Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Tuesday 3 August 2010

Cydio yn Llaw Mam

Mae arolwg a gyhoeddwyd ddoe yn dangos treian o bobl Asturias yn erbyn datblygu'r cymunedau awtonomaidd - gan gynnwys Asturias ei hun ond hefyd Catalunya a Galicia - ac o blaid mwy o benderfyniadau canolog.
Heddiw mae'r cyfryngau'n ceisio dyfalu paham fod y fath farn wedi ei gofnodi.
Y 'crisiis', meddai rhai. Mewn amser economiadd anodd, mae pobl eisie bod yn rhan o wladwriaeth fawr gref, nid ryw gilcyn o dalaith ar ymyl Môr Iwerydd. Ac mae'n wir bod Asturias wedi derbyn cymorth ariannol mawr erioed gan Madrid: ar wahan i gyfnod y diwydiannau trymion, glo a dur, talaith dlawd mae hon wedi bod ar hyd ei hanes. A hynny, efallai, yn arwain at ddiffyg hyder ar lefel y gymuned, llai o ffydd yn y gwleidyddion yn Uvieu/Oviedo a llai o alw am ddatblygu'r gyfundrefn honno.
Mae eraill yn gweld argyfwng o fath arall: ofn y bydd y galw am annibyniaeth e.e. yn Catalunya yn arwain at ddinistrio gwladwriaeth Sbaen. Mae pobl Asturias, medden nhw, yn dal i gredu (rhywle'n ddwfn yn yr isymwybod) taw Asturias yw Sbaen, yr unig ran nas concrwyd gan y Mwriaid, a bod yn gyfrifoldeb ar  Asturias felly afael yn dynn yng gweddill y taleithiau i sicrhau na fydden nhw'n diflannu eto. 
Yr hyn sy'n sicr yw bod hunaniaeth, treftadaeth, Asturias yn fyw ac yn gryf. Ond rywsut dyw e ddim wedi arwain at yr un math o fudiad yn wleidyddol.
.

2 comments:

  1. Os ydi traean yn erbyn...ydi dau draean o blaid felly?

    ReplyDelete
  2. Na - a dylwn i fod wedi gwneud yn glir bod dros 50% yn hapus gyda'r sefyllfa bresennol, 30% eisie llai o ddatganoli a'r gweddill rhwng y rhai sydd eisie mwy a'r 'ddim yn gwybod'

    ReplyDelete