Wnes i sôn sbel yn ôl am ogof Tito Bustillo yn Ribadesella a'i lluniau anhygoel o Oes yr Iâ - rhwng 16,000 ac 11,000 mlynedd yn ol. Maen nhw wrthi ar hyn o bryd yn codi adeilad newydd gerllaw fydd yn gartref i gopi o rannau o'r ogof; pan fydd hwn yn agor ni fydd y cyhoedd yn cael mynediad i'r ogof ei hun, oherwydd y dirywiad yng nghyflwr y lluniau.
Ond yn ôl y cynlluniau, bydd yr arddangosfa newydd yn rhoi cyfle i bobol i weld rhai o'r lluniau sydd ar hyn o bryd yn amhosib eu cyrraedd oherwydd y mynediadau cul sydd i'r siambrau lle maen nhw. Mae na un siambr, e.e. sy'n cynnwys dim ond lluniau cyrff merched a'u horganau rhywiol - yr unig siambr felly o'r amser hwnnw sydd wedi'i chofrestru. Dywed yr archeolegwyr taw llefydd cysegredig oedd yr ogofau, lle byddai seremoniau o ryw fath yn cael eu cynnal. Roedd y bobol yn byw yng ngheg yr ogof a dim ond ychydig ohonynt fyddai'n mynd i mewn.
Yn y rhan sydd ar agor i ymwelwyr yn awr (dim ond 300 y diwrnod, a hynny rhwng Ebrill a Medi), anifeiliaid yw testun yr artistiaid. Yn y Siambr Fawr fe welir nifer o geffylau a cheirw Llychlyn wedi eu peintio mewn lliwiau coch, porffor a du; lliwiau oedd yn cael eu malu o'r gwahanol greigiau oedd ar gael. Maen nhw hefyd wedi eu peintio mewn ffordd sy'n defnyddio siâp muriau'r ogof i awgrymu math o 3D a gwneud yr anifeiliaid yn fyw iawn.
Yn sicr fe fydd yn golled gweld dim ond copi o'r gwaith yma: mae'r teimlad o sefyll o'i flaen a meddwl am y peintwyr yn yr un lle gymaint o flynyddoedd yn ôl yn un dwfn a dw'i ddim yn credu y bydd hyd yn oed copi ardderchog yn achosi'r un peth.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
Oes yna amserlen ar gyfer agor y ganolfan?
ReplyDeleteOs gwaherddir y cyhoedd o Tito Bustillo eleni, pa ganolfan fydd y gorau i ymweld a hi: honno yntau Altamira?
Maen nhw'n dweud y bydd yn agor erbyn Pasg 2011 - bydd yr ogof ei hun yn dal ar agor i'r cyhoedd tan ddiwedd mis Medi eleni yn ôl gwefan llywodraeth Asturias. Anodd dweud pa un fydd orau nes ei bod ni wedi gweld beth fydd yn un Tito Bustillo.
ReplyDelete