Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Sunday 28 February 2010

Nerth, Grym, Trais

Neithiwr, fe gyrhaeddodd y gwyntoedd cryfion yr oedd pobl y tywydd wedi bod yn darogan ers dyddiau. Gyda'r nos, ni symudodd yr un trên nac awyren yn Asturias, jyst rhag ofn. Ond wedi hyn oll, bach oedd y difrod. Rhan o do ysgol wedi'i chwythu i'r llawr. Cwpl o danau bach ar y mynydd wnaeth ddim parhau'n hir.
Newyddion mawr heddiw yw bod tri arall o 'arweinwyr' ETA, mudiad cenedlaethol milwrol/arfog/eithafol Gwlad y Basg, wedi eu harestio yng ngogledd Ffrainc. Dyna 32 o aelodau honedig o ETA sydd wedi eu cadw yn y ddalfa eleni: un bob yn ail ddiwrnod. Ac mae'n enghraifft arall o'r cydweithio sydd yn awr rhwng Sbaen a Ffrainc; ar un pryd yr oedd celloedd cyfan yn gallu byw am hydoedd yn ardaloedd gwledig Basg de-orllewin Ffrainc.
Mae'r sefyllfa yn un gymhleth yng Ngwlad y Basg ei hun. Nid wyf yn arbenigwr (o bell ffordd), ond yn etholiadau cymunedol 2009, fe gollodd y PNV, y cenedlaetholwyr Basg, reolaeth am y tro cyntaf. Un o'r brif resymau oedd bod y pleidiau cenedlaethol llai, oedd a chysylltiadau (fe'i benderfynwyd gan y llys) ag ETA, wedi eu gwahardd rhag sefyll. Ac roedden nhw wastad wedi rhoi digon o bleidleisiau i'r PNV iddyn nhw ffurfio llywodraeth.
Ac i ddeall pam oedd hynny wedi digwydd, mae'n rhaid cofio bod newid barn mawr wedi dod ar ôl y bomio erchyll yn Madrid ym 2004. Roedd pobl wedi blino ar deroristiaeth, o dramor neu o'r penrhyn Iberaidd. Maen nhw am gael ffordd arall i gyrraedd cytbwysedd rhwng Euskadi a Madrid.

2 comments:

  1. Dw i ddim yn arbennigwr ar ar sefyllfa Gwlad y Basg chwaith, ond nid 'barn y bobl' sydd golygu bod y PNV, sef plaid cenedlaetholgar cwbl gymhedrol ddim mewn grym, ond triciau budur gan yr awdurdodau a wnaeth amddifadu canran sylweddol o'r boblogaeth rhag gallu pleidlisio dros y blaid o'u dewis.

    Cysylltiadau honedig ag ETA oedd y rheswm a roddwyd dros wahardd papur dyddiol Basgeg Egunkaria saith mlynedd yn ôl. Dw i wedi bod yn ceisio dilyn yr achos, ond gan nad ydyw i'n siarad Sbaeneg (na basgeg) a bod yr holl beth yn cael ei anwybyddu gan y wasg Brydeinig, mae'n anodd gwybod beth sy'n digwydd.

    Cafodd yr achos ei ohurio cyn dolig pan gyfaddef y swyddogion heddlu a wnaeth gais am gau'r papur nad oeddent yn cofio gwneud y cais na pham. Mae'r achos i fod wedi ail ddechrau mis diwetha dw i'n meddwl, ond dw i ddim wedi clywed dim.

    Faswn i'n synnu dim na chafodd y pleidiau eraill cendlaethoglagar eu gwahardd ar dystiolaeth mor dila.

    Roedd y Llywodraeth Sosialaidd yn Sbaen yn ymddangos fel ei bod yn gwend camau mawr i ddod a heddwch i'r ardal drwy drafod gyda ETA. Ond rwan dw i'n credu bod nhw'n chwarae yr un triciau budur a'r PP ac am weld Gwlad y Basg yn troi yn le treisgadr eto, gan iddyn nhw sylweddoli bod Gwlad y Basg (h.y. rhanbarth Euskadi) heddychlon yn casglu momentwn i gynnal refferendwm ar annibyniaeth drwy ddulliau gwbl gyfansoddiadol, a tydyn nhw ddim eisiau gweld hynny'n digwydd.

    ReplyDelete
  2. Diolch Rhys. Y fi sydd ar fai am beidio gwneud yn ddigon eglur taw barn pobl yn penrhyn yn gyffredinol sydd wedi newid. Dyna beth dwi'n clywed wrth siarad â chymdogion, ond hefyd gydag ymwelwyr o rannau eraill o Sbaen.

    ReplyDelete