Ymhen llai na dwyawr - 1800 awr Sbaen - fe ddisgwylir dros filiwn o bobol ar strydoedd Barselona i ddatgan bod Catalunya'n genedl. Daw hyn diwrnod ar ôl penderfyniad yr Uchel Lys yn Madrid : nad yw Catalunya'n genedl oherwydd nad yw cyfansoddiad Sbaen yn cydnabod ond un genedl. Mae dros fil o wahanol gyrff, awdudodau a chymdeithasau wedi rhoi eu cefnogaeth i'r orymdaith sydd yn debyg o ddenu pobl o draddodiadau gwleidyddol gwahanol ac o bobman yn Catalunya. Bydd llywydd a chyn-lywyddion Catalunya yn arwain y dorf.
Mae strydoedd o gwmpas man gorffen y brotest wedi eu cau ers yn gynnar y bore ma a mwy o drenau Metro'n rhedeg nag sydd arfer ar brynhawn Sadwrn i gludo pobl yno.
Ond er bod llawer o gydweld y tu fewn i Catalunya, ar lefel Sbeinig mae'r dadleuon yn parhau rhwng y PP (ceidwadol) sy'n clymu wrth y syniad o 'un genedl o fewn Sbaen', a'r PSOE (sosialwyr) sy'n siarad am y Sbaen fodern 'luosog' ei phobl ond heb roi awgrym pendant ynglŷn â sut i drafod hynny yn nhermau'r Cyfansoddiad.
Fe fydd papur La Vanguardia yn dangos lluniau byw o'r brotest ar ei wefan:http://www.lavanguardia.es/
Saturday, 10 July 2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment