Mae blodau'r coed ffrwythau wedi hen fynd a'r ffrwythau bychain yn ymddangos.
Gellyg Williams yw'r rhain - pwy oedd Williams a pham y cafodd y peren yma ei enwi ar ei ôl, sdim syniad gyda fi. Blas hyfryd arnyn nhw, ond dydyn nhw ddim yn cadw'n dda.
A dyma'r fricyllen (apricot). Coed gweddol ifanc yw'r rhain, a hyd yn hyn dydyn nhw ddim wedi llwyddo i gadw'u ffrwythau nes eu bod nhw'n barod i fwyta. Gobeithio am well hwyl eleni - o leiaf maen nhw wedi troi'r ffordd iawn, sy'n awgrymu bod tipyn o bwysau yno. (Mae'r gellyg, sy'n ffurfio ar ôl y bricyll, o hyd â'u tînau yn yr awyr).
Chwynnu fu'r dasg eto heddiw; mae'n syndod fel mae tipyn o law ar ôl wythnos heulog yn dod â nhw mâs yn eu miloedd.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
Dwi wedi bod yn genfigenus iawn o sawl post gennyt: ffa, mefus ac yn y blaen. Mae tyfu ffrwythau dipyn mwy ansicr ychydig ganoedd o filltiroedd i'r gogledd! Roeddwn yn diawlio ddoe fod POB UN o'r gellyg man oedd wedi cnapio o'r blodau wedi disgyn. Pob un! Ro'n i'n swp sal. Diffyg dyfrio gen' i dros gyfnod sych mae'n siwr (tua pedair i bump oed ydi hi). Mae gen i ddwy goeden gellyg sydd ddim yn talu am eu lle a dweud y gwir, ac rwyf wedi rhoi clec i'r fricyllen uchelgeisiol dros y gaeaf! Be oeddwn yn ddisgwyl de ar uchder o 700 troedfedd.
ReplyDeleteTa waeth, mae'n edrych fel tymor ardderchog i'r ceirios sur sy'n tyfu fel gwyntyll yn erbyn ffens(ond bod rhai wythnosau eto cyn y caf eu hel), ac mae'r afal croen mochyn a'r afal Enlli yn hael eu haddewidion ar hyn o bryd hefyd. Hei lwc!
Mi ddyliwn i chwilio am goeden gellyg Williams hefyd; efallai y rhoddaf fwy o sylw iddi oherwydd yr enw.
Rwy'n amau bod y fricyllen dipyn bach yn uchelgeisiol fan hyn hefyd - mae'n blodeuo mor gynnar, dyw'r gwenyn ddim o gwmpas. Bues i wrthi gyda brws peintio (lluniau, nid wal) yn rhoi help llaw. Beth am goeden eirin? Yn dibynnu faint o wynt oer sydd yna, rwy'n siwr y gallet ti gael un fyddai'n gwneud yn dda.
ReplyDeleteIa, mi hoffwn gael eirin neu gage, ond mae'r goeden afal croen mochyn wedi cymryd lle'r fricyllen rwan, ac mae gofod yn brin. 'Does byth digon o le nagoes!
ReplyDeleteMi grwydrais o faes eisteddfod yr Urdd ddoe, i erddi Llanerchaeron, a rhyfeddu ar hen hen goed afalau yno. Prydferth yn wir.