Swyddog o'r mudiad undebol comiwnyddol yn galw am gymorth i sefydlu busnesau bach. Mae'n swnio'n rhyfedd i rywun sy'n gyfarwydd a'r gyfundrefn yng Nghymru, ond yma mae pethau'n wahanol.
Mae gweithwyr Sbaen yn gallu dewis un o dair undeb genedlaethol: dyw'r undebau ddim yn cynrychioli pobl sy'n gwneud yr un fath o waith, ond pobl sydd yn cefnogi mudiadau gwleidyddol. Oddi fewn, wrth gwrs, mae 'na adrannau ar gyfer glowyr, gweithwyr rheilffordd ac ati. Dim ond ers marwolaeth Franco y mae nhw wedi bod yn gyrff cyfreithlon.
Y fwyaf o lawr yw'r UGT (Undeb Gyffredinol y Gweithwyr), sydd â pherthynas meddyliol gyda'r PSOE (y Blaid Sosialaidd). Wedyn daw'r CC OO (Comisiynau'r Gweithwyr), y 'comiwnyddion', a llawer yn llai y CGT ( Cyd-ffederasiwn Gwaith Cyffredinol), a ddeilliodd o fudiad yr anarchwyr.
Mae'r cyfan wedi dod at ei gilydd i drefnu'r streic gyffredinol ddydd Mercher nesaf, felly mae na fwy o gyfarfodydd nag arfer a'r rheiny'n cael mwy o sylw gan y cyfryngau.
Neithiwr, beth bynnag, roedd arweinydd taleithiol y CC OO yn siarad yn lleol, a dyma fyrdwn ei araith:
Bod ardal ddwyreiniol Asturias yn 'cysgu' yn economaidd, yn dibynnu gormod ar arian y llywodraeth (!) a thwristiaeth.
Bod angen diwydiannau newydd - nid ffatrioedd ond cwmniau wedi'u gwreiddio yn y traddodiad amaethyddol, yn cynhyrchu bwydydd safonol, yn ddiwydiannau glân a chynaliadwy.
A doedd e ddim eisie gweld y llywodraeth yn chwarae mwy o ran na datblygu fframwaith (parciau busnes a thrafnidiaeth), ond am weld trigolion yr ardal yn sefydlu ac yn rheoli'r cwmniau newydd.
Beth wedodd e ddim oedd, na all hyn ddigwydd tra bod cymaint o bobl yn ymfudo wedi gadael coleg.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment