Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Monday 25 January 2010

Rheilffordd y Glannau

Mae cysylltiadau'n dipyn o bwnc llosg yma. Am ganrifoedd bu'r Astwriaid yn ymfalchio yn y ffaith bod y mynyddoedd rhyngddon nhw a gweddill Sbaen yn eu cadw'n ddiogel yn ogystal â diarffordd. Wnaeth hyd yn oed y Mwriaid fyth orthfygu Asturias; ac yn wir daeth brwydr Covadonga ar ddechrau'r wythfed ganrif, a enillwyd gan Don Pelayo a'i filwyr Astwraidd, yn rhan o chwedloniaeth genedlaethol Sbaen fel dyddiad dechrau'r ymgyrch (hir iawn) i adennill tiroedd Sbaen.
Yn ystod y canrifoedd wedyn, roedd pobl ifainc y dalaith yn ymadael am yr Amerig (Mexico, Venezuela, Cuba, yr Ariannin) yn hytrach na dilyn eu ffawd ym mhrifddinas eu gwlad eu hun.
Ond gan mlynedd yn ôl, pan ddechreuwyd ar y diwydiant glo, fe godwyd rheilffordd ar hyd glan y môr o Oviedo a'r cymoedd i Santander yn nhalaith Cantabria drws nesaf. Mae'n dal yno, y rheilffordd gul, ac yn cario teithwyr yn ogystal â dur a glo. Mae rhan helaeth o'r lein hyd yn oed wedi'i drydaneiddio. Ond mae'n araf, ac mewn mannau yn lein unffordd, fel bod rhaid i drên teithwyr aros i drên dur fynd heibio (maen nhw'n pwyso llawer mwy!).
Mae cymdeithasau sy'n cynrychiolu busnes, a gwleidyddion Galicia i'r gorllewin, am weld mwy. Mae llwyddiant yr AVE, y trên cyflym iawn, wedi hybu diwydiant mewn ardaloedd eraill, ac maen nhw o blaid codi lein AVE newydd ar hyd yr arfordir.
Rhaid dweud na fyddai hynny'n helpu Mari dros y ffordd sydd am fynd i'r ysbyty, neu Miguel sydd eisiau cludo ffowls i'r farchnad. Achos does na ddim digon o le i'r ddau: stribedyn o dir gwastad sydd na cyn bod y rhes gyntaf o fynyddoedd yn codi'n unionsyth 500m i'r awyr.
Hyd yn hyn mae llywodraeth daleithiol Astwrias yn erbyn y cynllun; mae pawb yn aros i weld beth ddaw ohono.

2 comments:

  1. O astudio manylion Renfe, mae'n eitha' amlwg fod y prif reilffyrdd i gyd yn mynd am Madrid, fel mae prif ffyrdd a rheilffyrdd Cymru'n anelu am Glawdd Offa.
    Ydi'r rhwydwaith Feve yn ddibynadwy? Fedr twmffat di-Sbaeneg fel fi ffeindio'i ffordd o Reinosa i Santander neu i Bilbo er enghraifft? Sut rwydwaith sydd yn Asturias 'ta? Yn anffodus, am na fedraf Sbaeneg, ni allaf ganfod map nac amserlenni ar eu gwefan!

    ReplyDelete
  2. Ymddiheuro am yr oedi cyn ateb. Mae Reinosa ar lein RENFE i fewn i Santander. Mae gorsaf RENFE drws nesaf yn orsaf y FEVE, ond mae trenau' FEVE ond yn mynd tua'r gorllewin, Asturias a Galicia. Rhwng Santander a Bilbo, mae'n haws dal y bws (gyferbyn a'r 2 orsaf yn Santander.) Gobeithio bod hynny'n helpu.

    ReplyDelete