Nid y ffrindiau ffug y mae dysgwyr iaith yn ofni, ond geiriau Cymraeg a Sbaeneg sydd yn debyg mewn sain, sillafu a synnwyr.
Mae llawer ohonyn nhw wrth gwrs yn dangos gwreiddiau Lladin.
puente - pont (ond mae pontydd Sbaen yn wrywaidd)
cabra - gafr
muro - mur
niebla - niwl
red - rhwyd(waith)
pescado - pysgod (ar blât. Pez yw'r gair am bysgodyn byw)
vaca - buwch
A dyma un diddorol: yr hen air Cymraeg 'chwegr', a rhaid imi gyfaddef ar unwaith nad wyf i erioed wedi'i glywed e ar lafar yn golygu mam-yng-nghyfraith.. Yn Sbaeneg, suegro a suegra yw tad a mam-yng-nghyfraith. Ac o edrych yn ddyfnach, mae gan y geiriau yma wraidd hynafol Indo-Ewropeaidd: yn Almaeneg heddiw, Schwiegemutter yw hi.
I ffwrdd â'r cyfieithiad air am air 'mam-yng-nghyfraith'! Yr wythnos nesaf bydda'i'n mynd i weld fy chwegr.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
Ma ffrind ifi o Valdovinho wastod yn werthin pan glywiff e rywun yn gweud y gair Saesneg 'corner' fel pan fo rhywun yn rhoi cyfarwyddiadau ac yn dweud 'It's near the corner' Mae 'cona' yn yr Alisieg yn golygu rhywbeth hollol wahanol wrthgwrs. Bach yn blentynaidd yw e.
ReplyDeleteA rhaid inni ddyfalu beth yw'r ystyr yn yr Alisieg?
ReplyDelete