Un o'r cyfeillion wedi dangos erthygl ar hapusrwydd imi, yn El Pais. Gwaith athronydd yw e, ac mae'n ymdrin â'r syniad - y paradocs yn wir - bod chwilio am hapusrwydd yn dod â dim ond tristwch yn y pen draw. Yn ôl yr athro German Cano, mae pobl y gorllewin datblygedig heddiw yn credu bod hapusrwydd ei hun nid yn unig yn hawl ganddynt ond yn ddyletswydd arnynt. Mae'r holl dechnoleg sydd wedi ei datblygu dros y ganrif a hanner ddiwethaf yn gwneud inni feddwl taw'n bai ni yw e os nad ydym yn hapus. Yr argraff mae'n rhoi yw Viagra: os yw'r bilsen fach las yn gwneud y peth yn bosib, ac eto dwyt ti ddim yn cael hwyl arni, beth sy'n bod arnat ti yn bersonol?
Mae e hefyd, yn dyfynnu'r athronydd o Almaenwr Odo Marquard, yn trafod y ddamcaniaeth bod cyfran o dristwch, neu anfodlonrwydd, yn elfen anhepgor o'n bywyd meddyliol/teimladol. Os bydd rhyw newid yn digwydd, ac er da, does neb yn cymryd sylw. Os bydd yn dod â chanlyniadau drwg yn ei sgîl, bydd pawb yn canolbwyntio ar y rheiny. Mae hyn yn arwain at y ffaith ein bod yn chwilio am y nam ym mhob peth a gawn, hyd yn oed pan fydd angen chwydd-wydr, ac efallai'n cael rhyw hapusrwydd rhyfedd wrth ei gael e.
Dw'i ddim yn credu ei fod yn cefnogi'r syniad y dylai pawb fod yn fodlon ar bopeth a pheidio gofyn mwy; dim ond dweud y dylem ni sylweddoli ei bod yn bosib bod yn hapus heb fod popeth yn ein bywyd yn berffaith. Fel y dywed Cano 'ennill inni'n hunain holl brofiadau'r canol, lle nad yw popeth yn ddu-a-gwyn'.
Sunday, 29 August 2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment