Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Sunday 21 March 2010

Pwysigrwydd Parc y Picos

Doedd hi ddim yn ddiwrnod da i gerdded heddiw wedi'r cwbwl, y glaw a'r niwl yn gwneud y penderfyniad drosom ni. Ond roedd 'na ddigon o newyddion am Barc y Picos serch hynny.
Heddiw mae'r Parc yn cynnwys bron i 650 km sg mewn tair talaith: Asturias, Cantabria a León. Sefydlwyd y parc 'naturiol' cyntaf oll yn y rhan Astwraidd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, a mae rhan fwyaf o weithwyr y Parc yn dal i fod o fewn ei ffiniau.Yn awr bod cyfrifoldeb rhedeg y Parc, fel yng ngweddill Sbaen, yn symud o'r canol i'r cymunedau awtonomaidd, mae dadl wedi dechrau ynglŷn â'i ddyfodol. Mae llywodraeth Castilla-León un ai am i'r parc gyflogi mwy o wardeniaid ac ati yn nhalaith León, neu symud yno rhai o'r bobl sydd ar hyn o bryd yn byw ac yn gweithio yn Asturias.
Mae llywodraeth Asturias yn dweud taw mater o hanes sy'n golygu bod cymaint o'r gweithwyr yn Asturias, nad yw hi ddim yn deg gofyn i bobl symud i gadw'u swyddi, ac y dylai'r trafodaethau ganolbwyntio ar amddiffyn natur a bywyd gwyllt y Picos a gwella'r ffordd y mae ymwelwyr yn gallu defnyddio'r lle.
Yn y fantol y mae'r ardal rhyfedd, wyllt, ei hanifeiliaid fel yr arth a'r blaidd, ei blodau fel y crwynllys neu 'dant y ci' (erythronium dens-canis), ei hadar mawr a bach...Dim ond gobeithio y byddan nhw'n deall beth sy'n bwysig yma.

1 comment:

  1. Yn f'atgoffa o'r stwr o fewn Scottish Natural Heritage, asiantaeth natur a thirwedd yr Alban, ychydig flynyddoedd yn ol.
    Er gwaethaf anfodlonrwydd trwch y staff (ar un adeg roedd tri chwarter y staff yn bygwth ymddiswyddo), symudon nhw eu pencadlys o Gaeredin i Inverness.
    Hefyd, ar hyn o bryd mae galwadau i ddod a Blaenau Ffestiniog o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri, ar ol hanner canrif mewn 'twll'. Mae'r drwg wedi'i wneud i economi Stiniog eisoes felly dwn i ddim os daw unrhyw beth ond anfanteision o'r alwad, ac i roi halen yn y briw maen nhw wedi cau canlofan ymwelwyr y dref ar ddiwedd haf 2009.
    Oherwydd lleoliad daearyddol y dref, reit ynghanol y parc, atgoffir rhywun o benderfyniad gwarthus awdurdod y parc i adeiladu pencadlys newydd erchyll ar dir gwyrdd ym Mhenrhyndeudraeth ar droad y ganrif, gan wrthod hen ysgol yn y Blaenau oedd yn wag ar y pryd ac yn berffaith ar eu cyfer.
    Mae angen amynedd efo biwrocrats ar hyd a lled Ewrop yn amlwg!

    ReplyDelete