Cwpwl o hanesion bach i orffen diwrnod y 'piraguas':
Yn ein plith yr oedd yna ddwy ferch fach, un yn saith oed a'r llall ychydig yn iau. Tra bu'r oedolion a'r plant yn eu harddegau'n mwynhau ymdrochi yn afon Sella, neu gwylio'r canws,, neu'n arllwys seidr a thrafod coginio, dim ond un peth oedd yn mynd â bryd y ddwy.
Dewis cerrig o'r afon. Eu golchi nhw i gael gwared o bob tamaid o faw oedd arnyn nhw, a'u cario'n ofalus lan i'r borfa. Yno y gwnaethon nhw carped o gerrig, o ryw fetr ar groes.
Does gen i ddim syniad beth oedd ei ddiben e, ond roedd yn edrych yn dda. Wedyn bûm i'n meddwl: pe byddech chi'n gweld newyddion ar y teledu o ryw wlad yn Affrig neu Asia, a phlant bach am oriau o dan haul poeth yn cario cerrig o afon, byddech chi'n meddwl taw caethweision oedden nhw, ontefe?
Stori arall: tua phump o'r gloch gyrhaeddodd lori i gludo car o'r cae. Roedd y perchennog wedi mynd i'r afon gyda'r allweddi ym mhoced ei wisg nofio. Ac wedi'u colli nhw. Ac er mawr chwilio doedd dim golwg ohonyn nhw.
A dyna nhw wedi mynd am flwyddyn arall.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
Me resulta curioso que haya más gente con la misma pasión que yo: recoger brillantes piedrecitas de la playa o de las orillas de los ríos. No es una esclavitud, es un vicio. Las grandes suelo traérmelas a casa, de adorno. Las pequeñas las pongo en algún frasco de cristal con agua, para que brillen más. Las tengo de todas las partes del mundo por las que he viajado. O sea, que comprendo a esos chicos.
ReplyDeleteDe acuerdo, Carmen. Sólo quería decir que a veces las mismas actividades pueden ser buenas o malas según las circunstancias o el punto de vista del espectador.
ReplyDelete