Dyw'r rhif 200 ddim mor boddhaol a'r rhif 100, ond mae'n garreg filltir fach arall ym mywyd y blog yma. Cwpwl o hanesion bach hafaidd heddiw: (Gan fod mis gwyliau swyddogol Sbaen newydd ddechrau).
Mae pobl wedi cael eu gwahardd rhag fynd i fewn i'r môr y penwythnos yma oherwydd y chwysigod môr (caravelas portuguesas), yr hen bethau hyll porffor yna sy'n pigo fel y diawl. Naw o draethau sydd wedi cael eu heffeithio, rhai i'r dwyrain ohonom ni ac eraill i'r gorllewin. Traethau sydd ag achubwyr yw'r rhain i gyd, rhywbeth sydd ddim yn wir am y Guadamia. Ond pan fues i yno brynhawn ddoe â'r llanw ar drai doedd na ddim un i'w gweld.
Neithiwr buom ni'n bwyta rhai o greaduriaid rhyfedd eraill y Cantábrico. Criw o gyfeillion wedi dod at ei gilydd i brynu 20 kilo o wythdroediaid (pulpo), a digon o seidr. Cawsom ni brofi pulpo gyda thato, pulpo wed'i wneud ar y 'plancha' ond yn bennaf oll imi, pulpo mariscado, h.y. mewn hylif gyda llawer o bethau bwyd-moraidd eraill - darnau bach o gimwch, cregyn glas a chregyn bylchog. Wnaeth dim byd barhau'n hir.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
Hola, Cath:
ReplyDeleteSoy Carmen Montalbán.
El pulpo mariscado tiene una pinta exquisita; lástima que yo marché de Asturias, precisamente, la víspera de que lo preparaseis.
Para ponete en contacto conmigo (y, así, poder enviarte yo las fotos prometidas), visita mi página web www.carmenmontalban.net y haz clic en la @ de la página de inicio, bajo mi fotografía.
Mil abrazos.
Gracias Carmen: hoy llueve entonces tendré un momentín para visitar tu página por la tarde.
ReplyDeleteNewydd gyrraedd yn ol o Barago, ger Potes. Lle arbennig iawn. Roedd Gwyl Pulpo yn y dyffryn, ond yn ystod yr wythnos flaenorol, ar yr arfordir ger Santander oedd ein cyfnod prysuraf o ran arbrofi efo bwydydd mor diarth. Cawsom gyfle yn y Picos i fwynhau'r seidr, ac wedi cario ambell botel adra'n ogystal! Roedd y wraig wedi gwirioni cymaint efo'r nionod coch mawr, mi brynodd hi raff i ddod adre efo ni. Swfeniar od iawn o'n cyfnod yng Nghantabria!
ReplyDeleteDoeddet ti ddim yn gor-ddweud ynglyn a'r parcio yn Poncebos! Ond roedd y funicular yn gampwaith, Bulnes yn ddifyr tu hwnt, a'r daith i lawr yn werth pob strach wrth barcio. Ceunant trawiadol iawn.
(Gweithio'n ôl drwy'r cofnodion) - rwy'n falch iawn eich bod wedi cael hwyl yn y Picos ac wedi mynd i Bulnes er gwaetha'r dyrfa. Mae'n well fyth ym mis Mai os cyh chi'n gallu teithio bryd hynny.
ReplyDelete