Dwy awr i fynd cyn y gêm yn erbyn yr Almaen. A dyna ddigon - sdim eisie i fi ychwanegu at y tudalenni o ffeithiau/gobeithion sydd wedi eu cyhoeddi eisoes. Wel, dim ond nodi bod baner newydd gan dîm Sbaen, ac yn ei chanol yr octopws enwog Paul sydd wedi 'darogan' y bydd La Roja yn ennill heno.
Yma yn Asturias, er gwaethaf gwrhydri David Villa, tynged y draffordd ar hyd yr arfordir sy'n poeni pobol. Yn enwedig felly yn nwyrain y dalaith, lle mae na 25km o heol hen-ffasiwn rhwng Llanes a'r ffin gyda Cantabria yn Unquera.
Mae'n ymlusgo drwy nifer o bentrefi bach lle mae'r trigolion yn cael trafferth croesi o un ochr i'r llall; mae'n rhannu llwybr gyda thractorau, a phererinion ar eu ffordd i Santiago de Compostela; ac ers dwy flynedd bellach mae'r gweithwyr sy'n paratoi'r draffordd yn creu mwy o smonach wrth symud bryniau bach a newid cwrs afonydd. Heb sôn am y ffrwydriadau sydd weithiau'n ei chau'n gyfangwbl. Rhaid dweud bod y rhan yma wedi bod llawer anos na'r disgwyl. Ac yn ar y mae'r arian wedi rhedeg allan.
Yr unig ddewis arall, fel soniais i o'r blaen, yw'r rheilffordd, ond mae'n cymryd oriau ar y trên hefyd. A heddiw fe ddywedodd y Gweinidog Datblygu (llywodraeth Madrid) y byddai oedi pellach wrth gwblhau'r darn yma - o leiaf un ac efallai pedair blynedd.
Rwy'n siwr ei fod e'n gobeithio bod pawb yn canolbwyntio ar y pêl-droed.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment