Mae mis Awst wedi cwpla haf ardderchog i ddiwydiant twristaidd dwyrain Asturias. Ar hyd yr arfordir ac yn y mynyddoedd, roedd tai llety yn llawn a hyd yn oed y tai bwyta'n cwyno llai eleni: y llynedd eu cri nhw oedd bod pobl yn prynu bwyd mewn siopau ac nid yn eistedd i lawr i gael pryd go iawn.
Heddiw mae popeth yn wahanol. Mae tymor gwyliau traddodiadol Sbaen yn gorffen gyda dyfodiad mis Medi a dim ond ychydig o ymwelwyr sy'n weddill - onibai am yr tramorwyr, a sdim llawer o'r rheiny beth bynnag. Aeth dim un car dieithr heibio i'r tŷ heddiw.
Iddyn nhw, mae prynhawn hamddenol yr haf wedi diflannu tan flwyddyn nesaf. Ond inni mae'r Guadamia yn aros yr un mor brydferth.
Tuesday, 31 August 2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment