Resaca yw'r gair Sbaeneg amdano. Ond roeddwn i wedi dweud neithiwr, ar ôl sawl culín o seidr, y byddwn yn mynd i nofio amser y penllanw y bore ma - am 11.00.
Rywsut fe lwyddais i ddihuno am 10 o'r gloch, wedi bod yn dawnsio yn strydoedd (wel, stryd) Llames tan o leiaf 3am. Yn wyrthiol, fe godais, ces i hyd i bopeth oedd eisiau i fynd i'r traeth, a bant â fi. Wel, am yr union beth i wella resaca. Roedd yr haul yn disgleirio, y môr wedi tawelu, y penllanw ychydig yn is na ddoe, a neb yno ond cwpwl a'u babi - yntau hefyd yn dawel. Es i fewn yn syth a bûm yn nofio am ryw 20 munud nes i lawer mwy o bobol ddechrau cyrraedd. Yn gwneud llawer mwy o sŵn. Ond roedd y feddyginiaeth wedi gwneud ei gwaith ac roedd hi'n amser mynd adref, i wasgu orennau ar gyfer brecwast.
A dyna fe. Gweddill y dydd: dim byd. Eistedd ar y teras yn darllen ac yn gwylio pili-palas. Tipyn (bach) o chwynnu. Rhy dwym i fynd am dro.
Yn awr gyda'r gwres yn lleihau, dyfrio'r planhigion o gwmpas y tý a meddwl am ginio. Diwrnod perffaith.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment