Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Sunday 15 August 2010

Smotyn o Sbaen ar dir Affrig

Heddiw rwyf i am edrych ychydig yn ehangach na'n byd bach ni yn nwyrain Asturias. Ers wythnos bellach mae gwrthdaro wedi bod ar y ffin rhwng Melilla, dinas sydd yn perthyn i Sbaen, a grŵp o bobl sy'n ei hawlio ar gyfer Moroco, y wlad o'i chwmpas. Am rai dyddiau fe gaewyd y ffin yn gyfangwbl, a neb na dim yn cael croesi, oedd yn gwneud pethau'n anodd i drigolion Melilla am fod y rhan fwyaf o'u bwyd yn gorfod dod o Moroco. Ac mae'n debyg y bydd hynny'n dechrau eto yfory.
Mae'r ddinas wedi bod yn eiddo i Sbaen ers 1497, ac ar hyd y canrifoedd mae ymladd a chyfamod wedi dilyn ei gilydd. Roedd hi'n lle pwysig iawn i fyddin Sbaen; yng ngogledd yr Affrig ym 1936 y dewisodd  Franco ddechrau ei wrthryfel yn erbyn y llywodraeth weriniaethol. (Am sawl reswm: roedd 'byddin yr Affrig' at ei gilydd yn filwyr cyflogedig, a'r Lleng Dramor yn cynnwys pob math o ddrwgweithredwyr. Hefyd doedd na ond ychydig o Sbaenwyr cyffredin yn byw yn y trefi yno). Dim ond 10 diwrnod yn ôl y tynnwyd i lawr yn Melilla y cerflun olaf yn Sbaen oedd yn dangos Franco ar gefn ceffyl.
Fe allech chi'n hawdd ddadlau, felly ei bod hi'n hen bryd i Madrid roi'r gorau i Melilla, a'i chwaer ddinas, Ceuta (a Llundain Gibraltar?).
Ond beth sydd wedi bod yn anodd ei dderbyn yw'r ffordd y mae'r protestwyr y tu allan i Melilla wedi targedu swyddogion benywaidd o fewn heddlu'r ffin.  Merched lleol, o dras Islamaidd: mae'n rhaid ei bod hi'n codi ofn arnyn nhw i weld y posteri enfawr ohonyn nhw eu hunain, yn unigolion y gellir yn hawdd adnabod eu gwynebau. Mae'r heddlu'n dweud bod y gwrthdystwyr hefyd yn gweiddi'n anweddus arnyn nhw. Buaswn i'n dweud bod y gwleidyddol yn yr achos yma wedi mynd yn rhy bersonol.

2 comments:

  1. Eitem ddifyr; diolch am dynnu sylw ato. Mae gwasanaethau newyddion Prydeinig mor unllygeidiog weithiau, ac yn anwybyddu pob newyddion sydd ddim yn effeitho'n uniongyrchol ar yr 'ymerodraeth'. Dwi newydd edrych ar wefannau'r BBC, ITN, a Sky News, sef y rhai sy'n darparu'r canran helaethaf o newyddion i bobl yr ynysoedd hyn. Dim gair. Rhaid mynd i safleoedd Reuters a'r Independent i weld unrhyw son.
    Pan oeddwn yn Cantabria'n ddiweddar roedd llawer o son -ar y newyddion, ac yn y caffis, (o be gallwn i ddehongli o leiaf)- am benderfyniad 'gwleidyddol' Catalonia i wahardd ymladd teirw. Ydi hyn dal yn destun trafod acw? Beth yw'r farn yng ngweinyddiaeth ac ar strydoedd Asturias?

    ReplyDelete
  2. Dyw ymladd teirw erioed wedi bod mor boblogaidd yn y gogledd ag yw e yn Ne Sbaen. Mae 'na 'plazas' yn ninasoedd mawr Asturias ond unwaith y flwyddyn maen nhw'n cael eu defnyddio. Yng nghyd-destun y ddadl am gyfansoddiad Catalunya wrth gwrs bod elfennau gwleidyddol ar y 2 ochr, ond yn Asturias doedd hi ddim yn destun siarad. Gyda llaw nid Catalunya yw'r gymuned gyntaf i wneud hyn. Mae'r 'lidia' - ymladd teirw - wedi ei wahardd yn Ynysoedd y Canarias ers 20 mlynedd.

    ReplyDelete