca sin muerte' - dala'r pysgod ac yna'u dychwelyd i'r afon fel bod nhw'n gallu gorffen eu taith a chenhedlu rhai bach ar gyfer y blynyddoedd i ddod - wedi gweithio. Ond chawn ni ddim wybod hynny am flynydde eto.

Wednesday 28 April 2010

El Guaje - Gwas y Glowyr

El Guaje yw llysenw David Villa, un o sêr pêl-droed Sbaen. Mae'n chwarae i Valencia, er gwaethaf straeon lu yn awgrymu ei fod am symud i Real Madrid, Barcelona, Chelsea ayyb. Ond fe'i anwyd yn un o gymoedd glofaol Asturias, lle mae 'guaje' , sy'n cael ei ynganu 'gwache', yn golygu crwt ifanc.
Mae ffrindiau o'r ardal wedi esbonio ei fod yn air cymharol newydd, ac yn dod yn uniongyrchol o'r diwydiant glo, lle roedd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio bachgen oedd yn helpu'r glowyr.
Roedd rhywun wedi awgrymu ei fod yn tarddio o'r Saesneg 'washery', am mai yno roedd y bechgyn yn gweithio. Ond yn ôl yr un ffrindiau, all hwn byth â bod yn wir, achos roedd gan y guajes res hir o ddyletswyddau. A dyma fi'n meddwl, tybed ai'r gair 'gwas' sydd yma? Mae'n disgrifio gwaith y bechgyn i'r dim.
Rhaid imi gyfaddef nad wyf i ddim wedi dod o hyd i enghraifft o'r gair gwas yn y diwydiant glo yng Nghymru wrth chwilio'r we'r dyddiau diwethaf yma. Felly os oes unrhyw un yn gwybod am un byddwn yn ddiolchgar iawn cael y wybodaeth.

Tuesday 27 April 2010

Canu Gwerin

Hysbys bach heddiw i Corquiéu, band gwerin Ribeseya (Ribadesella yn Sbaeneg). Maen nhw wedi bod wrthi am dros 10 mlynedd, ond am ryw reswm heb gyhoeddi albwm ers 2005.
Tan heddiw. Mae'r un newydd, Suana, ar gael yn awr.
Cymysgedd o donau traddodiadol a chaneuon a gyfansoddwyd gan aelodau'r grŵp - dyma'u gwefan nhw.
http://www.corquieu.com

Maen nhw hefyd i'w clywed ar MySpace
http://www.myspace.com.corquieu

A byddan nhw'n perfformio yng Ngŵyl Werin Xixón (Gijón) ym mis Awst.

Monday 26 April 2010

Hafod y Picos

Ddoe oedd diwrnod agoriadol swyddogol mynyddoedd y Picos de Europa ar gyfer pori. Erbyn diwedd y dydd yr oedd 1000 o wartheg wedi cyrraedd eu 'hafod' a byddan nhw'n aros yno tan ddiwedd mis Medi neu ddechrau Hydref. Mae'r dyddiad yn cael ei bennu gan awdurdodau'r Parc Cenedlaethol ac yn dibynnu ar y tywydd.
Nid gwartheg yn unig sy'n mynd: mae defaid, geifr a cheffylau'n cael pori'r gwair llawn perlysiau. Bydd rhai'n cael eu gwerthu i gigyddion ym marchnadoedd yr hydref, ond diben y rhan fwyaf yw cael eu godro (ond am y ceffylau!) ar gyfer gwneud caws.
Yn aml iawn mae'r gwartheg ar y mynydd yn byw mewn teuluoedd, a'r tarw gyda nhw, sy'n edrych yn rhyfedd inni efallai. Ond hyd yn hyn ni chawsom unrhyw drafferth wrth gerdded heibio iddyn nhw - er fy mod i weithiau wedi gadael llwybr hawdd am fod tarw yn sefyll yn ei ganol e a gorfod dringo man bach serth.
Mae'r gwartheg yma'n pori la Vega de Comeya, yn agos i lynnoedd Enol ac Ercina, sy'n enghraifft o 'polje', gair o darddiad Slofeneg. Mae'n golygu dyffryn gyda gwaelod eang mewn ardal o garreg galch lle mae'r dŵr yn llifo drwy ogofâu o dan llawr y dyffryn. Mae'r dŵr yn torri'r graig sydd rhwng yr ogofau fel bod rhannu o'r tir yn suddo ac yn ffurfio pant enfawr sy'n edrych fel gwely hen lyn.
Ond i'r anifeiliaid lle bwyta delfrydol yw e.

Sunday 25 April 2010

Ar Drywydd Rhyfel Sbaen - yn y Llys

Mae'n debyg taw Baltasar Garzón yw'r unig farnwr o Sbaenwr sy'n adnabyddus y tu hwnt i'r penrhyn Iberaidd. Fe oedd yr un a gyhoeddodd warant aml-wladol ar gyfer arestio Augusto Pinochet, cyn-unben Chile, tra roedd e yn Llundain ym 1998.
A'r tro yma, fe all fod mewn trwbwl gydag Uchel Lys Sbaen am agor achos yn ymwneud ag unben Sbaen ei hun, Francisco Franco. Fel rhan o'r broses o ail-sefydlu democratiaeth Sbaen ar ôl marwolaeth Franco, cytunwyd amnesti cyffredinol ar bob trosedd gafodd ei gyflawni yn ystod rhyfel 1936-39.
Ond mae llawer ar y chwith yn teimlo bod yn rhaid cosbi dilynwyr Franco am yr hyn a wnaethon nhw yn ystod y rhyfel ac wedyn yn ystod yr unbeniaeth. Yn 2008, fe ddechreuodd Garzón ymchwilio i rai o erchyllterau'r cyfnod. Er nad oedd e wedi dilyn yr achos i'r diwedd, fe benderfynwyd ei fod wedi torri'r gyfraith ei hun wrth anwybyddu'r amnesti.
Bu miloedd o bobol yn gorymdeithio yn ninasoedd Sbaen y penwythnos yma i gefnogi'r barnwr - ac yn yr Ariannin mae grŵp wedi mynd ag achos tebyg iawn yn erbyn cyfundrefn Franco i'r llys yn Buenos Aires - lle does na ddim amnesti.

Saturday 24 April 2010

Dilyn Trywydd Rhyfel Sbaen

Mae cyngor Llanes yn nwyrain Asturias wedi penderfynu trefnu llwybr cerdded fydd yn esbonio hanes y Rhyfel Cartref yn yr ardal yn niwedd 30au'r ganrif o'r blaen.
Y syniad yw y bydd pobl ifanc yr ardal, yn ogystal ag ymwelwyr, yn cael cyfle i wybod mwy am beth ddigwyddodd yma. Y peth cyntaf yw gwneud rhestr o feysydd pob câd, a lleoliad pob ffos (fosa yn Sbaeneg) lle saethwyd pobl neu lle daflwyd cyrff rhai wedi eu lladd mewn mannau eraill.
Brwydr fwyaf enwog ymgyrch Asturias ym 1937 yw Mazucu, ym mynyddoedd y Cuera, sydd o fewn ffiniau cyngor Llanes, ond â dweud y gwir mae'n anodd meddwl am un ardal yn unig oherwydd roedd yr ymladd yn lledu dros rannau helaeth o'r Cuera a'r Picos de Europa. Bu ymladd ffyrnig yn Covadonga ei hunan, oedd mor bwysig i Franco oherwydd ei arwyddocâd brenhinol a chrefyddol: roedd yn cynrychioli'r Sbaen yr oedden nhw'n gweld yn diflannu.
Roedd yn cael help mawr gan Lleng y Condor - Almaenwyr wedi eu danfon gan Hitler oedd yn ymladd ar y llawr ac yn bomio o'r awyr. Ac yn bomio trefi (fel Gernika/Guernica gynt) yn ogystal â lleoliadau milwrol. Heb y rhain fe allasai'r canlyniad wedi bod yn hollol wahanol.
Y diwrnod yr oedd Gernika yn cael ei chofio yn yr Arddangosfa yn Paris ym mis Medi 1937, yr oedd Cangas de Onis, tref sydd yn awr yn 'borth i'r Picos' yn cael ei distrywio gan fomiau'r Almaenwyr.
Efallai bydd hi'n cymryd dipyn o amser i daith gerdded Llanes gael ei weithredu, ond mae wastad yn bosib cerdded y mynyddoedd a chofio'r erchylltra a fu.

Friday 23 April 2010

Ar ei Chanfed

Fy nghanfed cofnod, hynny yw. Rwy'n synnu fy mod i wedi llwyddo i ddal ati bob dydd am gan diwrnod, a weithiau mae wedi bod yn dipyn o boen meddwl penderfynu beth i sgrifennu amdano. O edrych yn ôl, mae themâu amlwg yn ymddangos: yr ardd a'r gegin yn chwarae rhannau blaenllaw, y mynyddoedd a'r môr a thrigolion cefn gwlad Asturias yn gefndir ac yn gymeriadau anhepgor. Ambell un yn cyffwrdd â gwleidyddiaeth a diwylliant, tipyn o hanes yr ardal, a dyna ni.
Byddai'n dda gen i gael gwybod barn y chi sy'n ei ddarllen: oes eisiau mwy o dywysnodau ar deithiau gerdded unigol, e.e., neu fwy o fotaneg neu o hanes? (Neu llai!)
Mae'r llun yma'n mynegi'r hedd a thawelwch sydd i gael o hyd yn y gilfach gefn hon. Yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst fe fydd hi'n llawn teuluoedd a miri a'r teimlad yn un hollol wahanol.
Weithiau mae fel petawn i wedi teithio'n ôl drwy amser i gefn gwlad gorllewin Cymru yn y 50au.
Ond wedyn mae rhaid cofio bod y draffordd 10 munud i ffwrdd a phob gwesty bach arlein.
Paradocs, a hud, y lle yw ei fod yn gallu cadw'r ddwy elfen yn gytbwys.

Thursday 22 April 2010

Cyfeillion Cywir a Pherthnasau Hen

Nid y ffrindiau ffug y mae dysgwyr iaith yn ofni, ond geiriau Cymraeg a Sbaeneg sydd yn debyg mewn sain, sillafu a synnwyr.

Mae llawer ohonyn nhw wrth gwrs yn dangos gwreiddiau Lladin.

puente - pont (ond mae pontydd Sbaen yn wrywaidd)
cabra - gafr
muro - mur
niebla - niwl
red - rhwyd(waith)
pescado - pysgod (ar blât. Pez yw'r gair am bysgodyn byw)
vaca - buwch

A dyma un diddorol: yr hen air Cymraeg 'chwegr', a rhaid imi gyfaddef ar unwaith nad wyf i erioed wedi'i glywed e ar lafar yn golygu mam-yng-nghyfraith.. Yn Sbaeneg, suegro a suegra yw tad a mam-yng-nghyfraith. Ac o edrych yn ddyfnach, mae gan y geiriau yma wraidd hynafol Indo-Ewropeaidd: yn Almaeneg heddiw, Schwiegemutter yw hi.
I ffwrdd â'r cyfieithiad air am air 'mam-yng-nghyfraith'! Yr wythnos nesaf bydda'i'n mynd i weld fy chwegr.

Wednesday 21 April 2010

Pelayo, buddugwr Covadonga

Bu'r Mwriaid yn llywodraethu mewn rhannau helaeth o'r penrhyn Iberaidd am bron i wyth canrif. Ond fe ddechreuodd gwrthsafiad y trigolion dim ond rhyw 20 mlynedd ar ôl iddyn nhw gyrraedd, a hynny yn Asturias. Mae brwydr Covadonga erbyn hyn yn rhan bwysig o chwedloniaeth Asturias a Sbaen: rwy'n cofio clywed Gweinidog Tramor Madrid yn cyfeirio ato yn ystod y rhyfel bychan gyda Morocco ar Ynys y Persli rai blynyddoedd yn ôl.
Pelayo oedd arweinydd yr Astwriaid (Fisigothod) ym mrwydr Covadonga, ac o'i ennill fe lwyddodd i sefydlu Brenhiniaeth Asturias, sy'n cael ei ystyried fel dechrau'r adfywio Cristnogol a arweiniodd yn y pendraw at ddiarddel y Mwriaid ym 1492. Mae'n dal yn enw poblogaidd i fechgyn Asturias.
Fe gafodd Pelayo Frenin ei gladdu yn Abamia, ddim yn bell o Covadonga, er bod y corff wedyn wedi'i symud a heddiw does neb yn gwybod lle mae e.
Dyma ran o gerfwaith drws yr eglwys yn Abamia, sy'n dangos 'y bradwr Oppas' yn cael ei lusgo i uffern gael un o'r diawliaid. Roedd Oppas yn esgob oedd mynd mynd draw at y Mwriaid. Yn ôl y traddodiad, roedd e wedi ceisio dwyn perswâd ar Pelayo i roi lan, a hynny ychydig cyn brwydr Covadonga. Dyw'r enw Oppas ddim wedi goroesi yn yr ardal.

Tuesday 20 April 2010

Bwydlen y Tapas (1)

Un o'r tapas mwyaf poblogaidd yn Asturias yw chorizo a la sidra - selsig mewn seidir. Mae'n rhwydd iawn ei baratoi; beth sy'n bwysig yw safon yr elfennau sy'n mynd iddo.

i 4 o bobol

chorizo yr un. Nid y math o selsig ffres sy'n cael eu ffrio, ond chorizos Sbaen sy'n edrych braidd yn goch tywyll oherwydd y 'pimentón' sydd ynddyn nhw. Pupur coch wedi'i falu yw hwn, ac mae'n gallu bod yn felys (dulce) neu'n boeth (piccante). Yn fy marn i, mae'r un melys yn mynd yn well gyda seidir.
llwyaid o olew
hanner potel o seidir naturiol - boed o Gymru, o Lydaw neu o Asturias.

Torri'r chorizo yn ddarnau tua 3cm o drwch, a'i goginio yn yr olew am 3-4 munud. Yn aml mae pobl yn defnyddio llestr pridd, ond fe wneith ffrimpan y tro'n iawn.
Ychwanegu'r seidir, twymo'r cwbwl hyd at ferwi, troi'r gwres i lawr a'i adael am 10 munud. Bydd y pimentón wedi rhoi lliw coch i'r saws seidir.

Ei fwyta gyda bara. ¡Buen provecho!

Monday 19 April 2010

Arbrawf Tai Gwydr a CO2

Mae pawb yn gwybod mae'n siwr bod CO2 yn un o'r nwyon tŷ gwydr sy'n bygwth newid hinsawdd ein planed. Pawb yn gwybod hefyd bod planhigion yn cymryd CO2 i mewn ac yn gollwng ocsigen.
Ond defnyddio CO2 yn unswydd i wella hinsawdd tai gwydr a thyfu planhigion yn fwy and yn gyflymach?
Dyma mae'n nhw'n dechrau ei wneud yn Ne Sbaen, yn nhalaith Almería. Mae'n hawdd deall paham: mae 26,500 hectâr o dai gwydr yno. Dyna (ar wahan i dwristiaeth) yw eu diwydiant. Ar hyn o bryd maen nhw'n arbrofi gyda sawl ffordd o weithio; er enghraifft:
1. Troi gwastraff planhigion yn peli 'biomass' a'u llosgi gyda'r nos i gadw tymheredd y tŷ gwydr i fyny.
2. Casglu'r CO2 sydd ar ôl wedi'r llosgi a'i gadw fe mewn tanc arbennig.
3. Yn ystod y dydd, pan fydd y planhigion ei angen, chwistrellu CO2 i awyr y tai gwydr.

Maen nhw'n amcangyfri bod pob medr sgwar o dŷ gwydr yn gallu defnyddio rhyw 5 kilo o CO2 mewn blwyddyn. Ac wrth wneud hyn, maent yn cynhyrchu 40% yn fwy o ffrwythau a llysiau nag o'r blaen - a mwy na hynny yn ystod misoedd y gaeaf, pan fydd y galw am eu cynnyrch wrth gwrs yn fwy hefyd. Ac mae pris y biomass ar gyfer gwresogi tua treian pris nwy arferol.
Eto i gyd, dydy'r gwyddonwyr ddim yn honni bod y cynllun yma'n ddigon i leihau'n sylweddol y CO2 sydd yma'n barod. Yr hyn y mae yn ei wneud, medden nhw, yw peidio ag ychwanegu ato, a defnyddio'r hyn sydd yno er lles amaethyddiaeth.

Sunday 18 April 2010

Diod o'r Perthi

Mae'r 'guindos', y ceirios duon chwerw, wedi blodeuo o'r diwedd.
Mae'r coed, sy'n tyfu'n wyllt, yn gyffredin iawn o gwmpas y pentref. Hyd yn hyn, dim ond undefnydd rwyf i wedi gweld ohonyn nhw, sef gwneud diod feddwol melys 'licor de guindas'.
Mae'n rhwydd iawn: dim ond casglu'r ffrwyth a'u dodi nhw mewn potel. Fel arfer mae pobl yn defnyddio hen boteli brandi neu rhywbeth sydd â chaead corc.
Wedyn, ychwanegu 'anis', alcohol plaen yr ydych yn gallu ei brynu at y pwrpas, a siwgr - faint o siwgr sy'n dibynnu ar y ffrwyth, a'ch dant eich hunain. Byddai defnyddio vodka yn lle anis yn cael yr un canlyniad.
Dodi'r botel i gadw mewn lle tywyll, heb fod yn rhy dwym, ac mewn rhyw dri mis fe fydd yn barod. A nid yn unig ych chi'n gallu yfed y licor, bydd y ffrwyth wedi colli'u chwerwedd ac yn bleser eu bwyta.

Saturday 17 April 2010

Cyfansoddiad Catalunya - Oedi Eto

Mae Llys Cyfansoddiadol Sbaen wedi gwrthod derbyn y drafft diweddaraf o'r gyfraith newydd sy'n adnewyddu cyfansoddiad Catalunya ac yn rhoi mwy o bwerau i'r llywodraeth yno, y Generalitat.
Yn lle'r wythnosau o drafod yr oedd y wasg yn eu darogan, 3 diwrnod yn unig gymrodd e i'r barnwyr wneud eu penderfyniad.
Beth fydd yn digwydd nesaf? Anodd dweud. Mae llywodraeth Madrid yn dal i ddweud nad oes dim rheswm pam na ddaw penderfyniad cyn yr haf (h.y. Gorffennaf). Ond yn awr mae barnwr adain-dde a gwrth-annibyniaeth, Is-lywydd y Llys Cyfansoddiadol, yn gyfrifol am gyflwyno'r drafft nesaf i'r llys. Mae'r wasg yn Catalunya yn gweld bai mawr ar y barnwr adain-chwith a bleidleisiodd yn erbyn y drafft ddoe. Mae'r holl beth hefyd wedi codi cwestiynau ynglŷn â'r llys ei hunan a'i lywydd, gyda rhai'n gofyn ydy hi'n bryd enwebu barnwyr newydd.
Ac ie, mae'n dal yn hollol bosib y bydd y cyfan yn cael ei ohirio tan ar ôl etholiadau nesaf Catalunya yn yr Hydref.

Friday 16 April 2010

Ar ôl y Tân

Mae Gweinidogaeth Amgylchedd Asturias wedi gwahardd pori ar 52 o hectarau o dir mynydd agored am bum mlynedd. Llosgwyd y tir uwchben afon Sella ddeufis yn ôl, pan oedd llawer o ffermwyr yn ceisio clirio'r eithin a choed bach cyn gadael y da byw i bori yno. Rhai heb gael y trwydded sydd ei angen, eraill yn anwybyddu gofynion y trwydded (bod yn rhaid goruchwylio'r tân, ei ddiffodd cyn nos, ac ati), ac eraill wedi colli rheolaeth ar y fflamau oherwydd sychder y gaeaf a gwyntoedd cryfion y Mis Bach.
Mae 5 mlynedd yn gyfnod hir sy'n edrych fel bod yr awdurdodau am wneud esiampl o'r achos hwn. Ond llecyn digon bach yw e ymysg yr holl danau sydd wedi bod yn Asturias y gwanwyn yma.

Thursday 15 April 2010

Arian y Dreth yn creu Swyddi

Rwyf i wedi son o'r blaen am y ffordd mae llywodraeth Sbaen wedi ymateb i'r sefyllfa economaidd - a'r cynnydd dirfawr yn nifer y di-waith - drwy prosiectau cyhoeddus. Fe'i gwelir ym mhobman, yr arwyddion mawr melyn 'PlanE'.
Mae rhai o'r prosiectau eu hunain yn enfawr, yn enwedig y rhai oedd wedi dechrau cyn 2008 ac syddwedi eu henwi wedyn yn PlanE. Ond mae cost hyd yn oed y rhai bach yn sylweddol.
Yn Ribadesella yn unig, mae'r gwaith (argyfwng, rhaid cyfaddef) wedi dechrau ar y cei. Amcangyfrif: 2,200,000 euros.
Maen nhw hefyd wrthi'n cymoni llwybr sy'n arwain o'r dre i'r penrhyn.
Amcangyfrif: 90,000 euros
Ac yn gosod goleuadau stryd arbennig ar hyd y cei a'r llwybr, fydd yn gallu cael eu diffodd adeg y tymor pysgota llysywod.
Amcangyfrif: 300,000 euros.
Mae'r rhain i gyd yn rhoi gwaith i bobl: ond pwy a ŵyr am ba hyd?

Wednesday 14 April 2010

Cyfansoddiad Catalunya

Mae Llys Cyfansoddiadol Sbaen yn dechrau ei drafodaeth olaf ar Ystatud Catalunya, deddf a gytunwyd rhwng llywodraethau Barselona a Madrid 3 blynedd yn ôl ac a fyddai'n rhoi mwy o bwerau ac o arian y dreth iddi. Bues i'n darllen ychydig ar y we (La Vanguardia, El País ayyb) i weld beth sy'n debyg o ddigwydd.
Yn ôl pob sôn, bydd dadlau cryf ymysg y barnwyr ('magistrados') oherwydd fodd y nifer sydd o blaid a'r nifer sydd yn erbyn yn gyfartal. Mae'r llywydd wedi bod yn ceisio cael cytundeb fel na fydd hi'n gorfod bwrw ei phleidlais i benderfynu'r mater.
Un o'r pethau a gynhyrfodd y Blaid Geidwadol (Partido Popular), sydd wedi gofyn i'r Llys ddileu'r gyfraith, yw datgan bod Catalunya yn genedl. Yn genedl o fewn Sbaen, hynny yw. Maen nhw ofn y bydd cymunedau awtonomaidd eraill yn dilyn yr un trywydd.
Mae'n debyg y bydd hwnnw, a'r cymal ynglŷn â'r iaith, yn mynd drwodd.
Ond mae'n bosib taw cymal arall fydd yn achosi problemau: dydy rhai o'r barnwyr ddim eisiau gweld gyfundrefn cyfiawnder a llysoedd Catalunya yn datblygu mewn ffordd arwahan i weddill Sbaen.
Os na fydd 'na mŵg gwyn yn codi o siambr y Llys ymhen yr wythnosau nesaf, bydd y cwbwl yn cael ei ohirio eto tan ar ôl yr etholiadau nesaf yn Catalunya, ym mis Hydref.

Tuesday 13 April 2010

A fo Ben bid Bont (teitl er cof am etholiad arall)

Mae pobl Ribadesella wedi bod yn conan am bont y dre ers inni ddod yma gyntaf.
Fel ych chi'n gweld, mae'r bont yn croesi aber afon Sella; mae'n 300m o hyd ond y dŵr gan amlaf yn weddol fas.
Cyn ganol y 19eg ganrif, doedd dim pont o gwbl: roedd yr aber os rhywbeth yn lletach, a phobl naill ai'n cerdded drwy'r dŵr neu'n cymryd cwch fferi bach. Fel hyn roedd y pererinion yn croesi i gyrraedd y llety nesaf ar y daith i Santiago de Compostela.
Fe godwyd pont bren yn 1865, a gyda thŵf y diwydiant metal yn Asturias, un haearn yn 1898 - yn ei dydd, yr hiraf o'i math yn y byd. Cafodd y bont honno ei distrywio yn ystod y Rhyfel Cartef, a chodwyd yr un presennol ym 1940 gan garcharorion o Weriniaethwyr yn gweithio fel caethweision.
Un ffrwd ymhob cyfeiriad i'r traffig, a dau bafin cul. Yn yr haf, mae dan ei sang o fore gwyn tan nos, ac yn beryg bywyd i gerddwyr. Mae'r cynllun i godi a) pompren i gerddwyr neu b) pont hollol newydd wedi bod yn rhan o gyllideb Asturias ers rhai blynyddoedd, ac yn symud tuag at flaen y rhestr cynlluniau, ond yn awr mae'r broses hir o arolygu ei effaith posib ar yr amgylchedd wedi arwain at ohiriad arall.
Mae Maer y dre, sy fel sosialydd yn perthyn i'r un blaid sy'n rheoli'r dalaith, yn dweud yn blwmp ac yn blaen bod hyn yn wallgof. Nid dweud nad oes ots am yr amgylchedd - mae gan y cyngor gynllun pwysig arall i adfer y gwlyptir ar lan yr afon. Ond yn honni nad yw'r llywodraeth yn Oviedo wedi rhoi digon o flaenoriaeth i'r gwaith.
Ac wrth gwrs, fel pob gwleidydd, yn proffwydo na fydd dim yn cael ei wneud nes bod na ddamwain ddifrifol yn digwydd. Dyw'r etholiad ddim tan flwyddyn nesaf.

Monday 12 April 2010

Ceisio Ail Farn

Diddorol gweld heddiw yn un o bapurau Asturias cyfweliad â meddyg sy'n gweithio yn ysbyty Glan Clwyd. Arbenigwr canser y frest a'r ysgyfaint yw Angel García Alonso, ac yn frodor o Laviana yn y cymoedd glofaol.
Mae e wedi gweithio yn Lloegr yn ogystal ag yng Nghymru, a weithiau dyw e ddim yn amlwg am ba wlad mae'n siarad. ond:

Mae'n canmol y gwario mawr sydd wedi bod yn ddiweddar, yn dweud bod pethau wedi gwella ers 1997 pan ddechreuodd weithio yn Lloegr, ond yn poeni am y fiwrocratiaeth 'exagerado', h.y. ormodol.
Mae'n pwyntio mâs bod meddygon Prydain fel y cyfryw yn ennill ddwywaith gymaint â rhai Sbaen, ond yn dweud bod mwy o gyfrifoldeb arnyn nhw y tu hwnt i drin cleifion.
Mae'n cefnogi'r gyfundrefn o benderfynu ar raddfa 'genedlaethol' pa foddion newydd y dylid eu defnyddio - ond yn dweud hefyd ei fod yn bosib cael moddion sydd heb eu cymeradwyo os yw'n meddwl y bydden nhw o ddefnydd i glaf. Dywed bod hyn yn cael ei wneud fel rhan o gynllun ymchwil i effaith y moddion.

Sunday 11 April 2010

Ai'm Gwlad fy hun ai'r Gwledydd Pell

Mae pawb sydd wedi dysgu iaith arall wedi dod ar draws y ffrindiau ffug: y geiriau sy'n swnio'n debyg iawn i air Cymraeg cyfarwydd, ond sy'n golygu rhywbeth gwahanol. 'Muy' Sbaeneg, er enghraifft, sy'n golygu 'iawn', yn yr ystyr 'da iawn', ac nid 'mwy'.
Ond mae na hefyd geiriau o fewn yr un iaith sy'n edrych yn debyg ond yn gallu baglu rhywun sy'n dysgu. Indio ac indiano, er enghraifft. Y cynta'n golygu rhywun neu rywbeth sy'n perthyn i wlad India, yr ail yn golygu Sbaenwr ymfudodd i wledydd America a gwneud ei ffortiwn yno cyn dychwelyd a gwario arian ar wella'i filltir sgwâr.
Ar hyd arfordir Asturias mae na dai enfawr, gyda llwyth o waith pren cywrain, tyrrau, paent lliw cryf fel glas neu felyn, a gerddi mawr â gwaliau cerrig. Casas indianos - tai'r indianos - ydyn nhw. Mae amgueddfa fach wedi ei sefydlu yn un o'r tai 'ma, sydd hefyd yn cynnwys manylion llawer o'r bechgyn ifanc a aeth.
A dweud y gwir, plant oedd y rhan fwyaf - 16 oed ar gyfartaledd - ac roedden nhw'n mynd ar eu pennau'u hunain drwy gydol ail hanner y 19eg ganrif. Plant gweithwyr amaethyddol, yn osgoi'r wasanaeth filwrol oedd ar y pryd yn 8 mlynedd, yn gadael tlodi am ansicrwydd. Diflannu fu ffawd llawer, ond fe ddaeth nifer helaeth yn ôl i ymddeol ac yn aml i briodi merch ifanc o'r pentref.
Hyd heddiw, mae'r perthynas rhwng yr Astwriaid a'u hymfudwyr yn f'atgoffa o Gymru a'r Wladfa. Yn ystod y trybini economaidd yn yr Ariannin, roedd pobl yn casglu arian i helpu pobl o deuluoedd Astwraidd oedd yn byw yno. A bob haf mae digon o bobl ifanc o dde America a'r Caribî yn gwneud y daith ffordd arall i geisio gwaith yma. Tybed faint ohonyn nhw fydd yn mynd adre'n filiynwyr?

Saturday 10 April 2010

Mynnu Mynd i Forio

Efallai taw'r sefyllfa economaidd yw hi, efallai bod pobl ar arfordir Asturias yn chwilio am rywbeth heblaw arian; mae newyddion da i ddiwydiant (bach) pysgota Ribadesella. Mae dau o'r hen gapteiniaid newydd ymddeol, ond mae eu meibion wedi cymryd y llyw. Ac mae un arall ar fin gwneud yr un peth.
Dim ond rhyw ddeg o'r cychod bach sydd 'na i gyd, felly mae gweld y cyfrifoldeb yn cel ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r nesaf yn codi calon. Dynion (does na ddim merched yn y cychod) yn ei pedwar-degau sy'n arwain criwiau'r rhan fwyaf o'r gweddill.
Dydyn nhw ddim yn mynd yn bell nac yn aros allan am gyfnod hir; mae'n jobyn y gallwch chi ei wneud a byw gartref. Ddim fel y treillongau mawr o Galicia a Gwlad y Basg sydd yn gweithio yn agos i arfordir Somalia; mae nifer o'r rheiny wedi cael eu herwgipio gan fôrladron.
Ond mae parhad cychod bach Ribadesella a'u tebyg yn golygu o leiaf nad ardal sy'n dibynnu ar dwristiaeth yn unig yw hi - ac wrth gwrs bod pysgod ffres, lleol, ar gael yn y farchnad ac mewn tai bwyta.

Friday 9 April 2010

Mae'r Bocs yn Wag

Ddiwedd mis Mawrth fe ddiffoddwyd teledu analog Asturias. Cyn hynny roedd y cwmniau a'r awdurdodau lleol wedi codi nifer helaeth o 'repetidores' - trosglwyddyddion i ardaloedd bach wedi'u hynysu oherwydd eu daearyddiaeth (mynyddoedd uchel a chymoedd cul).
Ond pan aethon ni i'r bar i wylio gêm pêl-droed y noson o'r blaen doedd na ddim signal o gwbwl. Roedd y technegydd wedi dweud bod angen pwyntio'r erial i un cyfeiriad, ond roedden ni, a nifer o'r cymdogion, wedi ei bwyntio fe fel arall a chael gwasanaeth dda.
Mae'n bosib cael teledu satelite wrth gwrs, ond mae hynny hyd yn hyn yn ddrutach. A gan fod cymaint o bobl yn mynd un ai mewn fflatiau neu mewn pentrefi gyda heolydd cul a thai bendramwnwgl, fydd e ddim bob amser yn bosib.
Mae'r un peth wedi digwydd mewn sawl lle, ac mae trigolion o leiaf un pentref pysgota mawr, Lastres, yn gweld dim ond du ar y sgrîn. Mae hyn yn eironig a dweud y lleiaf, achos mae pobl drwy Sbaen gyfan yn gallu gweld Lastres ar y teledu: man ffilmio 'Doctor Mateo', addasiad Sbaeneg o'r cyfres drama meddygol 'Doc Martin', yw'r pentre.

Thursday 8 April 2010

y Bobol o Bant

Mae'r awdurdodau twristiaeth wedi gwneud arolwg manwl o bwy sy'n dod i ardal y dwyrain dros y Pasg. Fe fuon nhw wrthi'n holi ymwelwyr wrth iddyn nhw gyrraedd eu gwesty neu fynychu un o brif atyniadau'r 'Oriente'.
Roedd y rhan fwyaf o lawer iawn yn dod o rannau eraill o Sbaen (dyw'r arolwg ddim yn dangos faint o'r rheiny oedd yn wreiddiol o Asturias). Llai na 7% oedd wedi dod o dramor. A beth oedd eu ffefryn? Y pentrefi, unwaith eto ymhell ar y blaen. Roedd y mynyddoedd a'r arfordir wrth gwrs yn denu pobl hefyd.
Mae'r bobl yma yn aros i weld y 'bufones', chwythelli o ddŵr y môr sy'n cael eu gwthio drwy dyllau main yn y garreg galch ac yn saethu hanner can troedfedd i'r awyr. Ond y diwrnod hwnnw roedd yr aros yn ofer.
Lleiafrif oedd yn mynd ar deithiau cerdded neu'n dewis pysgota. Beth mae'r Sbaenwyr yn hoffi, mae'n debyg, yw teithio i rywle sydd braidd yn hen-ffasiwn, yn wledig, lle mae'r pentrefi'n llawn o hen dai a siopau fel yr oeddyn nhw, a lle maen nhw'n gallu bwyta'n dda. Roedd yr ymwelydd, ar gyfartaledd, yn aros wythnos ac gwario 76 euros y dydd, ar wahan i'w lety.
Byddai'n ddiddorol cael gwybod a oes yna ffigyrau tebyg ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.

Wednesday 7 April 2010

Lliwiau'n Cryfhau





Wedi treulio awr fach yn ceisio rhoi trefn ar y lluniau: felly dyma'r rhai diweddaraf o'r ardd flodau.



Rhosmari, sy'n blodeuo drwy'r flwyddyn; gellygen yn ei blodau; un o flodau hyfryd y goeden cwins; ac osteospermum, sydd ond yn blodeuo pan fydd hi'n heulog.

Tuesday 6 April 2010

Croesi'r Bar

Mordaith hyfryd ar y Pont Aven y tro yma. Doedd y llong ddim yn llawn dop, roedd y môr yn dawel a'r bwyd yn dda. Un peth sydd yn newid amlwg hyd yn oed yn ystod yr 8 mlynedd ŷn ni wedi bod yn teithio ar y fferi rhwng Prydain Fawr a Sbaen yw'r nifer o Sbaenwyr ymysg y teithwyr. O'r blaen, pobl o wledydd Prydain yn mynd ar eu gwyliau oedd y mwyafrif llethol, a gyrwyr loriau oedd yr unig Sbaenwyr. Mae pethau llawer mwy cyfartal yn awr.
Byddwn i'n dewis y llong o flaen unrhyw fodd o deithio; mae fel cysgu noswaith mewn hotel a dihuno mewn gwlad arall. Ond mae'n fwy costus, rhaid dweud hynny. Dwi ddim wedi ceisio teithio'r holl ffordd mewn trên eto, ond efallai'r haf yma - neu'r hydref, pan fydd llai o deithwyr, y gwnawn ni hynny.
Dyma'r wefan y byddwn ni'n defnyddio i drefnu teithiau trên drwy Ewrop - http://www.seat61.com/ . Mae'n llawn gwybodaeth a dolenni ar gyfer amserlen a phris ymhob gwlad, ac yn cael ei gynnal gan ddyn sy'n hoff o drenau.

Monday 5 April 2010

Ffarwel i Asturias (dros dro)

Mae'r ymwelwyr i gyd wedi mynd, mae'r haul yn disgleirio a'r môr yn dawel. Ond yn anffodus ŷn ni'n gorfod ymadael hefyd, yn ôl i Gymru a llefydd eraill ar ynys Prydain Fawr i weld aelodau o'r teulu ac i roi trefn ar gwpwl o bethau.
Heno fe fyddwn yn cysgu ar y môr, ar y fferi o Santander i Portsmouth; galla'i ond gobeithio y bydd y tywydd yn aros yn fwyn. Tro diwethaf, roedd y storm cynddrwg wnaeth y llong ddim hwylio tan i diwrnod wedyn.
Bydda'i'n dal i flogio am Asturias yn ystod y daith: yn cadw mewn cysylltiad â'r hyn sy'n digwydd ac yn cael cyfle i ymdrin â themâu tymor hir.
Nodyn i orffen i unrhyw un sy'n ymddiddori yn y farchnad tai: mae'r nifer o dai a werthwyd yn Asturias wedi codi am y tro cyntaf ers 2008. Mae e nawr yn hanner yr hyn oedd e. Ac mae prisiau yn dal i fod 15% yn is.

Sunday 4 April 2010

Diwedd Ympryd y Grawys

Dros y ffordd inni mae tri thŷ ynghlwm wrth ei gilydd (wel, mae na bedwerydd ond dyw e ddim yn rhan o'r stori yma). Yma mae tair cenhedlaeth o'r un teulu yn byw, mamgu, tad a mam, a dau fab, a gwraig un o'r meibion.
Heddiw, brynhawn Sul y Pasg, roedd hi fel ffair yno. Brodyr y pâr hŷn a'u gwragedd, cefndryd a'u babis, cyfyrder wedi dod o Brwsel â'i deulu ef yn siarad hanner a hanner Sbaeneg a Ffrangeg. Hyd y nawfed ach, fe ddaethon nhw i fwyta cinio traddodiadol y Pasg yn yr ardal yma. Nid cig oen; maen nhw'n bwyta'r rheiny mor ifanc byddai eisiau un i bob person bron.
Mae sawl enw i'r prif blât: bollo preñau, pan preñau, bolla. Ond mae'n nhw'n debyg iawn. Bara, hynny yw, toes wedi ei goginio yn y ffwrn, a'r tu mewn iddo, chorizos (selsig), a darnau o panceta (bacwn).
Yn ystod y Grawys doedd pobol ddim yn bwyta cig o gwbl, felly pan ddaeth y Pasg roedden nhw'n gwerthfawrogi pryd â digon ohono fe. Erbyn heddiw ychydig sy'n ymprydio fel'na, ond mae'r traddodiad yn parhau.
Ac rwy'n dechrau meddwl bod mwy o Asturianos nag erioed yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi dod adre yn lle cymryd gwyliau tramor. Mae'n debyg taw'r sefyllfa economaidd sy'n gyfrifol.

Saturday 3 April 2010

Lle mae'r Gwin yn Dda

Un o'r pethau mwyaf diddorol ynglŷn â byw yma yw'r cyfle i brofi gwin o wahanol rannau o Sbaen. Ychydig iawn iawn o win sy'n cael ei wneud yn Asturias ei hun, ond dros y ffin mae León, talaith enfawr lle mae pob math o rawnwin yn tyfu, a Galicia, bro mebyd yr enwog Albariño.
Mae'r math yma o rawnwin yn cynhyrchu gwin gwyn sych, sy'n mynd yn berffaith gyda bwyd môr neu fel gwydraid ar noswaith hafaidd.
Nid bod y Sbaenwyr yn yfed gwin ar ei ben ei hun. Mae'n rhaid cael rhywbeth bach i fwyta gyda'r diod, boed yn gnau, yn ddarnau bach o gaws neu ham, neu olifau mewn olew, lemwn a sbeis.
Mewn llawer i far ych chi'n dal i gael rhain am ddim, er bod eraill yn codi arian am rywbeth ychydig yn fwy ac yn fwy cymhleth: tapas, neu pintxos, neu raciones (sy'n fwy o faint eto). A dyw pobl ddim yn llyncu'u gwin yn gyflym; mae'n dod mewn mesur llai nag yng Nghymru, tua 125ml buaswn i'n dweud, ond bod neb yn ei fesuro, dim ond ei arllwys.
Maen nhw yn smygu gyda'u gwin hefyd, ac yn cael smygu tu fewn i farau o dan faint penodedig. Ac maen nhw'n siarad nerth eu pennau; mae'n gallu bod yn anodd weithiau ddilyn sgwrs cyflym pan fydd holl sgyrsiau'r ystafell yn bownsio o un wal i'r llall.
Rwy'n gorfod eich gadael chi yn y bar am heddiw - ond dwa'i nôl at y gwin yn y dyfodol agos.

Friday 2 April 2010

Nodyn o'r Ardd - Ebrill 2010

Bach yn gymysg mae pethau ar hyn o bryd - o ran digwyddiadau ac addewid. Mae'r rhan fwyaf o'r coed ffrwythau yn llawn blodau, onibai am yr eirinen, sydd wedi gorffen, a'r afal a'r cwins sydd heb ddangos eu lliwiau eto. Mae'r coed cyll yn addo digonedd o gnau, ond y coed cnau Ffrengig yn hwyr. A mae cymaint o lemwns, rwy'n eu defnyddio nhw at lanhau'r stafell ymolch.
Mae'r chwyn, wrth gwrs, yn hapus iawn â'r tywydd gwlypaidd sydd wedi bod yn drefn ers wythnos nawr.Pan fyddwn ni'n gweld y cwmwl yn suddo i lawr llethrau'r mynydd fel hufen sydd heb ei guro'n ddigonol, ŷn ni'n gwybod na fyddwn ni ddim yn gweld yr haul am sbel. (Mae'r un faint o fynydd y tu ôl i'r cwmwl ag sydd i'w weld o dano fe.)
Does dim pwynt, felly, hau pethau hafaidd: mae gyda ni dŷ gwydr (plastig) bach, ac yno maen nhw'n cael dechrau eu bywydau. Ar hyn o bryd yno mae'r tomatos, letys, ffa mawr, a pherlysiau fel y brenhinllys basil a tharagon. Ac yno maen nhw'n cael aros am dair wythnos i fis.
Hyd yn oed y tu fas, mae pethau'n gymysg. Mae'r wynwns yn tyfu'n hapus, y tato braidd wedi codi sbrigyn.
A nawr mae wedi dechrau bwrw o ddifri.

Thursday 1 April 2010

Peryglon y Picos

Mae'r mynyddoedd yn brydferth; efallai'n fwy prydferth byth o dan garthen o eira Ebrill. Fe dynnwyd y llun yma heddiw wrth gerdded o Sotres, yn Asturias, tua'r de, hyd at Aliva yn Cantabria, ag uchder o 1500m.
Ond ychydig o gilometrau i'r gorllewin, yn dilyn trywydd tebyg gogledd-de, ond yn 500m yn uwch, roedd mynyddwr ar goll. Roedd e wedi dechrau o gaban Urriellu fore ddoe, ac am gerdded i Fuente De. Dywedir ei fod yn ddyn profiadol, ac mae'n rhaid ei fod, neu fyddai'r swyddog yn y caban wedi dweud wrtho am beidio, am gymryd llwybr haws. Roedd y llwybr a gymrodd e yn dal ar gau gan eira ym mis Mehefin pan fuon ni yno.
Erbyn nos, ac yntau heb ffonio yn ôl y trefniant i ddweud ei fod wedi cyrraedd, galwyd ar y gwasanaeth brys. Doedd yr hofrennydd ddim yn gallu hedfan i'r union lle oherwydd y storom, felly cerdded wnaeth y tîm. Wedi saib yn ystod oriau'r tywyllwch, fe ddaethpwyd o hyd iddo tua amser cinio heddiw, yn dioddef o hypothermia ac ar goll yn llwyr.
Cwpl o luniau eraill o'r diwrnod:Nid ryw lun o'r gofod yw hwn, ond llethr lle mae'r eira wedi dadmer ar ochr deheuol pob asen.