Dyma rai o'r blodau sy'n tyfu'n wyllt ar arfodir dwyreiniol Asturias, yn awr bod y tywydd wedi gwella - y lluniau i gyd wedi eu tynnu heddiw. Yn gyntaf, helianthemum croceum, ac islaw, hepatica nobilis.
Rwy'n rhoi'r enwau Lladin am nad oes gen i ddim syniad os oes ganddyn nhw enwau Cymraeg.
Efallai bydd rhywun yn gallu helpu.
A thra'n bod ni wrthi, a oes unrhywun un yn gwybod beth yw enw'r goeden yma - mewn unrhyw iaith?
Mae tua'r un faint â draenen, ac mae'r blodau bach gwyrdd ag oglau cryf ofnadwy. Nid bod yr oglau'n ofnadwy, gwynt mêl sydd arnyn nhw.
Friday, 19 March 2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
Cor-rosyn yw enw teulu'r Helianthemum, ond nid yw H.croceum yn un o rywogaethau Cymru. H.nummularium wyf i'n gyfarwydd a fo, sef y cor-rosyn cyffredin, er, blodau ardaloedd calchog ydynt ar y cyfan ac felly ddim yn gyffredin o gwbl yng Ngwynedd.
ReplyDelete'Melyn' yw ystyr croceum yn de, felly beth am cor-rosyn felen?
Deilen yr afu yw enw'r Hepatica, ond nid yw hwn yn un o flodau Cymru ychwaith.
Er diddordeb, mae geiriaduron termau Cymdeithas Edward Llwyd yn werthfawr iawn o ran enwau planhigion ac anifeiliaid. Mae'r tri llyfryn yn cael defnydd rheolaidd yma. Os nad am eu prynu, gellid eu lawrlwytho fel tablau pdf sylfaenol o wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru, trwy'r tab 'cyhoeddiadau'.
Mae llun y goeden yn gyfarwydd, ond bydd angen ychydig o drefnu'r ffeils yn fy mhen cyn daw enw i'r fei! Os daw o mi yrraf nodyn.
Diolch yn fawr am y wybodaeth a'r awgrymiadau. Mewn dinas(oedd) y bues i'n byw cyn dod yma a heb gymryd llawer o ddiddordeb mewn planhigion. Ond yn awr rwy'n dysgu'r enwau mewn sawl iaith. Fyddai Miss Smith oedd yn dysgu Lladin ddim yn credu mod i o'r diwedd yn gweld ei ddefnydd.
ReplyDelete