Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Monday 1 February 2010

Yma o Hyd

Roeddwn i'n sôn y diwrnod o'r blaen am y ffermwr llaeth olaf yn y pentref. Dylwn i ddweud taw e hefyd oedd y ffermwr llawn-amser olaf, er bod nifer fawr yn dal i weithio'r tir a dal swydd arall.
Mae rhyw ddau gant o bobl wedi'u cofrestru yma, er nad ydyn nhw i gyd yn byw yma drwy'r flwyddyn. Byddwn i'n amcangyfrif bod o leiaf eu chwarter nhw yn bensiynwyr, a'r rhan fwyaf yn bobl effro a phrysur. Fe'u gwelir yn cerdded tua'r cae gyda gafr ar gortyn neu â phladur dros yr ysgwydd.
Pan elwais i heibio tŷ cymdogion y diwrnod o'r blaen, roedd y fam-gu y tu allan yn torri coed tân â bwyell. A mae hi ymhell dros ei phedwar ugain.
Nawr, dwy'i ddim yn ceisio dadlau bod hyn yn sefyllfa ddelfrydol: maen nhw'n gwneud achos bod rhaid i rywun wneud y pethau ma, a rwy'n siŵr bod yn coesau nhw'n dechrau cwyno. Maen nhw'n dod o'r genhedlaeth oedd yn blant yn ystod y Rhyfel Cartref, ac yn ifanc yn ystod y 'dictadura', cyfnod unbennaeth a gormes Franco. Chawson nhw mo'r cyfle lleiaf i newid eu byd tan yn ddiweddarach: ychydig o addysg, gwaharddiad ar deithio tramor, a'r Eglwys Gatholig yn eu cadw yn eu lle (yn enwedig y merched).
Eto i gyd, mae nhw wedi goroesi hynny i gyd. Y bobl yr ydw i'n eu hadnabod heddiw yw'r cryfion. A maen nhw'n dal i gael hapusrwydd mewn pethau cynefin.

No comments:

Post a Comment