Ar ôl chwe blynedd mae'r llys wedi penderfynu: rhaid i Angel roi to bar y traeth yn ôl lle oedd e. Rhyw 1m80 yn is na lle mae e ar hyn o bryd. Ond am fod cymaint o amser wedi mynd heibio ers y cwyn cyntaf, fydd ddim rhaid iddo dalu dirwy.
Y bar ar ddiwedd y byd, ontefe? Dim ond yn yr haf y mae ar agor, ond mae pawb sy'n dod yma'n dwli ar y lle.
Mae'r gymdeithas a ddygodd y cwyn yn ei erbyn fel arfer yn gwneud gwaith da yn ceisio diogelu rhannau o'r arfordir sydd o dan fygythiad. Beth sydd wastad yn synnu rhywun - er na ddylai fe ddim erbyn hyn - yw bod yr achos yma wedi mynd eu ffordd nhw, ac eraill, yn erbyn pobl a chwmniau llawer mwy a mwy nerthol, wedi methu.
Roedd y bar yno am flynyddoedd cyn codi'r to, yn cyflawni gofynion ymwelwyr â'r traeth. Does ond gobeithio y bydd yn dal i wneud hynny am flynyddoedd eto.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment