Mae'r haf yma wedi bod yn dda. Y tywydd yn dwymach nag arfer, a llai o law. Yr ardd yn haws ei thrin bob blwyddyn. Amser da gyda chyfeillion o Gymru. Cyfeillgarwch newydd yn datblygu o gwmpas y pentref.
Sy'n hala fi i feddwl am hapusrwydd. Beth yw'r elfennau angenrheidiol? Ydy'n bosib sylweddoli yn y foment a'r lle dy fod yn hapus? Ydyn ni'n gwastraffu gormod o amser ar yr ymdrech i fod yn hapus?
Yr elfennau i ddechrau. Arian. Mae arian yn gymorth mawr - nid bod eisie bod yn gyfoethog i fod yn hapus, ond bod digon o arian i osgoi poeni am rywle i fyw a rhywbeth i fwydo'r teulu yn hanfodol. Mae'r cyfanswm 'iawn' o arian yn golygu lot llai o boen meddwl.
Ac nid rhywbeth sy'n perthnasol i'r unigolyn yn uniyw hwn: mae sefyllfa economaidd iach yn y gymdeithas yr wyt yn rhan ohoni, yn rhoi'r cyfle iti gael swydd sy'n talu'r arian 'iawn' heb fod yn beryg bywyd nac yn sarhad arnat ti dy hun.
A faint yw'r arian 'iawn' yma? Mae'n ddigon hawdd cael mesur ar faint fyddai'r isafswm derbyniol. I ni sy'n byw yng ngwledydd datblygedig y gorllewin, nid jyst digon i'n cadw ni rhag y Wyrcws a rhoi sgidie am ein traed. Mae eisie digon i fod yn rhan o'r gymdeithas, i allu defnyddio'r pethau a'r cyfryngau sy'n datblygu o'n hamgylch. Mae eisie mwy o 'stwff' yn awr; ewn ni ddim yn ôl at ddyddiau golchi dillad yn yr afon, mynd i'r farchnad unwaith yr wythnos, rhannu un ffôn ar waelod y stâr: heb sôn am fyw heb y rhyngrwyd.
Faint sy'n ormod, te? Dechrau meddwl am hyn yr wyf i, ond rhywbeth fel: os wyt ti'n gallu mynd i siopa a phrynu pethau heb fecso am y pris. Neu: os nad wyt ti'n gwybod faint o arian (incwm a chynilion) sydd gyda ti. Neu ar y llaw arall: os wyt ti'n dechrau meddwl drwy'r amser am dy arian a chymaint mwy sydd gen ti na gan bobl eraill.
Rwyf i am roi hoe fach i'r hen ymenydd yn awr, ond bydda'i'n dod yn ôl at hwn.
Wednesday, 25 August 2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment