Siŵr bod llawer un wedi gweld tri chynrychiolydd ETA â bob o fasg euraidd am eu pennau yn cyhoeddi atal tanio. Daw hyn yn sgîl rhai misoedd heb 'weithrediadu arfog' ys dywed eu datganiad, a hefyd ar ôl cyfnod o bwyso gan genedlaetholwyr ar y chwith. Pan ddigwyddodd rhywbeth fel hyn o'r blaen, daeth nifer o ddatganiadau wedyn yn esbonio mwy am benderfyniad ETA - bydd yn rhaid aros i weld a gawn ni rywbeth tebyg y tro yma.
Mae'r adwaith gan y ddwy blaid fawr Sbeinig yr hyn a ddisgwylid: Y Sosialwyr sy'n llywodraethu yn Madrid yn dweud nad yw'n ddigonol ond ar yr un pryd yn dechrau trafodaethau gyda llywodraeth Gwlad y Basg a'r pleidiau yno; y Ceidwadwyr yn rhybuddio taw cam tuag at cael lle yn yr ymgyrch etholiadol lleol y flwyddyn nesaf yw e, ac yn ail yn dweud nad oes dim ots, am na fydd y wladwriaeth fyth yn atal tanio ar ETA.
Hawdd iawn oedd hala prynhawn ar y traeth heb yn wybod bod y datganiad wedi'i wneud.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment