Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Tuesday 16 February 2010

y Dathlu Olaf

Dydd Mawrth Ynyd, y diwrnod olaf cyn y Grawys, y 40 diwrnod o ympryd a rhoi heibio moethau sy'n arwain at y Pasg.
Yn Asturias fel mewn sawl gwlad Gatholig, nid crempog yn unig yw ystyr y diwrnod hwn, ond carnifal - 'antroxu' yn yr iaith Astwreg. Mae hwn yn cael ei gynnal dros 4 neu 5 diwrnod, ac yn gorffen heno gyda gorymdeithiau ymhob tref, llawer o yfed a bwyta, a phobl mewn gwisg ffansi. Efallai byddai rhithwisg yn air gwell, oherwydd mae na hen gymeriadau Antroxu sydd yn ymddangos bob blwyddyn : y zamarrones, sy'n edrych yn filwrol ac yn dawnsio hen ddawns werin; y choqueiros, sydd yn chwistrellu dŵr (neu ffug-eira) ar ben pawb o'u cwmpas, neu'r sidrus, sydd mewn rhai llefydd yn dal i fynd o gwmpas yn gwisgo croen dafad ac yn cyhoeddi'r difyrrwch sydd i ddod.
Mae rhai o ddathliadau'r Antroxu wedi tyfu'n enfawr: yn Avilés, e.e., maen nhw'n llenwi stryd serth ag ewyn i bobl gael llithro i lawr - yn eu gwisgoedd rhyfedd. Ac yn Gijón heno byddan nhw'n darllen ewyllys ac yn claddu.....sardîn enfawr.
Ond yfory bydd cerfluniau'r eglwysi'n cael eu cuddio â lliain porffor, a bydd popeth yn tawelu hyd at Semana Santa a'r Pasg.

No comments:

Post a Comment