Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Thursday 30 September 2010

Diwylliant i Dwristiaid

Heddiw bydd Uvieu/Oviedo, prifddinas Asturias, yn cael gwybod a ydyw wedi mynd drwodd i'r rownd nesaf wrth geisio am y teitl 'Dinas Diwylliant Ewrop' yn 2016.
Mae dinasoedd eraill, efallai'n fwy adnabyddus fel San Sebastian gyda'i gŵyl ffilm, a Malaga gyda'i oriel Picasso, hefyd yn mynd o flaen y dewiswyr yn Madrid.
Mae 'na lot o bethau'n digwydd yn Oviedo, yn enwedig ym myd cerddoriaeth glasurol, ond fyddwn i ddim yn disgwyl ennill yn erbyn rheiny. Ond chwarae teg iddyn nhw, maen nhw'n gweld y cyfle i ehangu'r pethau mae Asturias yn cynnig i ymwelwyr; mae diwylliant, wedi'r cwbl, yn mynd mlaen rownd y flwyddyn ac yn gallu llenwi gwestyau pan fydd teuluoedd y traeth wedi hen fynd adre.  

Wednesday 29 September 2010

Mynd i Forio

Rydym yn dechrau ar daith a allai fod yn hwy na'r disgwyl - fel arfer mae'n cymryd diwrnod a hanner i fynd o't tŷ i weld teulu yng Nghymru, a hynny wrth fynd yn y llong o Santander.
Ond y tro yma rydym yn teithio ar ddiwrnod streic gyffredinol, felly pwy a ŵyr faint gymerith inni gyrraedd y porthladd, heb sôn am ben draw Bae Vizcaya.
Mae'n anodd iawn hefyd gadael yr ardd (a'r traeth!) am bythefnos ond dyna sydd rhaid.
Bydd y blog yn parhau, serch hynny.

Tuesday 28 September 2010

Rhyfeddodau'r Ardd

Heddiw pan es i lan i'r top i hôl ffa Ffrengig i ginio roedd na arogl hyfryd - blodau'r coed oren! Fel arfer mae nhw yn eu hanterth ym mis Mai, a dim ond y coed lemwn sy'n dangos blodau, ffrwythau bach a rhai aeddfed ar y pryd. Ond efallai bod yr orennau'n dysgu wrthyn nhw sut mae goroesi tywydd Asturias a defnyddio pob llygedyn o haul sy'n dod.
Rhyfeddod arall yw'r bwmpen Sisilaidd - y neidr. Mae'r planhigyn yma wedi dringo mewn i goeden cnau Ffrengig drws nesaf, a honno'n goeden weddol ifanc. Doeddwn i ddim yn hoffi ei gweld hi'n gwingo dan faich y squash anferth (dros metr o hyd), felly halais i'r gŵr i ddringo ar eu hôl nhw a thorri nhw lawr.
Dim lluniau eto - dwi ddim yn siŵr beth i wneud am hyn. Symud?

Monday 27 September 2010

Haf Bach Mihangel

Haf bach Mihangel yw hi o ddifri gyda Gŵyl Mihangel Sant yn cael ei dathlu yn Ribadesella a'r tywydd yn dal yn fwyn. Mae sawl 'haf bach' neu veranito i'w cael yma: e.e. haf bach San Martin ym mis Hydref, ac un arall ym mis Mai sydd ddim ynghlwm wrth yr un sant.
Mae'r cnau yn disgyn yn gynnar - ond y ffigys yn aros yn las ac yn galed. Rhaid imi fynd lan i'r ardd mewn munud i hól betys arian, pŷs a phupur ar gyfer cinio heno. Mae'r pupurau'n ardderchog eleni; mae gen i obaith hyd yn oed coginio rhai yn y ffwrn, tynnu'r crwyn a'u cadw mewn jarrau. O'r blaen 'dyn ni erioed wedi'u cael nhw a digon o gnawd arnynt i wneud hynny.
Mae penllanw'r tomatos drosodd, ond maen nhw'n dal i ddod. Bydda'i ceisio gadael nhw ar y gangen cyhyd ag y galla'i, ond os na fydden nhw'n dechrau troi lliw mae gen i dric: casglu nhw mewn blwch, neu ddrôr, gyda banana. Dwi ddim yn gwybod pam, ond mae'n gymorth mawr at gael tomatos coch.  
Mae'n ddrwg gen i am y diffyg lluniau!

Sunday 26 September 2010

Blog di-lun

Blog byr iawn heddiw - yn cwyno am Blogger. Mae google, sy bia fe, wedi newid y ffordd o lanlwytho lluniau. Fedra'i, na llawer un arall, ddim  ychwanegu ein lluniau ein hunain at ein blogs ein hunain.
Rwyf i wrthi yn ceisio cael y peth i weithio!

Saturday 25 September 2010

Wedi Darllen 'Yn ôl i Leifior'?

Swyddog o'r mudiad undebol comiwnyddol yn galw am gymorth i sefydlu busnesau bach. Mae'n swnio'n rhyfedd i rywun sy'n gyfarwydd a'r gyfundrefn yng Nghymru, ond yma mae pethau'n wahanol.
Mae gweithwyr Sbaen yn gallu dewis un o dair undeb genedlaethol: dyw'r undebau ddim yn cynrychioli pobl sy'n gwneud yr un fath o waith, ond pobl sydd yn cefnogi mudiadau gwleidyddol. Oddi fewn, wrth gwrs, mae 'na adrannau ar gyfer glowyr, gweithwyr rheilffordd ac ati. Dim ond ers marwolaeth Franco y mae nhw wedi bod yn gyrff cyfreithlon.
Y fwyaf o lawr yw'r UGT (Undeb Gyffredinol y Gweithwyr), sydd â pherthynas meddyliol gyda'r PSOE (y Blaid Sosialaidd). Wedyn daw'r CC OO (Comisiynau'r Gweithwyr), y 'comiwnyddion', a llawer yn llai y CGT ( Cyd-ffederasiwn Gwaith Cyffredinol), a ddeilliodd o fudiad yr anarchwyr.   
Mae'r cyfan wedi dod at ei gilydd i drefnu'r streic gyffredinol ddydd Mercher nesaf,  felly mae na fwy o gyfarfodydd nag arfer a'r rheiny'n cael mwy o sylw gan y cyfryngau.
Neithiwr, beth bynnag, roedd arweinydd taleithiol y CC OO yn siarad yn lleol, a dyma fyrdwn ei araith:
Bod ardal ddwyreiniol Asturias yn 'cysgu' yn economaidd, yn dibynnu gormod ar arian y llywodraeth (!) a thwristiaeth.
Bod angen diwydiannau newydd - nid ffatrioedd ond cwmniau wedi'u gwreiddio yn y traddodiad amaethyddol, yn cynhyrchu bwydydd safonol, yn ddiwydiannau glân a chynaliadwy.
A doedd e ddim eisie gweld y llywodraeth yn chwarae mwy o ran na datblygu fframwaith (parciau busnes a thrafnidiaeth), ond am weld trigolion yr ardal yn sefydlu ac yn rheoli'r cwmniau newydd.
Beth wedodd e ddim oedd, na all hyn ddigwydd tra bod cymaint o bobl yn ymfudo wedi gadael coleg.

Friday 24 September 2010

Mae'n addo Gwynt a Glaw - a Heulwen

Mae pawb sy'n byw yn y wlad yn cadw llygad ar y tywydd: 'rhy wlyb i balu heddiw, wnewn ni dorri'r gwrych yn lle'. Ac mae'n siŵr bod pawb yn cofio rhyw ddywediad bach gan dadcu neu famgu fel 'os ydych chi'n gallu gweld Iwerddon/penrhyn Gŵyr/y Preseli (yn dibynnu lle roeddech yn byw) yn y bore bydd hi'n bwrw cyn diwedd y dydd.'
Oes yna unrhyw un yn gwybod am draddodiad Cymreig sy'n cysylltu darogan y tywydd gyda seintiau a gwyliau eglwysig? Mae gan y Saeson San Swithin (15 Gorffennaf ), a'r Ffrancwyr St Medard (8 Mehefin) - a'r ddau draddodiad yn gytûn y bydd pa dywydd bynnag, haul neu law, sydd y diwrnod hwnnw yn parhau am 40 diwrnod wedyn.

Yn Sbaen, ac yn boblogaidd iawn yn yr ardal yma, ceir y 'temporas' : cyfres o 3 diwrnod, 4 gwaith y flwyddyn - wythnos gynta'r Grawys, ychydig cyn y Sulgwyn, 3edd wythnos mis Medi ac eto mis Rhagfyr. Mae'r ffordd o weithio mâs yn union pryd maen nhw dipyn yn fwy cymhleth pennu dyddiad Sul y Pasg!
Ond yr un yw'r gred: y bydd y tywydd yn dilyn patrwm 3 diwrnod y temporas tan y rhai nesaf.
Eleni? Clir iawn. Dau ddiwrnod o haul a thymheredd uchel, un diwrnod o law trwm a gwyntoedd cryfion. Hydref cyffredin.

Thursday 23 September 2010

Hela Rhywbeth mwy na Dryw

Wrth gerdded ar hyd y lonydd cefn o gwmpas y pentref y dyddiau yma bydd rhywun yn aml yn dod ar draws car-pob-tirwedd gyda threlar bach caeedig - i gŵn. Mae tymor hela'r anifeiliaid mawr wedi dechrau eto, amser i'r ceirw a'r baeddiaid gwato yn y coed drwy'r dydd.
Rhaid dweud bod cynnydd aruthrol wedi bod ym mhoblogaeth y baedd yn Asturias. Wrth fod ffermwyr yn gadael y tir agored i fynd - am fod llai o wartheg gyda nhw, a hynny am nad yw pris llaeth yn talu am yr holl waith clirio sydd eisie yno - mae'r moch gwyllt wedi ymgartrefu dros ardal ehangach mag o'r blaen. Y tymor hwn yn unig - 3 phenwythnos, i'r rhan fwyaf o'r helwyr - mae 230 ohonyn nhw wedi cael eu lladd. Mae disgwyl y bydd y nifer erbyn diwedd y tymor wedi cyrraedd 2,000.
Mae pob heliwr yn gorfod talu rhyw 600 euro y flwyddyn am drwydded, ac nid pawb sy'n gallu fforddio hynny. Eleni mae'r helwyr 'swyddogol' yn dweud bod mwy a mwy o faglau 'lazo' yn cael eu dodi ar y mynydd. Rhaff cryf iawn yw'r lazo - rhywbeth e.e. fel y cadwyni mae beicwyr modur yn defnyddio i ddiogelu'r beics. Pan fydd anifail yn rhoi troed (neu'i ben) y tu fewn, ac yn tynnu i geisio gael dihangfa, dim ond tynhau'r trap y mae'n gwneud.  Fel arfer bydd yn tagu neu'n gwaedu hyd farwolaeth.
Byw yn y Wlad  - da, te?

Wednesday 22 September 2010

O'r Ardd, ganol Medi

Sifft caled oedd hi yn yr ardd y prynhawn yma - wel o 1200 hanner dydd tan nawr â dweud y gwir. Roeddwn i wedi sylwi bod rhai o'r cwins yn pydru ar y goeden - craith brown yn lledu naill ai o'r pen lle bu'r blodyn neu o'r ochr. Y rhai mwyaf, a mwyaf aeddfed, wrth gwrs.
Felly mâs a fi â'r ysgol i dop y cae a hôl y gweddill. Ar ôl towlu pob un oedd a'r mymryn lleiaf o bydru, roedd gen i 14.5 kilo. Peidied neb â dweud wrthyf i bod angen mwy nag un goeden cwins ar neb (mae dwy gyda ni)!
Maen nhw yn y stafell sbâr yn awr, yn rhannu lle gyda'r cnau Ffrengig cyntaf. Wel, dyn ni ddim yn disgwyl neb i ddod i aros....
Wedyn roedd rhaid symud yr wynwns a'r sialots o'r balconi i'r sied dros y gaeaf. Roedd tipyn ohonyn nhw wedi sbwylo er gwaetha'r safle twym a sych. Roedd eisie'u symud er mwyn i'r ffa gael sychu yno cyn eu bod nhwythau'n mynd i'w llestri cadw. Mae'r squash wedi cyrraedd y balconi hefyd - nid lle i eistedd gyda glased o gin and tonic gyda'r nos yw e.
  Ond o'r balconi roeddwn yn gallu gweld y ffigysbren, a'r ffrwythau cyntaf yn barod yn diferu sudd melys. Maen nhw'n tyfu mewn grwpiau bach, a bydd un bob tro yn chwyddo ac yn melysu cyn y lleill, ac yn eu blaen fesul ffigysen. Oes na rywbeth gwell yr adeg hyn o'r flwyddyn na chodi o'r ford frecwast i bigo ffigysen yn dwym o'r goeden?

Tuesday 21 September 2010

Ieithoedd y Nefoedd

Wrth i'r miloedd o deuluoedd o Sbaenwyr adael Asturias i fynd yn ôl at eu cartrefi ddiwedd Awst, mae rhywun yn sylwi ar faint o ymwelwyr tramor sydd yma. Efallai taw'r un nifer yw e fwy neu lai drwy'r tymor gwyliau, ond yn awr mae'r canran gymaint yn fwy, mae'n disgwyl fel petai 'na lif ohonynt wedi dod o rywle: o Ynysoedd Prydain ac Iwerddon, o Ffrainc a'r Eidal, o'r Almaen a gwlad Belg.
A'r un yw'r gŵyn gan bob un: does yma ddim byd yn ein hiaith ni: bwydlenni, arwyddion llefydd diddorol, ymweliadau â phethau fel Ogof Tito Bustillo. Mae popeth yn uniaith Sbaeneg gyda rhyw dipyn bach o Astwreg. 
Ychydig o bobl ffor hyn sy'n siarad Saesneg: tan yn ddiweddar, Ffrangeg oedd yr ail iaith a ddysgwyd ymhob ysgol. Ond y duedd yw, pan fydd cwmni neu fwyty yn cyfieithu, dyweder, bwydlen, ar gyfer twristiaid, i wneud hynny i'r Saesneg yn unig.
Dyw hyn wrth gwrs ddim wrth fodd llawer o Ffrancwyr, Almaenwyr ayyb, er bod nifer helaeth yn deall rywfaint o Saesneg. A dyw e ddim wrth ein bodd ni chwaith, gorfod gofyn am fwydlen Sbaeneg oherwydd fod y sawl sy'n gweini yn gweld golwg estron arnom ac yn rhoi'r un Saesneg inni.
A byddai clywed gwybodaeth yn Saesneg yn ddim help o gwbl mewn pethau fel yr Ogof: dydy deall lot o wybodaeth ar lafar wrth gerdded drwy'r tywyllwch yn edrych ar bethau rhyfedd yng ngolau fflachlamp ddim yn hawdd ym mha iaith bynnag y bo. Yn yr achos yma, gwell fyddai iddyn nhw drefnu ymweliadau neilltuol ym mhrif ieithoedd Ewrop (dyw ymwelwyr o Asia ddim wedi cyrraed eto).
Os bydd grŵp yn dod (20 sy'n cael mynd i fewn ar y tro), rwy'n cynnig cyfieithu'r wybodaeth i'r Gymraeg!  

Monday 20 September 2010

Mae'r Traeth yn Wag

Cerdded draw i'r pentref nesaf; pasio'r bar ac i lawr y lôn tuag at y traeth. Rownd y gornel olaf: dim ceir!
Cyrraedd y llwybr: neb ar y traeth chwaith!
Dim ond ychydig o wymon a fi. Ryw hanner awr cyn pen llanw. Hanner awr o'r pleser mwyaf yn nofio tua'r Iwerydd ac yn ôl. Yr haul yn fflachio ar wyneb y dŵr, y tonnau bychain yn codi ac yn disgyn, yr awel yn y coed uwchben. Yn od iawn, roedd pŵer yn y môr, pŵer oedd yn fy nhynnu i a'm cario i. Doedd hi ddim fel bod mewn pwll-nofio, ond doedd na ddim tonnau mawr chwaith.
A dyna fel y bydd hi nawr, y traeth yn wag o hyn tan y Pasg, onibai am benwythnos braf iawn.  Dyw'r môr ddim yn dwym, cofia, ond doedd dim eisie dewrder anhygoel i fynd i mewn.
Maen nhw'n dweud ffor hyn bod ymdrochi yn y môr saith gwaith ym mis Medi yn dy gadw rhag annwyd drwy'r gaeaf. Cewch chi wybod cyn Pasg os yw hynny wedi bod yn wir imi.

Sunday 19 September 2010

Anghydfod y Gweithwyr

Mae'r anghydfod yn y byd gweithiol yn parhau, ac os rhywbeth yn ymledu. Heddiw fe ddechreuodd pedair 'gorymdaith ddu' o'r cymoedd glofaol, dwy yn Asturias a'r lleill yn Leon. Bydd y glowyr a'u cefnogwyr o Ibias a Degana yng ngorllewin Asturias yn cerdded i Oviedo/Uvieu, y brifddinas, lle byddan nhw'n cynnal gwrthdystiad o flaen adeilad y Senedd.
Mae llywodraeth Madrid eisoes wedi ysgrifennu at y ddau gwmni sy'n gwrthod talu'r glowyr, gan ddweud wrthyn nhw'n blwmp ac yn blaen bod yn rhaid gwneud hynny ar unwaith, neu talu nôl rhai miliynau o euros a gawsant yn gymorthdaliadau Ewropeaidd drwy law'r llywodraeth Sbeinig.
Ddoe, bu miloedd o aelodau adran o'r heddlu (y Guardia Civil) a'u teuluoedd yn gorymdeithio drwy strydoedd Madrid yn gofyn am wythnos waith fyrrach a mwy o gyflog.
A diwedd y mis yma, mae diwrnod o streic gyffredinol yn cael ei gaddo i wrthwynebu codi oedran ymddeol a newidiadau eraill yn y rheolau ynglŷn â diswyddo gweithwyr.
Mae'r digwyddiadau yma i gyd yn ffordd i bobl ddangos eu teimladau a'u gwrthwynebiad, ond a ydyn nhw'n dda i unrhywbeth mwy na hynny? Efallai ei bod hi'n amser i'r mudiad undebol chwilio am ffyrdd newydd o weithredu er mwyn ennill telerau gwell i'w haelodau (neu i ddiogelu'r hyn sydd gyda nhw'n barod.) 

Saturday 18 September 2010

Cinio Hydref

Ffrwyth ein llafur: cinio hyfryd gyda chyfeillion.
I ddechrau, hummus wedi'i wneud gyda ffa gwyn, gyda pherlysiau o'r ardd. (Unrhyw un yn gwybod beth yw cerfeuil/chervil yn Gymraeg?)
Wedyn, haggis. Wel. roedd eu mab nhw newydd dreulio sbel yng Nghaeredin.
Yna, llysiau wedi'u rhostio: wynwns, pwmpen Sisili (y neidr). berenjena (aubergine). betysen, pupur glas, tomato a garlleg. Mae'r rhain i gyd eisie amser gwahanol i'w coginio'n dda - mwy neu lai yn y drefn yna ond gwell dechrau gyda'r fetysen. Ychydig o gnau pinwydd wedi'u tostio mewn ffrimpan sych a dyna chi.
Ac i orffen: teisen foron, hufen gwsberis a sorbe mafon.
Gwin o'r Bierzo.
Y glaw wedi peidio,  y prynhawn yn hen ddigon twym i eistedd ar y teras a chloncan am oriau.

Friday 17 September 2010

Diflaniad y Forwyn

Stori drist i chi heddiw o'r papur lleol: ar ben Picu Urriellu (y Naranjo de Bulnes i'r byd y tu fâs i Asturias) roedd cerflun o'r Forwyn Fair. Rhywbeth eitha bach, wedi ei wneud yn lleol a'i gario yno gan fynyddwyr o'r ardal. Ac mae wedi diflannu; nid unwaith, ond dwywaith eleni.

Mae hon yn graig sy'n mesuro 500m o uchder: dim ond mynyddwyr profiadol sy'n cyrraedd y brig. Ym mis Mehefin, pan ddiflannodd y Forwyn Fach (la Santina) am y tro cyntaf, fe aed ati i wneud un arall. Wythnos i ddydd Mercher diwethaf, fe gafodd ei chario lan gan dîm o fynyddwyr.
A'r dydd Mercher yma, ddeuddydd yn ôl, fe ddiflannodd eto. Mae mynyddwyr oedd yno'r diwrnod hwnnw yn dweud taw rhwng 1 a 5 o'r gloch y prynhawn y digwyddodd, ac roedden nhw'n synnu nid yn unig bod rhywrai wedi mynd i'w dwyn ganol dydd pan oedd eraill o gwmpas, ond hefyd am eu bod wedi gadael pethau o'u cyfarpar dringo - bolltau metal ac yn y blaen - ar hyd lle.
Dyletswydd mynyddwyr cyfrifol, medden nhw, yw mynd â'ch sbwriel adre.
 Fel mae'n digwydd, dydw i ddim yn berson crefyddol. Ond rwy'n deall ac yn derbyn bod eraill yn. A phetawn i'n ddigon o fynyddwraig i gyrraedd pen Pico Urriellu, fyddwn i ddim yn teimlo bod cerflun bach yn ffordd o wthio crefydd arna'i. Fyddai rhyddid y bobl a ddododd y Forwyn yno ddim yn amharu ar fy rhyddid i. (Byddai'n wahanol petai rhywun yn gorfod dweud ei bader cyn dechrau dringo.)
Ac mae pawb yn nabod ei gilydd ym myd y mynyddwyr, felly siŵr y cawn ni glywed mwy o'r hanes cyn bo hir iawn. 

Thursday 16 September 2010

Ffrwythau'r Hydref: y Cnau

Popeth yn dod yn aeddfed yn gynharach nag arfer eleni: rwyf i wedi bod wrthi drwy'r dydd yn troi tomatos yn saws a mafon yn sorbe. (Sorbe mafon! anhygoel o flasus - anghofia'r hen gyrens duon - tan y flwyddyn nesaf.)
Rhyw fath o hud yn perthyn i goginio - neu baratoi - fel hyn; cael newid rhywbeth ffres yn rhywbeth a blas dyfnach fydd yn para am fisoedd (wel, nid y sorbe.)
Ac mae'r coed cnau i'w gweld yn dod run fath: chawsom ni ddim cnau cyll eleni chwaith oherwydd bod y gwiwerod yn byw'n agosach na ni ac yn well ddringwyr, ond mae ambell i gneuen Ffrengig wedi cwympo o'r goeden yn barod.
Fel hyn maen nhw i fod: y clawr glas o gwmpas y gneuen yn dechrau pydru ac yn agor yng ngwres yr haul. Os bydd gormod o law mae'r clawr yn pydru heb agor, y gneuen yn edrych yn fochaidd a bydd hi ddim yn cadw'n dda. Wedyn bydd gwyntoedd yr hydref yn dod â'r cynhaeaf i lawr a bydd rhaid dodi menig rwber i gasglu'r cnau o'r borfa. Mae'r hyn sydd y tu fewn i'r clawr ac yn aros ar y cnau yn troi dy ddwylo di'n ddu bits.
Yn yr hydref hefyd daw'r castanau. Y Rhufeiniaid ddaeth â'r rhain i Sbaen, e.e. ar safle'r mwynfeydd aur yn Las Médulas yn León mae cannoedd ohonyn nhw, a rhai ohonyn nhw'n hen iawn, os nad cweit yn 1800 o flynyddoedd.
Mae arwyddion ym mhobman yno yn gwahardd ymwelwyr rhag casglu'r cnau: mae'n debyg bod trigolion y pentref wedi llwyddo i gadw'r hawl yma pan drowyd y mynydd yn Safle Treftadaeth Byd gan UNESCO.  Ond mae digon o lefydd eraill yng ngogledd Sbaen lle byddwch yn gweld coed castanwydd wedi eu hangofio yng nghanol yr eithin, a go brin y byddai neb yn eich erlyn am gasglu'r rheiny.  

Wednesday 15 September 2010

Ffordd y Pererinion

Fel y dwedais i o'r blaen mae 2010 yn flwyddyn arbennig ar Lwybr Santiago. Wedi i'r Pab ei phenodi'n 'flwyddyn iago' mae dros gan mil wedi cyrraedd Santiago de Compostela yn barod, heb gyfri'r rhai sydd wedi cyrraedd y mis yma. Ddoe, e.e., fe gyrhaeddodd dros 1,000. Dim ond y rhai sydd wedi cerdded drwy Sbaen ac wedi cael arwyddo'u llyfrynnau sy'n cael eu cyfri. Ond mae llawer o'r bobl sy'n gwneud y daith er mwyn y daith yn unig yn dal i lenwi'r ffurflen i gael y dystysgrif gan yr eglwys Gatholig, fel rhywbeth i'w gofio mae'n debyg.
Pan oeddem ni yn y Bierzo yn ddiweddar, ar brif lwybr Santiago, roedd llety'r pererinion yn dangos arwydd 'llawn' am 7 o'r gloch y nos. A hynny mewn llety lle mae 70 o lefydd a dydych chi ddim yn gallu cadw lle o flaen llaw.
Peth arall oedd yn ein synnu oedd cymaint o'r brif lwybr sydd ar yr heol fawr: nid y draffordd wrth gwrs, ond ffyrdd prysur, gyda ffrwd o bererinion yn cerdded ar y chwith a ffrwd arall ar gefn beic ar y dde. Ond roedd y twydd yn braf a phawb i'w weld yn dechrau'r diwrnod yn hyderus.
Ar ein llwybr llai ni ar hyd yr arfordir mae peth o'r gwaith gerdded ar yr heol, ond digon hefyd ar hyd lonydd cefn. Heb weld unrhyw Gymry'n pasio eleni eto!

Tuesday 14 September 2010

Hen Safle Sanctaidd

Yn ystod y daith i Luarca a'r Bierzo, aethom ni dipyn i'r de o Lugo i ymweld â safle hanesyddol unigryw. Mae pentref bychan Bóveda ar ganol ardal amaethyddol, ar hyd cyfres o lonydd cul ac yna culach. Ond yno mae adeilad sydd yn uno traddodiadau addoli'r Celtiaid, y Rhufeinwyr, a'r Iberwyr diweddarach.
Dyma fwa pedol (fel rhan o adeilad) hynaf y penrhyn Iberaidd. Mae'n siâp sy'n cael ei chysylltu gyda'r Mwriaid, ond fe godwyd hwn ganrifoedd cyn iddyn nhw gyrraedd. Drwyddo mae cael mynediad i lawr isaf teml a fu unwaith yn adeilad deulawr, yn 'nymphaeum' cysegredig i Cibeles, duwies Rufeinig cnydau grawn a mamolaeth.
Mae'r piler hwn, a'r lluniau celfydd o blanhigion ac anifeiliad, yn dod o ganol y traddodiad Rhufeinig. Ond mae yna gerfluniau o ddawnswyr hefyd, na lwyddais i gael llun dderbyniol ohonyn nhw. Mae'n amlwg werth eu gweld bod rhain yn perthyn i oes y 'barbariaid' yn hytrach na Rhufain, pan oedd nifer o lwythau o dras Celtaidd yn y rhan yma o'r byd.
Yng nghanol y llawr mae pwll wedi'i adeiladu o gerrig hirsgwâr, ac mae'r pileri ar bob cornel o'r pwll. 
Ar ôl cwymp Rhufain fe gafodd y teml ei droi'n eglwys Gristnogol gan y Fisigothiaid, ac fe gafodd y llawr uchaf ei ddefnyddio fel eglwys hyd y 18fed ganrif.
Does yno ddim arwydd bod Bóveda wedi bod yn lle pwysig erioed, ond eto mae gyda'r pentref yr adeilad hardd yma: ydy hynny'n awgrymu bod llawer o lefydd tebyg wedi eu colli dros y canrifoedd wrth i grefydd ac arfer y boblogaeth newid?

Os ydych chi am weld y lle, rhaid dilyn yr heolydd bach i'r pentref (dim ond ryw 15km o Lugo), mynd i'r swyddfa wybodaeth a gofyn. Bydd y gofalwr yn dod gyda chi i ddatgloi, ac yn aros nes eich bod chi wedi gweld digon. Mae'r cwbl yn rhad ac am ddim, ac ych chi'n cael tynnu lluniau hefyd, ond heb flash. Mae archaeolegwyr yn dal i weithio ar hanes y deml, felly mae'n bosib y cewch chi fwy o wybodaeth na ches i. 

Monday 13 September 2010

Cwyn y Glowyr

Heddiw mae 4 glowr wedi dechrau streic newyn o flaen pencadlys y cwmni sydd berchen ar eu pyllau. Mae dros hanner cant o'u cymrodyr yn dal o dan ddaear ar ôl dechrau'u protest pythefnos yn ôl. A bu cannoedd o lowyr eraill yn blocio ffyrdd yn Asturias, Palencia a Leon ers dydd Iau diwethaf, gan danio teiars mewn nifer o lefydd ar y draffordd A66. Craidd yr anghydfod yw bod y cwmniau wedi rhoi'r gorau i dalu'u gweithwyr. Maen nhw heb dderbyn cyflog ers mis Gorffennaf.
Dywed y cwmniau na allan nhw fforddio'u talu nhw (er eu bod yn gadael iddyn nhw fynd dan ddaear i weithio!) am nad yw'r cwmniau trydan yn prynu oddi wrthyn nhw: mae glo gwledydd y trydydd byd yn rhatach. Ond dywed y llywodraeth yn Madrid eu bod nhw wedi trosglwyddo iddyn nhw yr arian cymorthdal Ewropeaidd ar gyfer mis Awst, ac nad oes hawl gan y cwmniau'u gadw fe.
Cam arall yn ôl: cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ym mis Gorffennaf ei fod am weld diwedd y cymorthdal yma (ac felly bywyd y pyllau oni fydd y pris yn codi'n annhebygol o uchel) erbyn 2014. Mae llywodraeth Sbaen yn dal i siarad â Brwsel yn ceisio cael newid. Mae llywodraeth Asturias wedi gwrthod derbyn y cynllun, ond wrth gwrs does gyda nhw ddim llais yn y pwyllgorau fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Sunday 12 September 2010

Cynhaeaf Gwin y Bierzo

O Luarca (cofnod ddoe) aethom ymlaen i'r de i ardal y Bierzo yng ngogledd-orllewin talaith Leon. Roedd y cynhaeaf grawnwin newydd ddechrau yno, yn gynt nag arfer oherwydd tywydd twym a gwlyb yr haf .


Tref Cacabelos, rhwng prifddinas y Bierzo, Ponferrada, a Villafranca, yw canolfan y busnes gwin. Ar y llethrau o'i chwmpas mae grawnwin (math lleol iawn, y Mencia, gan fwyaf), ac ynddi mae swyddfeydd a barau blasu llawer i winllannwr.
Dyma rai o'r tîm yn golchi dwylo (a thraed) ar ôl diwrnod o gynaeafu yng ngwinllan Castro Ventosa: y diwrnod y buom ni yno roedden nhw ym maes y chardonnay. Pob dim yn cael ei wneud â llaw o hyd yma, yn rhannol oherwydd y tirwedd a'u caeau bychain, ond hefyd o ddewis: y grêd bod trin grawnwin felly'n dynerach.
Mae gwinoedd y Bierzo wedi dod yn ffasiynol iawn yn Sbaen yn ddiweddar - hyd yn oed y cwmni mawr o Galicia, Martín Codax, sy'n adnabyddus am ei win albariño, wedi prynu gwinllannau yma.
Ystyr y 'castro' yn yr enw, gyda llaw, yw un o'r ceiri yr oedd pobl Oes yr Haearn yn byw ynddyn nhw. Hyd nes dyfodiad y Rhufeiniad, pan gawson nhw'u curo ar faes y gad a'u gorfodi i fyw islaw. Ond mwy am hynny rywdro arall.

Saturday 11 September 2010

Bwyta Langostinos yn Luarca

Diwrnod i'r brenin yn Luarca, porthladd pysgota yng ngorllewin Asturias. Mae'r dref ei hun dipyn yn fwy na Ribadesella, a llawer mwy o bysgotwyr yn gweithio oddi yno.
 Fe fuom ni yn yr amgueddfa i weld mwy am hanes y sgwid anferth, ac yn wir roedd e werth treulio awr neu ddwy'n dysgu amdano ef a'r creaduriaid rhyfedd eraill sy'n byw yn nyfnderoedd y môr. Roedd un tentacl i'w weld. mewn tiwb oedd yn mynd o un ystafell i'r nesaf, dros 14m o hyd.
Mae'r dref yn ganolfan ymwelwyr hefyd, ac eitha' lot yn dal o gwmpas. Cawsom ni bryd o fwyd hyfryd amser cinio
Roedd hi'n ginio 'delfrydol' ar lan y môr: y tywydd yn braf, y ford wrth ymyl y dŵr, y bwyd yn flasus, y bara'n dda, y gwin (o Galicia) yn amheuthun a'r pris yn rhesymol. 

Friday 10 September 2010

Colli Don Quijote - Eto

Wnes i ddarllen yn y papur heddiw bod Terry Gilliam wedi methu - eto - yn ei ymdrech hirhoedlog i ffilmio Don Quijote. Mewn gŵyl ffilm Americanaidd yn Deauville yn Ffrainc, fe gyhoeddodd yr hen 'Python' nad oedd wedi llwyddo i gael yr arian sydd ei angen ar gyfer ei gynllun.
Mae hynny'n golygu na fydd yn gallu dychwelyd at ei hoff brosiect tan tua diwedd 2011, oherwydd y gwaith arall y mae wedi ymgymryd ag ef.
Ond a welsoch erioed y ffilm a wnaed am y methiant cyntaf ddeng mlynedd yn ôl? Mae Lost in La Mancha yn un o'r ffilmiau nwyaf doniol y gellid ei wneud am fethiant trist. Mewn wythnos gwta o ffilmio yn Sbaen fe gawson nhw lifogydd, awyrennau NATO yn hedfan uwchben eu golygfa ganol-oesol, salwch yr anhygoel Jean Rochefort oedd yn chwarae rhan y marchog, a hunllef o stiwdio sain wrth ymyl lein rheilffordd.
Does ond gobeithio y bydd yr arian yn dod o rywle i Terry Gilliam allu ddirwyn y ffilm yma i'w ben naturiol yn y sinema. A hynny cyn bo hir iawn. A'r rheiny sydd heb weld Lost in La Mancha, cerwch i chwilio amdano.

Thursday 9 September 2010

Dyfodol Ribadesella

Yng nghanol prysurdeb a miri dathlu Gŵyl Asturias yn eu tref, mae cannoedd o drigolion Ribadesella (o'r 6000 sy'n byw yma'n barhaol) wedi cymryd awr i fynd i ddarllen y Cynllun Fframwaith newydd sydd yn cael ei baratoi. Mae'n dangos newidiadau mawr o'r hen gynllun, gyda llawer yn llai o dai newydd, a phwyslais ar ddatblygu parc diwydiant wrth y draffordd.

Felly er bod yno le i'r hen ddiwydiannau fel y cychod pysgota, ac wrth gwrs y twristiaeth sy'n cynnal y dref yn ystod yr haf, yr hyn y mae'r cyngor am ei weld yw mwy o bobl yn byw yma drwy'r flwyddyn, a mwy o waith yn y diwydiannau newydd 'glân' , electroneg a chyfrifiaduron.
Roedd y rhan fwyaf aeth i weld y Cynllun yn bobl o'r pentrefi, lle bydd nifer helaeth o gaeau yn awr yn 'edificable' h.y. y gellir adeiladu arnynt. Gyda'r farchnad tai fel y mae hi, dydy hwn ddim yn newyddion da i'r rhain fydd yn gorfod talu mwy yn eu trethu am ddarn o dir sydd wedi bod yn eu meddiant erioed. Ond efallai fod pethau'n dechrau troi: yn y tŷ drws nesaf, sydd bron yn adfail ac a brynwyd fis neu ddau cyn yr argyfwng economaidd, mae dynion yn gweithio heddiw yn symud pridd i wneud mynedfa newydd cyn ail-wneud y tŷ ar gyfer ei werthu.

Wednesday 8 September 2010

Plannu'r Goeden

Diwrnod gŵyl Asturias heddiw, a hefyd un o'r fiestas lleol, yr un sy'n cloi tymor yr haf: la Blanca, ym mhentref Nueva. Dechreuodd neithiwr, gyda'r dynion yn plannu'r goeden - ewcalipt o 41m o hyd.

Maen nhw'n ei chludo drwy'r lonydd cul hyd at sgwâr capel la Blanca, ac yna'n ei chodi gyda nerth braich a fframiau haearn i'w phlannu mewn twll wedi ei baratoi.
Wedyn, mae'n rhaid i un ohonynt ddringo hanner ffordd lan y goeden i dadglymu'r rhaffau:

Mae'r goeden llai yn un a blannwyd gan blant y pentref ddeuddydd yn ôl; maen nhw'n cael eu haddysgu yn y grefft yn ifanc iawn. Mae yna elfen o gystadleuaeth rhwng y pentrefi hefyd: roedd 'hoguera' (yr enw sy'n cael ei roi i'r goeden) Nueva 3m yn fwy nag un Balmori'r mis diwethaf.

Tuesday 7 September 2010

O'r Gegin: Rysait Ffa Ffrengig

Un o'r platiau yr ydych yn ei weld yn aml iawn ar fwydlenni drwy gydol Sbaen yw rhyw fath o 'judias verdes con jamón'. Weithiau mae'n cael ei baratoi gyda darnau bach o facwn, neu o wêr (saim) mochyn. (tocino yn Sbaeneg). Ac wrth fod y ffa Ffrengig diweddaraf yn awr yn dechrau, dyma'r rysait.
I bedwar o bobl bydd angen
500g ffa Ffrengig, wedi torri pen a chwt ac wedi'u berwi (nid hyd at farwolaeth!)
1 wynwnsen fach, wedi'i thorri'n sleisiau main
150g ham neu gig moch, wedi'i dorri'n ddarnau mân
olew
llond llwy ford o bersli

Dodi'r olew i gynhesu mewn ffrimpan.
Ffrio'r wynwnsen nes ei bod yn colli lliw - nid yn mynd yn frown
Dodi'r cig i fewn am ryw 5 munud
Ychwanegu'r ffa am ryw 5 munud arall
Gorffen gyda'r persli, halen a phupur os bydd angen.
Mwynhewch!

Monday 6 September 2010

Gŵyl Asturias

Tamaid i aros pryd. Dechrau fiesta 'gŵyl Asturias' sy'n cael ei dathlu ddydd Mercher. Mae'r dathlu swyddogol yn symud i dref newydd bob blwyddyn, ac eleni mae Ribadesella'n cael y fraint.
Dechreuodd hi fwrw, am y tro cyntaf ers wythnosau, ond doedd hynny ddim yn stopio'r dawnswyr.

Baner Asturias ymhobman wrth gwrs : 'Croes y Fuddugoliaeth' (dros y Mwriaid). Bydd y mawrion yn dod ddydd Mercher, a'r miloedd o bob ran o'r dalaith. Rwy'n credu'r awn ni i'r traeth.

Sunday 5 September 2010

Cadoediad ETA

Siŵr bod llawer un wedi gweld tri chynrychiolydd ETA â bob o fasg euraidd am eu pennau yn cyhoeddi atal tanio. Daw hyn yn sgîl rhai misoedd heb 'weithrediadu arfog' ys dywed eu datganiad, a hefyd ar ôl cyfnod o bwyso gan genedlaetholwyr ar y chwith. Pan ddigwyddodd rhywbeth fel hyn o'r blaen, daeth nifer o ddatganiadau wedyn yn esbonio mwy am benderfyniad ETA - bydd yn rhaid aros i weld a gawn ni rywbeth tebyg y tro yma.
Mae'r adwaith gan y ddwy blaid fawr Sbeinig yr hyn a ddisgwylid: Y Sosialwyr sy'n llywodraethu yn Madrid yn dweud nad yw'n ddigonol ond ar yr un pryd yn dechrau trafodaethau gyda llywodraeth Gwlad y Basg a'r pleidiau yno; y Ceidwadwyr yn rhybuddio taw cam tuag at cael lle yn yr ymgyrch etholiadol lleol y flwyddyn nesaf yw e,  ac yn ail yn dweud nad oes dim ots, am na fydd y wladwriaeth fyth yn atal tanio ar ETA.
Hawdd iawn oedd hala prynhawn ar y traeth heb yn wybod bod y datganiad wedi'i wneud.

Saturday 4 September 2010

Ffrwythau'r Hydref

Ar adegau - ac ar dywydd - fel y mae hi heddiw mae rhywun yn gallu bod yn yr ardd ac anghofio'r holl balu a phlannu a chwynnu. A'r glaw a'r baw.
A gweld dim, ond gemwaith yr ardd yn loyw o'm cwmpas.
Pawb yn cofio mae'n debyg y llinell 'dau lygad disglair fel dwy em'; (ac wedi'i thrawsnewid o 'disglair' i 'du') ond o'm blaen i'r awr hon mae dau ffrwythyn disglair fel dwy ruddem.


Mafon a thomato, tomato a mafon, pa un yw'r cochaf ni wn: y mafon yn dywyllach oherwydd y tipyn glas sydd yn eu lliw. Ydy mafon yn disgleirio? Dim ond pan fyddan nhw'n dal ar y gansen yn erbyn glesni'r dail. Mewn powlen mae'r lliw yn meddalu fel melfed. Ond mae'r tomatos yn disgleirio hyd nes y pwdran.
Llysiau eraill yn gofyn iti eu cyffwrdd nhw: mae'r bwmpen rhyfedd o'r Eidal, y 'neidr' yn dechrau fel coes fach yn dwyn blodyn gwyn. Mae'r goes yr un mor feddal â thu mewn masgl (plisgyn) ffa llydan - neu'n feddalach os rhywbeth.

Friday 3 September 2010

Magu Eirth

Ar ôl llawer i flwyddyn anodd, mae'r arth ar ei fyny. Eleni yn y Cordillera Cantábrica, y mynyddoedd sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin ar hyd yr arfordir, mae wardeniaid wedi cyfri o leiaf  21 o famau-eirth a 43 o genawon. ( y #pethaubychain) 
Mae hyn yn dangos cynnydd yn nifer y mamau ond hefyd cynydd aruthrol yn nifer y toreidi o ddau neu dri chenau. Dyw´r ffigyrau ddim yn bendant, ond wrth eu ffilmio nhw mae´r wardeniaid yn sicr taw dyma´r isafswm o eirth sydd yno.
Does neb yn siŵr beth yn union sy'n digwydd, ond mae'r eirth wedi cael eu gweld mewn ardaloedd lle nad ymddangosodd yr un ers blynyddoedd. Mae'n debyg bod y tywydd da wedi helpu hefyd. Ar hyn o bryd mae'r eirth yn fisi'n bwyta er mwyn goroesi'r gaeaf. Ffrwyth yr escuernacabras, neu pistachia terebintha (turpentine tree yn Saesneg) sydd ar y ford ar ddechrau mis Medi, wedyn y llysi duon bach ac ar ôl hynny daw'r cnau (cyll).
Mae 'na luniau hyfryd o arth a'i chenawon i'w gweld ar flog Naturaleza Cantabrica , sydd wastad yn llawn o bethau da.
Does ond gobeithio bod llai o wenwyn wedi cael ei ledu gan y ffermwyr eleni, ac y bydd y rhan fwyaf o'r newydd-ddyfodiaid yn dod mâs yn iach eto ym mis Ebrill.

Thursday 2 September 2010

Cadw'r Cynnyrch: Sychu

Mae hi bron yn amser sychu ffa. Hynny yw, mae'r 'fabes', y ffa mawr gwyn ar gyfer gwneud fabada a phob math o gawl, yn sychu'n barod:


















A bydd y borlotti (ar y dde) yn barod mewn wythnos. Wedyn byddwn yn eu tynnu nhw, y planhigion hynny  yw, yn gyfan, ac yn dibynnu ar eu sychder nhw, naill ai'n eu gadael ar y balconi (bydd rhaid i'r wynwns symud i'r sied) neu'n eu hagor ar unwaith, eu pwyso a'u dodi mewn jarre at y gaeaf.
Sbel yn ôl wnes i brynu yogur 'cartref' mewn jarre o briddwaith, ac mae'r rheiny'n berffaith ar gyfer cadw ffa. 
Mae'n ddrwg gen i ond dyna fe am heddiw achos bues i bron â thorri top fy mys i bant wrth wneud chutney gellyg felly'n ffaelu teipio'n rhwydd diawn.

Wednesday 1 September 2010

O'r Ardd, ddechrau Medi

Mae ffrwythau a llysiau i'w casglu bob dydd yr amser yma o'r flwyddyn. Tomatos mewn salad neu mewn gazpacho neu wedi'u rhostio - neu wedi'u rhoi i gymdoges. Mafon ar eu pennau'u hunain, neu gyda yogur neu hufen iâ: does dim digon i wneud jam, ond gormod i'w bwyta bob dydd hyd yn oed gyda 4 o bobl yn y tŷ.
Ciwc a phupur a phwmpenni o wahanol fathau (rhyfedd nad oes gair Cymraeg am courgette/squash, ynte?).





Pwmpen o ynys Sisili yw hon sydd wedi dewis dringo i'r ysgawen. 'Serpiente' (y neidr) yw ei enw.
Cyfaill sy'n dod o'r ynys yn dweud y medrwch
chi naill ai ei fwyta fel courgette ifanc
neu fel pwmpen aeddfed.









Mae un gellygen wedi rhoi hynny o ellyg sydd ganddi eleni - tua 5kg, ond mae'r lleill ar ei hôl hi. Ambell i gwins wedi cwympo, ond dydyn nhw ddim yn aeddfed eto.
Pan es i'r farchnad y bore ma na gyd oedd rhaid prynu yn y stondin llysiau oedd orennau, bananas ac afocados. A madarch - mae wedi bod mor sych, dwi heb weld yr un eto.