Anodd credu i unrhyw un a fu'n hybu gwerthiant paent gwyrdd yng Nghymru yn y saith-degau cynnar, ond dim ond yn ddiweddar iawn mae enwau Astwreg trefi a phentrefi'r dalaith wedi dechrau ymddangos ar arwyddion ffyrdd. O'r diwedd mae hyn wedi newid, ond mae'n broses hir.
Oherwydd bod yr Astwreg yn cael ei ystyried yn 'fratiaith' tan ddechrau'r ugeinfed ganrif, dyw'r mwyafrif llethol o'r enwau ddim wedi eu hysgrifennu mewn dogfenni 'swyddogol' erioed. Maen nhw'n bod mewn dogfenni prynu a gwerthu tir, ond mewn llu o ffurfiau ac wedi'u Castellaneiddio i raddau.
Ond na phoener! Mae'r Bwrdd Asesu Enwau Lleoedd, sydd yn cynnwys aelodau o Sefydliad Brenhinol Asturiaethau Astwreg ac Academi'r Iaith Astwreg, wrthi'n ddygn yn penderfynu sut yn union y dylid sillafu'r enwau.
Yn anffodus dydyn nhw ddim bob amser yn dod i'r un penderfyniad â phobl y dref dan sylw. Yn achos Ribadesella, cyhoeddwyd taw Ribeseya ddylai fod, ac fe'i dderbyniwyd gan y cyngor. Ond na, meddai ieithyddwyr a haneswyr yr ardal. Dyw'r ffurf yno ddim yn bod - Ribesella yw hi.
(Mae gwahaniaeth rhwng y cytseiniaid 'll' ac 'y' ar lafar yn Sbaeneg ac yn Astwreg, ac mae dweud 'y' yn lle 'll' yn cael ei gyfri'n wall.)
Dim ond aros i weld yn awr a fydd yr arwydd newydd wedi cyrraedd cyn mewnlifiad ymwelwyr yr haf...a pha ffurf y byddan nhw wedi ei dewis.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment