Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Tuesday 23 March 2010

Blodau'r Llynnoedd





Tynnwyd y lluniau yma i gyd ddoe. Mae'n ddechrau tymor mwyaf atyniadol y blodau gwyllt yn y Picos de Europa, a buon ni'n cerdded o amgylch y dday lyn (Enol ac Ercina) i weld beth oedd i gael.
Roedd y rhain i gyd yn tyfu ar lethrau oedd yn gwynebu'r de; mae'r llethrau gogleddol wrth gwrs yn cael llai o haul ond hefyd yn tueddu i fod yn fwy serth,
Beth sydd gyda ni yn gyntaf yw dau fath o narcissus asturiensis, sy'n dangos amrywiaeth lliw a maint. Mae'r rhai bach â blodyn tua'r un faint â phisyn punt.

Yn nesaf, dant y ci - erythronium dens-canis. Ac yn olaf, narcissus arall, y bulbocodium.

1 comment:

  1. Diolch i Wilias am ei awgrym (cofnod Blodau'r Gwanwyn) rwyf i wedi chwilio yn y rhestr enwau sydd ar wefan y Cyngor Cefn Gwlad ac wedi cael enw Cymraeg i erythronium dens-canis. Dim byd tebyg i ddant ci: lili'r brithyll fydd hi o hyn ymlaen.

    ReplyDelete