Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Thursday 4 February 2010

Ysgrifennu Therapiwtig

Dyna fydd y blog heddiw. Wedi diwrnod arall fel cardotwyr yn llys y biwrocratiaid, ac yn dal heb gofrestru'r car, rwy'n mynd i roi'r holl beth yng nghefn fy meddwl tan ddiwrnod arall, ac ysgrifennu am bethau sy'n rhoi pleser imi.
Hynny yw, mynyddoedd y fro. Mae'n debyg bod llawer ohonoch chi wedi gweld lluniau'r mawrion, y Picos de Europa, neu efallai wedi cerdded eu llethrau. ond mae'r rhan yma o ogledd Sbaen yn batrwm o gadwynau o fynyddoedd mewn rhesi mwy neu lai dwyrain-gorllewin. Yn dechrau o'r môr, mae nhw'n dringo bob un ychydig yn uwch na'r un blaenorol, hyd nes cyrraedd y Picos. 'Sierra' yw'r enw Sbaeneg, 'llif' am siâp y copâu wedi'u gweld o bellter.
Ond rhaid dweud nad ydyn nhw ddim yn dechrau lle mae'r môr yn cwrdd â'r tir heddiw.
O dan y dŵr mae eraill, mewn rhesi cyffelyb, yn disgyn dros 4,000 metr. Mae gwefan yr ymchwilwyr yn y rhestr Llefydd Diddorol ar y dde.


Hon yw'r sierra nesaf at y môr - dim ond rhyw 5km i gyd .
Mae'r cadwyn yma'n codi i ryw 600m ar y mwyaf; mae'n serth iawn ar yr ochr ogleddol ac yn disgyn yn fwy graddol yr ochr arall cyn codi eto. Yma mae tarddle yr afon fechan sydd yn ffurfio'r traeth agosaf at y tŷ.
Yn ystod misoedd yr haf fe welwch chi wartheg yn pori yno, lle fuasech chi'n meddwl taw dim ond geifr allai gyrraedd.
Niwl y bore sydd yma'n codi o dir gwlyb ar ôl rhai dyddiau o law.

A dyma fel mae'r ail gadwyn yn ymddangos y tu ôl i'r cyntaf. Y Sierra del Cuera yw hwnnw yn y cefndir gydag eira yn dal ar y copâu.
Mae'r mynydd uchaf yno, Peña Blanca, bron yn 1,100m, ac mae dipyn ymhellach o'r môr.
Dim ond wedyn y byddai rhywun yn dod i'r mynyddoedd sy'n arwain at y Picos uchaf.
A dyna lle byddwn ni ddydd Sul, os bydd y tywydd yn weddol.

No comments:

Post a Comment