Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Sunday 28 February 2010

Nerth, Grym, Trais

Neithiwr, fe gyrhaeddodd y gwyntoedd cryfion yr oedd pobl y tywydd wedi bod yn darogan ers dyddiau. Gyda'r nos, ni symudodd yr un trên nac awyren yn Asturias, jyst rhag ofn. Ond wedi hyn oll, bach oedd y difrod. Rhan o do ysgol wedi'i chwythu i'r llawr. Cwpl o danau bach ar y mynydd wnaeth ddim parhau'n hir.
Newyddion mawr heddiw yw bod tri arall o 'arweinwyr' ETA, mudiad cenedlaethol milwrol/arfog/eithafol Gwlad y Basg, wedi eu harestio yng ngogledd Ffrainc. Dyna 32 o aelodau honedig o ETA sydd wedi eu cadw yn y ddalfa eleni: un bob yn ail ddiwrnod. Ac mae'n enghraifft arall o'r cydweithio sydd yn awr rhwng Sbaen a Ffrainc; ar un pryd yr oedd celloedd cyfan yn gallu byw am hydoedd yn ardaloedd gwledig Basg de-orllewin Ffrainc.
Mae'r sefyllfa yn un gymhleth yng Ngwlad y Basg ei hun. Nid wyf yn arbenigwr (o bell ffordd), ond yn etholiadau cymunedol 2009, fe gollodd y PNV, y cenedlaetholwyr Basg, reolaeth am y tro cyntaf. Un o'r brif resymau oedd bod y pleidiau cenedlaethol llai, oedd a chysylltiadau (fe'i benderfynwyd gan y llys) ag ETA, wedi eu gwahardd rhag sefyll. Ac roedden nhw wastad wedi rhoi digon o bleidleisiau i'r PNV iddyn nhw ffurfio llywodraeth.
Ac i ddeall pam oedd hynny wedi digwydd, mae'n rhaid cofio bod newid barn mawr wedi dod ar ôl y bomio erchyll yn Madrid ym 2004. Roedd pobl wedi blino ar deroristiaeth, o dramor neu o'r penrhyn Iberaidd. Maen nhw am gael ffordd arall i gyrraedd cytbwysedd rhwng Euskadi a Madrid.

Saturday 27 February 2010

Ymddiheuro!

Rwyf i am ymddiheuro i bawb sydd wedi gweld pethau od yn digwydd gyda'r dyddiadau ar y pyst diweddaraf.
Roeddwn yn gwybod na fyddai amser gyda fi i sgrifennu'r blog yn ystod y tridiau diwethaf, felly dyma fi'n paratoi rhai ymlaen llaw, gan feddwl eu cyhoeddi nhw fesul diwrnod. Ond och! Y dyddiad sy'n ymddangos yw diwrnod cynta'r paratoadau, nid diwrnod y cyhoeddi.
Nawr bod gen i ychydig mwy o amser, rhaid imi chwilio i weld a yw'n bosib newid y drefn.

Tuesday 23 February 2010

Yr Hen a'r Ifanc

Mwy o newyddion ar y protest ynglŷn â chodi oedran ymddeol. Neithiwr yn Oviedo (poblogaeth: 200,000) fe orymdeithiodd 30,000 (amcangyfrif y trefnwyr) yn gofyn am ddileu'r cynlluniau. Nid pobl ar fin riteiro oedden nhw i gyd: roedd y dorf hefyd yn gofyn am godi'r isafswm cyflog i 60% o'r cyflog cyfartal.
Yr undebau a drefnodd y protest, yn erbyn cynlluniau llywodraeth sosialaidd. Neithiwr hefyd roedd y prif weinidog yn Madrid yn esbonio i holl Gomisiynwyr Ewrop ei syniadau e am drywydd fydd yn gallu dod â holl wledydd y gymuned allan o drybini economaidd 'gyda thyfiant cynaliadwy a swyddi o safon uchel'. Sbaen yw llywyddwlad y Comisiwn ar y funud, ac roedd e eisiau cael bendith y comisiynwyr i'w gynlluniau.
Yn anffodus i'r protestwyr mae gweithio hyd at oedran hŷn yn debyg o fod yn rhan o'r cawl. Dydy cynnydd mawr yn yr isafswm cyflog ddim.

Gwres yr Haul (2)

At y ffigyrau: fe gostiodd y system dŵr twym solar sydd gyda ni rhyw €5000.
€300 am bob panel a €3000 am y gronfa glyfar, €200 am gyfnewidydd gwres, a'r gweddill am bibau dŵr, inswleiddio ac ati.
Y canlyniad cyntaf oedd ein bod yn gallu cael gwared â'r hen wresogydd 'immersion' trydan (er ein bod yn dal i'w ddefnyddio fel ail danc dŵr twym). Yr ail oedd ein bod yn gallu diffodd y boeler (sy'n llosgi olew) drwy gydol yr haf (rhyw bedwar mis o'r flwyddyn).
Dros flwyddyn gron, mae pob panel yn cynhyrchu cymaint o ddŵr twym mewn diwrnod ag y byddai 3kWh o drydan. Mwy yn yr haf, wrth gwrs, tua hanner yn y gwanwyn a'r hydref, a rhyw 10% yn y gaeaf. Mewn blwyddyn, cyfanswm o 1000kWh y panel.
Yn gyffredinol, nwy yw'r tanwydd rhataf, olew = nwyx2, trydan = nwyx3.
Rydyn ni wedi gweithio mas y byddai pob panel wedi arbed y gost o'i brynu mewn
5 mlynedd (o'i gymharu â thrydan), 7.5 mlynedd (olew), a 15 mlynedd (nwy).
Rhaid ystyried hefyd wrth gwrs pris y gronfa a'r pibau etc.
O.N. Dros y cyfnod y mae'r system wedi bod yn gweithio (18 mis), mae pris trydan yma wedi cynyddu 10%.

Ffermwyr yn Hel Arian, meddai'r Heliwr

Ddoe roedd hi'n ddadl ymysg pysgotwyr; heddiw mae helwyr Asturias wedi ymosod ar ffermwyr am y ffordd maen nhw'n derbyn iawndal pan fydd difrod i'w anifeiliad neu'u cnydau.
Mae dros 23,000 o helwyr trwyddedig; maen nhw'n mynd allan â gynau i ceisio lladd tyrchod y coed (8400 y llynedd), a gwahanol fathau o geirw (2000), yn ogystal ag adar fel y petris a'r drudw. Fel arfer mae clybiau'r helwyr yn gysylltiedig â darn neilltuol o dir, y 'coto', a mae na cytundebau rhwng y clybiau a'r llywodraeth ynglŷn â sawl anifail sy'n cael ei ladd ac yn y blaen.
Ond, maen nhw'n cael dilyn eu hysglyfaeth dros diroedd amaeth cyfagos, felly wrth gwrs mae difrod yn cael ei wneud.
Yn awr mae'r helwyr yn dweud bod rhai ffermwyr wdi cael ffynhonell newydd o incwm wrth blannu cnydu fel ffa neu 'mais' (india-corn), neu hyd yn oed coed ffrwythau, mewn mannau anaddas yn agos i dir hela. Mae hyn, medden nhw, yn golygu bod tyrchod y coed yn dod i chwilio am fwyd yno. Mae'r cnwd un ai yn methu neu'n cael ei ddinistrio, ac mae'r ffermwr yn hawlio ei iawndal.
Aros i weld be ddywedith y ffermwyr!

Monday 22 February 2010

Dyfodol yr Eog




Mae dadl ynglŷn â rheol newydd ar bysgota am eogiaid wedi cyrraedd y llys. Ddiwedd flwyddyn ddiwethaf, fe gyhoeddodd llywodraeth Asturias y byddai'n rhaid i bysgotwyr ddychwelyd y pysgod y maen nhw'n eu dala i'r afon yn fyw ac iach, yn ystod chwech wythnos cyntaf y tymor pysgota.
Mae hanner y clybiau pysgota wedi derbyn y drefn newydd, ond un o'r mwyaf wedi mynd ati i gael ffordd i'w rhwystro. Ac maen nhw wedi cael rhywbeth: yn ôl y ddeddf, roedd yn rhaid cyhoeddi'r rheolau newydd ddechrau mis Tachwedd 2009. Ac ni wnaed hynny tan y 18fed o Dachwedd!
Mae'r awdurdodau yn dweud eu bod nhw am sicrhau dyfodol y samwn yn afonydd Asturias; mae'r gwrthwynebwyr o'r farn y gallan nhw gynhyrchu digonedd o rai ifanc a'u rhyddhau nhw'n uniongyrchol fel bod nhw'n dod i adnabod eu 'hafon nhw.'

Hefyd rhaid cofio bod arian i'w wneud wrth groesawu ymwelwyr sy'n pysgota.
Cyfan weda'i yw ei bod hi bron yn amhosib prynu eog neu sewin lleol i'w goginio os nad wyt ti'n adnabod y pysgotwr.

Gwres yr Haul (1)

Tua 2 flynedd yn ôl fe benderfynom ni roi system ynni haul i wresogi dŵr y tŷ. Y rheswm pennaf oedd bod gyda ni ddigon o le i 7 o bobl pan fyddai cyfeillion yn dod yn yr haf, ond doedd y system dŵr twym ddim yn gallu darparu cymaint o gawodydd.
Yn awr mae gyda ni 3 phanel ar y to a thanc 300l. Mae hynny'n golygu bod digon i bawb yn ystod yr haf a digon i'r ddau ohonom ni yn ystod y gwanwyn a'r hydref. Mae dal angen bach o help wrth y system olew ar ddyddiau cymylog yn y gaeaf.
Daeth technegydd i ddodi'r paneli ar y to, ond nyni (wel, y gŵr) wneth gynllunio'r system a rhoi'r holl bibau i fewn.
Mae dŵr yn symud rhwng y paneli ac adran allanol y tanc ac yn gwresogi'r dŵr sydd yn y canol, y dŵr sy'n cael ei ddefnyddio. Os bydd y tywydd yn mynd yn rhy oer, ac mewn perygl o rewi mae'r dŵr yn cael ei dynnu o'r paneli yn awtomatig, felly hefyd os bydd y tymheredd yn y tanc yn codi'n rhy uchel ganol haf.
Rydyn ni'n lwcus bod y to yn wynebu ond ychydig graddau i'r gorllewin o'r De. Ond mae paneli sy'n wynebu rhwng De-ddwyrain a De-orllewin ond yn dioddef rhyw 20% o'r gwres sy'n bosib. Un rhifyn arall i chi heddiw: mae angen 30 liter o ddŵr twym i bob unigolyn bob dydd. Mae hynny'n cynnwys yr holl ddŵr sy'n dod o'r tap, e.e. golchi llestri.
Yfory: oedd e werth y drafferth?

Sunday 21 February 2010

Glo? Caled!

Roedd llywydd talaith Asturias yn llawn gobaith heddiw am ddyfodol y diwydiant glo. Mewn cyfarfod i goffáu un o gewri'r mudiad undebol fe ddywedodd y gallai'r cynnyrch lleol, mewn cyfnod economaidd mwy cyffredin, gystadlu â gweddill y byd. Ond rwy'n amau taw edrych yn ôl oedd e, adyw'r bobl sydd wedi ymateb hyd yn hyn ddim yn gytûn ag ef.
Mae llywodraeth Sbaen eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn talu €202miliwn mewn grantiau i'r cwmniau glo eleni mewn budd-daliadau ar gyfer y glo sy'n mynd i gynhyrchu trydan.
Ac mae ambell i bwll glo caled (yn debyg i Gymru, maen nhw yn y gorllewin) yn dal i weithio, fel hwn yn Ventanueva.
Ond mae'n anodd gweld y dyfodol sicr y bu'r llywydd Areces yn siarad amdano pan fo cymaint o lo o bedwar ban byd yn cyrraedd y porthladd Gijón bob wythnos ar gyfer y diwydiant dur: diwydiant sydd heddiw yn nwylo'r Mittal.

Saturday 20 February 2010

Trafferthion Twristaidd

Rhyw chwe mil o bobl sy'n byw yn Ribadesella drwy gydol y flwyddyn. Ond ganol haf, yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst, mae ugain mil yn cysgu, bwyta a chwarae yno, a miloedd mwy yn ymweld am y diwrnod. Dyna pryd mae'r dref yn ennill ei thamaid i'w chadw dros y gaeaf.
Wrth edrych tua'r môr, mae'r hen dref ar y dde a'r miloedd o doeau ar y chwith yn dangos ble mae'r tai haf. Sbaenwyr sy bia nhw bron i gyd, pobl o Madrid, neu o Wlad y Basg, neu hyd yn oed o Andalucia sydd am ddianc pan fydd y tymheredd yn mynd dros 40C.
Yn awr mae cyngor Ribadesella yn ceisio cael mwy o arian gan lywodraeth y dalaith ar gyfer pethau fel heolydd, heddlu a meysydd parcio. Ar yr un pryd mae wedi dechrau ymgyrch i ddenu mwy o ymwelwyr o rannau eraill o Sbaen, gan feddwl bod na ddigon fydd ddim yn teithio dramor ag arian mor dynn.
A mae'n debyg y cewn nhw rywfaint o arian, os nad at yr achosion a enwid: mae craciau mawr wedi ymddangos yn y cei, a mae angen ail-osod y wal ar ei hyd. €2.5 miliwn! Mae'n hanfodol i'r cychod pysgota, wrth gwrs, ond mae hefyd yn rhan o un o'r 'paseos' mwyaf poblogaidd gan yr ymwelwyr. Pan ddaw gwyliau'r Pasg eleni bydd rhaid i'r miloedd fentro i ochr arall yr afon i fynd am dro gyda'r hwyr.

Friday 19 February 2010

Pawb a'i Fys...

Cannoedd o bobl yn cyfrannu i fforwms papurau newydd heddiw am yr ystum a wnaeth y cyn-brif weinidog José María Aznar yn Oviedo ddoe.
Roedd hen gyfaill (neu gi bach) Bush a Blair, yr un a ddanfonodd milwyr Sbaen i Irac ac a geisiodd beio ETA am y bomio erchyll ym Madrid yn 2004, ym mhrifddinas Asturias yn rhoi araith am gyflwr gwael yr economi. Aelodau ieuenctid y blaid geidwadol oedd y gynulleidfa, ac roedden nhw wedi llogi un o stafelloedd darlith y brifysgol. Safai nifer o fyfyrwyr yn ei erbyn, yn galw am iddo wynebu llys am y rhyfel yn Irac. Ac fe drôdd arnyn nhw a gwneud ystum sy'n cael ei alw'n 'peineta' (crib), hynny yw, dangos ei fys yn uchel.
(llun Reuters, a ymddangosodd yn El País, yw hwn)
Yn amlwg doedd e ddim mewn sefyllfa beryglus: does neb o'r protestwyr yn agos ato. Roedd e jyst yn dangos nad oes dim ots ganddo am beth wnaeth nac am beth mae pobl yn meddwl amdano. Yr un hen gân: roeddem ni'n gwneud yr hyn oedd yn iawn.

Thursday 18 February 2010

Dyfal ddropyn dyrr y garreg

Lluniau heddiw: mae gweithredu canrifoedd o ddŵr ar y carreg galch wedi gadael ei ôl. Siapau anhygoel wedi eu creu gan y môr neu'r glaw neu afonydd hir-ddiflanedig.
Mae'r 'drws' crwn yma ar lwybr mynydd Hibeo.

Nid Gaudí sy'n gyfrifol am hwn ond y gwynt a'r glaw. A dyw'r bont naturiol yma ddim yn croesi afon ond culfor bychan yn ymyl Llames.

Wednesday 17 February 2010

Mor Hapus â Chywion mewn Caws

Y testun heddiw yw caws. Roedd yr hen de Gaulle yn enwog am ddweud mor anodd oedd rheoli Ffrainc a'i 246 o wahanol mathau o gaws. Mae Asturias fymryn yn llai na Ffrainc, rhaid cyfaddef, a dim ond rhyw hanner cant o enghreifftiau sydd gyda ni.
Mae caws yn cael ei wneud ym mhob ardal o'r arfordir i'r mynyddoedd, o ymyl Galicia i ffin Cantabria. Mae'r llaeth a ddefnyddir yn dod o wartheg, defaid neu geifr, neu unrhyw gymysgiad o'r tri. Mae un ohonyn nhw, un o'm ffefrynnau i, yn dod o bentref Gamoneu, yn uchel yn y Picos de Europa. Mae'r tri llaeth yn mynd i fewn i hwn, yn dod o anifeiliaid sydd yn pori drwy'r haf ar laswellt y mynydd.Mae'n cael ei fygu am ryw bythefnos dros dân o coed afal, a mae peth glesni ynddo.
Y caws mwyaf adnabyddus, serch hynny, yw'r Cabrales, sydd yn las glas. Mae'n un o'r bwyddydd na y mae'n rhaid ei flasu sawl gwaith cyn cael blas arno, ond wedyn, wow!
Mae'r Cabrales yn cael ei gadw mewn ogofau nes bydd wedi aeddfedu, weithiau mae o laeth buwch yn unig, weithiau cymysgedd.
Mae'r ddau yma ar restr bwydydd lleol y Gymuned Ewropeaidd, a dydyn nhw ddim yn eu gwerthu'n rhad.

Tuesday 16 February 2010

y Dathlu Olaf

Dydd Mawrth Ynyd, y diwrnod olaf cyn y Grawys, y 40 diwrnod o ympryd a rhoi heibio moethau sy'n arwain at y Pasg.
Yn Asturias fel mewn sawl gwlad Gatholig, nid crempog yn unig yw ystyr y diwrnod hwn, ond carnifal - 'antroxu' yn yr iaith Astwreg. Mae hwn yn cael ei gynnal dros 4 neu 5 diwrnod, ac yn gorffen heno gyda gorymdeithiau ymhob tref, llawer o yfed a bwyta, a phobl mewn gwisg ffansi. Efallai byddai rhithwisg yn air gwell, oherwydd mae na hen gymeriadau Antroxu sydd yn ymddangos bob blwyddyn : y zamarrones, sy'n edrych yn filwrol ac yn dawnsio hen ddawns werin; y choqueiros, sydd yn chwistrellu dŵr (neu ffug-eira) ar ben pawb o'u cwmpas, neu'r sidrus, sydd mewn rhai llefydd yn dal i fynd o gwmpas yn gwisgo croen dafad ac yn cyhoeddi'r difyrrwch sydd i ddod.
Mae rhai o ddathliadau'r Antroxu wedi tyfu'n enfawr: yn Avilés, e.e., maen nhw'n llenwi stryd serth ag ewyn i bobl gael llithro i lawr - yn eu gwisgoedd rhyfedd. Ac yn Gijón heno byddan nhw'n darllen ewyllys ac yn claddu.....sardîn enfawr.
Ond yfory bydd cerfluniau'r eglwysi'n cael eu cuddio â lliain porffor, a bydd popeth yn tawelu hyd at Semana Santa a'r Pasg.

Monday 15 February 2010

Nid yw Call yn Gall bob Amser

Roeddwn yn sôn y diwrnod o'r blaen am sefyllfa echrydus yr ieuenctid di-waith yn Asturias, and ac yn gofyn imi'n hunan paham nad oeddynt yn cynnal protestiadau. Heddiw cyhoeddwyd dyddiad protest ym mhrifddinas y dalaith, Oviedo. Ond nid gan yr ifainc.
Wythnos i 'fory, y 23ain o Chwefror, bydd y miloedd (?) yn ymgynnull i ddangos eu gwrthwynebiad i.... cynllun i godi oedran ymddeol i 67.
Mae llywodraeth sosialaidd Sbaen, o dan arweinyddiaeth Zapatero, neu Mr Bean fel mae'r cartŵnwyr yn ei ddangos, yn argymell y newid hwn a nifer o rai eraill oherwydd y crisis economaidd. Mae'n mynd yn bellach na'r cynlluniau sydd ar y gweill ym Mhrydain, yn ôl beth rwy wedi ei ddarllen, oherwydd mae i fod yn dechrau yn 2013. 3 blynedd i fynd! Sdim rhyfedd bod pobl yn eu 50au'n poeni.
Fedra'i ddim gweld. chwaith, sut yn y byd mae cadw pobl hŷn yn eu swyddi am o leiaf ddwy flynedd yn ychwanegol yn mynd i helpu cael gwaith i'r rhai sydd yn ceisio dechrau'u gyrfaoedd.
Mae'n rhywbeth newydd i Zapatero, hefyd. Hyd yn hyn mae e wedi canolbwyntio ar wario arian ar gynlluniau lleol sy'n rhoi gwaith dros dro. Efallai bod rhai ohonoch chi weld gweld yr arwyddion 'PlanE' o gwmpas Sbaen ers ryw flwyddyn, sy'n dangos faint o euros sydd wedi eu gwario ac i wneud beth.
Yn awr mae'n ymddangos nad oedd hynny'n ddigon.

Sunday 14 February 2010

Gaeaf Caled - Newid Hinsawdd?

Mae'r gaeaf yma yn oerach nag arfer drwy gydol Sbaen, gan gynnwys Asturias. Yr wythnos hon mae dynion y tywydd yn darogan mwy o oerfel - a glaw/eira - yn symud o'r De i'r Gogledd. Mae'r De, eleni fel y llynedd, wedi gweld llawer mwy o law, a'r rhan fwyaf yn dod ar ffurf stormydd sydd wedi gwneud niwed i'r cynhaeaf olewydd. (Ond o leiaf fydd y cyrsiau golff ddim yn dioddef, mae'r gwyliau'n saff.)
Yma ar arfordir Asturias mae'r tywydd wastad yn fwy cymhedrol, ond mae'r gwanwyn yn cymryd ei amser.
Ac yn y fforwms lleol mae'r dadlau wedi dechrau: beth a wnelo hyn â'r newid hinsawdd sydd yn poeni gymaint ar lywodraethau'r byd?
Hanner a hanner yw hi ar hyn o bryd rhwng y rhai sy'n dweud bod gaeaf eleni yn eithriad y gellid ei ddisgwyl mewn hanner canrif o gynhesu, ac eraill sydd o'r farn ei fod yn profi nad oes newid hinsawdd yn digwydd o gwbl.
Efalli mewn hannercanrif arall fe gawn wybod pwy oedd yn iawn.

Saturday 13 February 2010

Arth Ursus Oso Osu

Ychydig iawn o eirth sy'n dal i fyw ym mynyddoedd gorllewin (Somiedo) a dwyrain (Picos de Europa) Asturias. Ers 1973 mae'n drosedd eu lladd nhw; cyn hynny roedd helwyr yn dod yma i'w saethu. Ac mae'n anodd iawn cael gwybod faint yn union sydd ar ôl. Mae un amcangyfrif yn sôn am 20 i gyd, ond eraill yn dweud bod y boblogaeth orllewinol yn awr wedi cyrraedd y 30.
Er inni fynd i gerdded yn Somiedo sawl gwaith, yr unig un a welsom erioed yw hwn yn y sŵ lleol, un a gafwyd yn genau bach amddifad.
Ond roedd stori yn y papur ddwy flynedd yn ôl am ymwelwyr a ddaeth o hyd i un tebyg ar lwybr yn Somiedo, felly chi byth yn gwybod.
Llysieuwyr ydyn nhw rhan fwyaf, yn bwyta mês, castanau neu ffrwyth ffawydd - a mel werth gwrs. Mae'r trigolion yn dodi'r cychod gwenyn o fewn gylch o wal heb ddrws, yn ddigon uchel i rwystro arth rhag ei dringo. (Mae'n nhw'n dalach na fi, ar eu deutroed yn gallu cyrraedd 2m).
Mae un grŵp, Fundación Oso de Asturias, yn gofalu am ddwy arthes mewn ardal eitha eang yng nghanol y dalaith, y Valle de Trubia. Cafwyd y rhain hefyd yn amddifaid ifainc, ond erbyn hyn mae un (efallai) ar fin geni cenawon. Fyddwn ni ddim yn gwybod tan ddechrau mis Mawrth pan fydd 'Tola' yn deffro ar ôl cysgu drwy'r gaeaf. A phryd hynny gobeithio cawn ni gyfle i gerdded y llwybr sy'n pasio heibio lle maen nhw'n byw.

Friday 12 February 2010

Gwyrth ar y Mynydd


Nos Fawrth ddiwethaf, roedd cogydd y 'refugio' y lloches wrth droed Pico Urriellu ar ei ben ei hun yno pan gafodd drawiad ar ei galon. Mae'r lle ar agor rownd y flwyddyn, ond ganol wythnos yn nechrau'r Mis Bach doedd dim un dringwr, ac roedd y warden hefyd i ffwrdd. Mae Pico Urriellu, neu'r Naranjo de Bulnes, yn bum can metr o glogwyn, a'r lloches ei hun 2000m i fyny o'r môr..
Rywsut, fe lwyddodd i alw am gymorth ar y radio. Roedd hi'n ganol nos a'r tywydd yn wael. Bu'n rhaid iddo aros 10 awr cyn i'r hofrennydd allu'i gyrraedd.
Da yw cael dweud i fod e yn yr ysbyty, ond yn gwella. Yn ôl y warden, roedd e hyd yn oed wedi gallu cloi'r gegin, tra'n gadael y lloches ei hun ar agor i unrhyw ddringwr oedd ei angen.
Gobeithio ei weld e eto yn cerdded yr holl ffordd i lawr a nôl gyda bwyd ffres ar gyfer cinio.

Thursday 11 February 2010

yr Hafod a'r Hendre


Hyd at ryw 30 mlynedd yn ôl, roedd cannoedd o fugeiliaid a'u teuluoedd yn symud yr anifeiliaid - gwartheg, geifr, ceffylau a defaid - i'r porfeydd uchel ac yn aros yno tan yr hydref, yn byw mewn cabanau cerrig yn agos i ffynnon.
Erbyn hyn mae'n haws teithio ac mae nifer o hen draciau wedi cael y driniaeth concrid fel bod loriau yn gallu cyrraedd y mynydd.
Ond hyd yn oed wedyn mae eisiau gwneud yn siŵr bod y da byw yn pori'r tiroedd sy'n perthyn i dy bentref di, sy'n golygu cerdded yno gyda nhw, ymweliadau wythnosol ar quad, a chi mawr, y 'mastín' i'w cadw rhag y bleiddiaid, yn enwedig yn gynnar yn y tymor.Mae'r gwartheg yn cyd-fyw'n hapus gyda'r bobl sy'n dod i gerdded yn y Picos, on os edrychwch chi'n fanwl ar y llun yma efallai y gwelwch chi bod un fuwch wedi'i hanafu. Roedd hi wedi torri'i choes, ac yn fuan cyrhaeddodd y ffermwr gyda dryll i roi diwedd arni.

Wedyn, yn yr hydref (mae'r Parc Canedlaehol yn pennu'r union ddyddiadau) mynd i'w hôl nhw cyn bod y borfa yn diflannu o dan yr eira tan y flwyddyn nesaf.
Dolen ar y dde i'r parc cenedlaethol.

Tuesday 9 February 2010

Canu Ffarwel

Mae caneuon gwerin Asturias yn llawn 'ffarwel'. Fel ymhob gwlad fach dlawd, mae hanes y crwt sy'n gadael cartref er mwyn gweld y gwledydd pell yn un gyfarwydd.
Ond roedd y ffarwel heddiw i rywun oedd yn dychwelyd i'w gwlad ei hun. Saesnes, merch a ddaeth yma gyda'i phartner yn chwilio am fywyd gwell. Bu pethau'n anodd o'r cychwyn cyntaf. Roedd e'n methu cael gwaith ac yn ei chael hi'n anodd dysgu'r iaith. Cafodd hi - fel merched yn gyffredinol yn fy mhrofiad i- fwy o hwyl ar y Sbaeneg, ac roedd yn barod i gymryd y gwaith oedd ar gael, mewn cafes, ac yn dysgu Saesneg i oedolion. ( Mae mynd mawr ar y dosbarthiadau Saesneg: hyd yn ddiweddar doedd yr iaith fain ddim yn cael ei dysgu mewn ysgolion, yn awr mae'n bolisi swyddogol i'w hybu fe.)
Ar ol 3 neu 4 blynedd, fe roes e'r ffidil yn y tô a mynd yn ôl i Loegr. Doedd eu perthynas nhw ddim yn gallu gwrthsefyll y gwahanu.
Ac yn awr mae hi hefyd yn teimlo mai digon yw digon. Ond dwi'n amau dim na fydd hi'n dod nôl rywbryd, i'r Paradwys Naturiol (fel y mae'r Astwriaid ar wasgar yn ei adnabod).

Os yn Dost yn Asturias

Y bore ma treuliais i awr yn mynd â chyfaill sy'n aros gyda ni i weld y meddyg. Roedd ei lygaid yn waedlyd o goch ac yn boenus. Yn ffodus, mae gyda fe Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd, felly doedd dim rhaid iddo dalu i gael triniaeth. Mae tâl am bresgripsiwn: ychydig dros 2 euro.
(Mae rhai cyffuriau ar gael heb bresgripsiwn, os ydych chi'n hollol siŵr beth sydd ei angen. Maen nhw'n ddrutach wrth gwrs.)
Doeddwn i ddim wedi sylweddoli nad oedd y cardiau ma'n parhau am oes; dim ond rhyw 5 mlynedd a mae'n rhaid cael un newydd.
Yn Sbaen, y peth pwysig yw gwneud yn siŵr bod y meddygfa neu'r ysbyty yr ydych yn mynd iddo yn rhan o gyfundrefn y wladwriaeth. Mae llawer i glinig preifat yma, yn enwedig yn y dinasoedd, a bydd rhain yn codi tâl arnoch chi am bopeth: fydd y Cerdyn ddim yn golygu dim iddyn nhw.
Byddwn i'n cynghori mynd i mewn i fferyllfa a gofyn iddyn nhw lle mae'r 'centro de salud' (canolfan iechyd) agosaf.
Ac os dewch chi i Asturias, gobeithio y bydd y cerdyn yn aros yn llonydd yn eich poced drwy gydol eich ymweliad!

Monday 8 February 2010

los Lunes al Sol

Los Lunes al Sol - Dydd Llun yn yr Heulwen. Ffilm werth ei gweld ddaeth allan ryw 7 mlynedd yn ôl yn dangos sefyllfa'r diwaith ar ôl cae iard llongau. Doedden nhw ddim wedi gweld ei hanner hi.
Erbyn, mae gan Sbaen y ganran fwyaf o ddiweithdra yn holl wledydd y Gyfundrefn Gydweithio a Datblygu Economaidd (yr OECD - fwy neu lai gwledydd y 'gorllewin' diwydiannol). 19.5%. Un o bob 5 person. Nid trachwant a byrbwylltra'r banciau yn unig sydd ar fai; mae'r ffordd maen nhw'n cael eu rheolu yn gwneud hynny'n anos. Chwalfa sydyn y diwydiant adeiladu a gwerthu tai sydd wrth wraidd y broblem.
Yn ystod y blynyddoedd y ffyniant economiadd, fe ruthrodd pobl o bob ran o Ewrop i brynu tai yn Sbaen: rhywle i ddechrau bywyd newydd, rhywle ar gyfer oed ymddeol, neu rywle i fwrw gwyliau.
Roedd y Sbaenwyr yn gwneud yr un peth; yn prynu tŷ yn eu hardal bedydd. Ar un pryd roedd hanner y sment oedd yn cael ei gynhyrchu yn Ewrop yn cael ei ddefnyddio yn Sbaen.
Ac os oes na rywbeth sy'n hawdd gwneud hebddo pan ddaw tro gwael ar fyd, tŷ haf yw hwnnw. Yma yn Asturias mae cannoedd yn wag a channoedd ar eu hanner - a miloedd heb eu dechrau o gwbl. Mae cwmniau mawr wedi mynd i'r wal a'r adeiladwyr bach yn cymryd unrhyw jobyn sy'n dod.
Ond y gwaethaf yma yw beth sy'n digwydd i'r ieuenctid. O'r 30,000 o swyddi a gollwyd yn Asturias y llynedd, roedd 20,000 yn cael eu llenwi gan bobl o dan 35 oed. A mae hynny wrth gwrs heb hyd yn oed ceisio cyfri'r rhai sydd wedi allfudo i rannau eraill o Sbaen, Ewrop neu'r byd.
Er gwaetha'r datganoli gwleidyddol, dyw'r penderfyniadau mawr economaidd ddim yn cael eu gwneud yn Asturias, nac yng Nghymru mae'n debyg. Pam nad oes na fwy o bobl ar y stryd yn dangos eu bod nhw wedi cael digon, bod angen ffordd well o drefnu pethau?

Sunday 7 February 2010

Sul, Mynydd, Niwl

Buom ni am dro yn ardal fwyaf dwyreiniol Asturias heddiw, yn y bryniau uwchben Panes.
Yn anffodus roedd y cymylau'n weddol isel drwy'r dydd, ac er nad oedd hi'n oer doedd dim o'r goleuni sydd ei angen ar gyfer gweld yn bell.
Edrych i'r gorllewin fan hyn ar hyd afon Cares.



Un o bentrefi'r ucheldir yw Mier.
Mae'n anhygoel faint o gilfachau bach sydd ynghanol y
mynyddoedd i ffermwyr ennill yw bywoliaeth.
Ar ôl tynnu'r llun yma, fe benderfynwyd bod y niwl yn ormod,
a lawr â ni i lan yr afon.





O dan y dŵr hynod wyrddlas hwn, mae eog a sewin i'w cael.
Roedd yr unben Franco ei hun arfer dod yma i bysgota.
Mae llai o bysgod yn awr - ond efallai na allwn ni roi'r bai arno
am hynny.
Digon o ddŵr yn byrlymu lawr yr afon heddiw, gyda dechrau'r
toddi eira yn uwch i fyny.




Ac i gloi dyma un o hen bontydd yr ardal; dywedir eu bod yn bontydd Rhufeinig; yn amlwg mae hon yn hen iawn.
El Puente Vieyu yw ei enw yn Astwreg: yr hen bont.

Saturday 6 February 2010

Achos y Guadamía


Wel os daeth newyddion diddorol ddoe, heddiw cawsom ni newydd y mae'r pentrefwyr a'u cefnogwyr wedi bod yn aros amdano ers bron i flwyddyn.
Mae'r Erlynydd Cyhoeddus dros yr Amgylchedd, swyddog o fewn y gyfundrefn gyfreithiol, wedi dechrau achos yn erbyn y bobl sydd wedi cau un o'r hen lwybrau i lawr at y traeth. Mae'n ei achosi nhw o godi wal gerrig anghyfreithlon, gyda rheiliau haearn ar ei ben e, yn ogystal â chreu heol breifat, mewn ardal ar lan môr sy'n cael ei gwarchod o dan y gyfraith.

Mae trigolion y pentref wedi bod yn cwyno hefyd am ddifrod a wnaed gan yr un bobl i wely'r afon, hen goed gwarchodedig sydd wedi eu torri, a'r defnydd o ffrwydron i wneud ffordd newydd ar lan yr afon.


Cawn ni weld faint o flynyddoedd fydd yn rhaid i aros i weld canlyniad yr achos!

Friday 5 February 2010

Traffordd ar y Tonnau

Daeth newyddion heddiw fod llywodraethau Sbaen a Ffrainc wedi arwyddo cytundeb fydd yn cael gwared o rai o'r miliynau o loriau sy'n croesi'r ffin yn Irun yng ngwlad y Basg. Maen nhw'n cyrraedd yno o bob ran o Sbaen i groesi'r Pireneau ar dir (gweddol) gwastad, ac yn teithio yn un rhes hir o Irun i Bordeaux lle mae nifer o draffyrdd yn cwrdd. Deunaw mil ohonyn nhw bob dydd yn ôl y ffigyrau diwethaf, gyda llwythi o bopeth o letys i dyrau anferth tyrbeini gwynt.
Y syniad yw creu 'traffordd y môr' gyda llongau mawr yn cario dim ond loriau yn teithio rhwng porthladdoedd Galicia ac Asturias a gogledd Ffrainc.
Mae heolydd mawr eisoes rhwng e.e. Gijon a de Sbaen i'r cerbydau nwyddau gyrraedd y fferis newydd.
Ond mae na man iddyn nhw gofio taw Bae Vizcaya yw llwybr y llongau. Dyma fel oedd hi heddiw.

Thursday 4 February 2010

Ysgrifennu Therapiwtig

Dyna fydd y blog heddiw. Wedi diwrnod arall fel cardotwyr yn llys y biwrocratiaid, ac yn dal heb gofrestru'r car, rwy'n mynd i roi'r holl beth yng nghefn fy meddwl tan ddiwrnod arall, ac ysgrifennu am bethau sy'n rhoi pleser imi.
Hynny yw, mynyddoedd y fro. Mae'n debyg bod llawer ohonoch chi wedi gweld lluniau'r mawrion, y Picos de Europa, neu efallai wedi cerdded eu llethrau. ond mae'r rhan yma o ogledd Sbaen yn batrwm o gadwynau o fynyddoedd mewn rhesi mwy neu lai dwyrain-gorllewin. Yn dechrau o'r môr, mae nhw'n dringo bob un ychydig yn uwch na'r un blaenorol, hyd nes cyrraedd y Picos. 'Sierra' yw'r enw Sbaeneg, 'llif' am siâp y copâu wedi'u gweld o bellter.
Ond rhaid dweud nad ydyn nhw ddim yn dechrau lle mae'r môr yn cwrdd â'r tir heddiw.
O dan y dŵr mae eraill, mewn rhesi cyffelyb, yn disgyn dros 4,000 metr. Mae gwefan yr ymchwilwyr yn y rhestr Llefydd Diddorol ar y dde.


Hon yw'r sierra nesaf at y môr - dim ond rhyw 5km i gyd .
Mae'r cadwyn yma'n codi i ryw 600m ar y mwyaf; mae'n serth iawn ar yr ochr ogleddol ac yn disgyn yn fwy graddol yr ochr arall cyn codi eto. Yma mae tarddle yr afon fechan sydd yn ffurfio'r traeth agosaf at y tŷ.
Yn ystod misoedd yr haf fe welwch chi wartheg yn pori yno, lle fuasech chi'n meddwl taw dim ond geifr allai gyrraedd.
Niwl y bore sydd yma'n codi o dir gwlyb ar ôl rhai dyddiau o law.

A dyma fel mae'r ail gadwyn yn ymddangos y tu ôl i'r cyntaf. Y Sierra del Cuera yw hwnnw yn y cefndir gydag eira yn dal ar y copâu.
Mae'r mynydd uchaf yno, Peña Blanca, bron yn 1,100m, ac mae dipyn ymhellach o'r môr.
Dim ond wedyn y byddai rhywun yn dod i'r mynyddoedd sy'n arwain at y Picos uchaf.
A dyna lle byddwn ni ddydd Sul, os bydd y tywydd yn weddol.

Wednesday 3 February 2010

Y mae'r Gwanwyn wedi Dod

Neu o leiaf felly mae'n teimlo wrth fwyta'n cinio ar y teras â'r heulwen yn oleuo mynydd sydd wedi bod yn llwyd iawn y dyddiau diwethaf yma. Does dim sŵn peiriannyddol i'w glywed. Pob tractor a llif wedi tewi tra bod ei berchennog yn cymryd ei 'comida' - cinio canol dydd hollbwysig sy'n parhau ryw ddwy awr ar ddiwrnod gwaith.
Dim ond yr adar yn y coed, y clychau am yddfau'r da byw, a gwenynen unig yn profi'r blodau cyntaf ar ochr ddeheuol y mimosa.
Mae hi'n dal yn oerach yng nghysgod y creigiau, ond hyd yn oed yma mae pethau'n dechrau tyfu. Chwyn gan fwyaf, wrth gwrs. Dyna pam maen nhw mor llwyddiannus; yn dechrau'n gynnar, yn bodloni ar bob math o dir a thywydd, ac felly'n ddigon o faint i ddwyn heulwen a glaw y planhigion yr wyt ti am eu gweld, fel bod y rhain yn methu tyfu.
Nodyn byr heddiw oherwydd rwy'n mynd i Oviedo i weld cyfeilles sy'n dost: un o'r pethau ma nad oes neb yn gwybod beth yw e. Rwy wedi casglu hanner dwsin o lemwns a bwnsied o gennin Pedr iddi. Melyn yw lliw'r gwanwyn.

Tuesday 2 February 2010

y mochyn athronyddol

Mae'r cyfuniad o'r ddau arfer newydd sy gyda fi eleni - cerdded am hyn-a-hyn o amser bob dydd ac ysgrifennu blog - yn llythrennol wedi gwneud imi feddwl. Wrth ei throedio hi tua'r clogwyni unwaith yn rhagor mae'r meddwl yn effro i ddatblygu syniadau sydd mae'n debyg wedi bod yn cysgu yno ers sbel.
Ac wrth gwrs yr ydych chi'r darllenwyr yn gallu dweud a yw hynny wedi dwyn ffrwyth sydd werth ei fwyta.
Yr hen bobl, er enghraifft. Roeddwn yn mynd dros y blog yna y bore ma, ac yn meddwl am y bobl sy'n hapus eu byd mewn pentref bach. Ac yn sydyn yn gweld mor debyg yw'r syniad hwnnw i hen gwestiwn Athroniaeth Flwyddyn Gyntaf: ydy hi'n well bod yn fochyn dedwydd neu'n Socrates mewn poen meddwl?
Ar y pryd, roeddwn i gant y cant o blaid Socrates, ond efallai taw mater o oedran oedd hynny. Erbyn hyn rwy'n gweld sawl ffordd o edrych arni. Mae mynd mawr ar arbenigwyr, ar bobl sy'n gwybod popeth am bwnc cul iawn: onid dyna yw'r pentrefwyr, dedwydd neu beidio?
Rwy'n dal i gredu y dylai pawb gael cyfle i ymestyn, i brofi llefydd eraill a dysgu sgiliau newydd. Dyw'r hen ffordd o fyw ddim yn ddigon yn y byd sydd ohoni.
Trychineb ardaloedd gwledig Asturias, fel rhai o bentrefi cefn gwlad Cymru, yw bod cymaint o bobl wedi diflannu am byth, a'r sgiliau newydd gyda nhw.

Monday 1 February 2010

Yma o Hyd

Roeddwn i'n sôn y diwrnod o'r blaen am y ffermwr llaeth olaf yn y pentref. Dylwn i ddweud taw e hefyd oedd y ffermwr llawn-amser olaf, er bod nifer fawr yn dal i weithio'r tir a dal swydd arall.
Mae rhyw ddau gant o bobl wedi'u cofrestru yma, er nad ydyn nhw i gyd yn byw yma drwy'r flwyddyn. Byddwn i'n amcangyfrif bod o leiaf eu chwarter nhw yn bensiynwyr, a'r rhan fwyaf yn bobl effro a phrysur. Fe'u gwelir yn cerdded tua'r cae gyda gafr ar gortyn neu â phladur dros yr ysgwydd.
Pan elwais i heibio tŷ cymdogion y diwrnod o'r blaen, roedd y fam-gu y tu allan yn torri coed tân â bwyell. A mae hi ymhell dros ei phedwar ugain.
Nawr, dwy'i ddim yn ceisio dadlau bod hyn yn sefyllfa ddelfrydol: maen nhw'n gwneud achos bod rhaid i rywun wneud y pethau ma, a rwy'n siŵr bod yn coesau nhw'n dechrau cwyno. Maen nhw'n dod o'r genhedlaeth oedd yn blant yn ystod y Rhyfel Cartref, ac yn ifanc yn ystod y 'dictadura', cyfnod unbennaeth a gormes Franco. Chawson nhw mo'r cyfle lleiaf i newid eu byd tan yn ddiweddarach: ychydig o addysg, gwaharddiad ar deithio tramor, a'r Eglwys Gatholig yn eu cadw yn eu lle (yn enwedig y merched).
Eto i gyd, mae nhw wedi goroesi hynny i gyd. Y bobl yr ydw i'n eu hadnabod heddiw yw'r cryfion. A maen nhw'n dal i gael hapusrwydd mewn pethau cynefin.