Popeth yn barod ar gyfer y diwrnod mawr yfory - o edrych ar y rhestr fedrwn i ddim gweld unrhyw gystadleuydd o Gymru yn y ras ar hyd y Sella, ond fe fyddwn ni yno gyda baner y Ddraig petai rhywun efallai yn cystadlu mewn tîm o wlad arall.
Mil o bobol fydd yn dod i'r ardal o bob rhan o Asturias i gadw llygad ar beth sy'n digwydd: swyddogion yr heddlu, rhes o ambiwlansus a'u criwiau, a phobol sy'n gwylio camerau ac yn trefnu trafnidiaeth. Bydd cyrraedd ein man dewisedig yn dipyn o gamp ynddo ei hun gyda chymaint o heolydd ar gau neu wedi'u troi'n unffordd am y diwrnod.
Bu'r bois i lawr ar lan yr afon ddoe yn paratoi'r safle ar gyfer y babell. Bu'n rhaid iddyn nhw menthyg pladur i ladd tipyn o'r gwair, a symud cerrig a changhennau oedd yn gorwedd wrth ymyl y dŵr i'w gwneud hi'n haws mynd mewn a mâs. Rwy'n edrych ymlaen at weld eu gwaith yfory.
Ond o feddwl gymaint o ymwelwyr sy'n dod yma'r penwythnos hwn, gyda chyngerdd roc yn Arriondas tan oriau mân y bore a'r ras ei hun yn dechrau yno am 12.00, da oedd gweld taw dim ond ychydig dros gant o alwadau oedd ar y gwasanaethau brys y llynedd - a'r rhan fwyaf llethol oherwydd bod rhywun angen cymorth meddygol.
Lluniau yfory, gobeithio - os na fyddaf yn colli'r camera yn yr afon.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment