Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Saturday, 22 May 2010

Planhigyn Di-enw Arall

Oes na unrhywun yn gwybod enw'r planhigyn hwn? Planhigyn suddlon yw e, (planta crasa yn Sbaeneg) ac fe ges i fe'n doriad gan gyfeilles oedd wedi cael toriad wrtho rhywun arall ayyb.
Ac ar ôl tair blynedd o bwdu dyma fe wedi setlo ac yn barod i goncro'r creigiau i gyd. Yn anffodus gan fod fframwaith y planhigyn mor denau fydd e ddim yn rhwystro'r chwyn.
I'r mynydd yfory ar daith cerdded eitha hir (6 awr) ac uchel, (2000m). Cawn weld sut fydd y blogio ar ei ól e ond o leiaf dylai bod lluniau da gyda fi.  

2 comments:

  1. Ar yr olwg gyntaf, mae'n edrych fel hottentot fig. Dwi wedi gweld hwnnw ar glogwyni yng Nghernyw, lle (mae gen' i ofn dweud) mae'n ymledol iawn ac yn bygwth planhigion brodorol.
    Efallai nad dyna ydyw. Nid yw'r dail yn glir o dy luniau.
    Syrffia'r we am Carpobrotus edulis er mwyn cymharu.

    ReplyDelete
  2. Diolch yn fawr am hynny - rwy'n credu taw hwnnw yw e. Mae'r dail ar hwn yn debyg, dim ond eu bod yn fychan iawn ac ychydig ohonyn nhw sydd. Hyd yn hyn dyw e ddim wedi ffurfio gwreiddiau newydd, ond bydd rhaid imi gadw golwg arno.

    ReplyDelete