Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Saturday 31 July 2010

Ar Lan y Môr mae'r Ras yn Cwpla

Wythnos i heddiw fe fydd cannoedd o filoedd o bobol yn tyrru i'r ardal ar gyfer y ras fawr - ras ceufadau o Arriondas i Ribadesella. Mae'r 'descenso del Sella' wedi cael ei gynnal ers 1929, ac o'i ddechrau fel rhywbeth i ychydig o ffyddloniaid a myfyrwyr prifysgol ganol haf mae wedi tyfu yn un o ddigwyddiadau mwya'r flwyddyn yn yr ardal fach hon (poblogaeth y ddwy dref at ei gilydd: llai na 15,000).
Dim ond 6 wythnos yn ôl yr oedd canol tref Arriondas o dan 2 fedr o ddŵr brwnt a'r afon yn Ribadesella'n llawn coed a phethau oedd wedi eu sgubo i lawr gan y llifogydd. Mae'r gwaith o lanhau'n dal i fynd yn ei flaen: yr wythnos nesaf bydd yn rhaid cau'r bont yn Ribadesella dros nos er mwyn glanhau'r sbwriel sydd ynghlwm wrth ei phileri, ac yn Arriondas mae ôl y difrod i'w weld o hyd.
  Doedd y goeden yna ddim yn tyfu yn y fan a'r lle - wedi ei gadael yno pan gwympodd lefel y dŵr. O'r bont yn y cefndir y mae'r ras yn dechrau.
Mae pob un yn gorfod aros ar y lan gyda'i ganŵ, yn y drefn y maen nhw wedi ei dderbyn mewn loteri ddeuddydd ynghynt. Llynedd roedd digonedd o ddŵr yn yr afon ond eleni mae'n debyg y bydd hi'n stori arall.

Friday 30 July 2010

O'r Ardd, ar Dywydd Sych

Fuasech chi ddim yn credu faint o chwyn sy'n gallu tyfu mewn wythnos, a hynny heb ddropyn o law. A dweud y gwir mae wedi bod yn ofnadwy o sych yn ystod y pythefnos diwethaf, a'r dŵr yn y tanc ym mhen yr ardd yn prysur ddiflannu. Ond mae llysiau'r haf yn dechrau blodeuo a/neu ffrwytho.
Dyma flodyn bach gwyn y pupur coch (yr un melys, nid y cayenne) yn cwato o dan y dail.
Byddwn i'n disgwyl gweld y ffrwyth yn datblygu yn ystod pythefnos cyntaf mis Awst ac yn barod i'w fwyta hanner ffordd drwy fis Medi.
Os gewn ni ddigon efallai y ceisia'i eu sychu nhw. Mae cyfeillion wedi cynnig hen beiriant sychu ffrwythau inni. Ond dysgu cadw pethau am gyfnod hir yr ydw i ar hyn o bryd - yn y rhewgell bydd y rhan fwyaf o'r llysiau yn dibennu, a'r ffrwythau mewn jam.
A dyma'r tomatos yn eu tŷ bach plastig. Rhai o'r Eidal yw'r rhain, maen nhw i fod i dyfu'n fawr ac yn blasus ar gyfer salad.
A sdim eisie poeni am beth i wneud gyda thomatos - saws, mewn bocsus bach, eto yn y rhewgell, i ddod â naws yr haf i lawer iawn o brydau'r gaeaf.
Mae rhai bach 'cherry' gyda ni hefyd, ond mae'n debyg y byddwn yn eu gorffen i gyd cyn diwedd Awst, naill ai mewn salad neu wedi'u rhostio gydag olew a pherlysiau.
Mae'r ardd yma yn teimlo fel swydd llawn-amser weithiau, ond mae'r blas yn dangos ei werth. Ar hyn o bryd yr ydym yn bwyta moron o'r ardd - un o'r pethau mwyaf gwerth chweil achos dyw'r blas ddim byd tebyg i rai siop.
Bant â fi nawr i hôl y wynwns coch i fewn - jyst rhag ofn y bydd yn bwrw dros nos.

 

Thursday 29 July 2010

Nef, neu efallai Breuddwyd

Ychydig iawn o Gymraeg heddiw, ond gobeithio bod y llun yn plesio. Y traeth, gyda'r nos, o deras y bar.  Dyma'r math o le y mae'n rhaid inni ei ddiogelu, ym mha wlad bynnag y bo.

Wednesday 28 July 2010

Pwy Dorrodd y Cadwyni?

Wel dyna lle roeddwn i, wedi nofio yn y môr ac yn barod i gerdded i lawr hyd at y penrhyn, ar hyd yr heol fach sydd yn awr wedi ei chau i geir onibai am ffermwyr. Dim ond ryw wythnos yn ôl y'i caewyd, ar ôl achos llys a digon o drwg-deimlad rhwng llywodraeth Asturias a chyngor Llanes (gwleidyddion o'r un blaid, gyda llaw). O'r diwedd, rhywbeth yn cael ei wneud i geisio diogelu'r amgylchfyd ar yr arfordir. Ond och:
mae'r llwybr ar agor fel o'r blaen, y ceir yn mynd heibio a'r cadwyn yn gorwedd yn llwch yr heol. Yn ôl i'r llys? Mae rhai misoedd i fynd cyn y gwelwn ni gau pen y mwdwl ar y stori fach yma.

Tuesday 27 July 2010

Pethau Hen neu Pethau Heddiw?

Y tywydd wedi newid, y gwynt o'r dwyrain a'r cymylau o'r gorllewin. Allai'i ddim ei esbonio. Ond mae'n dal yn dwym.
Mae llywodraeth Asturias, gyda chymorth gweinyddiaeth dreftadaeth Madrid, wedi addo miliwn o euros - miliwn - i gadw'r eglwysi 'prerromanicas' - mwy na fil o flynyddoedd oed . Ond gyda'r sefyllfa economaidd sydd ohoni, y crisis, mae pobl fan hyn yn cwyno. Iawn goruchwylio'r adeiladau yma, medden nhw, ond miliwn o euros, i beth mae hynny?
Dadl a fydd yn cael ei gwrando fwy nag unwaith, weden i: treftadaeth neu swyddi?
Wrth gwrs dyw hi ddim mor blaen â hynny. Fe fydd y cynllun yma yn rhoi gwaith i rai. Ond fan hyn fel ymhobman arall yng ngorllewin Ewrop aros am waith i'r genhedlaeth nesaf yr ydym ni, gwaith fydd yno am flynyddoedd, gwaith fydd yn eu galluogi i rentu/brynu tai a chael plant, gwaith fydd yn cadw'r gymdeithas i fynd .
Dyw hi ddim yn ddigon yn awr dweud 'o leiaf mae gyda ni'r ardd lysiau'. (Er taw efallai daw hi i hynny). Mae pobl yn disgwyl mwy, maen nhw'n barod i weithio amdano, ac fe ddylen nhw cael gyfle i wneud hynny.

Monday 26 July 2010

Diwedd y Dirgelwch

Oes unrhyw un yn cofio'r lun yma o un o'm cofnodion ym mis Mawrth? Gofyn yr oeddwn beth oedd y goeden, a nawr o'r diwedd wedi cael gwybod. Cymydog yn ei alw'n 'siempreverde' ond mae hwnnw  yn golygu bytholwyrdd felly roedd yn amhosib chwilio am yr enw mewn unrhyw iaith arall. Dechreuais i gario brigyn o gwmpas gyda fi, a dros y Sul fe ddywedodd cymdoges taw 'salgar' oedd ei henw hi arni.
Y tro yma fe lwyddais i gael hyd i'r cyfieithiad: ligustrum vulgare yw hi. Ie, yswydden, neu prifet fel y bydd y rhan fwyaf yn ei hadnabod. Ond yswydden Ewrop, sydd yn tyfu'n wyllt, nid yr un Siapaneaidd sydd yn amgylchynnu cymaint o erddi yng Nghymru.
Mae'n tyfu'n araf iawn, mewn perthi gan fwyaf, a'r pren melynllyd yn cael ei ddefnyddio at wneud ffyn. Braf cael gwybod, onid yw e?

Sunday 25 July 2010

Ymweliad â'r Cymdogion

Buom ni dros y ffin yn Galicia am ddiwrnod a hanner - dim ond digon o amser i ymweld ag arfordir y gogledd a dinas A Coruña. Mae'r tirwedd yn wahanol i fan hyn - y mynyddoedd yn bellach oddi wrth y môr a'r rias yn fwy llydan na'n aberoedd cul ni. Ond mae'r bobl yn debyg iawn a'r bwyd - yn enwedig y bwyd môr - yr un mor dda.
Dyma porthladd bychan O Barqueiro. Byddem ni wedi gallu cyrraedd yn y trên bach, ond gan y byddai hynny'n cymryd saith awr aethom ni yn y car. Dywedir bod y Phoeniciaid wedi cyrraedd y penrhyn yma yn ystod Oes yr Efydd; efallai taw o fan hyn yr hwylion nhw am Gymru ac Iwerddon. Yn ddiweddarach bu gorsaf deligraff
sydd yn awr yn hotel, a gorsaf lluoedd arfog yr Unol Daleithiau a oedd yn rhan o'r un sustem cyfeirio (LORAN) ag East Blockhouse yn Sir Benfro.

Saturday 24 July 2010

Y Cinio Protest

Cinio protest neu dim ond cinio haf yn yr awyr iach i ddod â'r cymdogion at ei gilydd? Hwy, beth bynnag, ar ddiwrnod heulog twym gydag ychydig o awel o Fôr y Cantabrico i gadw'r peth rhag fynd yn llethol.
Roedd darnau mawr o gig oen wedi bod yn cael eu coginio'n dawel ers yn gynnar y bore .
                                  (Gydag ymddiheuriadau mawr i'r llysieuwyr fydd yn darllen hwn). 
Lle i gloncan oedd e yn y pen draw, ac i edrych ymlaen efallai at y cam nesaf yn ymgyrch y Guadamia.

Friday 23 July 2010

Cam Bach mewn Ymgyrch Hir

Dirwy bychan ond gwaith adfer mawr o'u blaenau. Yn ôl dyfarniad yr awdurdodau afonydd, bydd cwmni Pomeradas Guadamia yn gorfod rhoi gwely afon Guadamia yn ôl fel yr oedd e. Dyma'r un cwmni sydd wedi cael cwynion yn ei erbyn gan drigolion y pentref am ddymchwel hen adeiladwaith ar yr afon, torri lawr hen goed a chodi wal sy'n rhwystro'r llwybr i'r traeth.
A fory fe fydd gyda ni ginio awyr-agored fel rhan o'r ymgyrch - ar y clogwyni os yn heulog, tu fâs i'r eglwys os yn bwrw glaw.

Thursday 22 July 2010

Diwrnod Du i Gymoedd y Glo

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd eisiau cau pob pwll glo yn Asturias. Hyd yn oed wedi teipio'r geiriau yna mae'n anodd ei gredu, ond yn ôl papurau newydd Asturias mae'r cynllun yn ehangach fyth: cau pob un yn Sbaen (y lleill yn Leon y Palencia) yn ogystal ag eraill yn nyffryn y Ruhr yn yr Almaen ac yn Rwmania, a hynny o fewn pedair blynedd. Hynny yw, y pyllau glo sy'n derbyn cymorth ariannol o Ewrop ac na fyddai'n gwneud elw heb yr arian hwnnw.
Mae'n hawdd cydweld â gwario llai o arian ar ddiwydiannau na fyddai'n goroesi heb gymorth, ond effaith cau'r pyllau i gyd fyddai cael gwared â rheswm bodolaeth trefi a phentrefi'r cymoedd glofaol. Eisoes mae problemau cymdeithasol difrifol yno yn dod o'r diweithdra: cyffuriau, trais teuluol ac yn y blaen. A does na ddim diwydiannau na swyddfeydd mawr yn adaloed Uvieu/Oviedo na Gijon chwaith i gael gwaith i filoedd o bobol. Llai fyth ar yr arfordir gwledig.
Mae'r penderfyniad wedi cael ei ohirio tan fis Medi; does na ddim llawer yn digwydd yn Brwsel dros yr haf.
 Mae undebau Sbaen eisoes yn trefnu streic gyffredinol ar gyfer diwedd mis Medi, a'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi na fydd yn mynychu gala'r glowyr y mis hwnnw fel mae e arfer gwneud. Fe all pethau fynd yn anodd iawn.
.

Wednesday 21 July 2010

Hud y Machlud

Enghraifft arall o'r tywydd rhyfedd. Fel arfer dyw'r machlud haul fan hyn yn ddim byd lliwgar iawn, ond neithiwr am chwarter wedi naw roedd e fel hyn. Wedyn bu'n bwrw glaw yn drwm bron drwy'r nos, a'r bore 'ma mae'n gymylog.

Tuesday 20 July 2010

Gwyliau Haf

Mae'n dawel iawn o gwmpas y cornel bach yma heddiw. Glaw eto, glaw mân a chymylau isel bron â chuddio pen arall y pentre. Eto dyw hi ddim yn oer - ryw 23 gradd. Ond dyw hi ddim yn dywydd traeth na mynd am dro, na hyd yn oed garddio os nad oes rhaid.
Dyma ichi olwg o'r ardd isaf, gyda'r ffa erbyn hyn wedi dringo'r polion, a'r tato bron i gyd wedi'u codi. Blodfresych sydd o flaen y ffa, ac maen nhw'n dioddef yn drwm eleni o dan chwant y lindys du a melyn. Dim ond un peth amdani - eu gwasgu nhw rhwng bys a bawd. Dyw e ddim yn beth neis ond mae'n well na chemegyn.
Rhwybeth i gofio'r stormydd ddechrau Mehefin:
y boncyff yma wedi cyrraedd pen y traeth. Mae cyfeillion yn cyrraedd y tŷ heno i aros am gwpwl o ddyddiau - gobeithio wellith y tywydd yfory. Bu llawer un yn darogan y celem ni haf twym ar ôl yr hirlwm a'r llifogydd - hyd yn hyn rhaid eu hamau.

Monday 19 July 2010

Os na Ddaw Olew, Gwna Fisgedi

Rysait sydd gyda fi heddiw i orffen gyda'r holl gnau Ffrengig oedd ar ôl wedi'r ymgais i wneud olew. Wnes i gadw nhw yn y rhewgell am fis ac roedden nhw'n iawn. Roedden nhw eisoes wedi cael eu malu (nid yn llwch, ond yn ddarnau mân) ac wedi'u tostio yn y ffwrn.
 I bob

100 g o gnau Ffrengig mae angen

225g o gan (blawd cyffredin - neu hanner a hanner gydag un cyflawn)
hanner llwy de o bowdwr codi
100g o siwgr caster
100g o ffrwythau sych - bricyll wedi'u torri'n ddarnau, llysi duon bach, cyrens
2 ŵy wedi'u curo

Ffwrn yn 190/nwy 5.

Cymysgu'r pethau sych i gyd mewn powlen fawr. Ychwanegu'r wyau a thylino'r cyfan nes cael toes. Ffurfio 2 rôl tua 25cm o hyd a'u dodi yn y ffwrn am hanner awr.
Tynnu nw o'r ffwrn, gadael iddyn nhw aros nes dy fod yn gallu cyffwrdd ynddyn nhw. Torri pob rhôl yn sgleisiau tua 1cm o ddyfnder a'u dodi nhw nôl yn y ffwrn am ryw 5 munud.
Maen nhw'n debyg i cantuccini'r Eidal, yn dda iawn gyda hufen iâ neu lased o win melys.

Sunday 18 July 2010

Moddion y Môr

Resaca yw'r gair Sbaeneg amdano. Ond roeddwn i wedi dweud neithiwr, ar ôl sawl culín o seidr, y byddwn yn mynd i nofio amser y penllanw y bore ma - am 11.00.
Rywsut fe lwyddais i ddihuno am 10 o'r gloch, wedi bod yn dawnsio yn strydoedd (wel, stryd) Llames tan o leiaf 3am. Yn wyrthiol, fe godais, ces i hyd i bopeth oedd eisiau i fynd i'r traeth, a bant â fi. Wel, am yr union beth i wella resaca. Roedd yr haul yn disgleirio, y môr wedi tawelu, y penllanw ychydig yn is na ddoe, a neb yno ond cwpwl a'u babi - yntau hefyd yn dawel. Es i fewn yn syth a bûm yn nofio am ryw 20 munud nes i lawer mwy o bobol ddechrau cyrraedd. Yn  gwneud llawer mwy o sŵn. Ond roedd y feddyginiaeth wedi gwneud ei gwaith ac roedd hi'n amser mynd adref, i wasgu orennau ar gyfer brecwast.
A dyna fe. Gweddill y dydd: dim byd. Eistedd ar y teras yn darllen ac yn gwylio pili-palas. Tipyn (bach) o chwynnu. Rhy dwym i fynd am dro.
Yn awr gyda'r gwres yn lleihau, dyfrio'r planhigion o gwmpas y tý a meddwl am ginio. Diwrnod perffaith.

Saturday 17 July 2010

Yr Ardd a'r Môr - beth arall sydd eisiau?

Lluniau heddiw o'r diwedd: y datura (campanas yn Asturias) am fod y perarogl gyda'r nos mor hyfryd. Rhaid imi chwilio i weld beth sy'n dod i fwydo yno.
Ac un o'r traeth, neu lle mae'r traeth fel arfer, ar benllanw. Ddeuddydd ar ôl y lleuad newydd a'r llanw yn fawr a'r môr yn gryf. Neb yn meiddio i'r dŵr!
A dyna ni am heddiw achos mae'n fiesta yn Llames heno.

Friday 16 July 2010

Dyna Pam mae'r Costa yma'n Verde

Byddech chi'n meddwl, erbyn hyn, fy mod yn ddigon hen os nad yn barchus i beidio â chredu rhagolygon y tywydd - yn enwedig yn Asturias lle mae'n gallu newid gymaint o weithiau mewn diwrnod. Glaw eto heddiw, a ninnau'n teimlo'n eitha balch ein bod ni wedi lladd (gwair) ddoe.
I'r farchnad yn Posada de Llanes, lle roedd cymysgedd o drigolion y pentre, teuluoedd o'r ffermydd uwchlaw, a thwristiaid, pob un ag ambarel naill ai'n pwyntio atoch chi neu'n cael ei gario fel baner yn erbyn y cymylau llwyd-ddu. A bob yn ail berson, mae'n siŵr gen i, yn dyheu am fod ar y traeth lle byddai rhywun o leiaf yn cael dewis pryd i sefyll mewn lot o ddŵr. Prynon ni golpyn o gaws Gamoneu, un o'r ffefrynnau, cnau rhost cartref ac yn y blaen.
Ac yna'n nôl i'r gegin i droi'r cyrens duon yn sorbe a chwilio rysaits am sut i goginio'r 3 mingrwn a brynson ni. (Diolch Dai am y llyfr cyfieithu gyda llaw - salmonetes yw'r enw lleol am fingrynion, gair sydd efallai â rhywbeth i'w wneud â'r enw gwyddonol: Mullus surmuletus.) Mae'n siŵr taw i'r gril yr ân nhw, gydag ychydig o berlysiau, garlleg ac olew. Tato, tomatos a ffa Ffrengig o'r ardd. Joio.

Thursday 15 July 2010

Byw yn yr Ardd

Yn yr ardd drwy'r dydd eto heddiw, ac o'r diwedd mae'r glaw wedi diflannu a'r diwrnod yn heulog dwym o ben bore tan nos. Yn rhy dwym i rywun fel fi oedd yn rhacanu'r gwair a'i gario i'r tas. Does dim anifeiliad gyda ni, ond mae'n dda at wneud compost, at ddodi o amgylch y coed ffrwythau ifanc yn ystod y tywydd twym neu at wneud 'gwely poeth' (gwair glas gwlyb wedi ei gladdu o dan o leiaf hanner metr o bridd) er mwyn tyfu seleri.
A'r rheswm am y weithgareddwch sydyn: nid yn unig ein bod wedi sylweddoli bod pethau wedi mynd yn rhemp ac na fyddai digon gyda ni wedi'i gadw at y gaeaf (wedi'r cwbwl allwn ni wastad mynd i siopa, ond ddim dyna'r bwriad) ond bod ffrindiau'n dod i aros wythnos nesaf felly wrth gwrs rŷn ni am i'r lle edrych ar ei orau - a hefyd treulio amser gyda nhw yn lle yn yr ardd.
Ches i ddim hyd yn oed awr fach i fynd i nofio'r prynhawn yma, ond na fe, mi fydda'i yno yfory. A heno, fel mae'n digwydd, achos rŷn ni am fynd i lawr i'r bar yn nes ymlaen.
Yfory, chwynnu.  

Wednesday 14 July 2010

Yr Ardd (a'r Môr)

Esgeulus iawn buom ni o'r ardd y dyddiau diwethaf yma, yn mynd o gwmpas yn galifantan os nad oeddem ni'n gweithio ar y tŷ.
Ond heddiw dyma ni'n troi ati o ddifri, yn lladd gwair, yn chwynnu, (wel roedd yn rhaid gwneud hynny er mwyn gweld lle mae'n tir ni'n ffinio â drws nesaf), ac yna'n codi llwyth o wynwns, sialots, a rhagor o dato.
Does dim hwyl o gwbl ar y pŷs - rwy'n amau bod rhywbeth yn eu bwyta nhw yn syth ar ôl eu hau. Ond mae un neu ddau domato bron yn barod i'w bwyta, a'r gweddill yn tyfu'n dda.
Cesglais i'r cyrens duon hefyd - dim ond rhyw kilo eleni, ond dyma'u blwyddyn gyntaf nhw. Mae mafon Mehefin yn dalu i roi rhywfaint bob dydd, a rhai'r hydref yn edrych yn dda.
Dim lot o hwyl ar y perlysiau eleni chwaith: mae wedi bod mor wlyb. Bydd yn rhaid imi hau rhagor yfory.
Ar ôl hynny i gyd roedd yn rhaid imi fynd i nofio, felly lawr â fi (dyw'r gŵr ddim yn nofiwr) i'r traeth tua 6.30, a hithau'n benllanw. Deng munud yn y dŵr ac roeddwn yn teimlo'n barod am ddiwrnod arall o waith (jôc yw hwnna).
A chael y newyddion da bod llywodraeth Asturias wedi blino aros i'r cyngor lleol weithredu gorchymyn  y llys a rhwystro ceir rhag fynd i'r clogwyni. Maen nhw'n mynd i wneud y gwaith eu hunain (ac yn talu amdano o'r dirwy mae'r cyngor yn gorfod talu).

Tuesday 13 July 2010

Yn Ol i'w Filltir Sgwâr

Heddiw bues i'n darllen ysgrif gan foi a adawodd ei bentre, yn y mynyddoedd yn ne-orllewin Asturias, i fynd yn llenor. Erbyn hyn, ac yntau'n heneiddio, mae am fyw yno eto, ond mae'r rhod wedi troi o ddrifri a does na neb ar ôl ym mhentre ei febyd. Yr hen bobl wedi marw, y caeau'n wag, y pwll wedi cau a'r glowyr wedi mynd â'u pensiynau cynnar i fyw rhywle mwy cysurus. Mieri lle bu - ni mawredd, ond meysydd a lonydd a gerddi.
Mae'n cofio helpu ar y fferm pan oedd yn blentyn, yn taenu gwrtaith, yn lladd gwair, yn codi tato: blwyddyn ar ôl blwyddyn. Roedd e bryd hynny yn breuddwydio am fywyd 'gwell' ie, mwy cysurus  - gyda dŵr a thrydan yn cyrraedd y tŷ, er enghraifft. Ond ar yr un pryd, pan oedd yn carco'r tân myglyd ar gyfer halltu'r cig moch, doedd e fyth yn gallu'i ddychmygu ei hunan yn y byd arall hwnnw. Wel, fe gyrhaeddodd e yno rywsut, ac yn awr mae wedi cyrraedd gartref.
I atgyweirio'r tŷ, a chlirio'r ardd. Dyna ddigon, i ddechrau. Mae un o bentrefi anghofiedig Asturias yn cael ail gyfle.

Monday 12 July 2010

Adeiladau Hynaf Asturias

Mae'n siw y byddaf yn clywed am gêm neithiwr - a'r gystadleuaeth i gyd - o hyn tan ddiwedd yr haf, ond sdim rhaid imi sgrifennu rhagor amdano: wedi dweud yr hyn sydd gen i i'w ddweud. (Ond nodi bod y rhyngrwyd yn araf iawn heddiw - pawb yn gwylio'r tîm yn cyrraedd neu'n danfon negeseuon.)
Felly beth am fynd reit yn ôl i hen hanes ac edrych ar rai o adeiladau hynaf Asturias tra bod ein pennau'n araf adael ein poeni.
Eglwysi ydyn nhw, a godwyd fil a mwy o flynyddoedd yn ôl, ond sy'n dal yn cael eu defnyddio hyd heddiw. Prerromanico yw'r gair Sbaeneg: nid eu bod nhw wedi eu hadeiladu cyn dyddiau'r Rhufeiniaid, ond cyn yr arddull Romanesque a ddaeth yn boblogaidd iawn dwy Ewrop yn yr Oesoedd Canol.
Yr hynaf, a'r plaenaf, yw capel Santa Cruz yn Cangas de Onis, wrth draed y Picos de Europa. Fe'i godwyd yn y flwyddyn 737, ond ar safle llawer yn hŷn. Os gewch chi gyfle i fynd i mewn,  cewch weld gromlech oddi tano: meini hirion bedd 5000 oed. Hon oedd eglwys frenhinol gyntaf Asturias, ac yma y cedwid 'Croes y Fuddugoliaeth' sef y groes a gariwyd yng nghâd Covadonga pan drechwyd y Mwriaid.
Mae na arall yng nghanol dinas Uvieu/Oviedo; os byddwch yn anelu am ganol y ddinas o'r dwyrain,  rhaid troi i'r dde ganllath ar ôl pasio Santullano, neu San Julian de los Prados, ar ochr y briffordd.
Ac ar y bryn uwchben Uvieu, mae dwy ohonyn nhw. Santa Maria del Naranco, a fu'n blasty am dair canrif cyn ei throi'n eglwys, a hon, San Miguel de Lillo, a godwyd yn 840.
Teg dweud nad oes llawer yn eu mynychu heddiw am resymau crefyddol, ond mae unrhyw un sy'n darllen tipyn o hanes Sbaen yn deall mor bwysig oedd Cristnogaeth bryd hynny pan oedd pwer y Mwriaid ar drai.

Sunday 11 July 2010

Cwpan y Byd sydd Ohoni

Chi'n clywed rhywun weithiau'n dweud, neu'n amlach efallai yn darllen y cymal 'roedd yr awyrgylch yn drydanol'. Fel na mae wedi bod drwy'r dydd heddiw gyda phobl yn edrych ymlaen at y gêm fawr yn Ne Affrica. Beth sy'n gwneud yr holl beth yn eitha cartrefol yw bod pobl yn gwisgo coch i gefnogi tîm Sbaen.
Ond mae llwyddiant Sbaen hyd yma yn y gystadleuaeth yn un ochr o driongl 'y pethe pwysig' ar hyd o bryd. Yr ail yw'r economi a'r ffordd mae llywodraeth 'sosialaidd' Zapatero yn dilyn patrwm y cenhedloedd sydd o dan reolaeth yr adain dde gan dorri nôl ar bai, pensiynau a hawliau'r gweithwyr adeg diswyddo. A'r drydedd yw'r ffrwgwd ynglŷn â statws cyfansoddiadol Catalunya ar ôl penderfyniad yr Uchel Lys a'r gwrthdystiad enfawr gan filiwn o bobol yn Barselona neithiwr.
A mae'r ffaith bod cymaint o'r chwaraewyr fydd ar y maes heno yn perthyn i dîm Barselona dim ond yn cymhlethu pethau: ydy cenedlaetholwr o Catalunya yn cefnogi Sbaen oherwydd y bechgyn hynny? Neu ddim, oherwydd eu bod yn chwarae dros Sbaen?
Ta pwy fydd yn ennill heno, yfory neu drannoeth fe fydd yn rhaid dychwelyd at ddwy ochr arall y driongl.

Saturday 10 July 2010

Dangos eu Hochor

Ymhen llai na dwyawr - 1800 awr Sbaen - fe ddisgwylir dros filiwn o bobol ar strydoedd Barselona i ddatgan bod Catalunya'n genedl. Daw hyn diwrnod ar ôl penderfyniad yr Uchel Lys yn Madrid : nad yw Catalunya'n genedl oherwydd nad yw cyfansoddiad Sbaen yn cydnabod ond un genedl. Mae dros fil o wahanol gyrff, awdudodau a chymdeithasau wedi rhoi eu cefnogaeth i'r orymdaith sydd yn debyg o ddenu pobl o draddodiadau gwleidyddol gwahanol ac o bobman yn Catalunya. Bydd llywydd a chyn-lywyddion Catalunya yn arwain y dorf.
Mae strydoedd o gwmpas man gorffen y brotest wedi eu cau ers yn gynnar y bore ma a mwy o drenau Metro'n rhedeg nag sydd arfer ar brynhawn Sadwrn i gludo pobl yno.
Ond er bod llawer o gydweld y tu fewn i Catalunya, ar lefel Sbeinig mae'r dadleuon yn parhau rhwng y PP (ceidwadol) sy'n clymu wrth y syniad o 'un genedl o fewn Sbaen',  a'r PSOE (sosialwyr) sy'n siarad am y Sbaen fodern 'luosog' ei phobl ond heb roi awgrym pendant ynglŷn â sut i drafod hynny yn nhermau'r Cyfansoddiad.
Fe fydd papur La Vanguardia yn dangos lluniau byw o'r brotest ar ei wefan:http://www.lavanguardia.es/

Friday 9 July 2010

Malwr Esgyrn y Mynyddoedd

Dychmyga aderyn sydd, yn ddeufis oed, yn pwyso 5 kilo. Mae na fabis sy ddim yn pwyso cymaint â hynny. Ond heddiw yn Belbin yn y Picos de Europa, mae dau gyw 'quebrantahuesos' (y malwr esgyrn) wedi eu rhyddhau i fynyddoedd y parc cenedlaethol. Dwy ydyn nhw mewn gwirionedd, rhai benywaidd wedi eu dewis i geisio cael yr aderyn anferth a rhyfeddol yma yn ôl i'r Picos.
Ar hyn o bryd mae'r enghreifftiau agosaf i'w cael yn y Pirineos, o ble maen nhw'n hedfan 300km a mwy i'r Picos i chwilio am fwyd. Rydyn ni wedi gweld un ddwywaith (flwyddyn gyfan rhwng y ddau achlysur - pwy a ŵyr ai'r un un oedd e?) Hyd yn oed pan fyddan nhw'n hedfan yn uchel, maen nhw'n anferth - yr adennydd o un pen i'r llall yn gallu cyrraedd 3m a'r corff tua maint cath.
Mae'r enw'n iawn; mae'r adar hyn yn gallu treulio esgyrn wrth bod gyda nhw ryw gemegyn neilltuol yn eu stumogau. Buom ni mewn darlith yn ystod y gaeaf gan un o'r bobl oedd yn trefnu rhyddhau'r cywion: dywedodd y byddan nhw'n bwyta 'carrion' - cig anifail sydd wedi marw eisoes - tra byddan nhw'n ifanc, ond bod yr oedolion yn aros hyd nes i'r brain a'r fylturiaid eraill gwpla'r cig, ac yna'n cipio esgyrn i fyny'n uchel iawn a'u gadael i ddisgyn ar y creigiau, lle maen nhw'n torri'n ddarnau. Mae'r aderyn yn dod i lawr i fwyta'r mêr a'r esgyrn. Credwch chi fi, mae gypaetus barbatus werth ei weld.

(Gweld nawr bod yr Uchel Lys yn Madrid wedi penderfynu nad yw Catalunya'n genedl. Dim amser heddiw ond mwy am hynny yfory). 

Thursday 8 July 2010

Diwedd y Gân yw'r Geiniog

Tipyn o newyddion o'r byd ariannol heddiw, ac am unwaith nid sôn am weithio hyd at lan y bedd na gweld toriadau yn y gwasanaethau cyhoeddus.
Yn gyntaf, mae un o wŷr cyfoethocaf Sbaen yn wynebu achos llys am osgoi trethi drwy ddatgan ei fod â'i 'gartref trethadwy' (domicilio fiscal) yn Portiwgal. Roedd hynny'n gelwydd. Ond yn ôl y papurau heddiw roedd yn ddigon i'w alluogi i symud 500 miliwn euro allan o Sbaen ac i osgoi dalu trethi ar weddill ei ffortiwn anferth. Teulu Demetrio Carceller sy bia bragdy Damm (sy'n gwneud y cwrw Estrella Damm ymysg eraill) yn ogystal â rhannau o nifer o gwmniau mawr eraill.
Yn ail, mae'r cynlluniau i uno rhai o'r banciau cynilion rhanbarthol (cajas) yn mynd yn ei flaen yn dda. Bu'n rhaid achub cwpwl ohonyn nhw oedd wedi cael eu denu i fyd hud a lledrith y morgeisi diwerth, ond mae eraill, yn eu plith Cajastur,  yn edrych yn gryfach o'r herwydd ac yn fwy fyth efallai wrth ddod at ei gilydd.
O ie, ac mae fiesta San Fermin wedi dechrau yn Pamplona. Saith o'r rhedwyr wedi cael eu hanafu'n barod gan y teirw, 3 ohonyn nhw o wledydd tramor a 2 mewn cyflwr ddifrifol. Mae na fideos di-ri ar YouTube - mae hwn yn eithaf da os ydych chi'n hoff o weld pethau fel hyn.
http://www.youtube.com/watch?v=xyUCo-EMS-Q

Wednesday 7 July 2010

Pêl-droed 1, Traffordd 0

Dwy awr i fynd cyn y gêm yn erbyn yr Almaen. A dyna ddigon - sdim eisie i fi ychwanegu at y tudalenni o ffeithiau/gobeithion sydd wedi eu cyhoeddi eisoes. Wel, dim ond nodi bod baner newydd gan dîm Sbaen, ac yn ei chanol yr octopws enwog Paul sydd wedi 'darogan' y bydd La Roja yn ennill heno.
Yma yn Asturias, er gwaethaf gwrhydri David Villa, tynged y draffordd ar hyd yr arfordir sy'n poeni pobol. Yn enwedig felly yn nwyrain y dalaith,  lle mae na 25km o heol hen-ffasiwn rhwng Llanes a'r ffin gyda Cantabria yn Unquera.
Mae'n ymlusgo drwy nifer o bentrefi bach lle mae'r trigolion yn cael trafferth croesi o un ochr i'r llall; mae'n rhannu llwybr gyda thractorau, a phererinion ar eu ffordd i Santiago de Compostela; ac ers dwy flynedd bellach mae'r gweithwyr sy'n paratoi'r draffordd yn creu mwy o smonach wrth symud bryniau bach a newid cwrs afonydd. Heb sôn am y ffrwydriadau sydd weithiau'n ei chau'n gyfangwbl. Rhaid dweud bod y rhan yma wedi bod llawer anos na'r disgwyl. Ac yn ar y mae'r arian wedi rhedeg allan.
Yr unig ddewis arall, fel soniais i o'r blaen, yw'r rheilffordd, ond mae'n cymryd oriau ar y trên hefyd. A heddiw fe ddywedodd y Gweinidog Datblygu (llywodraeth Madrid) y byddai oedi pellach wrth gwblhau'r darn yma - o leiaf un ac efallai pedair blynedd.
Rwy'n siwr ei fod e'n gobeithio bod pawb yn canolbwyntio ar y pêl-droed.

Tuesday 6 July 2010

Am Ba hyd Bydd Bont?

Mae hanesion y llifogydd yn dal i gael eu hadrodd ymhobman, ond heddiw glywais i un sydd ag o leiaf llygedyn o obaith ynglŷn â hi. Dywed un o drigolion Poncebos (man cychwyn Taith Gerdded i'r Gorffennol 4 Mawrth 2010) ei fod wedi bod yn gwneud cwynion swyddogol ysgrifenedig ers naw mlynedd am y cerrig sydd wedi'u pentyrru o dan y bont yno. Mae'r llythyron wedi mynd at bob haenen o lywodraeth - genedlethol, daleithiol a lleol - at  fwrdd yr afonydd ac at y cwmni sydd berchen y pŵerdy bach ychydig uwchlaw'r bont.
Yr amcangyfrif yw bod gwely'r afon wedi'i godi 4m oherwydd y cerrig sydd wedi casglu yno, yn gyntaf oherwydd tirlithriad ac wedyn rhediad arferol yr afon yn cario mwy o gerrig gyda hi.  Dim ond 2m o bileri'r bont sydd i'w gweld bellach uwchben y domen gerrig.  A'r ofn yw y byddai glaw trwm fel yr hyn a welwyd mewn mannau eraill yn Asturias dair wythnos yn ôl yn achosi gorlifiad a hyd yn oed yn distrywio'r bont.

Er gwaetha'r llun yma, nid heol fach o ddiddordeb i fugeiliaid a cherddwyr yn unig sy'n croesi pont Poncebos. Mae pum pentre (pedair yn Asturias ac un, Tresviso, yn Cantabria) yn dibynnu'n gyfangwbl arni. Dim ond gobeithio bod rhywun mewn swyddfa yn rhywle yn clywed yr hanes, ac efallai'n mynd yn ôl drwy'i hen lythyron.

Monday 5 July 2010

Pencampwyr y Mynyddoedd

Dyma her i'r rheiny sydd wedi blino ar farathon Eryri: la Travesera de los Picos. Ras flynyddol sy'n dechrau am hanner nos yn un o'r safleoedd mwyaf enwog yn hanes Sbaen, Covadonga,  ac yn gorffen 74 km (50 milltir) wedyn yn Arenas de Cabrales. Mae rhywun wedi gweithio mâs bod y rhedwyr yn dringo a disgyn cyfanswm o 13000m.

Cafodd ras 2010 ei chynnal dros y penwythnos, er gwaetha'r tywydd drwg, a llwyddodd y cyflymaf ohonyn nhw i gyrraedd Arenas mewn 14 awr! Eraill mewn 20.
Ar wahân i redeg am 6 awr yn y tywyllwch, bu'n rhaid iddyn nhw ddioddef niwl ac eirlaw yn un o fannau uchaf y daith, llwybrau oedd wedi eu difetha gan dywydd garw'r gwanwyn, a llwybrau serth i fyny ceunentydd 'gwaeth oherwydd eich bod yn gweld y cwbl o'r dechrau un' yn ôl un rhedwr.

Mae'r ras yn cael ei rhedeg ddiwedd Mehefin, rywsut dwi ddim yn meddwl y bydda'i'n cymryd rhan - ond beth amdani?

Sunday 4 July 2010

Nid Ydyw hyn ond Cawod

Rhyw deimlo y dylwn i ymddiheuro am gyhoeddi cofnod arall yn ymwneud â'r tywydd - ond mae'n bwysig iawn i bobl fan hyn sy'n dibynnu ar y tir a'r twristiaid am eu bara menyn. Bwrw glaw eto heddiw, er nad cymaint ag sydd wedi bod, y chwyn yn uchel eu pennau a'r ffrwyth yn pwdu. (Gwrthod datblygu'n iawn, rwy'n golygu.)
Ychydig hefyd yw'r ymwelwyr, a'r rheiny sydd wedi cyrraedd naill ai'n bwyta a siopa neu'n ymweld ag amgueddfeydd. Dyma rai o'r goreuon:
Amgueddfa Werin y Dwyrain yn Porrua. Stafelloedd, stablau ayyb yn olrhain hanes yr ardal a'r hen ffordd o fyw yn y wlad.
Amgueddfa'r Diwydiant Glo yn El Entrego. Hen bwll glo a chyfle i brofi byd y glowr ddechrau'r ganrif diwethaf.
Amgueddfa'r Jurassic (MUJA) -yn fan hyn hanes y dinosoriaid y mae eu hôl i'w gweld yng nghreigiau'r arfordir.

Ac ar ben y tywydd mae'n debyg na fydd y rhan nesaf (a'r olaf) o'r draffordd yn barod am 2 flynedd arall. Roedd hi i fod i agor yn 2008! Mwy o oedi i'r rhai sy'n teithio i gyfeiriad Santander neu Bilbo.

Saturday 3 July 2010

Gwneud Môr a Mynydd o Do Bach

Ar ôl chwe blynedd mae'r llys wedi penderfynu: rhaid i Angel roi to bar y traeth yn ôl lle oedd e. Rhyw 1m80 yn is na lle mae e ar hyn o bryd. Ond am fod cymaint o amser wedi mynd heibio ers y cwyn cyntaf, fydd ddim rhaid iddo dalu dirwy. 

Y bar ar ddiwedd y byd, ontefe? Dim ond yn yr haf y mae ar agor,  ond mae pawb sy'n dod yma'n dwli ar y lle.
Mae'r gymdeithas a ddygodd y cwyn yn ei erbyn fel arfer yn gwneud gwaith da yn ceisio diogelu rhannau o'r arfordir sydd o dan fygythiad. Beth sydd wastad yn synnu rhywun - er na ddylai fe ddim erbyn hyn - yw bod yr achos yma wedi mynd eu ffordd nhw, ac eraill, yn erbyn pobl a chwmniau llawer mwy a mwy nerthol, wedi methu.
Roedd y bar yno am flynyddoedd cyn codi'r to, yn cyflawni gofynion ymwelwyr â'r traeth. Does ond gobeithio y bydd yn dal i wneud hynny am flynyddoedd eto.

Friday 2 July 2010

Dewis y Bobl

Pawb yn ceisio peidio â chynhyrfu gormod cyn gêm yfory. Wel, pawb sy'n dilyn pêldroed, a mae hynny'r un peth a dweud 'bron pawb'. A hyd yn oed y rhai sy ddim fel arfer, yn cymryd diddordeb yn y 'Mundial' - Cwpan y Byd, yn un peth am fod Sbaen yn gnwued yn well nag arfer ac yn ail am mai David Villa, bachan o Asturias, sy'n cael y gôls.
Fe ddechreuodd David ei yrfa broffesiynol yn Gijón gyda'r Sporting, ond bu'n rhaid ei werthu wyth mlynedd yn ôl yn ystod cyfnod hir a thlawd y clwb hwnnw y tu allan i'r adran gyntaf. Aeth i Zaragoza am 3 miliwn o euros, a dim ond dwy flynedd wedyn i Valencia am 12 miliwn. Fe fydd yn dechrau'r tymor newydd yn y Camp Nou, gyda Barselona wedi talu 40 miliwn o euros amdano.  55 miliwn mewn wyth mlynedd.
Does ond gobeithio y bydd yn profi werth ei dâl yfory.
Un peth fydd o ddiddordeb i bobl sy'n hoff o ieithydda: equipo (tîm) yw'r gair am chwaraewyr clwb fel Sporting Gijón neu Real Madrid; la selección (y dewis) sy'n chwarae yng nghrysau cochion Sbaen.  Ac mae hynny'n wir am y chwaraeon i gyd, nid dim ond pêldroed.

Thursday 1 July 2010

Yfwn ni Hanner Dwsin o Boteli

Newydd dderbyn 6 potel o win arbennig iawn. Mae un eisoes wedi'i addo i gyfaill o'r Eidal sy'n byw yn y pentre nesaf, ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr at flasu'r lleill (un ar y tro).
Gewurtztraminer yw'r grawnwin, o fath sy'n deillio o ardal Alsace ar y ffin rhwng Ffrainc a'r Almaen. Mae'n cynhyrchu gwin sych, ond heb fod mor unionsych (os oes na sut air) â gwinoedd fel Chablis. Yn lle dur y gwin hwnnw, mae rhywun yn blasu sbeis. Aromatig yw gair y rhai sy'n gwybod y pethau hyn.
Mae'n win sy'n dda ar ei ben ei hun neu gyda bwyd, yn enwedig felly bwyd sbeislyd India neu China.
A na, dyw e ddim yn cael ei dyfu ryw lawer yn Sbaen (a dim o gwbwl yn Asturias lle ŷn ni'n canolbwyntio ar seidir).
Ond yn y Bierzo, yng ngogledd-orllewin talaith Leon, mae o leiaf un gwindy sydd yn arbrofi; maen nhw'n cynhyrchu gwin yr ardal, sydd â'i grawnwin (coch) ei hunan, y Mencia, ond maen nhw hefyd wedi plannu un cae gyda gewurtztraminer. Dyw e ddim yn llwyddiant gant y cant - rhai blynyddoedd does na ddim digon  o ffrwyth i wneud gwin ar gyfer ei werthu. Mae'n cael ei werthu am 7 euro y botel, sy'n eithaf drud fan hyn lle mae gwin bob dydd i gael am 1 euro.
Ac mae e werth y pris: pan ges i ebost yn dweud bod 6 photel ar ei ffordd roeddwn i'n teimlo bod anrheg penblwydd yn dod o'r Bierzo.