Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Friday 19 February 2010

Pawb a'i Fys...

Cannoedd o bobl yn cyfrannu i fforwms papurau newydd heddiw am yr ystum a wnaeth y cyn-brif weinidog José María Aznar yn Oviedo ddoe.
Roedd hen gyfaill (neu gi bach) Bush a Blair, yr un a ddanfonodd milwyr Sbaen i Irac ac a geisiodd beio ETA am y bomio erchyll ym Madrid yn 2004, ym mhrifddinas Asturias yn rhoi araith am gyflwr gwael yr economi. Aelodau ieuenctid y blaid geidwadol oedd y gynulleidfa, ac roedden nhw wedi llogi un o stafelloedd darlith y brifysgol. Safai nifer o fyfyrwyr yn ei erbyn, yn galw am iddo wynebu llys am y rhyfel yn Irac. Ac fe drôdd arnyn nhw a gwneud ystum sy'n cael ei alw'n 'peineta' (crib), hynny yw, dangos ei fys yn uchel.
(llun Reuters, a ymddangosodd yn El País, yw hwn)
Yn amlwg doedd e ddim mewn sefyllfa beryglus: does neb o'r protestwyr yn agos ato. Roedd e jyst yn dangos nad oes dim ots ganddo am beth wnaeth nac am beth mae pobl yn meddwl amdano. Yr un hen gân: roeddem ni'n gwneud yr hyn oedd yn iawn.

No comments:

Post a Comment