Diwrnod i'r brenin heddiw i ddathlu penblwydd. Fe gerddon ni'r 20 munud i'r pentre nesaf i ddal i tren i Arriondas.
Roedd niwl eithaf trwchus ar yr arfordir, ond wedi teithio am hanner awr lan yr afon daeth hi'n haul ysblennydd drwy'r dydd. Mae Arriondas ar gymmer afonydd Sella a Piloña, a dyma lle mae ras ceufadau rhyngwladol enwog mis Awst yn dechrau.
Ceson ni fwyd yn el Corral del Indianu - lle bwyta arbennig iawn lle maen nhw'n darparu prydau sydd yn cyflwyno blas bwydydd traddodiadol yr ardal yn ddwfn ond eto'n gain e.e. fabada - cawl trwchus o gig moch a ffa gwyn wedi'i droi yn llond llwy o blat ond eto gyda blas pob elfen yn eglur.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment