Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Monday 8 February 2010

los Lunes al Sol

Los Lunes al Sol - Dydd Llun yn yr Heulwen. Ffilm werth ei gweld ddaeth allan ryw 7 mlynedd yn ôl yn dangos sefyllfa'r diwaith ar ôl cae iard llongau. Doedden nhw ddim wedi gweld ei hanner hi.
Erbyn, mae gan Sbaen y ganran fwyaf o ddiweithdra yn holl wledydd y Gyfundrefn Gydweithio a Datblygu Economaidd (yr OECD - fwy neu lai gwledydd y 'gorllewin' diwydiannol). 19.5%. Un o bob 5 person. Nid trachwant a byrbwylltra'r banciau yn unig sydd ar fai; mae'r ffordd maen nhw'n cael eu rheolu yn gwneud hynny'n anos. Chwalfa sydyn y diwydiant adeiladu a gwerthu tai sydd wrth wraidd y broblem.
Yn ystod y blynyddoedd y ffyniant economiadd, fe ruthrodd pobl o bob ran o Ewrop i brynu tai yn Sbaen: rhywle i ddechrau bywyd newydd, rhywle ar gyfer oed ymddeol, neu rywle i fwrw gwyliau.
Roedd y Sbaenwyr yn gwneud yr un peth; yn prynu tŷ yn eu hardal bedydd. Ar un pryd roedd hanner y sment oedd yn cael ei gynhyrchu yn Ewrop yn cael ei ddefnyddio yn Sbaen.
Ac os oes na rywbeth sy'n hawdd gwneud hebddo pan ddaw tro gwael ar fyd, tŷ haf yw hwnnw. Yma yn Asturias mae cannoedd yn wag a channoedd ar eu hanner - a miloedd heb eu dechrau o gwbl. Mae cwmniau mawr wedi mynd i'r wal a'r adeiladwyr bach yn cymryd unrhyw jobyn sy'n dod.
Ond y gwaethaf yma yw beth sy'n digwydd i'r ieuenctid. O'r 30,000 o swyddi a gollwyd yn Asturias y llynedd, roedd 20,000 yn cael eu llenwi gan bobl o dan 35 oed. A mae hynny wrth gwrs heb hyd yn oed ceisio cyfri'r rhai sydd wedi allfudo i rannau eraill o Sbaen, Ewrop neu'r byd.
Er gwaetha'r datganoli gwleidyddol, dyw'r penderfyniadau mawr economaidd ddim yn cael eu gwneud yn Asturias, nac yng Nghymru mae'n debyg. Pam nad oes na fwy o bobl ar y stryd yn dangos eu bod nhw wedi cael digon, bod angen ffordd well o drefnu pethau?

No comments:

Post a Comment