Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Saturday 14 August 2010

Nodyn o'r Ardd: Ffrwythau

Mae tywydd braf diwedd Gorffennaf a dechrau Awst wedi gadael y coed ffrwythau'n edrych yn ffrwythlon iawn. Bu'n rhaid inni gasglu'r eirin i gyd am fod yr adar yn dechrau'u pigo nhw. Fuase ddim ots gyda fi ond eu bod nhw'n pigo unwaith ac yna'n gadael y ffrwyth i bydru, er mawr pleser i'r morgrug ond nid i fi.
  Mae 18 kilo yn y ddau hen dun paent yma, fydd yn ein cadw ni i fynd am dipyn, neu'n gwneud jam i'r teulu i gyd.
A'r gellyg! Coeden 6 blwydd oed yw'r Williams yma, ac mae pwysau'r ffrwyth bron a'i lladd hi:
Mae un gangen wedi'i thorri, ond gyda mae ambell i ddarn o gortyn wedi achub y gweddill. Mae'r afalau a'r cwins yn edrych yn dda hefyd, a'r ffigys ar eu ffordd. Dau fethiant (y rhai arferol): ceirios - mae'n amhosib eu cyrraedd nhw cyn yr adar; a'r olifau - mae'r coed olewydd yn tyfu'n braf ond dydyn nhw ddim yn dwyn ffrwyth. Y gaeaf yn rhy fwyn a'r haf rhy wlyb, mae'n debyg.

2 comments:

  1. Daethom ninnau adre i weld ein hafalau Enlli wedi twchu'n braf, ond yr olaf o'n ceirios ni wedi'u sglaffio gan y mwyeilch!
    Roeddwn yn genfigenus iawn o'r perllanau sydd ymhob man yn y Picos. Pob ty a thyddyn i wedl efo o leiaf ambell goeden ffrwythau.
    Yn gwyro dros ardd y Casa lle oeddem yn aros yn Barago, roedd coeden geirios anferth, ac er braidd yn hwyr erbyn inni gyrraedd ddiwedd Gorffennaf, cawsom ddesglad dda o ffrwyth oddi ar y canghennau isaf.
    Rhy fuan oeddem ar gyfer y cnau Ffrengig wrth gwrs, ond roeddwn wedi gwirioni i weld coeden ymhob man, ac yn tyfu'n wyllt hefyd yn ol pob golwg. Ta waeth, roedd perchennog y Casa wedi gadael dwsin o gnau o'i chnwd ddiwethaf i'n croesawu. Hyfryd wir.
    Yr oedd y goeden morwydden ar y llaw arall yn drwm o ffrwyth mawr, melys, a'r rheiny'n gweiddi arnom i ddwyn dyrnaid neu ddau!
    O am 'chydig o haul yng Nghymru fach.....

    ReplyDelete
  2. Da clywed eich bod wedi cael hwyl yn y Picos. Ynglŷn â'r coed 'gwyllt': yn aml iawn maen nhw'n eiddo i rywun. Mae patrwm etifeddiaeth yr ardaloedd yma yn amhosib ei ddilyn, ond weithiau bydd rhywun yn etifeddu coeden unigol.

    ReplyDelete