Rwy'n cofio clywed y cwestiwn yna pan own i'n ferch fach, un ffermwr yn siarad â'i gymydog mewn gwerthiant da byw. Nid pob un oedd yn berchen tractor, ond roedden nhw i gyd yn cael defnydd un ym mis Mehefin ar gyfer lladd gwair. Byddai pobl yn mynd o un fferm i'r llall i helpu.
Dim ond dau hen frawd, a dim ond un cae gwair oedd gyda nhw, yr wyf i'n eu cofio yn lladd â phladur, a chodi'r gwair ar racane bach i'w sychu.
Mae cenhedlaeth y pladurwyr bron wedi mynd yn Asturias hefyd. Rai boreau mae'n bosib clywed eto sŵn rheolaidd y miniogi, ac wedyn y torri, ac yna'r miniogi eto, o gwmpas y tai gyferbyn. A'r diwrnod o'r blaen des i ar draws dyn ifancach o ddigon na'n cymydog ni yn un o'r caeau ar gyrion y pentref.
Iawn, dim ond dechrau clirio'r ochrau mae fe i'r tractor cael dod i mewn i'r cae, ond roedd e'n gweithio'n ddigon destlus. Rhaid cofio bod yr hen fois yn gweithio mewn rhes o 4 neu 5 ar draws y cae - a does dim digon o bobl ar ôl yn yr ardaloedd gwledig i wneud hynny nawr.
Ie, y tractor coch pia hi - gydag un dyn yn gwneud sawl cae cyn cinio, ac un arall yn dod ddeuddydd wedyn i wneud y bêls mawr crwn a'u lapio nhw mewn plastig du.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment