Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Tuesday 31 August 2010

Gorffen Haf

Mae mis Awst wedi cwpla haf ardderchog i ddiwydiant twristaidd dwyrain Asturias. Ar hyd yr arfordir ac yn y mynyddoedd, roedd tai llety yn llawn a hyd yn oed y tai bwyta'n cwyno llai eleni: y llynedd eu cri nhw oedd bod pobl yn prynu bwyd mewn siopau ac nid yn eistedd i lawr i gael pryd go iawn.
Heddiw mae popeth yn wahanol. Mae  tymor gwyliau traddodiadol Sbaen yn gorffen gyda dyfodiad mis Medi a dim ond ychydig o ymwelwyr sy'n weddill - onibai am yr tramorwyr, a sdim llawer o'r rheiny beth bynnag. Aeth dim un car dieithr heibio i'r tŷ heddiw.

Iddyn nhw, mae prynhawn hamddenol yr haf wedi diflannu tan flwyddyn nesaf. Ond inni mae'r Guadamia yn aros yr un mor brydferth.

Monday 30 August 2010

Teithwyr Cyfrwys a Buwch Anarferol

Haul drwy'r dydd heddiw, y gwynt wedi troi ac yn awr yn dod o'r gogledd, ond rywsut heb fod yn oer. Mae'r ardd yn dechrau edrych yn sych eto, ond y rhan fwyaf o bethau'n cadw i fynd. Mafon Medi wedi dechrau - maen nhw gymaint mwy blasus na mafon Mehefin, dwi ddim yn gwybod pam. Dyna beth gewn i bwdin heno, gyda chydig o'r sorbe cyrens duon sydd ar ôl. Mae ffrindiau wedi cyrraedd i aros am bythefnos, yn dod â hanes arall Ryanair: wedi gweld pobl oedd i fod yn hedfan i wlad Pwyl yn cael eu stopio am fod eu bagiau'n rhy fawr, rhy drwm ac ati. Beth wnaethon nhw ond tynnu dillad o'r bagiau a'u gwisgo nhw i gyd. Roedd un fenyw yn sefyll yno, wrthi'n gwisgo'r trydydd pâr o drwser ac yn bwyta banana run pryd. Bachan arall wedi stwffio pacedi o fwyd i fewn i bocedi'i siaced cyn wisgo siaced arall ar ben y cyntaf. A mae hynny i gyd yn dderbyniol, ac yn arbed £35 yr un iddyn nhw.
  Ac i ddilyn y stori fach rhyfedd yna, llun fach rhyfedd. A welsoch chi erioed fuwch â chyrn fel hon, yn troi tuag at lawr?

Sunday 29 August 2010

Yn Bendramwnwgl ar ôl Hapusrwydd

Un o'r cyfeillion wedi dangos erthygl ar hapusrwydd imi, yn El Pais.  Gwaith athronydd yw e, ac mae'n ymdrin â'r syniad - y paradocs yn wir - bod chwilio am hapusrwydd yn dod â dim ond tristwch yn y pen draw. Yn ôl yr athro German Cano,  mae pobl y gorllewin datblygedig heddiw yn credu bod hapusrwydd ei hun nid yn unig yn hawl ganddynt ond yn ddyletswydd arnynt. Mae'r holl dechnoleg sydd wedi ei datblygu dros y ganrif a hanner ddiwethaf yn gwneud inni feddwl taw'n bai ni yw e os nad ydym yn hapus. Yr argraff mae'n rhoi yw Viagra: os yw'r bilsen fach las yn gwneud y peth yn bosib, ac eto dwyt ti ddim yn cael hwyl arni, beth sy'n bod arnat ti yn bersonol?
Mae e hefyd, yn dyfynnu'r athronydd o Almaenwr Odo Marquard, yn trafod y ddamcaniaeth bod cyfran o dristwch, neu anfodlonrwydd, yn elfen anhepgor o'n bywyd meddyliol/teimladol. Os bydd rhyw newid yn digwydd, ac er da, does neb yn cymryd sylw. Os bydd yn dod â chanlyniadau drwg yn ei sgîl, bydd pawb yn canolbwyntio ar y rheiny. Mae hyn yn arwain at y ffaith ein bod yn chwilio am y nam ym mhob peth a gawn, hyd yn oed pan fydd angen chwydd-wydr, ac efallai'n cael rhyw hapusrwydd rhyfedd wrth ei gael e.

Dw'i ddim yn credu ei fod yn cefnogi'r syniad y dylai pawb fod yn fodlon ar bopeth a pheidio gofyn mwy; dim ond dweud y dylem ni sylweddoli ei bod yn bosib bod yn hapus heb fod popeth yn ein bywyd yn berffaith. Fel y dywed Cano 'ennill inni'n hunain holl brofiadau'r canol, lle nad yw popeth yn ddu-a-gwyn'.

Saturday 28 August 2010

Ha Ha Hapus

Nôl at feddwl am hapusrwydd. Wedi ystyried pwysicrwydd arian - nid fel ffynhonnell hapusrwydd ond yn hytrach fel rhywbeth sydd yn ein cadw rhag lot o anhapusrwydd. Beth wedyn? Mae iechyd fel y cyfryw yn yr un dosbarth ag arian: dim eisie ymfalchio ynddo, ond afiechyd yn gallu difetha hapusrwydd.
Yn fy marn i y perthynas sydd rhwng pob unigolyn a phobl eraill yw elfen bwysicaf wrth greu teimlad o hapusrwydd. Sdim ots pwy yw'r bobl eraill: yn aelodau o'r teulu, yn gyfeillion, yn gymdogion, yn gyd-weithwyr. Yr hyn sy'n gyffredin yw bod y naill ochr a'r llall yn rhoi yn ogystal â chymryd. Weithiau bydd y cyfnewid yn digwydd dros gyfnod o flynyddoedd: bydd plentyn yn gallu 'rhoi' mwy, mewn llawer ystyr, i'r rhiant wrth i'r ddau fynd yn hŷn.
Mae'n debyg y bydd yr hapusrwydd sy'n dod o berthynas yn cael ei ddwrhau, yn mynd yn llai dwys, wrth i'r nifer o bobl yn y grŵp gynyddu: go brin y byddai rhywun yn cael yr un pleser o weld cyfyrder o'r nawfed ach ag y byddai o weld ei fam. Yn yr un modd mae timau bach o weithwyr, neu cymdogion stryd neu bentref, yn cael hapusrwydd.
Mae'r ddeuoliaeth sydd ynom ni i gyd wrth gwrs yn golygu ein bod yn dyheu weithiau am fod ar ein pennau'n hunain, ar ben mynydd gyda dim ond sŵn y gwynt fel cyfeiliant. Ond mae'n llawer haws dechrau gyda bywyd yn llawn perthnasau a thorri mâs cyfnod inni'n hunain nag yw e i fyw bywyd unig a mynd am gwmni o bryd i'w gilydd.
'L'enfer. c'est les autres'. meddai Sartre, yn beio pobl eraill am ei uffern ef. Nefoedd hefyd, weden i.

Friday 27 August 2010

Adennydd Newydd Sydd...

...uwch yr hen fynyddoedd hyn.
Mae ceisio dod yn ôl ag anifeiliaid i rywle lle mae'r boblogaeth naturiol wedi diflannu yn waith hir a chaled. Felly mae wedi bod yn y Picos de Europa gyda'r quebrantahuesos, y fwltwr barfog, neu'n llythrennol y malwr esgyrn. Dydyn nhw ddim wedi byw yn y Picos ers hanner canrif a mwy, er bod rhai yn dal i ymweld o'u cartref yn y Pirineos. Yn hedfan 300km i chwilio am fwyd!
Bu gobaith y byddai gwpwl o'r rheiny'n perderfynu ymsefydlu yma yn Asturias, ond yn awr mae'r grŵp sydd am hyrwyddo cadwraeth yr adar prin yma wedi mynd ati'n uniongyrchol i ail-sefydlu poblogaeth. Llai na deufis yn ôl fe ryddhawyd dau gyw - dwy â dweud y gwir oherwydd benywaidd ydynt. I ddechrau roedd pwped pren yn eu bwydo gyda chig ac esgyrn, ond yn barod maen nhw wedi dechrau hedfan ac wedi dysgu dod o hyd i gyrff anifeiliaid. Y gwirfoddolwyr sy'n casglu defaid meirw oddi wrth y bugeiliad ac yn dewid lle i roi nhw fel bod Leoncia a Deva yn debyg o'u cael nhw. 
Hyd yn hyn, popeth yn iawn. Mae ambell i eryr a chudyll coch wedi ymddwyn yn ymosodol tuag atyn nhw, ond maen nhw wedi'u hosgoi a dianc. Ac mae eu perthynas gyda'r adar eraill sy'n bwyta celanedd - mae na ddau fath o fwltwr (dipyn yn llai eu maint) yn y Picos wedi bod yn dda. Wedi'r cyfan mae'r newydd-ddyfodiaid yn bwyta esgyrn, a'r lleill yn cymryd y cig.
Ond. Mae llond gwefan o naturiaethwyr a grwpiau eraill o Asturias yn gwrthwynebu'n ffyrnig. Iddyn nhw, y peth pwysig yw diogelu'r anifeiliaid (a phlanhigion) prin sydd yma'n barod, cyn feddwl am ail-gyflwyno aderyn o rywle arall. Dyfodol y blaidd, y capercaillie (tetrao urogallus cantabricus - rhywun yn gwybod beth fyddai'r enw Cymraeg?) ac yn enwedig yr arth, sy'n eu poeni. Maen nhw'n rhestru nifer o wallau technegol y maen nhw'n eu gweld yn y cynllun ail-gyflwyno, yn bennaf efallai y ffaith bod ffermwyr yn dal i osod gwenwyn ar y mynyddoedd er mwyn lladd bleiddiaid. Mor hawdd fyddai hi i Leoncia neu Deva fwyta un o'r cyrff hynny.
Ond yn y bôn maen nhw'n gwrthwynebu ar sail egwyddor: y bydd yr amgylchedd yn well o geisio cadw a diogelu beth sydd yna o hyd, yn hytrach na cheisio adfer rhywbeth o'r gorffennol.   
Llun i orffen. Heb yr un aderyn.

Thursday 26 August 2010

Sawr a Blas

ers inni ddod i fyw yma rwyf i wedi defnyddio mwy o berlysiau yn y gegin na erioed o'r blaen, a hynny'n bennaf am eu bod nhw mor hawdd eu tyfu a'u cadw. Mae'r rhan fwyaf yn dod â dail a/neu flodau am 7-8 mis: mae'r hen rosmari yn gwrthod peidio, gan flodeuo drwy gydol misoedd Rhagfyr a Ionawr y llynedd pan oeddwn i eisie dorri nôl arni. Mae'r brenhinllys wrth gwrs yn blanhigyn blynyddol, a'r persli ond yn parhau am ddwy flynedd. Ond mae'r olaf yn egino'n ddidrafferth fel y mynno:
Nid y fi a'i ddododd yn y twll bach yn y graig: y planhigyn ei hunan sydd wrth ei fodd yno. Rwy'n dweud persli yn hytrach na pherllys oherwydd y cymysgwch all ddod o siarad am 'berlysiau' - mwy nag un math o blanhigyn neu 2 blanhigyn persli? Ta beth yw ei enw, bydda'i'n gadael i un neu ddau gyrraedd oed hadau bob haf, a'u siglo'n nhw'n ofalus dros yr ardd perlysiau. (Mae hynny'n swnio fel petase'n lle anferth - ryw 1 metr sgwâr yw e).


Syndod y tymor oedd y saets: mae hwn wedi bod yn yr un lle ers 6 blynedd, a minnau'n ei dorri'n ôl ym mis Medi iddo gael dod eto erbyn y Pasg. Dim sôn am flodau tan eleni, a nawr mae wedi blodeuo ddwywaith. Torrais i'r truan yn ôl i'w hanner ym mis Mehefin, a dyma fe wedi dod yn ôl yn well fyth, er bod rhain yn awr yn dechrau colli lliw.
 Roeddwn i wedi deall taw dim ond 5-6 blynedd y byddai saets yn byw -  aros yr ydym i weld a fydd hwn yn dal yma o hyd pan ddaw'r gwanwyn.

Wednesday 25 August 2010

Mor Llawen a'r Gog

Mae'r haf yma wedi bod yn dda. Y tywydd yn dwymach nag arfer, a llai o law. Yr ardd yn haws ei thrin bob blwyddyn. Amser da gyda chyfeillion o Gymru. Cyfeillgarwch newydd yn datblygu o gwmpas y pentref.
Sy'n hala fi i feddwl am hapusrwydd. Beth yw'r elfennau angenrheidiol? Ydy'n bosib sylweddoli yn y foment a'r lle dy fod yn hapus? Ydyn ni'n gwastraffu gormod o amser ar yr ymdrech i fod yn hapus?
Yr elfennau i ddechrau. Arian. Mae arian yn gymorth mawr - nid bod eisie bod yn gyfoethog i fod yn hapus, ond bod digon o arian i osgoi poeni am rywle i fyw a rhywbeth i fwydo'r teulu yn hanfodol. Mae'r cyfanswm 'iawn' o arian yn golygu lot llai o boen meddwl.
Ac nid rhywbeth sy'n perthnasol i'r unigolyn yn uniyw hwn: mae sefyllfa economaidd iach yn y gymdeithas yr wyt yn rhan ohoni, yn rhoi'r cyfle iti gael swydd sy'n talu'r arian 'iawn' heb fod yn beryg bywyd nac yn sarhad arnat ti dy hun. 
A faint yw'r arian 'iawn' yma? Mae'n ddigon hawdd cael mesur ar faint fyddai'r isafswm derbyniol. I ni sy'n byw yng ngwledydd datblygedig y gorllewin, nid jyst digon i'n cadw ni rhag y Wyrcws a rhoi sgidie am ein traed. Mae eisie digon i fod yn rhan o'r gymdeithas, i allu defnyddio'r pethau a'r cyfryngau sy'n datblygu o'n hamgylch. Mae eisie mwy o 'stwff' yn awr; ewn ni ddim yn ôl at ddyddiau golchi dillad yn yr afon, mynd i'r farchnad unwaith yr wythnos, rhannu un ffôn ar waelod y stâr: heb sôn am fyw heb y rhyngrwyd.
Faint sy'n ormod, te?  Dechrau meddwl am hyn yr wyf i, ond rhywbeth fel:  os wyt ti'n gallu mynd i siopa a phrynu pethau heb fecso am y pris. Neu: os nad wyt ti'n gwybod faint o arian (incwm a chynilion) sydd gyda ti. Neu ar y llaw arall: os wyt ti'n dechrau meddwl drwy'r amser am dy arian a chymaint mwy sydd gen ti na gan bobl eraill.  
Rwyf i am roi hoe fach i'r hen ymenydd yn awr, ond bydda'i'n dod yn ôl at hwn.

Tuesday 24 August 2010

Pigion Awst

Bydd rhai o bobl tlotaf Asturias yn bwyta'n dda heno a fory. Y bore ma fe stopiwyd lori o'r Alban gan yr heddlu, fel rhan o ymgyrch i brofi cyflwr llwythi o bysgod a bwyd môr a phapurau'u gyrwyr. Mae cyfran helaeth o'r bwyd môr y bydd rhywun yn bwyta fan hyn yn dod o'r Alban ac Iwerddon, ac mae na reolau Ewropeaidd ynglŷn â datgan tarddiad y creaduriaid fel na fyddan nhw'n cael eu gor-bysgota.
Doedd gan y gyrrwr heddiw ddim dogfenni o gwbl i ddrisgrifio'r llwyth - o 2.4 tunnell o fwyd môr. A bod yn fanwl: 180 kilos o gogimwch,  bron i dunnell o grancod mawr,  165 kilos o wichiaid, 250 kilos o gregyn bylchog,  28 o flychau o grancod bach a saith blwch o gimychiaid coch.
Mae'r cwbl wedi mynd i Fanc Fwyd Asturias - gobeithio y byddan nhw'n gwneud profion i weld ei fod yn saff i'w fwyta.
Stori hollol wahanol o Lastres, y pentref lle bu cymaint o gwyno am ddiffyg unrhyw fath o deledu ar ôl i'r analog gael ei ddiffodd. Bob blwyddyn ar gyfer fiesta'r pentref mae'r trigolion yn adeiladu cerflunwaith o beth bynnag sydd wedi eu poeni nhw'r flwyddyn honno. Eleni fe gafodd set deledu anferth ei chludo drwy'r strydoedd - a'i llosgi'n ulw.

Monday 23 August 2010

Camddealltwriaeth Gostus

Mae'r hen ddadl ynglŷn â chodi tâl am achub bywyd yn y mynyddoedd wedi ail-agor yn y Picos de Europa ar ôl i'r timau achub fynd i chwilio am ŵr o Gijon oedd yn cerdded uwchlaw'r llynnoedd, yn ardal Vegarredonda a'r Mirador de Ordiales.
el Refugio de Vegarredonda

 Mae'n daith diwrnod - 7 neu 8 awr weden i - i fynd i'r Mirador ac yn ôl, ac fe benderfynodd aros dros nos yn y cwt (sy'n gwneud bwyd amser cinio hefyd, gyda llaw). Gadawodd neges i'r teulu, a bant ag e i'r gwely am noson dda o gwsg. 
Ond fe fethodd y teulu â deall ei neges, a chael ar ddeall ei fod ar goll ar y mynydd. Am 1100 y nos, dyma nhw'n galw'r Gwasanaethau Brys.  Doedd yr hofrennydd ddim yn gallu hedfan o achos y niwl, ond bu tîm o bobl yn chwilio amdano drwy'r nos. Yn y diwedd fe gwrddon nhw ag ef wrth iddo gyrraedd yn ôl i'w gar, heb yn wybod ei fod e wedi bod yn achos chwilio mawr.
Ac er nad oedd y dyn ei hun yn gyfrifol am y camgymeriad, mae'r cwestiwn o godi tal yn dipyn o bwnc llosg yma.
Mae'r ddwy ochr i'r ddadl yn mynd fel hyn:
o blaid codi tâl: mae mwy a mwy o bobl yn mentro i'r mynydd yn ddi-brofiad ac yn ddi-yswiriant. Pam ddylwn ni dalu am eu ffolineb nhw?
yn erbyn: mae'r timau achub (yn Asturias) yn cael arian o'n trethi ni gyd (er bod gwirfoddolwyr hefyd yn chwarae rhan). Maen nhw'n gwneud gwaith pwysig e.e. yn achub pobl o lifogydd neu ddamweiniau eraill, nid dim ond ar y mynydd.  Addysgu'r cerddwyr gleision sydd eisiau, nid dweud wrthyn nhw am gadw draw.

Sunday 22 August 2010

Ji Ceffyl Bach

Ar un o ddyddiau twymaf yr haf ymgasglodd cannoedd o bobl mewn llecyn ar fynyddoedd y Sueve i ddathlu gŵyl yr Asturcon. Mae'r ceffylau yma yn byw ar y mynydd ac yn hanner gwyllt. Maen nhw hefyd yn rhyfeddol o debyg i lun y ceffyl sydd yn ogof Tito Bustillo, llun a gafodd ei beintio ryw 15,000 mlynedd yn ôl. 364 diwrnod o'r flwyddyn mae Espineres yn lle da i fynd i gerdded heb gwrdd â neb.
  Ond am un diwrnod, tua diwedd mis Awst, mae byd yr Asturcon yn ymsefydlu yno. Rhaid ethol y Prif Fugail o blith y rhai sy'n cadw ceffylau ar y Sueve, cyfri'r anifeiliaid, a chynnal cystadleuaeth dofi. Eleni fe gafodd un llanc ei anafu'n ddifrifol pan giciwyd ef yn ei ben ar ôl cael ei daro i'r llawr. Ond fe lwyddodd boi arall i gael ei hunan ar gefn ei geffyl: roedd hynny'n ddigon i ennill. Gellwch chi weld fideo o'r dathlu a'r gystadleuaeth fan hyn  ar wefan un o bapurau newydd Asturias.

Saturday 21 August 2010

Trên i'r Topiau

Dros ganrif yn ôl, ym 1908, fe agorwyd rheilffordd yr holl ffordd o dref Arriondas lan dyffryn Sella i Cangas de Onis, ac yna i eglwys Covadonga ac ymhellach i'r gweithiau mwyn yn Comeya y Buferrara.  Prif bwrpas y lein oedd cario 'manganese' i lawr o'r mynyddoedd ar gyfer diwydiannau canol Asturias, ond yn fuan wedyn fe ddechreuwyd mynd â theithwyr hefyd, trigolion pentrefi'r ardal ynghyd ag ymwelwyr ar eu ffordd i'r eglwys, un o safleoedd mwyaf pwysig hanes Asturias.

Comeya heddiw
 Bryd hynny wrth gwrs doedd yr heolydd yn ddim mwy na llwybrau cerrig a mwd, ac roedd teithio mewn trên dipyn yn hwylusach. Daeth yr ymweliad â'r eglwys yn boblogaidd iawn, ac yn ystod 20au'r ganrif honno roedd cynlluniau ar y gweill i drydaneiddio'r lein ac i redeg gwasanaethau uniongyrchol o ddinasoedd fel Bilbao, dros 200km i ffwrdd. Mae lluniau o'r hen drenau i'w gweld yma:
Ond ym 1933 fe gaewyd gloddfa'r Buferrera, yn ymyl y Llynnoedd, ac yn ystod y 15 mlynedd nesaf, drwy ryfel a chyfnod unbeniaeth Franco, dirywio'n raddol wnaeth y wasanaeth nes ei chau'n gyfangwbl ym 1944. Byth ers hynny mae galwadau wedi dod i ail-osod lein Covadonga: mae'n debyg na eith hi fyth lan i'r Llynnoedd eto oherwydd rheolau'r Parc Cenedlaethol.
Bum mlynedd yn ôl, yn 2005, dyma gyhoeddi cynllun arall ar gyfer tram fyddai'n cario ymwelwyr o'r meysydd parcio yn y dyffryn hyd at Covadonga. Fe dalodd llywodraeth Asturias 3 miliwn o euros ar gyfer y tir i godi gorsaf - a na fe. Does dim byd wedi digwydd ers hynny. A phan ddaeth y gweinidog amgylchedd i'r ardal yn ddiweddar, na gyd ddywedodd e oedd bod yn rhaid archwilio'r cynllun. Ar ôl 5 mlynedd. A 3 miliwn o euros o leiaf.
Beth sy'n digwydd ar hyn o bryd yw bod yr heol ar gau i geir yn ystod yr haf, a phawb yn gorfod talu i fynd mewn bws naill ai i Covadonga neu i'r llynnoedd. Tybed a welwn ni drên - neu dram - eto ?

Friday 20 August 2010

Trafferth gyda'r Traffig

Rŷn ni'n ffodus iawn yn gallu cerdded o'r tŷ i'r traeth mewn 20 munud. Ond yn awr gydag Awst yn tynnu at ei derfyn ŷn ni'n gweld yn eglurach nag erioed y problemau y mae ymwelwyr mewn ceir yn dioddef - neu'n achosi.
Mae'r rhan yma o Asturias yn lle delfrydol i fwrw gwyliau'r haf, yn enwedig i drigolion canol Sbaen, y 'meseta', sydd angen dianc rhag y gwres a'r llwch. A phan fo arian yn brin, pa wyliau sy'n rhatach na theulu cyfan, mewn car, yn mynd i wersylla? Maen nhw'n cyrraedd Asturias ar draffordd, maen nhw hyd yn oed yn gallu cyrraedd yr ardal y maen nhw wedi'i dewis ar draffordd, ond wedyn.....heolydd cul a throellog sydd yma rhwng y draffordd a'r môr (neu'r mynydd), llwybrau sy'n dal i gael eu dilyn gan dractorau a da byw, heb sôn am y pererinion ar eu ffordd i Santiago de Compostela. 
Maen nhw'n mynd ar goll. Yn eistedd mewn rhes hir yn ceisio mynd i fewn i dref fach i brynu bwyd. Yn ymladd gydag ymwelwyr eraill am le i barcio (yn y dref neu wrth y traeth). Hynny yw, dydyn nhw ddim yn cael y gorffwys na'r hedd y buont yn chwilio amdanynt. Ac efallai, flwyddyn nesaf, mai dyna'r pethau fydd yn aros yn y côf: a na, fyddan nhw ddim yn dychwelyd.
Mae dwyrain Asturias yn dibynnu ar dwristiaeth. Ni all amaeth na choedwigaeth na physgota ein cadw ni i gyd. Ac mae'r trafnidiaeth gyhoeddus yn anobeithiol, o ran cysylltiadau a chyflymdra: bydd pobl yn gyrru yma neu fyddan nhw'n gyrru i rywle arall.
Beth sydd ei angen yw strategaeth newydd i ddenu pobl rownd y flwyddyn i brofi'r hyn sydd orau yma: byd natur, bwyd a diod, tywydd mwyn a hanes. Ac yna i ddarparu meysydd parcio, bysus bach ac ati (fel maen nhw wedi dechrau gwneud, ond dim ond fel ateb i broblemau unigol, nid fel strategaeth). Ac os nad yw'r llywodraeth daleithiol yn datblygu cynllun tebyg, fe fydd llai o arian yn dod i fewn i Asturias o rannau eraill o Sbaen ac o dramor. Gwario nawr ac ennill wedyn,  meddwn i.

Thursday 19 August 2010

Cornel y Cewri

Reit, rwy'n gwybod lle dwi eisie mynd y tro nesa bydd hi'n bwrw glaw/bydd gyda ni bobl yn aros!
Arddangosfa newydd - amgueddfa newydd â dweud y gwir - yn Luarca yng ngorllewin Asturias sydd yn gartref i 'calamares gigantes'. (Scwid anferth).
Dimd ond yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi dechrau astudio'r creaduriaid yma o ddifri; yn barod mae ymchwilwyr Ecomarg wedi dod o hyd i ddwy rywogaeth hollol newydd yn ardal 'El Cachucho' - hafn dwfn a mynydd o dan y môr ychydig i'r gogledd o Asturias. Ac o bryd i'w gilydd mae pysgotwyr yn dal un - yn farw - yn eu rhwydi. Rhai o'r rhain sydd yn cael eu harddangos yn Luarca, ar ôl cyfnod hir o ddysgu sut i'w cadw nhw heb bydru. Mae'r mwyaf 14m o hyd.
Unwaith, tua blwyddyn yn ôl, fe ddaeth un i'r wyneb yn fyw, yn agos iawn i'r arfordir, ac fe lwyddodd rhywun mewn kayak dynnu llun y llygad. Does na ddim sôn bod y llun yma wedi'i gyhoeddi, ond wrth gwrs mae 'na fideo ar youtube sy'n dangos un ohonyn nhw'n ymosod ar gamera tanfor.
Rheswm arall i fod yn falch nad wyt ti ddim yn bysgodyn.

Wednesday 18 August 2010

Cadw'r Cynnyrch 2

Fan hyn ar arfordir Asturias yr ydym ni mewn lle da ar gyfer cadw rhai o'r llysiau-gwreiddiau yn y ddaear nes bod hi'n amser eu bwyta nhw, oherwydd yn anaml iawn y cawn ni dymheredd yn is na 0 gradd C. Mae panas a moron, e.e., yn hapus ddigon yn y pridd. Rŷn ni wedi gwneud profion gyda'r moron, yn eu tynnu nhw a'u cadw mewn tywod, ond mynd yn rwberaidd wnaethon nhw, a hyd yn oed yn anos i'w bwyta nag oedden nhw i'w glanhau.
Yn ôl deunydd defnyddiol iawn CALU,  y Ganolfan Defnydd Tir Amgen ym Mhrifysgol Bangor,  os oes rhaid tynnu moron dylid eu cadw mewn tymheredd rhwng 1-2 gradd.
Mae tato, ar y llaw arall, angen tymheredd rhwng 5-10 gradd. Hynny yw, ar ôl ichi eu gadael mas yn yr haul am ddiwrnod neu ddau. Y peth pwysig iddyn nhw wedyn yw DIM GOLAU O GWBL, er mwyn osgoi'r smotiau gwyrdd gwenwynig. Ac yn wahanol eto i'r rhan fwyaf o bethau, sdim ots os byddan nhw'n cyffwrdd yn ei gilydd, cyhyd â'u bod nhw mewn sach 'hessian' hen-ffasiwn neu sach bapur.
A'r peth allweddol, gydag unrhyw lysiau sy'n cael eu storio, yw cadw golwg arnyn nhw. Fe fydd rhai yn pydru, sdim dwywaith amdani. Mae'n werth mynd drwy'r cwbl ar ôl ryw fis, a chwpl o weithiau eto yn ystod y gaeaf.

Mae pethau eraill yn yr ardd heblaw llysiau: dyma'r agapanthus a'r phormium, gyda lafant o'u blaenau a mimosa a choed afalau a chnau Ffrengig tu ôl.
Nesa: sychu.

Tuesday 17 August 2010

Anhawster Croesi Pont

Arwydd o'r 'crisis' neu dweud hi fel y mae? Ar ôl i lawer llais ddechrau cwyno am y toriadau i'r gwaith ar gwpla traffordd yr arfordir, mae'r llywodraeth (yn Madrid) wedi cymryd cam yn ôl: bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen ar yr amserlen bresennol. Ond och, heddiw fe gyhoeddodd y llywodraeth (yn Uvieu/Oviedo) yn bendant na fyddan nhw'n codi pont newydd dros afon Sella yn Ribadesella.

Mae'r broblem yn amlwg: hen bont gul, un lôn i bob cyfeiriad yw hi, a'r palmentydd yn gul ofnadwy: does ond lle i ddau berson fynd heibio i'w gilydd os bydd y ddau'n weddol denau. Yn ystod y gaeaf, a'r rhan fwyaf o'r gwanwyn a'r hydref, mae popeth yn iawn. Ond yn ystod yr haf, a'r wythnos cyn y Pasg, mae'n amhosib.
Mae hefyd wedi dioddef eleni oherwydd y llifogydd: pwysau'r dŵr ei hun, a'r coed a phethau eraill a gafodd eu hysgubo i lawr yr afon.
Tan ryw 5 mlynedd yn ôl, roedd y bont yn rhan o heol fawr bwysig yn mynd ar hyd yr arfordir i Gijón,  ac ymlaen i Galicia. Ond ers i'r rhan yma o'r draffordd agor, heol gyffredin yw hi, a dywed Oviedo taw cyfrifoldeb Ribadesella yw hi. Mae'n debyg y rhôn nhw rywbeth at ei thrwsio, ond dyna'r cwbl. 

Monday 16 August 2010

Cadw Cynnyrch yr Ardd dros y Gaeaf

Un o'r 'gwyddorau' yr wyf i a llawer un arall mae'n debyg wedi eu colli yw hyn: sut i gadw'n fwytadwy dros y gaeaf y llysiau sydd wedi tyfu yn ein gerddi drwy'r haf. Hyd yn oed pan oeddwn i'n ferch fach, doeddem ni fel teulu ddim yn tyfu pethau fel tato na wynwns - dim ond pŷs a cinebêns a letys oedd yn diflannu'n syth wedi eu casglu. Felly dysgu wrth fynd ymlaen yr ydym.
Mae'r ffrwythau'n hawdd eu trin: eu rhewi, eu troi'n hufen iâ, neu ychwanegu at y rhesi o jarrau jam a chutni lawr llawr. Tomatos: run peth. Ond nid mewn hufen iâ....erbyn meddwl efallai buasai sorbe yn gweithio'n iawn.
Rwyf i hefyd yn rhewi ffa Ffrengig, pupurod (mewn stribedi) a phlatiau fel 'ratatouille' wedi'u coginio.
Mae cennin yn tyfu rownd y rîl fan hyn, felly does dim ond rhaid tynnu'r rhai sydd ar fin dod â blodau, a'u dodi nhw nôl yn y ddaear i gadw am wythnos neu ddwy os bydd rhaid.  
Rwy'n gadael yr wynwns (30kg eleni) ar y balconi sy'n wynebu'r de am chwech wythnos. Mynd i brofi nhw bob hyn a hyn, achos mae un neu ddwy wastod yn pydru. Ac wedyn eu rhoi mewn bagiau-rhwyd a'u hongian yn y sied. Fel arfer maen nhw'n cadw nes bydd y cyntaf o'r flwyddyn nesaf yn barod.
Mae'r sialots yn cadw'n well na dim. (Fe welais i'r cyfieithiad 'sibwns' ar gyfer shallots, ond i fi rhywbeth arall yw sibwns, hanner ffordd rhwng 'spring onion' a wynwns cyffredin, ac yn cael eu cynaeafu'n gynnar - unrhyw syniadau?)
Yn yr ail ran: y tato, ayyb.

Sunday 15 August 2010

Smotyn o Sbaen ar dir Affrig

Heddiw rwyf i am edrych ychydig yn ehangach na'n byd bach ni yn nwyrain Asturias. Ers wythnos bellach mae gwrthdaro wedi bod ar y ffin rhwng Melilla, dinas sydd yn perthyn i Sbaen, a grŵp o bobl sy'n ei hawlio ar gyfer Moroco, y wlad o'i chwmpas. Am rai dyddiau fe gaewyd y ffin yn gyfangwbl, a neb na dim yn cael croesi, oedd yn gwneud pethau'n anodd i drigolion Melilla am fod y rhan fwyaf o'u bwyd yn gorfod dod o Moroco. Ac mae'n debyg y bydd hynny'n dechrau eto yfory.
Mae'r ddinas wedi bod yn eiddo i Sbaen ers 1497, ac ar hyd y canrifoedd mae ymladd a chyfamod wedi dilyn ei gilydd. Roedd hi'n lle pwysig iawn i fyddin Sbaen; yng ngogledd yr Affrig ym 1936 y dewisodd  Franco ddechrau ei wrthryfel yn erbyn y llywodraeth weriniaethol. (Am sawl reswm: roedd 'byddin yr Affrig' at ei gilydd yn filwyr cyflogedig, a'r Lleng Dramor yn cynnwys pob math o ddrwgweithredwyr. Hefyd doedd na ond ychydig o Sbaenwyr cyffredin yn byw yn y trefi yno). Dim ond 10 diwrnod yn ôl y tynnwyd i lawr yn Melilla y cerflun olaf yn Sbaen oedd yn dangos Franco ar gefn ceffyl.
Fe allech chi'n hawdd ddadlau, felly ei bod hi'n hen bryd i Madrid roi'r gorau i Melilla, a'i chwaer ddinas, Ceuta (a Llundain Gibraltar?).
Ond beth sydd wedi bod yn anodd ei dderbyn yw'r ffordd y mae'r protestwyr y tu allan i Melilla wedi targedu swyddogion benywaidd o fewn heddlu'r ffin.  Merched lleol, o dras Islamaidd: mae'n rhaid ei bod hi'n codi ofn arnyn nhw i weld y posteri enfawr ohonyn nhw eu hunain, yn unigolion y gellir yn hawdd adnabod eu gwynebau. Mae'r heddlu'n dweud bod y gwrthdystwyr hefyd yn gweiddi'n anweddus arnyn nhw. Buaswn i'n dweud bod y gwleidyddol yn yr achos yma wedi mynd yn rhy bersonol.

Saturday 14 August 2010

Nodyn o'r Ardd: Ffrwythau

Mae tywydd braf diwedd Gorffennaf a dechrau Awst wedi gadael y coed ffrwythau'n edrych yn ffrwythlon iawn. Bu'n rhaid inni gasglu'r eirin i gyd am fod yr adar yn dechrau'u pigo nhw. Fuase ddim ots gyda fi ond eu bod nhw'n pigo unwaith ac yna'n gadael y ffrwyth i bydru, er mawr pleser i'r morgrug ond nid i fi.
  Mae 18 kilo yn y ddau hen dun paent yma, fydd yn ein cadw ni i fynd am dipyn, neu'n gwneud jam i'r teulu i gyd.
A'r gellyg! Coeden 6 blwydd oed yw'r Williams yma, ac mae pwysau'r ffrwyth bron a'i lladd hi:
Mae un gangen wedi'i thorri, ond gyda mae ambell i ddarn o gortyn wedi achub y gweddill. Mae'r afalau a'r cwins yn edrych yn dda hefyd, a'r ffigys ar eu ffordd. Dau fethiant (y rhai arferol): ceirios - mae'n amhosib eu cyrraedd nhw cyn yr adar; a'r olifau - mae'r coed olewydd yn tyfu'n braf ond dydyn nhw ddim yn dwyn ffrwyth. Y gaeaf yn rhy fwyn a'r haf rhy wlyb, mae'n debyg.

Friday 13 August 2010

Ta ta Tywod

Dyw hi ddim yn ddiwrnod i fynd i'r traeth. Mae'r dymheredd wedi disgyn o leiaf 5-6 gradd, a'r cymylau duon o bryd i'w gilydd yn towlu glaw fel petai o fwced. Ond mae'r traethau yma'n un o atyniadau mawr Asturias, yn enwedig i bobl o ganolbarth Sbaen. Maen nhw'n dwli ar y tywydd mwyn a'r llanw, sydd yn rhywbeth hollol newydd i'r rheiny sydd yn gyfarwydd â Môr y Canoldir. Rwyf i wedi clywed ambell i blentyn yn cwyno wrth ei rieni nad oes na draeth o gwbl rhwng clogwyni'r Guadamia.

Mae tirwedd y traeth yn newid bob blwyddyn yn ôl maint stormydd y gaeaf a'r gwanwyn: mwy, neu lai, o dywod, cwrs yr afon yn dyfnhau, pyllau bach yn ymddangos a hyd yn oed creigiau'n dod i'r wyneb. Ac yn ôl y papur heddiw, mewn rhai o'r traethau mae pethau eleni'n waeth: mae sawl traeth wedi colli mwyafrif ei dywod a'r ymwelwyr yn gorfod eistedd ar gerrig. Ai dyna pam mai hyd yn oed mwy ohonyn nhw nag arfer wedi cyrraedd ein traeth bach ni? O leiaf mae gyda ni dywod, hyd yn oed os nad yw e i'w weld bob amser.

Thursday 12 August 2010

Gêm Gynta'r Ganrif Hon

Petaech chi wedi croesi pont y rheilffordd ychydig wedi 6 o'r gloch y nos, byddech chi wedi gweld rhywbeth na welwyd mo'i debyg yn y pentref ers dros ugain mlynedd.

Gêm pêldroed rhwng y Solteros a'r Casados - sef llanciau'r pentref yn erbyn y dynion priod. Gêm yr oedd yn arfer ei chwarae bob blwyddyn ar ddiwedd y fiesta, ond rywsut yr oedd wedi mynd i'r wal. Cae o eiddo'r saer coed oedd y maes chwarae; roedd dau o'i feibion yn chwarae. Braidd yn gul oedd hi, ond yr anfantais mwyaf oedd y goeden afalau - hanner ffordd rhwng y llinell hanner a'r gôl, ac i'r ochr. Sawl gwaith aeth y bêl i'w changhennau? Di-ri. A diolch byth bod pobl wedi dod â digon o beli, achos fe aeth nifer ar goll yn y mieri ar un ochr i'r cae.

I ddechrau, profiad y Casados oedd yn mynd â hi, ond yn yr ail hanner roedd rhai ohonyn nhw'n dechrau blino, a'r ifainc yn dod yn fwy amlwg. Eto i gyd 6-5 i'r Casados oedd hi, er bod yr arbitro (y dyfarnwr) yn ddiplomatig iawn wedi cyhoeddi taw gêm gyfartal oedd hi, 5-5. 

Wednesday 11 August 2010

y Ffair Anifeiliaid

Mae holl fusnes prynu a gwerthu da byw erbyn hyn wedi symud i'r marchnadoedd sefydlog : mae hynny'r un mor wir am Asturias ag yw e am Gymru. Ond mewn rhai o bentrefi'r ardal hon mae olion yr hen ffeiriau i'w gweld. Ddoe oedd ein tro ni. Mae'r trigolion hýn yn cofio ffair oedd yn parhau am wythnos, yn cofio hôl y gwartheg o'r tir cymun ar y mynydd, ac yn cofio'r sipsiwn yn dod i brynu ceffylau.
Eleni ychydig iawn o wartheg a gerddodd ar hyd llwybrau'r pentref i'r cae penodedig (yr un un lle gawsom ni'r picnic y noson gynt - maen nhw'n dweud bod rhywbeth yn nogfenni'r tirfeddiannwr yn dweud bod rhaid darparu'r cae hwn ar gyfer y ffeiriau hyd yn oes oesoedd).
A dyma rhai o'r geifr. Fe gyrhaeddodd y rhain yng nghefn fan; mae unrhyw un sydd wedi ceisio hel geifr  at ei gilydd, heb sôn am gael nhw i fynd i'r lle iawn, yn deall synnwyr y peth.
Ffair San Lorens yw enw'r ffair, am fod gŵyl San Lorens yn cael ei dathlu ar Awst 10fed. A neithiwr, ar ôl noson arall (yr olaf!) o ddawnsio a miri, fe eisteddsom ni ar y teras i wylio Dagrau San Lorens, y sêr gwib sy'n ymddangos bob blwyddyn o gwmpas y diwrnod hwnnw. Roedd hi'n hawdd eu gweld am fod y noson yn glir a'r lleuad yn newydd felly ddim yn cystadlu gyda nhw. Dim lluniau, mae'n ddrwg gyda fi.

Tuesday 10 August 2010

Y ffair Gaws

Daeth cannoedd ar gannoedd o bobl o bob oedran i'r pentref neithiwr ar gyfer y Ffair Gaws. Yr arfer traddodiadol yw prynu gwahanol fathau o gaws, ham a selsig, a bara yn y stondinau, ac wedyn pawb yn eistedd i lawr mewn grwpiau teuluol neu o gyfeillion i gael picnic enfawr gyda seidr.
Mae'r caws i gyd yn dod o'r ardal yma - dwyrain Asturias - gydag ambell gynhyrchydd yn teithio o Cantabria neu'r canolbarth. Mae'r ham yn dod o fan hyn a hefyd o daleithiau eraill lle mae'r dechneg yn wahanol: gall pobl siarad am oriau am fanylion trafod cig hallt. Mae'r selsig 'chorizos' yn cael eu paratoi o sawl math o gig - baedd a charw yn ogystal â chig moch.
 Dyw'r peth ddim yn dechrau tan wyth o'r gloch y nos, felly mae'r rhan fwyaf wedi cwpla bwyta erbyn deg pan fydd y band yn dechrau. Eraill yn aros yn y cae am awr neu ddwy wedyn yn canu caneuon y fro. Roedd yna gymaint o bobl roedd hi'n anodd cael lle i ddawnsio, a tua thri o'r gloch dyma ni'n rhoi'r ffidil yn y to - wedi'r cwbl, mae yna un arall yfory.

Monday 9 August 2010

y Ras: y Diweddglo

Cwpwl o hanesion bach i orffen diwrnod y 'piraguas':

Yn ein plith yr oedd yna ddwy ferch fach, un yn saith oed a'r llall ychydig yn iau. Tra bu'r oedolion a'r plant yn eu harddegau'n mwynhau ymdrochi yn afon Sella, neu gwylio'r canws,, neu'n arllwys seidr a thrafod coginio, dim  ond un peth oedd yn mynd â bryd y ddwy.
Dewis cerrig o'r afon. Eu golchi nhw i gael gwared o bob tamaid o faw oedd arnyn nhw, a'u cario'n ofalus lan i'r borfa. Yno y gwnaethon nhw carped o gerrig, o ryw fetr ar groes.
Does gen i ddim syniad beth oedd ei ddiben e, ond roedd yn edrych yn dda. Wedyn bûm i'n meddwl: pe byddech chi'n gweld newyddion ar y teledu o ryw wlad yn Affrig neu Asia, a phlant bach am oriau o dan haul poeth yn cario cerrig o afon, byddech chi'n meddwl taw caethweision oedden nhw, ontefe?
Stori arall: tua phump o'r gloch gyrhaeddodd lori i gludo car o'r cae. Roedd y perchennog wedi mynd i'r afon gyda'r allweddi ym mhoced ei wisg nofio. Ac wedi'u colli nhw. Ac er mawr chwilio doedd dim golwg ohonyn nhw.
A dyna nhw wedi mynd am flwyddyn arall.

Sunday 8 August 2010

Dathlu ar yr Afon

Hanes ddoe yn ei grynswth:
Roedd pawb wedi cyrraedd y cae yn L'Alisal (y wernen) erbyn tua 1130 a'r 'jaima' (y babell, yr un gair y mae'r Cyrnol Gaddafi yn ei ddefnyddio) wedi'i chodi'n fuan wedyn.

Ac yno y buom ni tan 7 o'r gloch y nos, yn bwyta ac yn yfed seidr, yn torheulo ac yn nofio yn yr afon, yn siarad â hen gyfeillion ac yn cwrdd â rhai newydd.

Tortillas cyffredin, tortillas gyda madarch, gyda darnau o benfras, neu gregyn gleision. A'r paella hynod yma, wedi'i weithio yn y fan a'r lle.


O ie, a buom ni'n cymeradwyo'r ceufadwyr wrth iddyn nhw nesu at ddiwedd y ras.
Cyn cerdded allan i ganol yr afon (roedd hi'n benllanw erbyn hyn) i gynnig glasaid o seidr i'r raswyr.
Fel y dywedodd Carmen yn ei sylw ddoe 'yn atgoffa rhywun o ynyswyr môr y Caribi yn mynd allan i werthu pethau i'r arloeswyr hynny o Ewrop' .
Adre wedyn i newid dillad, a dawnsio tan bedwar y bore yn fiesta'r pentref. Yfory daw'r fiesta fawr, a'r ffair gaws.

Saturday 7 August 2010

Y Ras Fawr

Wel dyna ni am flwyddyn arall. 630 o ganŵs wedi rasio 20km i lawr afon Sella, yr enillwyr mewn awr a saith munud. Newydd gyrraedd gartre yr ydym ni, ac wedi cael gormod o haul a seidr i ysgrifennu hanes y diwrnod yn gyflawn. Mwy am hynny yfory. Ond ychydig o luniau:
Brwydr oedd hi rhwng y ddau gwch yma wrth i'r cystadleuwyr gyrraedd y rhan isaf o'r afon lle roedd y llanw yn llifo tuag atyn nhw.
Ac ar ôl yr ymdrech, roedd rhai'n ddigon hapus gymryd 'culin' o seidr wrth y bois i dorri syched.
Pwy wnaeth ennill? Dau o un o glybiau Asturias - ond nid y ddau sy'n ennill fel arfer, felly tipyn o newyddion yn lleol.

Friday 6 August 2010

Rhaid Meddwl am Bopeth

Popeth yn barod ar gyfer y diwrnod mawr yfory - o edrych ar y rhestr fedrwn i ddim gweld unrhyw gystadleuydd o Gymru yn y ras ar hyd y Sella, ond fe fyddwn ni yno gyda baner y Ddraig petai rhywun efallai yn cystadlu mewn tîm o wlad arall.
Mil o bobol fydd yn dod i'r ardal o bob rhan o Asturias i gadw llygad ar beth sy'n digwydd: swyddogion yr heddlu, rhes o ambiwlansus a'u criwiau, a phobol sy'n gwylio camerau ac yn trefnu trafnidiaeth. Bydd cyrraedd ein man dewisedig yn dipyn o gamp ynddo ei hun gyda chymaint o heolydd ar gau neu wedi'u troi'n unffordd am y diwrnod.
Bu'r bois i lawr ar lan yr afon ddoe yn paratoi'r safle ar gyfer y babell. Bu'n rhaid iddyn nhw menthyg pladur i ladd tipyn o'r gwair, a symud cerrig a changhennau oedd yn gorwedd wrth ymyl y dŵr i'w gwneud hi'n haws mynd mewn a mâs. Rwy'n edrych ymlaen at weld eu gwaith yfory.
Ond o feddwl gymaint o ymwelwyr sy'n dod yma'r penwythnos hwn, gyda chyngerdd roc yn Arriondas tan oriau mân y bore a'r ras ei hun yn dechrau yno am 12.00, da oedd gweld taw dim ond ychydig dros gant o alwadau oedd ar y gwasanaethau brys y llynedd - a'r rhan fwyaf llethol oherwydd bod rhywun angen cymorth meddygol.
Lluniau yfory, gobeithio - os na fyddaf yn colli'r camera yn yr afon.

Thursday 5 August 2010

Dim ond Heddiw tan Yfory, dim ond fory tan y Fiesta

Mae 5 niwrnod o fiestas wedi dechrau. Hanner awr yn ôl fe atseinioedd 2 o'r ffrwydron sy'n croesawu pob gŵyl fan hyn, gan adael ffenestri'r tŷ yn siglo a phob ci yn y pentref yn cyfarth. A dyw'r peth ddim yn dechrau'n iawn tan ddydd Sadwrn.
Dyna pryd mae'r ras ganŵs, ond hefyd diwrnod cyntaf fiesta fawr y pentref, gydag offeren am ganol dydd a miri gyda'r nos. Diwrnod mawr y fiesta yw dydd Llun, pan fydd ffair gaws yn denu cannoedd, ac mae'r holl beth yn gorffen gyda sioe anifeiliad ddydd Mawrth, sy'n hynafol ond yn fychan iawn erbyn hyn.
Byddwn ni'n mynd gyda chyfeillion i weld y ras o safle ar lan afon Sella, ac rwyf i wedi bod yn y gegin drwy'r dydd yn gweithio teisennau i fynd yno.
2 deisen foron eleni: a'r naill a'r llall yn cynnwys hanner kilo o foron o'r ardd, ynghyd â chnau Ffrengig a chroen a sudd oren o'n coed ni.
A dyma'r gyntaf - mae'r llall yn dal yn y ffwrn. Bydda'i'n dodi'r eisin arnyn nhw yfory a'u cadw yn yr oergell tan fore Sadwrn.
O ie, ac mae 'na fiesta gyn-fiesta heno: grŵp mawr o bobol yn dod at ei gilydd i fwyta tiwna ac yfed seidr. 'Gaiteros' (pibgornwyr) a chanu gwerin hefyd. 

Wednesday 4 August 2010

Canna - nid yr Ynys, ond y Blodyn

Mae'r canna wrth y gât yn ei flodau. Lili canna fydd pobl yn ei alw, ond nid lili mohono. Mae'n perthyn i'r un teulu â'r sinsir, ac roedd y planhigyn hwn yma pan brynsom ni'r tŷ.


Mae'r planhigyn tua 1 metr o uchder, er bod yr un sydd wedi tyfu yn y domen gompost llawer yn uwch - yn tynnu am 3 metr.
Mae'n marw nôl yn ystod y gaeaf, ac eleni roeddwn i'n meddwl ei fod wedi mynd am byth.
Ond unwaith cawsom ni dipyn o wres daeth e nôl fel y boi.




Mae'r hadlestri'r un mor brydferth â'r blodau; yn dechrau fel hyn ac yna'n mynd yn goch tywyll ac yn teimlo fel melfed. Rwyf i wedi rhoi hadau i gyfeillion sy'n byw yng Nghymru - rhai wedi methu'n llwyr, ond mewn llefydd eraill (ychydig yn dwymach, neu allan o'r gwynt) maen nhw wedi egino a thyfu'n iawn. Dyw'r blodau ddim yr un mor goch ond mae'n dal yn blanhigyn trawiadol.

Tuesday 3 August 2010

Cydio yn Llaw Mam

Mae arolwg a gyhoeddwyd ddoe yn dangos treian o bobl Asturias yn erbyn datblygu'r cymunedau awtonomaidd - gan gynnwys Asturias ei hun ond hefyd Catalunya a Galicia - ac o blaid mwy o benderfyniadau canolog.
Heddiw mae'r cyfryngau'n ceisio dyfalu paham fod y fath farn wedi ei gofnodi.
Y 'crisiis', meddai rhai. Mewn amser economiadd anodd, mae pobl eisie bod yn rhan o wladwriaeth fawr gref, nid ryw gilcyn o dalaith ar ymyl Môr Iwerydd. Ac mae'n wir bod Asturias wedi derbyn cymorth ariannol mawr erioed gan Madrid: ar wahan i gyfnod y diwydiannau trymion, glo a dur, talaith dlawd mae hon wedi bod ar hyd ei hanes. A hynny, efallai, yn arwain at ddiffyg hyder ar lefel y gymuned, llai o ffydd yn y gwleidyddion yn Uvieu/Oviedo a llai o alw am ddatblygu'r gyfundrefn honno.
Mae eraill yn gweld argyfwng o fath arall: ofn y bydd y galw am annibyniaeth e.e. yn Catalunya yn arwain at ddinistrio gwladwriaeth Sbaen. Mae pobl Asturias, medden nhw, yn dal i gredu (rhywle'n ddwfn yn yr isymwybod) taw Asturias yw Sbaen, yr unig ran nas concrwyd gan y Mwriaid, a bod yn gyfrifoldeb ar  Asturias felly afael yn dynn yng gweddill y taleithiau i sicrhau na fydden nhw'n diflannu eto. 
Yr hyn sy'n sicr yw bod hunaniaeth, treftadaeth, Asturias yn fyw ac yn gryf. Ond rywsut dyw e ddim wedi arwain at yr un math o fudiad yn wleidyddol.
.

Monday 2 August 2010

Haf, yn Araf

Mae perchnogion gwestai (gwestyau? byth yn siŵr)  lleol yn dweud bod mis Gorffennaf wedi bod yn un gwael iddyn nhw. Yn ardal Ribadesella, ym mis cyntaf yr haf, dim ond hanner y llefydd oedd wedi eu cymryd. Ar wahan i benwythnosau, mae'n debyg, pan fydd pobol yn tyrru ar y traethau ac efallai'n hala noson neu ddwy mewn gwesty.
Nid yw hyn wrth gwrs yn dweud yr hanes y gyd: lleiafrif o dwristiaid sy'n dewis gwesty ar gyfer eu gwyliau. Mae'r rhan fwyaf naill ai'n llogi tŷ (neu fflat), yn gwersylla neu'n aros gyda pherthnasau. Ond wrth gerdded yn ôl a mlaen i'r traeth rwyf i wedi sylweddoli bod llai o geir nag arfer, llai o bobol yn gofyn y ffordd.
Dim ond ar ddydd Sadwrn a dydd Sul mae gerddi bwyta'r barau wedi bod yn llawn, ac roedd cael lle i barcio yn Posada ar gyfer y farchnad ddydd Gwener yn rhyfedd o hawdd.
  Dyma ardal y 'bufones' yn gynharach yn yr wythnos: does na ddim byd i rwystro ceir rhag gyrru yno (er bod yr arwydd wedi ail-ymddangos). A chredwch chi fi, pe bai hi'n anodd cael lle i barcio i fynd i'r traeth fe fyddai pobl wedi dod i fan hyn.
A nawr mae mis Awst wedi dechrau; fe ddaw'r miloedd i'r ras ceufadau ddiwedd yr wythnos, ond a fyddan nhw'n aros i lenwi pocedi'r diwydiant ymwelwyr?

Sunday 1 August 2010

O Dan y Môr mae'r Rhain yn Cuddio

Dyw'r rhif 200 ddim mor boddhaol a'r rhif 100, ond mae'n garreg filltir fach arall ym mywyd y blog yma. Cwpwl o hanesion bach hafaidd heddiw: (Gan fod mis gwyliau swyddogol Sbaen newydd ddechrau).
Mae pobl wedi cael eu gwahardd rhag fynd i fewn i'r môr y penwythnos yma oherwydd y chwysigod môr (caravelas portuguesas), yr hen bethau hyll porffor yna sy'n pigo fel y diawl. Naw o draethau sydd wedi cael eu heffeithio, rhai i'r dwyrain ohonom ni ac eraill i'r gorllewin. Traethau sydd ag achubwyr yw'r rhain i gyd, rhywbeth sydd ddim yn wir am y Guadamia. Ond pan fues i yno brynhawn ddoe â'r llanw ar drai doedd na ddim un i'w gweld.
Neithiwr buom ni'n bwyta rhai o greaduriaid rhyfedd eraill y Cantábrico. Criw o gyfeillion wedi dod at ei gilydd i brynu 20 kilo o wythdroediaid (pulpo), a digon o seidr. Cawsom ni brofi pulpo gyda thato, pulpo wed'i wneud ar y 'plancha' ond yn bennaf oll imi, pulpo mariscado, h.y. mewn hylif gyda llawer o bethau bwyd-moraidd eraill - darnau bach o gimwch, cregyn glas a chregyn bylchog. Wnaeth dim byd barhau'n hir.