Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Tuesday, 31 August 2010

Gorffen Haf

Mae mis Awst wedi cwpla haf ardderchog i ddiwydiant twristaidd dwyrain Asturias. Ar hyd yr arfordir ac yn y mynyddoedd, roedd tai llety yn llawn a hyd yn oed y tai bwyta'n cwyno llai eleni: y llynedd eu cri nhw oedd bod pobl yn prynu bwyd mewn siopau ac nid yn eistedd i lawr i gael pryd go iawn.
Heddiw mae popeth yn wahanol. Mae  tymor gwyliau traddodiadol Sbaen yn gorffen gyda dyfodiad mis Medi a dim ond ychydig o ymwelwyr sy'n weddill - onibai am yr tramorwyr, a sdim llawer o'r rheiny beth bynnag. Aeth dim un car dieithr heibio i'r tŷ heddiw.

Iddyn nhw, mae prynhawn hamddenol yr haf wedi diflannu tan flwyddyn nesaf. Ond inni mae'r Guadamia yn aros yr un mor brydferth.

Monday, 30 August 2010

Teithwyr Cyfrwys a Buwch Anarferol

Haul drwy'r dydd heddiw, y gwynt wedi troi ac yn awr yn dod o'r gogledd, ond rywsut heb fod yn oer. Mae'r ardd yn dechrau edrych yn sych eto, ond y rhan fwyaf o bethau'n cadw i fynd. Mafon Medi wedi dechrau - maen nhw gymaint mwy blasus na mafon Mehefin, dwi ddim yn gwybod pam. Dyna beth gewn i bwdin heno, gyda chydig o'r sorbe cyrens duon sydd ar ôl. Mae ffrindiau wedi cyrraedd i aros am bythefnos, yn dod â hanes arall Ryanair: wedi gweld pobl oedd i fod yn hedfan i wlad Pwyl yn cael eu stopio am fod eu bagiau'n rhy fawr, rhy drwm ac ati. Beth wnaethon nhw ond tynnu dillad o'r bagiau a'u gwisgo nhw i gyd. Roedd un fenyw yn sefyll yno, wrthi'n gwisgo'r trydydd pâr o drwser ac yn bwyta banana run pryd. Bachan arall wedi stwffio pacedi o fwyd i fewn i bocedi'i siaced cyn wisgo siaced arall ar ben y cyntaf. A mae hynny i gyd yn dderbyniol, ac yn arbed £35 yr un iddyn nhw.
  Ac i ddilyn y stori fach rhyfedd yna, llun fach rhyfedd. A welsoch chi erioed fuwch â chyrn fel hon, yn troi tuag at lawr?

Sunday, 29 August 2010

Yn Bendramwnwgl ar ôl Hapusrwydd

Un o'r cyfeillion wedi dangos erthygl ar hapusrwydd imi, yn El Pais.  Gwaith athronydd yw e, ac mae'n ymdrin â'r syniad - y paradocs yn wir - bod chwilio am hapusrwydd yn dod â dim ond tristwch yn y pen draw. Yn ôl yr athro German Cano,  mae pobl y gorllewin datblygedig heddiw yn credu bod hapusrwydd ei hun nid yn unig yn hawl ganddynt ond yn ddyletswydd arnynt. Mae'r holl dechnoleg sydd wedi ei datblygu dros y ganrif a hanner ddiwethaf yn gwneud inni feddwl taw'n bai ni yw e os nad ydym yn hapus. Yr argraff mae'n rhoi yw Viagra: os yw'r bilsen fach las yn gwneud y peth yn bosib, ac eto dwyt ti ddim yn cael hwyl arni, beth sy'n bod arnat ti yn bersonol?
Mae e hefyd, yn dyfynnu'r athronydd o Almaenwr Odo Marquard, yn trafod y ddamcaniaeth bod cyfran o dristwch, neu anfodlonrwydd, yn elfen anhepgor o'n bywyd meddyliol/teimladol. Os bydd rhyw newid yn digwydd, ac er da, does neb yn cymryd sylw. Os bydd yn dod â chanlyniadau drwg yn ei sgîl, bydd pawb yn canolbwyntio ar y rheiny. Mae hyn yn arwain at y ffaith ein bod yn chwilio am y nam ym mhob peth a gawn, hyd yn oed pan fydd angen chwydd-wydr, ac efallai'n cael rhyw hapusrwydd rhyfedd wrth ei gael e.

Dw'i ddim yn credu ei fod yn cefnogi'r syniad y dylai pawb fod yn fodlon ar bopeth a pheidio gofyn mwy; dim ond dweud y dylem ni sylweddoli ei bod yn bosib bod yn hapus heb fod popeth yn ein bywyd yn berffaith. Fel y dywed Cano 'ennill inni'n hunain holl brofiadau'r canol, lle nad yw popeth yn ddu-a-gwyn'.

Saturday, 28 August 2010

Ha Ha Hapus

Nôl at feddwl am hapusrwydd. Wedi ystyried pwysicrwydd arian - nid fel ffynhonnell hapusrwydd ond yn hytrach fel rhywbeth sydd yn ein cadw rhag lot o anhapusrwydd. Beth wedyn? Mae iechyd fel y cyfryw yn yr un dosbarth ag arian: dim eisie ymfalchio ynddo, ond afiechyd yn gallu difetha hapusrwydd.
Yn fy marn i y perthynas sydd rhwng pob unigolyn a phobl eraill yw elfen bwysicaf wrth greu teimlad o hapusrwydd. Sdim ots pwy yw'r bobl eraill: yn aelodau o'r teulu, yn gyfeillion, yn gymdogion, yn gyd-weithwyr. Yr hyn sy'n gyffredin yw bod y naill ochr a'r llall yn rhoi yn ogystal â chymryd. Weithiau bydd y cyfnewid yn digwydd dros gyfnod o flynyddoedd: bydd plentyn yn gallu 'rhoi' mwy, mewn llawer ystyr, i'r rhiant wrth i'r ddau fynd yn hŷn.
Mae'n debyg y bydd yr hapusrwydd sy'n dod o berthynas yn cael ei ddwrhau, yn mynd yn llai dwys, wrth i'r nifer o bobl yn y grŵp gynyddu: go brin y byddai rhywun yn cael yr un pleser o weld cyfyrder o'r nawfed ach ag y byddai o weld ei fam. Yn yr un modd mae timau bach o weithwyr, neu cymdogion stryd neu bentref, yn cael hapusrwydd.
Mae'r ddeuoliaeth sydd ynom ni i gyd wrth gwrs yn golygu ein bod yn dyheu weithiau am fod ar ein pennau'n hunain, ar ben mynydd gyda dim ond sŵn y gwynt fel cyfeiliant. Ond mae'n llawer haws dechrau gyda bywyd yn llawn perthnasau a thorri mâs cyfnod inni'n hunain nag yw e i fyw bywyd unig a mynd am gwmni o bryd i'w gilydd.
'L'enfer. c'est les autres'. meddai Sartre, yn beio pobl eraill am ei uffern ef. Nefoedd hefyd, weden i.

Friday, 27 August 2010

Adennydd Newydd Sydd...

...uwch yr hen fynyddoedd hyn.
Mae ceisio dod yn ôl ag anifeiliaid i rywle lle mae'r boblogaeth naturiol wedi diflannu yn waith hir a chaled. Felly mae wedi bod yn y Picos de Europa gyda'r quebrantahuesos, y fwltwr barfog, neu'n llythrennol y malwr esgyrn. Dydyn nhw ddim wedi byw yn y Picos ers hanner canrif a mwy, er bod rhai yn dal i ymweld o'u cartref yn y Pirineos. Yn hedfan 300km i chwilio am fwyd!
Bu gobaith y byddai gwpwl o'r rheiny'n perderfynu ymsefydlu yma yn Asturias, ond yn awr mae'r grŵp sydd am hyrwyddo cadwraeth yr adar prin yma wedi mynd ati'n uniongyrchol i ail-sefydlu poblogaeth. Llai na deufis yn ôl fe ryddhawyd dau gyw - dwy â dweud y gwir oherwydd benywaidd ydynt. I ddechrau roedd pwped pren yn eu bwydo gyda chig ac esgyrn, ond yn barod maen nhw wedi dechrau hedfan ac wedi dysgu dod o hyd i gyrff anifeiliaid. Y gwirfoddolwyr sy'n casglu defaid meirw oddi wrth y bugeiliad ac yn dewid lle i roi nhw fel bod Leoncia a Deva yn debyg o'u cael nhw. 
Hyd yn hyn, popeth yn iawn. Mae ambell i eryr a chudyll coch wedi ymddwyn yn ymosodol tuag atyn nhw, ond maen nhw wedi'u hosgoi a dianc. Ac mae eu perthynas gyda'r adar eraill sy'n bwyta celanedd - mae na ddau fath o fwltwr (dipyn yn llai eu maint) yn y Picos wedi bod yn dda. Wedi'r cyfan mae'r newydd-ddyfodiaid yn bwyta esgyrn, a'r lleill yn cymryd y cig.
Ond. Mae llond gwefan o naturiaethwyr a grwpiau eraill o Asturias yn gwrthwynebu'n ffyrnig. Iddyn nhw, y peth pwysig yw diogelu'r anifeiliaid (a phlanhigion) prin sydd yma'n barod, cyn feddwl am ail-gyflwyno aderyn o rywle arall. Dyfodol y blaidd, y capercaillie (tetrao urogallus cantabricus - rhywun yn gwybod beth fyddai'r enw Cymraeg?) ac yn enwedig yr arth, sy'n eu poeni. Maen nhw'n rhestru nifer o wallau technegol y maen nhw'n eu gweld yn y cynllun ail-gyflwyno, yn bennaf efallai y ffaith bod ffermwyr yn dal i osod gwenwyn ar y mynyddoedd er mwyn lladd bleiddiaid. Mor hawdd fyddai hi i Leoncia neu Deva fwyta un o'r cyrff hynny.
Ond yn y bôn maen nhw'n gwrthwynebu ar sail egwyddor: y bydd yr amgylchedd yn well o geisio cadw a diogelu beth sydd yna o hyd, yn hytrach na cheisio adfer rhywbeth o'r gorffennol.   
Llun i orffen. Heb yr un aderyn.

Thursday, 26 August 2010

Sawr a Blas

ers inni ddod i fyw yma rwyf i wedi defnyddio mwy o berlysiau yn y gegin na erioed o'r blaen, a hynny'n bennaf am eu bod nhw mor hawdd eu tyfu a'u cadw. Mae'r rhan fwyaf yn dod â dail a/neu flodau am 7-8 mis: mae'r hen rosmari yn gwrthod peidio, gan flodeuo drwy gydol misoedd Rhagfyr a Ionawr y llynedd pan oeddwn i eisie dorri nôl arni. Mae'r brenhinllys wrth gwrs yn blanhigyn blynyddol, a'r persli ond yn parhau am ddwy flynedd. Ond mae'r olaf yn egino'n ddidrafferth fel y mynno:
Nid y fi a'i ddododd yn y twll bach yn y graig: y planhigyn ei hunan sydd wrth ei fodd yno. Rwy'n dweud persli yn hytrach na pherllys oherwydd y cymysgwch all ddod o siarad am 'berlysiau' - mwy nag un math o blanhigyn neu 2 blanhigyn persli? Ta beth yw ei enw, bydda'i'n gadael i un neu ddau gyrraedd oed hadau bob haf, a'u siglo'n nhw'n ofalus dros yr ardd perlysiau. (Mae hynny'n swnio fel petase'n lle anferth - ryw 1 metr sgwâr yw e).


Syndod y tymor oedd y saets: mae hwn wedi bod yn yr un lle ers 6 blynedd, a minnau'n ei dorri'n ôl ym mis Medi iddo gael dod eto erbyn y Pasg. Dim sôn am flodau tan eleni, a nawr mae wedi blodeuo ddwywaith. Torrais i'r truan yn ôl i'w hanner ym mis Mehefin, a dyma fe wedi dod yn ôl yn well fyth, er bod rhain yn awr yn dechrau colli lliw.
 Roeddwn i wedi deall taw dim ond 5-6 blynedd y byddai saets yn byw -  aros yr ydym i weld a fydd hwn yn dal yma o hyd pan ddaw'r gwanwyn.

Wednesday, 25 August 2010

Mor Llawen a'r Gog

Mae'r haf yma wedi bod yn dda. Y tywydd yn dwymach nag arfer, a llai o law. Yr ardd yn haws ei thrin bob blwyddyn. Amser da gyda chyfeillion o Gymru. Cyfeillgarwch newydd yn datblygu o gwmpas y pentref.
Sy'n hala fi i feddwl am hapusrwydd. Beth yw'r elfennau angenrheidiol? Ydy'n bosib sylweddoli yn y foment a'r lle dy fod yn hapus? Ydyn ni'n gwastraffu gormod o amser ar yr ymdrech i fod yn hapus?
Yr elfennau i ddechrau. Arian. Mae arian yn gymorth mawr - nid bod eisie bod yn gyfoethog i fod yn hapus, ond bod digon o arian i osgoi poeni am rywle i fyw a rhywbeth i fwydo'r teulu yn hanfodol. Mae'r cyfanswm 'iawn' o arian yn golygu lot llai o boen meddwl.
Ac nid rhywbeth sy'n perthnasol i'r unigolyn yn uniyw hwn: mae sefyllfa economaidd iach yn y gymdeithas yr wyt yn rhan ohoni, yn rhoi'r cyfle iti gael swydd sy'n talu'r arian 'iawn' heb fod yn beryg bywyd nac yn sarhad arnat ti dy hun. 
A faint yw'r arian 'iawn' yma? Mae'n ddigon hawdd cael mesur ar faint fyddai'r isafswm derbyniol. I ni sy'n byw yng ngwledydd datblygedig y gorllewin, nid jyst digon i'n cadw ni rhag y Wyrcws a rhoi sgidie am ein traed. Mae eisie digon i fod yn rhan o'r gymdeithas, i allu defnyddio'r pethau a'r cyfryngau sy'n datblygu o'n hamgylch. Mae eisie mwy o 'stwff' yn awr; ewn ni ddim yn ôl at ddyddiau golchi dillad yn yr afon, mynd i'r farchnad unwaith yr wythnos, rhannu un ffôn ar waelod y stâr: heb sôn am fyw heb y rhyngrwyd.
Faint sy'n ormod, te?  Dechrau meddwl am hyn yr wyf i, ond rhywbeth fel:  os wyt ti'n gallu mynd i siopa a phrynu pethau heb fecso am y pris. Neu: os nad wyt ti'n gwybod faint o arian (incwm a chynilion) sydd gyda ti. Neu ar y llaw arall: os wyt ti'n dechrau meddwl drwy'r amser am dy arian a chymaint mwy sydd gen ti na gan bobl eraill.  
Rwyf i am roi hoe fach i'r hen ymenydd yn awr, ond bydda'i'n dod yn ôl at hwn.