Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Wednesday 3 February 2010

Y mae'r Gwanwyn wedi Dod

Neu o leiaf felly mae'n teimlo wrth fwyta'n cinio ar y teras â'r heulwen yn oleuo mynydd sydd wedi bod yn llwyd iawn y dyddiau diwethaf yma. Does dim sŵn peiriannyddol i'w glywed. Pob tractor a llif wedi tewi tra bod ei berchennog yn cymryd ei 'comida' - cinio canol dydd hollbwysig sy'n parhau ryw ddwy awr ar ddiwrnod gwaith.
Dim ond yr adar yn y coed, y clychau am yddfau'r da byw, a gwenynen unig yn profi'r blodau cyntaf ar ochr ddeheuol y mimosa.
Mae hi'n dal yn oerach yng nghysgod y creigiau, ond hyd yn oed yma mae pethau'n dechrau tyfu. Chwyn gan fwyaf, wrth gwrs. Dyna pam maen nhw mor llwyddiannus; yn dechrau'n gynnar, yn bodloni ar bob math o dir a thywydd, ac felly'n ddigon o faint i ddwyn heulwen a glaw y planhigion yr wyt ti am eu gweld, fel bod y rhain yn methu tyfu.
Nodyn byr heddiw oherwydd rwy'n mynd i Oviedo i weld cyfeilles sy'n dost: un o'r pethau ma nad oes neb yn gwybod beth yw e. Rwy wedi casglu hanner dwsin o lemwns a bwnsied o gennin Pedr iddi. Melyn yw lliw'r gwanwyn.

No comments:

Post a Comment