Ar y ffordd fe weles i gymydog yn cario bwced gwag. A thyrnsgriw. Roedd e'n anelu am y traeth i gasglu 'llamparas'. Mae arna'i ofn taw fel 'limpets' y byddwn i'n cyfeirio atyn nhw, ond wedi cael sawl gair Cymraeg erbyn hyn, gan gynnwys brennig a chogwrn. Unrhyw un yn gwybod p'un sy'n iawn?
Ond rwy wedi cael rysait lleol amdanyn nhw, gyda seidr a tomatos. Ac os ga'i gyfle pan fydd y môr ar drai af i lawr i weld pa mor hawdd yw hi eu tynnu nhw o'u creigiau, ac a ydy'r blas yn werth y drafferth, fe gewch chi wybod mwy.
Yn ôl Edible Seashore gan John Wright maen nhw'n blasu fel "pencil rubbers dipped in fish paste" - hmm, pob hwyl 'da hwnna!
ReplyDeleteErs hynny rwy wedi siarad â nifer o bobl oedd yn dweud a) maen nhw'n wydn ac yn anodd eu cnoi, neu b) maen nhw'n hyfryd gyda thipyn bach o ham - hynny yw, rhywbeth sydd â blas iddo
ReplyDelete