Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Wednesday 17 February 2010

Mor Hapus â Chywion mewn Caws

Y testun heddiw yw caws. Roedd yr hen de Gaulle yn enwog am ddweud mor anodd oedd rheoli Ffrainc a'i 246 o wahanol mathau o gaws. Mae Asturias fymryn yn llai na Ffrainc, rhaid cyfaddef, a dim ond rhyw hanner cant o enghreifftiau sydd gyda ni.
Mae caws yn cael ei wneud ym mhob ardal o'r arfordir i'r mynyddoedd, o ymyl Galicia i ffin Cantabria. Mae'r llaeth a ddefnyddir yn dod o wartheg, defaid neu geifr, neu unrhyw gymysgiad o'r tri. Mae un ohonyn nhw, un o'm ffefrynnau i, yn dod o bentref Gamoneu, yn uchel yn y Picos de Europa. Mae'r tri llaeth yn mynd i fewn i hwn, yn dod o anifeiliaid sydd yn pori drwy'r haf ar laswellt y mynydd.Mae'n cael ei fygu am ryw bythefnos dros dân o coed afal, a mae peth glesni ynddo.
Y caws mwyaf adnabyddus, serch hynny, yw'r Cabrales, sydd yn las glas. Mae'n un o'r bwyddydd na y mae'n rhaid ei flasu sawl gwaith cyn cael blas arno, ond wedyn, wow!
Mae'r Cabrales yn cael ei gadw mewn ogofau nes bydd wedi aeddfedu, weithiau mae o laeth buwch yn unig, weithiau cymysgedd.
Mae'r ddau yma ar restr bwydydd lleol y Gymuned Ewropeaidd, a dydyn nhw ddim yn eu gwerthu'n rhad.

2 comments:

  1. Tydy fy ngwraig i ddim yn un sy'n hoffi mynd dramor (tydi hi ddi yn xenophobic, mae hi'n casau teithiau hir), ond efallai bod yr addewid y gaws yn ddigon i'w hudo i genhedloedd bychain gogledd Iberia rhyw ddydd.

    ReplyDelete
  2. Gobeithio'n wir. Sdim rhaid hedfan chwaith: mae llongau'n hwylio o Plymouth a Portsmouth 3 neu 4 gwaith yr wythnos. Mae fel dechrau'r gwyliau yn hytrach na theithio.

    ReplyDelete