Croeso

Hen flog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen
Blog cada día desde Asturias en el idioma galés - ahora duerme
A dormant daily blog in Welsh from Asturias, northern Spain

Thursday 4 March 2010

Taith Gerdded i'r Gorffennol



O'r holl lwybrau sydd i'w cael yn y Picos de Europa, un o'm ffefrynnau yw llwybr Bulnes. Pentref bychan, gyda dim ond 20 o drigolion yn ystod y gaeaf, yw Bulnes, ym mhen mwyaf dwyreiniol y Picos. Hyd at 9 mlynedd yn ôl, ni ellid ei gyrraedd ond ar draed neu ar gefn asyn neu geffyl.
Does na ddim heol hyd y dydd heddiw, ond erbyn hyn mae 'na rheilffordd 'funicular' o fewn y mynydd sy'n dringo'r 400m o orsaf Puente Poncebos i Bulnes ei hun. Trigolion Bulnes yn teithio'n rhad ac am ddim, eraill yn talu.
Felly mae'n bosib i unrhyw un sydd ddim am gerdded gael ei gludo lan mewn 10 munud. Ond cerdded byddwn ni.
Rhyw awr a hanner - gan osgoi'r geifr - a byddwn ni wedi cyrraedd y pentref. Mae'n daith gerdded ddigon syml, amhosib colli'r llwybr, ond yn gallu bod yn dwym iawn ganol dydd. Weithiau byddwn ni ar lan y nant, weithiau'n uchel uwch ei dyfroedd.
Y gwanwyn yw'r amser i weld y blodau, yr hydref i gael tawelwch llwyr. Ac efallai i weld un o'r ffermwyr sy'n dal i gerdded y llwybr gyda'i anifeiliad.


4 comments:

  1. Mae hwnna'n edrych fel dro anhygoel! Dwisio mynd rwan :)

    Joio'r blog gyda llaw. Gwych cael cipolwg ar fywyd a diwylliant gwahanol.

    ReplyDelete
  2. Diolch Nwdls - rwy'n ceisio cymysgu tipyn o bopeth yma.

    ReplyDelete
  3. Swnio fel un taith i'w gwneud yn sicr yr haf yma. Mae'r rhaeadr o dan Bont Poncebos yn werth ei weld hefyd yn ol y lluniau ar google earth. Ydi'r diddordeb botanegol wedi gorffen yn llwyr erbyn dechrau Awst?

    ReplyDelete
  4. Fyddwn i ddim yn cynghori mynd ddechrau Awst. Mae'n daith boblogaidd iawn ac uchafbwynt tymor gwyliau'r Sbaenwyr - bydd yn rhaid cyrraedd ben bore i gael lle i barcio o fewn 2km! Ond os nad oes dewis gyda chi, dim ond dringo'n ddigon uchel (h.y. yn uwch na Bulnes ei hun) fe gewch chi blanhigion porfa Alpaidd o hyd.

    ReplyDelete