Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Monday 16 August 2010

Cadw Cynnyrch yr Ardd dros y Gaeaf

Un o'r 'gwyddorau' yr wyf i a llawer un arall mae'n debyg wedi eu colli yw hyn: sut i gadw'n fwytadwy dros y gaeaf y llysiau sydd wedi tyfu yn ein gerddi drwy'r haf. Hyd yn oed pan oeddwn i'n ferch fach, doeddem ni fel teulu ddim yn tyfu pethau fel tato na wynwns - dim ond pŷs a cinebêns a letys oedd yn diflannu'n syth wedi eu casglu. Felly dysgu wrth fynd ymlaen yr ydym.
Mae'r ffrwythau'n hawdd eu trin: eu rhewi, eu troi'n hufen iâ, neu ychwanegu at y rhesi o jarrau jam a chutni lawr llawr. Tomatos: run peth. Ond nid mewn hufen iâ....erbyn meddwl efallai buasai sorbe yn gweithio'n iawn.
Rwyf i hefyd yn rhewi ffa Ffrengig, pupurod (mewn stribedi) a phlatiau fel 'ratatouille' wedi'u coginio.
Mae cennin yn tyfu rownd y rîl fan hyn, felly does dim ond rhaid tynnu'r rhai sydd ar fin dod â blodau, a'u dodi nhw nôl yn y ddaear i gadw am wythnos neu ddwy os bydd rhaid.  
Rwy'n gadael yr wynwns (30kg eleni) ar y balconi sy'n wynebu'r de am chwech wythnos. Mynd i brofi nhw bob hyn a hyn, achos mae un neu ddwy wastod yn pydru. Ac wedyn eu rhoi mewn bagiau-rhwyd a'u hongian yn y sied. Fel arfer maen nhw'n cadw nes bydd y cyntaf o'r flwyddyn nesaf yn barod.
Mae'r sialots yn cadw'n well na dim. (Fe welais i'r cyfieithiad 'sibwns' ar gyfer shallots, ond i fi rhywbeth arall yw sibwns, hanner ffordd rhwng 'spring onion' a wynwns cyffredin, ac yn cael eu cynaeafu'n gynnar - unrhyw syniadau?)
Yn yr ail ran: y tato, ayyb.

4 comments:

  1. Nid bod mod defnyddio'r gair sibwns fy hun, ond ar gyfer spring onion mae Dudley'n ei ddefnyddio ar y bocs.

    Ni (wel y wraig) wedi tyfu shallots eleni am y tro cyntaf ac newydd eu codi. Mae'n nhw'n sychu ar silff yn y ty gwydr - dw i'n meddwl byddant yn OK achos does fawr dim haul yma. Am fynd i IKEA i sbio am fag-rhwyd.

    ReplyDelete
  2. Wedi bod yn chwilio eto ynglŷn â'r enwau: mae 'Rheoliadau Hadau''r Cynulliad yn cynnwys y ddau, sibwns a sialots, ar wahân. Ac mae o leiaf 2 fwyty sydd â bwydlenni ar y we yn defnyddio'r 2 air i ddisgrifio platiau o fwyd. Ond mae Wicipedia'n dweud (yn Saesneg) fod yr enw Welsh onions yn gallu golygu spring onions neu sialots. Yn sicr rwy'n cofio bod hi'n bosib bwyta dail sibwns yn las neu'r gwreiddyn wedi'i sychu. Pawb yn glir?

    ReplyDelete
  3. Fedri di egluro wrth Gog di-glem fel fi, be' ydi cinebens? Diolch

    ReplyDelete
  4. Ymddiheuro am yr oedi cyn ateb: cinebêns fyddem ni'n dweud am ffa coch 'runner beans' - o 'kidney beans' mae'n debyg.

    ReplyDelete